Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

- JACK Y LLONGWB

News
Cite
Share

JACK Y LLONGWB Y FAINC YNADOL. Sefydliad angenrheidiol ydi Ynadaeth mewn gwlad, a thra y cerir y cyfryw yn mlaen ar linellau teg, cyfiawn, diragfarn, ni ddymunwn ddeyd gair yn frwnt na chon- demniol am y cyfryw. Ond y mae ag- wedd gas iawn enli wedi dwad i'r golwg ar Ynadaeth ein gwlad. Galla'i ddeyd nad ydi seilia' ffurf Ynadaeth yn ein plith ddim yn seilia' cyfiawilder. Nid cymhwysder cymeriad a gw'bodaeth ydi'i cymhwysder, ond meddiant o eiddo. Ac nid hvnv yn unig. Cyfyngir y cymhwysder hwnw i blaid a sect. Os Toriaid fydd mewn aw- durdod, Toriaid a 'neir yn ynadon; os Rhyddfrydwyr, Rhyddfrydwyr yn benaf a 'neir yn rhai. Pe bernid ffurf crefydd Cymru oddiwrth ynadon y wlad, gellid dwad i'r penderfyniad mai Eglwyswyr fyddai trigolion y wlad. Neu pe elid i benderfynu gwleidyddiaeth y wlad oddi- wrth yr ynadon, buasid yn dwad i'r pen- derfyniad mai Toriaid fuasai mwyafrif y trigolion. Ond y mae y ffeithiau yn hollol groes i hyn oil. Nid yw ynadon y wlad mewn gwleidyddiaeth na chrefydd i'w eymeryd fel yn cynrychioli y bobl. Nid yw mwyafrif yr ynadon ar y fainc fel cyn- ryohiolwyr y bobl, ac nid oes ynad yn Nghymru heddyw, bydded Ryddfrydwr, bydded Eglwyswr, bydded Dori, bydded Ymneillduwr, wedi cael ei benodi am fod y wlad yn ymddiried ynddo. Synir yn amlach o lawar na. fel arall pan welir rhai dynon yn cael eu dyrchafu i'r ynadaeth. Y mae dylanwadau cyfrinachol, dirgelaidd yn mynd yn mlaen gan gysylltiadau cym- deithasol, ac o bosibl teuluaidd, rhai per- sona' ag sy'n amcanu at fod yn ynadon, ac yn y man gwelir, er syndod i gym'dogion y persona' hyn, fod y cyfryw ddynion disylw, dibrofiad, diw'bod, diddim, wedi cael eu g'neyd yn ustusiaid beddwch. Mae'n dda fod lleni y tywyllwch ar weithredoedd ac ar gynllwynion rhai pobol ag ydynt yn amcanu at gyrhaedd y fainc ynadol. Yr hyn fydd yn fy ngwylltio i fydd gwelad ar y fainc ddynion yn cymeryd amynt wein- yddu cyfiawnder yn gyhoeddus, a hwythau wedi bod yn Ilawn triciau a chynllwyn tuagat gyrhaedd y fainc,—ie, gwelad dyn- ion yno na chant hwy ddim cym'int a chael eu dewis i fod yn aelodau o gynghor plwyf gan y bobol sy'n eu hadnabod ora. Y mae y sefydliad a ddylasai fodi uwch- law partiaeth, mewn crefydd, politics, a busnes, y sefydliad mwyaf partiol sy' yn y wla £ Yn ami iawn, pan fydd Toriaid Eglwysig a Rhyddfrydwyr Ymneillduol ar yr un fainc, ac yn rhoddi dyfarniad ar fater, oowch welad yr ynadon yh cymeryd eu hochor yn ddigamsyniol: y Toriaid hefo'u gilydd a'r Rhyddfrydwyr hefo'u gilydd. Bu y fainc yn fwy partiol a sectol nag ydi hi heddyw, ac wrth feddwl am hyny bydda'i yn dwbl synu fod Cymru wedi llwyddo cystal yn wleidyddol a chref- yddol. Er gwaethaf yr Ynadaeth yr enillwyd y rhyddid sy' gynon ni heddyw. Ond nid gwleidyddiaeth a chrefydd yn unig sy'n dylanwadu ar Ynadaeth. Mae dylanwad yr hen wr boneddig cyfoethog, mawr, hwnw, Syr Shion Heidden, yn an- rhaethol arno. Tydi Syr Shion ddim yn na Thori, na Rhyddfrydwr, Ymneillduwr, nac Eglwyswr ddim pellach nag y byddo hyny yn fanteisiol i 'nevd busnes, er fod ei dUeddiad o i fod yn Eglwyswr a Thori ar y cyfan. Mae Syr Shion yn gallu gwthio ei ddarllawyr" ei fragwyr, ei oruch- wylwyr, a'i gefnogwyr i'r Ytt&daeth, ac ni phetrusant hwy bleidio rhoddi trwydded- au. Ie, y mae Syt Shion yn gallu gwthio y boneddigion sy'n gyfranddalwyr mewn darllawdai, mewn hotels mawrion, mewn refreshment rooms, mewn tafamau mawr- i ion, i'r fainc ynadol, ac yno galluogir hwynt i amddiffyn eu busnes hwy mewn ffordd nas gall masnachwyr ereill amddiffyn eu busnes o gwbl. Gellir gweled ar y fainc ynadol oruchwylwyr darllawdai yn caniatau trwyddedau i'w cwsmeriaid hwy eu hunain! Fe dal i'r tafarnwyr brynu diodydd meddwol gan y dynion hyn. Onid ydach'i yn gwelad sut y mae petha' yn gweithio P Siwr! 'Does dim modd peidio gwelad! Er mwyn dangos i ch'i gymaint y mae dynion y darllawdai a'u goruchwylwyr yn hidio am yr Ynadaeth, gallaf gyfeirio at y ffaith na welwch'i mor giang ar y fainc yn ystod y flwyddyn ond ni pan y bydd achos rnyw dafam gerbron. By4dant yno y pryd hyny. Dynach'i ddangos i baddyben y mae y criw ynadol "*■ fcyn yn dda. Ac eto,' gofynir i ni beidio t" d.. dim anmharchus- am weithrediadau yr ^ynadon! Mi 'rydw'i yn credu fod eis- ieu dweyd y gwir am weithredoedd pawb, fydtiont; ac mi 'rydw'i hefyd -ei&eu i'x, persons' hpixanol sy'n llwyddo i v gyrhaedd safle mor bwysig yn ein gwlad a swydd ynadol, w'bod fod y wlad yn gallu eu deall hwy a'u holl symudiadau. Wrth ddweyd fel hyn gwn yn iawn fy mod yn deyd yr hyn y mae canoedd yn ei ddirgel gredu. Chewch 'i neb i draethu ar goedd fel yma ond rhywun dinod fel fi. Yohydig iawn gewch 'i yn mysg y bobol sy'n credu eu bod yn bobol fawr, gall, a godant eu lief yn erbyn llygredigaeth a chroes-droi sefydliad at amcanion gau, hunanol, a phersonol. Tydw'i ddim wedi fy ordeinio gan na ohapel nag eglwys, ac nid' ydw'i yn cael tal am 'gethu y Sabboth, ond er hyny meiddiaf bregethu yn fy ffordd fy hun, yn ngrym yr ordeiniad a gefais gan Dduw Ei Hun, pan blanodd o yn fy nghalon i at- ga6rwydd at anghyfiawnder, twyll, a ffug- honiadaeth o bob math, yn erbyn drygedd yn yr uchel-leoedd ac yn yr feel-leoedd. Ewch i'r cynadleddau eglwysig, a chewch glywed moroedd o siarad sych-dduiiol, a Uwythi mawrion o benderfyniada' difin, dieffaith, heb 'neyd na byd nac leglwys fymryn gwell, er yr holl golli amsar a gwario mawr arian. Rhyw gyfarfodydd fydda'i yn gwelad y oynadledda' a'r cyfar- fodydd crefyddol yma i'r bobol welad eu gilydd a mawrygu eu gilydd. Wedi yr efcmt heibio 'does dim gwaith wedi cael eu 'neyd. Waswn i yn leicio gwelad chwaral, neu waith glo, neu waith haiam, neu long, neu waith printio, neu bapur newydd yn cael ei gario yn mlaen hefo can lleied o broffit ag y cerir y oyfarfodydd a enwyd yn mlaen! Ni oddpfid y fath beth! Ac eto, mewn crefydd, caniateir y sefyllfa hon fodoli! Dylai pob enwad yn Nghymru godi ei lef yn erbyn darostwng yr Ynadaeth i'r safle y mae hi wedi cael ei darostwng yn awr. Ond ofnaf na wneir mo hyn bellach. Gallesid disgwyl ei welad yn cael ei wneyd lynyddoedd yn ol, ond heddyw mae'r en- wadau yn stwffio eu pobol yn ynadon, gan gredui fod hyny yn dwad a llawar o ogon- iant bydol iddyn' hw. Tydw'i ddim yn oondemnio yr oil o'r ustusiaid Ymneilldu- ol hyn. Mae rhai ohonyn' hw yn ddynion ardderchog, cydwybodol a defnyddiol. Ond 'does gen' i ddim llawar o feddwl o'r lleill, et eu bod yn cael eu gosod yn y ffrynt yn ein cyfarfodydd mawrion, crefyddol. Fe ddylid diddymu yr Ynadaeth yn ei ffurf bresenol, a sefydlu Ynadaeth daledig. NLs gellir dyweyd fod cyfiawnder yn cael ei weinyddu yn ein llysoedd ynadol bob amser. Mympwy yn aml sy'n llywodr- aethu nid cyfraith. Dicbon i ddyn mewn Uys gael ei ollwng yn rhydd, tra yr an- fonid ef i garchar pe buasaa mewn llys arail. Ni chwyd y bobol sy'n gwbod fwya am ddiffygion yr Ynadaefti-sef y twr- neiod-eu Haw yn eu herbyn busues ydir peth sy' gynyn hw. Yr wyf bron yn siwr 5ad <?es Iwma yn bod na chydwela efe a 14 aiwod" Seul C) UAtwl ij 8 cael M gweinyddu yn ein llysoedd ynadol ni, ond mympwy dynion. YR IAITH FAIN A'R PLENTYN. Yn ardal y Sarn yr oedd lodes fechan tua thair oed. Nis gallai air o Saesneg. Daeth perthynas yno i aros, gan ddwyn gyda hi fachgen tua thair oed. Nis gallai hwn air o Gymraeg. Methai y lodes fach a'i dldeall ef o gwbl yn siarad Saesneg. Meddyliodd fod rhywbath arno fo, a dy- wedodd, "Os na 'neid di siarad yn iawn, mi 'na i dy ro'i di yn nhwll tan y grisia' DIGWYDDIADAU ARDALOEDD Y CENIN, BWLCHMAWR, &c. Mae llwynogod Bwlchmawr yu anfon eu kind regarda at Sgweiar P-, Porth- madog. Mwynha'r hen ferchad eu bod yn cael "eu rowndio gan Jack y Llongwr, hyny ydyw, cael eu trin yn y golofn lion! Digwyddodd anffawd i'r drol oedd gan W- 1- yn ddiweddar, pan yn gweithio yn y gwair. Blinodd y drol a bod ar ei holwynion, a throdd ar ei hochr, y J. debyg iawn i wydd wedi ei chlwvfo. Dychrynodd W—, rhedodd, a gwaeddodd. Gwelwyd gwaa a meistr yn owffio yn ddi- weddar. Y gwas oedd y concwerwr. Tra yn bugeilio defaid yn y Bwlchmawr, daeth bugail ar draws llanc a merch ifanc yn caru yn ofnadwy. Brodor o Lanaelhaiarn oedd y llanc, ac o Bwlchderwydd y deuai hi. BWGAN YN DAL CARMON. Heb fod rhyw gan' milldir o ffordd o dre' Pwllheli yr oedd hen wraig, merch, a rhai merched ifanc er'ill mewn ty yn gwnio yn hwyr y nos. Yu y man gorchfygwyd yr hen wieigan gan drwmgwsg, ac aeth i'w gwely. Anghofiodd hi gau drws y gegin allan, a galwodd hi ar y ferch j fyn'd i gau y drws cyn dod i'r gweiy. 'Roedd hi tua hanar nos erbyn hyn. Yn ofnus iawn aeth y ferch alian a chauodd y drws. Y foment hono dyma dwrw yn y gegin allan. Rhaid fod y drws wedi ei gloi ar ryw greadur neu fod I yno fwgan. Cryfhaodd yr ofnau. Parha- odd y twrw i gynyddu. Methodd y merch- ed a dal heb lefain am help. Agorodd yr hen wreigan ffenast y llofft, rhoddodd ei chap nos hefo'i phen ynddo fo allan o'r ffenast, a gwaeddodd, "Ha, ddyn, pwy sy' yna ? Os na ddeydwch chi mi a i i nol J— J-, D y 1 G- W-, a Bob J Yna gwaeddodd, "Os dyn sy yna, deydwch, a. down i agor i chi." Yn nghanol y cwbl dyma drwst cerddad yn dyfod ar hyd y ffordd. Gwelwyd toe mai dyn oedd yn dwad c un o'i ymweliada carwriaethol. Erfyniwyd am ei gynorthwy. Petrusai ar y cyntaf ddangos ei hun rhag i'r merchad ei nabod o. Ond erfyniwyd arno i roi help llaw, ao ufuddhaodd. Dynesodd at ddrws y gegin, clywai y twrw, ac arswydai. "Cedweh yn glir oddiwrth y drws," meddai, "ac mi agora i o." Agorwyd drws y gegin yn sydyn, ac mor sydyn a hyny dyma gi cymydog allan fel shot, wedi cael llond ei stumog o laeth da! Y peth cynta ddeyd- odd y carwr anturiaethus wrth y merchad oedd, "Rwan, gwyliwch rhag i Jack y Llongwr gael gafael ar yr hanas!" HEIBIO LLANIESTYN. Bydd rhai dynion yn methu cael cariada yn eu lleoedd eu hunain, ac felly byddan yn mynd am foyads i leoedd ereill i chwilio am rai. Daeth dau ar y busnes hwnw y ffc,rdd hon yn ddiweddar. Lie go sal am ganada ydi y ffordd hon. Buasa mor hawdd gen i gael llwyth o 10 o Roshirwaen a chael cariad ar y coast hwn. Pa fodd byli- eg, mentrodd y ddau ddyn diath y job, ac yn siwr i bawb mi ddarun lwyddo. Y MERCHED O'RE. Yn y tren yn d'diweddar yr oedd dwy ddynes yn dwad o'r De i'r Gogledd. Tar- awsant ar gyd-deithiwrs, a chafwyd sgwr- sus am lawar o betha. Gofyaodd un dyn i'r merchad, "A welsoch chi Jack y Llongwr yn y South acw?" "Naddo'n wir, weh' welson ni mono fo. Un go ddrwg ydi o." "Mae o wedi mvnd am dro tua'r South y diwrnod o'r blaen," ebai y brawd. "We!, tewch a d,-yd! Rhen gena iddo fo. Mae o yn siwr o glywad ein bod ni ein dwy wedi mynd am dro i'r North. Ffei biti hefyd TRAMP 0 GRICCIETH TRWY LANYS- TUMDWY AC YN MLAEN. Dyma ardal arddelrehog am dramp yr amsar yma o'r flwyddyn. Pan yn hwylio o Griocieth gofynodd y Siwrin "Ble'n rhwym heddyw, Jack?" Gan fod y Siwrin yn un o foys cleniaf, doniolaf yr ardaloedd, a lot o ogla tar amo fo, a digon o yarns y mor gyno fo, mi ddeydais i ble ron i yn bound. "Sgwer sel iddi hi, machgen i, boo modfadd o'r ffordd," medda fo, ac ymaith a fi. Yn y man gwelais ddau ddyn yn oerdd- ad yn airaf,fei--p" gynyn nhw sgwrs &eiat. Edrychent o'u ewmpas fel pe bydd- ent. yn chwilio am rywbeth. Prysurais atyn nhw, a phan gyrhaeddais clywais eu sgwrs, a deallais be oedd eu busnes. Chwilio am le i ftldio capal yr oeddan nhw. Dyma fel yr oedd y sgwrs Numbar 1: Beth fasach'i yn feddwl o'r tir ymaP Numbar 2: 0, mae y dyn bia hwn yn methu gweled ei ddigon am ei dir. Numbar 1: Dyma chi dir arall. Be am hwn? Numbar 2: Mae perchenog hwn yn methu cael digon o dir. Numbar 1: Edrychwch, dyma lecyn go lew. Gwnai hwn y tro pe ceid o. Numbar 2: Na, wir, 'does dim gobaith am gael hwn. Y parson pia fo. Feiddia fo ddim gwerthu tir i hereticiaid godi addol- d V, am*. Numbar 1: Mae'n anhawdd cael tir hefyd. Bedi hwn acw? Choelia i ddim na nai o y tro yn iawn. Numbai 2: Os gallwn ni ffordd y per- chenog, fe allwn ei gael o, mi rwy'n siwr, burn. Yn mlaen yr awd o hyd. Numbar 1: Mae yn y fan hyn dir, ao mi cawn o yn rhad1, mi rydw'i yn siwr. Mae yma ddigon o geryg at fildio capal. Numbar 2: 0, nawn i ddim byd o honi hi yn y lie hwh. Dacw un capal eisoes yn y lie. A rhaid i ni neyd y capal yn y lie n«wya cyfleus i'r hen aeloda. oedd yn per- tbyn i ni ddwad yma i fyw, a dwad yn ol oddiwrth y didau enwad arall. Mae yn y pen isa rai hen ddwylo wedi troi, ond 'u bod heb gredu. Ar ol hyn oil aethum yn mlaen at efail CI wilog. Os bydd ar ddyn isio clywad y very latest, dyma'r lie. 'Roedd yn yr efail lot o ffarmwrs a dyrnwrs yn prysur drwsio yr injians at y dymu. Rhai da ydi'r ffarm- wrs a'r dyrnwrs am hanas., Bygythiai y naill a'r llall o honyn nhw attfbn eu hanas i Jack y Llongwr. 'Rwy' wedi gwbod yrwan yn mha le ora i gael y news heb i neb anfon i mi. Cymeryd y mail tren am Chwilog a thacio o'r stashion at Bont yr Inn, a bydd yno bethau rhyfadd yn cael eu dweyd a'u gwelad. Bydd gen i dipyn oddiyno y tro nesa.

OLD FALSE TEETH BOUGHT.

TON-It'RWY'N MYNU BOD YN AELOD.

Byrhau'r Ffordd o LerpwJ I…

Pwy fyid Athrawon Cymru?

YR HEN WR LLON.

[No title]

0 BEN Y TWR.

Arddangosfa Arddwrol Talsarnau

Advertising