Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
38 articles on this Page
"0 FON I FYNWY.
"0 FON I FYNWY. Daliodd y don Greidwadol i chwyddo a hodi tra y parhaodd y frwydr fythaof iadwy sydd yn awr ar ben. Os llaciodd ei erym am enyd, pan ddechreuodd yr ym- laddfa yn y siroedd, nid oedd ond am yehydig. Prin iawn yw nifer enillion y Rhyddfrydwyr-dim end ugain, tra y mae eu colleiion yn gant a deg. Ac Did gydag un dosbarth o bobl yr oedd y blaid Rydd- frydol allan o ffafr, end ymddangosai pen- derfyniad y dosbarth gweithiol i ymwrthod a. hi yrunmor ddiysgog ag atgasedd y bobl fawryn eu herbyn. Prin hefyd yr oedd yn ddichonadwy i lawenydd ARGLWYDD BASS wedi gweled llwyddiant anarferol y cylch- lythyr a anfonodd ef at holl gwsmeriaid a chyfranddalwyr darllawdv enwog Bass a'i Gwmni-fod yn fwy na'r ymlawenychiad a dorodd allan fel can o fawl o enau Dr Joseph Parker, gweinidog enwog y City Temple 11 Y mae'r Toriaid wedi enill y fuddugoliaeth," ebai ef mewn llythyr yn y -1 Times," ac y mae yn destyn llawenydd mawr i mi i Gwyddem ei fod ef yn wrthwynebol i Home Rule, ond i ba beth arallJn rhaglen y blaid Ryddfrydol y teimlai ef y fath wrthwynebiad fel ag i gydymogoneddu a'r tafarnwyr yn nghwymp y blaid 1 CEFNU AR GABEDIGIOK. Erbyn hyn nid annaturiol yw i ninnau ofyn paham y bu i weithwyr Lloegr droi eu cefnau ar eu caredigion yn yr etholiad hwn. Ar ddiwrnod icyntaf yr etholiad rhoddodd Manchester gyweirnod yr ethol- iadau ? Afth yr hell ddinas yn eiddo y Toriaid ond un sedd. Pilynwyd yr esiampl yn Llundf.in, fel na fydd ond wyth aelod Rhyddfrydol yn ySenedd nesaf droqLundain. Rhaid fod rhyw resymau arbenig i gyfrif am, hyli, pa mor anmharod bynag yr ydym i gredu hyny. Os nad ydym am bender- fynu fod mwyafrif mawr y ganedl yn yn- fydion ffolion, hollol anghymwys i roddi barn, y mae yn rhaid fod llawer, os nad y rhan fwyaf, o'r bai wrth ddrws y blaid Ryddfrydol ei hun. Gwir yw fod y tafarn- wyr yn eu herbyn; nid oeddynt felly o'r blaen. Ar yr un pryd rhaid cofio fod nifer y rhai sydd ganddynt ddyddordeb a budel yn y fasnach feddwol yn fwy lluosog yn awr nag y bu mewn unrhyw etholiad blaenorol. Mae cwmniau mawrion Bass ac -llaopps a Guiness erbyn hyn yn Haw mil- oedd lawer o etholwyr y deyrnas mewn shares; ac yn ddiameu, bu i gannoedd lawer o Ryddfrydwyr a feddent gyfran yn y cwmniau hyn bleidleisio yn erbyn y Rhyddfrydwyr y tro hwn am y waith gyn- taf erioed, gan yr ofnent y byddai i Fel-ur Dewisiad Lleol niweidio eu buddiannau. UNDEBAU Y GWEITHWYR. Nid ydyw undebau y gweithwyr yn agos mor gryfed yn awr ag yr arferent fod; hud-ddenwyd llawer 3 honynt gan Social- ism, y rhai drache'n, trwy redeg ymgeis- wyr o'r eiddynt eu hunain lie nad oedd yn bosibl iddynt enill, a lwyddasant i daflu amryw o seddau Rhyddfrydol i'r Toriaid. Amser a ddengys pa faint o fantais neu an- fantais fydd hyn i blaid y llafurwyr. Credaf fod a wnelo y ffaith amlwg fod y Weinyddiaeth ddiweddaf yn anmhender- fynol ar luaws o fesurau pwysig lawer a'i dwyn i waradwydd yn yr etholiad. Nid oedd y blaid, nag hyd yn nod yr arwein- wyr, yn unfryd-unfarn ar yr uu o'u piif fesurau, ac oherwydd hyny mynych wrth- ddywedent eu gilydd, ac nid oedd fawr o frwdfrydedd yn eu gweithrediadau am nad oeddynt wedi eu cychwyn oddiar argy- hoeddiadau clir a diamwys. n YR arweinwyr MEWN PENBLETII. Pa beth oedd oreu ei wneyd gyda'r aelodau Gwyddelig gyda golwg ar Home Rule-eu cadw yn St. Stephan i lywodr- aethn yno yn ogystal ag yn Dublin-ynte eu gyru i'r "VVerddon yn gyfangwbl, ac felly dori i fyny arwydd.penaf yr undeb ? Beth a wneid i Dy'r Arglwyddi-ei ail wneyd ynte ei dynu i lawr ? Vdyw Dad- gysylltiad yr Eglwys ftefydledig yn gor- wedd ar gyfiawnder a chrefydd, ai ynte mater o policy ydyw? A roddid unrbyw iawn i dafarnwyr o dan ddewisiad lleol, ai ynte na wneid ? Nid oedd y blaid wedi cael golwg glir ar yr un o'r cwestiynau hyn, ac y mae yn eglur fod y petrusder yr eeddynt hwy ynddo wedi peri dyryswch a phensyfyrdandod i'r wlai. ROSEBERY A HARCOURT. Ac i ychwanegu at hyn oil yr oedd yn eithaf gwybyddus nad oedd y Prif Weini- dog Rosebery, ac arweinydd Ty'r Cyffredm, Syr William Harcourt, yn rhy hoff o'u gilydd. Credai llawer—a minau yn eu myog-mai ar Harcourt, ac nid Rosebery, yr oedd gogwydd naturiol mantell Mr Gladstone, nad oedd yr un o'r ddau yn gymwys^i'w gwlsgo, ac yr oedd yn eglur y teimlai Harcourt mai efe oedd y gwir etifedd. Ond siomwyd ef, a chredaf mai hon oedd siomedigaeth fawr ei fywyd. Yr oedd Chamberlain wedi codi ei sawdl yn erbyn yr hen gad-ly wydd, Dilke wedi syrthio i anmharch, ac nid oedd neb yn Nhy'r Cyffredin o gymaint profiad a eallu a dylanwad a Harcourt. Yn awr wele yr hen wron C-klaulstone yn rhoddi y gwaith i fyny, a dyma, yn dcllddadl, umg jlyfleasdra Barconrt am y Bnf-wemydd- iaeth. Ond ni chafodd gynyg arni-awd heibio iddo, heb gymeryd unrhyw sylw o hono, a rhoddwyd y swydd y br,- dwyd- iodd, y disgwyliodd, ac y gweichiodd ef trwy ei oes am dani i ddyn ieuanc, aelod o Dy'r Arglwyddi, un oedd yn yr ysgol am rai blynyddoedd wedi i Harcourt fod yn aelod amlwg o Dy'r Cyffredin! Suddodd y siomedigaeth hono fel bustl i'w natur, nid ftpth am foment o'i gof, ac er iddo arwain y Ty yn well nag unrhyw un a gymerodd y gwaith mewn llaw y ganrif hon, deuai j cys^od ei alar mawr dros ei wyneb, a Uithrai ei sain i'w ymadryddion yn llawer rhy J fynych. Oherwydd hyn, anaml iawn y I rbedai ei areithiau ef ag eiddo y Prifwein- idog ar yr un llinellau, ac nid oedd yn hawdd gweled pa berthynas neu gysylltiad oedd rhyngddynt. Yr oedd hyn yn aD- fFawd fawi i'r blaid, ac yn un o acnosion ei chwymp. CWERYEON Y GWYDDELOD. Ychwaneger at hyn gwerylon par- haus yr a4elodtiti Gwyddelig, a cheir un eo-lurhad pellach ar y trychineb eth- oliadol. Dadleuodd Mr Gladstone lawer dros y Gwyddel, a chysegrodd holl ddy- lanwad ei athrylith frwdfrydig i'w amddi- ffyn yn ngwyneb sen ac absen ei wrth- wynebwyr. a llwyddodd i enill llawer o'i blaid. Wedi enciliad Mr Gladsone-a d)ma y frwydr gyffredinol gyntaf i'r Rhyddfrydwyr ei hymladd hebddo-nid oedd neb i'w gael fedrai wneathur cystal esgusawd dros y Gwyddel. Ni fu erioed onestach dyn na John Morley, ond md oes ynddo gymaint a gronyn o danbeid- rwydd-ac er ei fod yn areithydd da a gwir alluog nid ydyw yn gallu cyffwrdd llinynau W gJon] fel Bright a Gladatone. Onder hyny gvraaeth gystal gwaitli dros J yr Iwerddon ag un dyn fu erioed yn llyw- odraethu ami, a gellid meddwl y derbyn- iasai ddiolchgarwch a pharch pob Gwyddel a Home Ruler o leiaf. Ond, ysywaeth, nid felly y mae. Pan daflwyd ef allan o New- castle trwy offerynoliaeth un o ymgeisrryr byrbwyll y gweithwyr, yr hwn alwyddodd i drosglwyddo sedd i'r Tori, dyma bedwar o ddilynwyr Parnell yn anfon pellebyr i longyfarch eu cydwladwyr am daflu allan Jailer Morley Arwyddid y pellebyr gan Will-ie Redmond a thri dyn salach nag ef ei hun. Dyma dal dyn uniawn a chywir gan rai o'r Gwyddelod am flynyddoedd o lafur caled dros yr Iwerddon. GOGLEDD CYMRU. Oiqd er gwaethaf y galanas cadwodd Cymru ei gogoniant Safodd yn wrol a digryn Taflodd holl fygythion ac addew- idion y Toriaid i'r gwynt, a glynodd yn ddewr wrth ei hargyhoeddiad! Dyma genedl yn gwybod ei meddwl, yn siarad ei barn yn groew, ac yn glynu yn ddi-ildio wrthi. Ar y tir yma yn unig yr enillwn y brwydrau sydd yn mlaen, ac y cyrhaedd- wn y tir dymunol yr ydym wedi cael cip- olwg ar ei gyrau yn ystod y Senedd-dymhor ddiweddaf. Cawn fwy o gwmni ein hael- odau Seneddol gyda ni yn ystod y blyn- yddoedd dyfodol nag a gawsom y blynydd- I oedd diweddaf. Bydd hyny yn fantais ddirfawr i ni. Byddant yn gaffaeliad gwerthfawr yn ngliynghorau plwyfol a sirol y wlad, ac ar y byrddau addysg. Yr ydym wedi derbyn llawer y freintiau yn ddiweddar, ond credaf fod llawer o waith hyfforddi ac arwain amom cyn y gallwn wneulaur y defnydd goreu ohonynt. Os cawn hyn o fantais drwy y dinystr etholiadol byddwn yn bwyta mel o esgyrn y Ilew. PEREDUR.
CHWARELWrR NANTLLE.
CHWARELWrR NANTLLE. ARDDANGOSIAD MAWREDDOG. Am haner awr wedi pump prydnawn Sadwrc, bu Uuaws ochwarelwvr ein Dyffryn yn gorymdeithio trwy brif heolydd Peny- groes, yn cael eu blaenori gan y Nantlle Vale Silver Band, ac yn unol a'r trefniadau, cyrhaeddasant y Concert Hall, mewn trefn i ddechreu eu cyfarfod am chwech o'r glooh. Gwelwyd yn f uan fod y neuadd lawer yn rhy fach i gynwys y dorf ddaeth yn nghyd, a gorfu i ugeiniau fyned ymaith o ddiffyg lie. Rhoddwyd gweithrediadau y cyfarfod yn llaw Mr Richard Benjamin Pritchard, Peny- groes, i'w cario yn mlaen, a chafwyd ynddo lywydd tra delieuig. Wedi anerchiad cdmpus ganddo yn egluro amean y cyfarfod, galwodd ar Mr Owen Morris, Nebo, i gynyg y pen- derfyniad a ganlyn i'r eyfarfod: I Fod y cyfarfod hwn o weithwyr Nantlle yn datgan yn ddiamwys yr angeurheidrwydd a deimlir genym am gael ronry o undeb a chyd-ddeall- twriaeth yn ein plith fel gweithwyr." Eiliwyd gan Mr O. J. Owen, Talysarn, a chefnogwyd gan Mr Robert Williams, Rhos- gadfan. Yr oedd anerchiadau y cynygydd, yr eilydd, a'r cefnogydd, yn mhlaid y pen- derfyniad crybwylledig, yn cario dylanwad ar y cyfarfod, fel y päsiwyd y cyfryw ben- derfyniad yn hollol unfrydol. Yna galwodd y cadeirydd ar Mr J. W. Thomas, Waenfawr (llywydd Undeb Chwar- elwyr Gogledd Cymru), i anerch y cyfarfod. Ar ei waith yn codi rhoddwyd iddo dderbyn- iad siriol, a safoddy dorf igaau Crogybar," ar yr emyn, 0 Fryniau Caersalem (dan arweiniad Mr Thomas). Ac yna cafwyd anerchiad gwir ddyddorol ganddo, yn ngwrs pa un y sylwai, fod profiad 34 mlyhedd fel gweitliiwr chwarelj ddol yr- .hoddiryw hawl iddo, er pob anghymwysd r, i sefyll o flaen torf mor luosog o'i gydweithwyr i'w han- erch ar gwestiwn yr Undeb. Ccfiai yn dda am gychwyniad yr Undeb, ac am yr amser da hwnw wawriodd ar chwar- elwyr Gogledd Cymru pan ydoedd yr Undeb yn anterth ei lwyddiant. Ond pa le y mae yr Undeb yu awr ? Bu ar ymchwil am datio yn Meirion bell, ond nid oedd i'w gael yno. Dringodd dros y myuyddau i Bethesda, hen gartref yr Undeb, ond 'doedd yno nemawr un yn ei adnabod. I Lanberis wed'yn. ond yr oedd poced yr Undeb yn rhy wag i neb I yno hawlio perthynas ag ef. Pur debyg oedd pethau yn Nvffryn Nantlle. Ond pan yn dychwelyd gartref yn ddigon diysbryd, canfu fod yr Undeb wedi ffoi am noddfa i gilfachau y mynyddoedd, ac, o drugaredd, yn cael ymgeledd gymhwys gan weithwyr Glanyrafon, Rhyd-ddu, a hyderai yn fawr, oddiwrth yr olygfa oedd ger ei fron, fod hen ddyffryn euwog Nantlle yn agor y drws iddo, ac y dilynid hwy gan holl Arfon a Meirion, ac edrychai yn mlaen at yr amser pryd y bydd holl weithwyr chwarelau Gog- ledd Cymru yn un a'u gilydd eto, a dyma'r pryd y byddai i'r chwareljvr, druan, ymrydd- hau o'i gadwyuau, yn lie eu cusanu fel y gwna yn awr. Gwir fod y gelyn yn gryf, ond mewn undeb mae nerth ar ei gyfer. • Derbyniodd sylwadau Mr Thomas ucbel gy- meradwyaeth gan y dorf lawer gwaith. Yn nesaf, ar gynygiad Mr Robert R. Wil- iams, Petiygroes, yn cael ei eilio gan Mr W. W. Jones (Cyrus), pasiwyd yn unfryd ben- derfyniad yn ffafr safon cyflog o 5s yn y dydd. Yna anerchwyd y cyfarfod yn mhellack gan Mr W. J. Williams, ysgrifenydd yr Undeb, yr hwn a sylwodd ar yr hyn a wnaeth yr Undeb yn y gorphenol, a'r hyn a allasai wneyd eto yn y dyfodol pe caffai gefnogaeth fwy llwyr a gwresog gan y gweithwyr. Yna eglurodd Mr Williams yn fanwl, drwy brawfion diymwad, gysylltiad cyfalaf a llafur chwarelyddol yn yr amser presenol, ac mewn cyferbyniad ag atuseroedd fa. Anogai y bobl ieuainc i chwilio y ffeith. iau a osodai ger eu br.m, a myfyrio arnyat, ac yna ffurfio barn bersonol drostynt eu hunain pa un a ydyut yn cael eu cydnabod yn deilwng i.,m eu llafur ai peidio. Diau fod anerchiad Mr Williams yn mhlith pethau goreu y cyfarfod. Derbyniodd Mr J. Morris Jones (Llew Soch) gymeradwyaeth am ei sylwadtau ar ran labrwyr chwarelyddol, yn hawlio safon cyflog iddynt hwvthau, yn ogystal ag i'r ) chwarelwyr. Eglurodd Mr W. J. Williams 1 fod codi y chwarelwr yn golygu cyd-godi y labrwr hefyd. Ar gynygiad Mr J. Hughes (Alaw n Llyfnwy), yn cael ei eilio gan Mr R. O. Owens, Cilgwyn, pasiwyd penderfyniad yn o-ofidio fod rhai chwarelau heb gael eu gweithioyn y D) ffryn. b Oaf wyd sylwadau pur effeithiol hsfyd gan Mr Edward Roberts, Carmel. Galwyd sylw arbenig at reolau newyddinn yr Undeb, ac ano"vyd pob gweithiwr oedd yn bresenol i'w hymofvn. Goilir eu cael gan yr ysgrif- enydd cyffredinol (Mr W. J. Williams), neu gan yr ysgrifenydd Ileol (Mr R. G. Jones). Ar gynygiad Mr W. Thomas, Talysarn, yn cael ei oilio gan Mr Henry Williams, Llan- llyfn?,|tilwyd diolchgarwch gwresog i'r cad- eirydd, yn Dllhyda r rhai fu yn anerch y cyfarfod," ac yn aibenig i'r Band am ei was- anaeth.
[No title]
Mae pafilion Llauelli, He y cynhelir yr Eisteddfod yr wythnos hon, ar ei ben ei hun o ran gwaith a, ghyfleusderau. Mae Yalkyre I LI, llong Arglwydd Dun- raven, yr hon sydd i ymgeisio am y gwpan Americanaidd, ar ei mordaith i'r America. BEST FOR THE t:;KIN.-Calvert's Car bolic Toilet oap, the active ingredient of which is re o n mended by the medical profession for all skin ailments.—Pleasantly perfumed and improves the complexion. In Is 6d 3-tablet boxes at Chemists, &c., or post free for value from F. C. Calvert and Co., Manchester. Awarded 65 Gold and Silver Medals and Diplomas.
OFN MYN'D YN DDALL.
OFN MYN'D YN DDALL. Yn Mhenbont-ar-Ogwy dydd Sal, crogodd Mr D. Stradling ei hun yn oriau man y boreu. Yr oedd wedi colli un llygad, ac yr oedd y llall yn ddrwg, ac felly aeth yn isel ei feddwl. Yr oedd yn un o'r rhai a achub- wyd o lofa Park Slip pan y cymeroddy ffrwydriad arswydus le flynyddoedd yn ol.
TAI YN SYRTHIO.
TAI YN SYRTHIO. Dychrynwyd pobl Heywood nos Sadwm gan y newydd fod hen dai wedi syrthio i mewn a lladd tri o blant heblaw anafu am- ryw eraill. Oddeutu chwech o'r gloch syrthiodd y tri i lawr fel yr oedd nifer o blant yn chwareu yn agos atynt. Claddwyd y plant dan y malurion, ond yn ffodus ni iaddwyd neb, er fod amryw wedi eu hanafu yn dost.
MADAM PATTI.
MADAM PATTI. Yn un o'r cylchgronau Seisnig rhydd Madam Patti ychydig o'i hanes yn nglyn a'i hymddangoeiad cyntaf ar Iwyfan i ganu. Yr oedd profedigaethau wedi syrthio ar y teulu, ac o'r diwedd daeth diwrnod nas gallai oddef gweled gwyneb profedigaethus ei thad. Peidiwch gwerthu eich pin turquoise," meddai hi, mi helpa i chwi. Gadewch im i fod yn gantores fechan." Gwrthwynebai ei thad y syuiad, ond nid oedd o unrbyw ddy- ben. Ni chai ddim llonydd nes y cafodd fyn'd ar y llwyfan yn ngerddi Nioblo, er nad oedd ond saith oad ar y pryd. O'r amser hwnw daeth arian i mewn yn bur gyflym. Yn fuan galluogwyd y teulu i brynu ty yn New York, a myn'd yno i fyw.
Advertising
TE PERAIDD MAZAWATTEE TE PERAIDD MAZAWATTEE TE PERAIDD MAZAWATTEE TE PERAIDD MAZAWATTEE Mewn paceci a tiniau, Is 6c i 4s y pwye, gau b«b grocen
' FFRWYDRIAD MEWN GLOFA.
FFRWYDRIAD MEWN GLOFA. Cymerodd ffrwydriad arswydus le mewn glofa yn Bochum, Germani, ddydd Iau. Yr oedd 44 yn gweithio yno ar y pryd, a lladd- wyd 33, tra yr anafwyd y gweddill yn arswydus.
--BODDIAD YN NHREFALDWYN.
BODDIAD YN NHREFALDWYN. Fel yr oedd nifer o ddynion ieuainc ya chwareu yn Lymore Park, Trefaldwyn, Sadwm, hysbyswyd hwy fod bachgen naw oed i Mr H. S. Griffiths, Crown Inn, wedi boddi mewn llyn yno. Ymddengys ei fod yn ymdrochi yn y lie. Tynwyd y rph o'r dwfr, ond methwyd ac adferu ei anadliad. Ba agos i fachgen arall foddi yr un diwrnod.
DEISEBAU ETHOLIADOL.
DEISEBAU ETHOLIADOL. Hysbysir fod Mr Fletcher Moulton (R) am ddwyn petisiwn yn erbyn dychweliad Mr Robertson yn Neheu Hackney. Mae y petisiwn yn erbyn Mr G. Kemp (T) yn Hey- wood wedi ei dynu yn ol. Yn Stroud, mae'r Rhyddfrydwyr wedi penderfynu tynu allan betisiwn yn erbyn Mr A. Cripps, Q.C., ar y tir fod yr etholwyr wedi eu bygwth, ac fod diod wedi ei roddi iddynt.
BODUI AR EU FFORDD I BLEIDLEISIO.
BODUI AR EU FFORDD I BLEID- LEISIO. Newyddion o swydd Inverness, Ysgotland, a hysbysant fod damwain alarus i gwch wedi cymeryd lie ger Ynys North Uist, pan y boddodd o leiaf dri o ddynion. Gadaw- odd deuddego etholwyr ynys Heisker, ddydd Iau, i bleidleisio yn North Uist, ond sudd- odd y eweh. Yr oedd y dynion hyn ar eu ffordd i bleidleisio. I CERllYDRES IN SYRTHIO I'R MOR. Hysbysir am ddamwain arswydus a cy- merodd le yn Japan ddydd Sadwrn. °Yr oedd cerbydres a gynwysai 23 o gerbydau, gyda dau beiriant, un ar y blaen a'r llall y tu ol, yn teichio ar ei ffordd o Hiroshima i Kobe yn ystod ystorm fawr. Yn y ger- bydres yr oedd 400 o filwyr oeddynt yn dychwelyd adref ar ol bod yn ymIa-dd vn China. Mewn un lie ar y daith y maev y llinell yn teithio ar lan y mor ar arglawdd, ac yroedd y tonciU y boreu hwnw yn golchi dros yr arglawdd. Tuag un o'r gloch y boreu, pan oedd yn dywyll iaflrn, daeth y gerbydres i'r He hwn, a daeth amryw o donau enfawr dros yr arglawdd. Torwyd y gerbydres yri ddwy, ac aeth y rhan flaenaf, yn cynwys un ar ddeg o gerbydau, gyda'r peiriant oddiar y rheiliau, gan syrthio i'r mor. Ychydig o'r rhai a syrtbiasant i mewn a achubwyd, a dywedir fod 140 wedi colli eu bywydau.
YR YSTORM.
YR YSTORM. Hysbysir nmlifogydd dinystriol o wahanol barthau o Northumberland a Durham bos Wener. Yn Seaham a threfydd ereill yr oedd y bobl wedi eu gyru i'r llofftydd gan y dyfroedd. Yn Wingate boddwyd bachgen o'r enw Haswell, a boddodd un arall yn Stanbroke. tGwnaed niwed mawr i gropiau gweoith a haidd. Nos Wener parlyswyd un ochr i ddyn o'r enw Orme yn y Lamb Hotel, Nantwich, gan fellten. Yr oedd y dref wedi ei gorlifo. Gwnaed difrod hefyd yn nghy- mydogaeth Bolton. Rhoddwyd ty a siop cigydd yn Farnworth ar dan, a gwnaed gwerth 300p o golled. Tarawyd eglwys y plwyf gan fellten, a rhoddwyd dwy fferm ar dan yn Middlehulton.
[No title]
Aed a dyn ieuanc i ysbytty Derby nos Sa- d m, wedi ei saethu yn ei goesau gan ffermwr am hel mushrooms. Fel yr oedd dau ddyn yn mynd a gwair mewn cwch o'r tir i Ynys Totton, Southend- I on-aea, trodd y cwch a boddodd y ddau ddyn.
CYDYMDEIMLAD A'R LLYWODRAETH…
CYDYMDEIMLAD A'R LLYWODR- AETH RYDDFRYDOL. Cyfarfyddodd deugain mil o lowyr mewn arddangosiad yn Durham, ddydd Sadwrn, a phasiwyd yno benderfynia.d yn gofidio fod yr Undebwyr wedi eu dychwelyd i swydd-
YSBEILIWR DIGYWILYDD.
YSBEILIWR DIGYWILYDD. Dygwyd dyn i'r ddalfa yu Runcorn ar ol tori i mewn i bump o dai yr un noson. Wrth dd'od o'r diweddaf rhedodd ar draws hedd- geidwad, a tharawodd ef i lawr. Yna rhed- odd ymaith, gyd*'r heddgeidwad ar ei ol. Ceisiodd ei daro drachefn gydag esgid ac awrlais, ond methodd, a chymerwyd ef i'r ddalfa.
-----._-----TERFYSG YN LUTON.
TERFYSG YN LUTON. Ar ol hysbyeu canlynind y pol yn Luton, cymerodd terfysg arswydus le. Darllenwyd y Riot Act ddwy waith, ac yn y diwedd bu raid anion am 50 o heddgeidwaid i Lundain. Ymosodasant ar dy cyfreitbiwr fu yn Un- debwr blaenllaw, ond a gyhoeddodd draeth odyn yn erbyn yr ymgeisydd Undebol. Maluriwyd ffenestri ei swyddfa a dodrefn ei dy. Bu jaid i'r heddgeidwaid ruthro ar y dorf, a'u chwalu ymaith.
I GWRTHDARAWIAD YN ERBYN Y…
GWRTHDARAWIAD YN ERBYN Y PIER. Gwrthdarawodd yr agerlong King Orry, sydd yn cario teithwyr i Ynys Manaw, yn erbyu pier Douglas dydd Sadwrn. Yr oedd mil 3 bobl ar ei bwrdd. Pan yn neshau at y lan torodd cadwen y llyw, ac er fod y peir- ianau yn g-weithio yn ol, gwrthdarawodd yn erbyn y pier. Gwnaed ychydig o niwed i'r agerlong, a chafodd amryw obobl ysgydwad pur, ddrwg. Mae un foneddiges yn yr ysbytty.
JAPAN: EI MILWYR A'I LLYNGES.
JAPAN: EI MILWYR A'I LLYNGES. Mae Japan yn gwneyd ei milwyr a'i llynges yn barod i ryfel pe digwyddai iddi dori allan eto. Mae dwy long ryfel newydd a brynwyd yn Peru wedi cyraedd yr yuys eisoes, ac fe anfonir dynion i Loegr yn fuan i gymeryd y tair llong l-hyfel newydd sydd ar ganol eu gwneyd yma. M-te yr ysbryd milwrol yn gryf iawn er holl ddifrod y colera, yr hwn sydd wedi ymosod ar naw mil o bersonau ac wedi lladd pum' mil. Maent yn cael trafferth fawr yn Formosa gyda'r brodorion, y rhai sydd yn caei eu cefnogi i wrthryfela gan rai o lywodraethwyr Deheu China. Anfouwyd ychwaneg o filwyr yno YliJ. ddiweddar.
PA FODD I DREULIO EIN GWYLIAU
PA FODD I DREULIO EIN GWYLIAU Edrychir ymlaen at y tymor hwn o'r flwycidyn am. wythnosau ymlaen llaw gan la.weroedd yn ein gwlad. Hiraethant a dis- gwyliant yn avryddus am ei ddynesiad, canys àyma'r adeg y gwelir miloedd yn cael ychydig seibiant oddiwrth eu llafur a'u gofalon arferol, ac yn troi eu hwynebau, rhai tua glan y mor, eraill i'r ffynonau, eraill mynydd-dir i dreulio eu gwyliau er cael newid awyr a golygfeydd. Gwelwn eraili yn gwibio o le i le er cael eyinaint o amryw- iaeth golygfeydd a chymdeithas ag a allant yn ystod tymor byr eu seibiant. Er fod llawer yn ystyried mai tymor i geisio pleser a mwynhad yw eu gwyliau, mae y mwyafrii mawr yu myned oddicartref am dymhor yn yr haf i geisio adfywiad ysbryd ac adferiad nerth ac iechyd, y rhai sydd wedi eu hain- haru gan ystormydd y gauaf a'r gwanwyn, a chan lafur neu ofalon a phryder gormodol. Nid oes ary-ihoureth nad un o'r moddion goreu i gyrhaedd yr amcan hwn yw newid awyr, a newid golygfeydd a chwmpeini, ond yn anffodus oherwydd marweidd-dra masnaeh trwy y wlad yn ystod y flwyddyn aeth heibio; mae hyn allan o gyrhaedd nifer fawr o'r rhai sydd yn dioddef, ond gellir i raddau gyrhaedd yr un amcan trwy gymeryd cyffyr adgryfhaol effeithiol, ac hyd yn nod' i'r rhai allant ffordilio i fyned i newid awyr mae y cyiryw gyffyr yn angeurheidiol, ac yn dyblu y lies a dderbynir trwy v seibiant geir yn y gwyliau. j Cydnebydd pLLwb mai y cylryr adgryfhaol goreu sydd eto wcdi ei ddarganfod ydyw Quinine Bitters Gwilym Evans, yr hwn sydd feddyglyn hollol lysieuol, ae yn derbyn cy- meradwyaesh a chanmoliaeth miloedd yn y 1 wlad hqp, sydd wedi ei brofi yn efieitl 1 1 iawn i adfer 11artb ac iechyd pan oedd poo i meddyginiaeth arall yn anoffeithiol. I Mae Quinine Bitters Gwilym Evans mor boblogaiad a chymeradwv, fel mae llawer yn ceisio ei efelychu, ab yn cynyg i'r cy- ■ hoedd gyffyriau gwael dan gyffelyb enw. Gochelwch y cyfryw. Eihychwch fod enw ] Gwilym Evans '.r y label, y samp, ar botel. Pris poteli, 2s 9c a 4s 6c yr un, ac y mae ar werth gan yr holl fferyilwyr, neu gellir ei gael yn uniongyrchol aui y prisiau uchod oddiwrth y parchenogion,—Quinine Bitters j Manufacturing Company, Limited, Llanelly, South Wales.
Advertising
'IMOFM%M Im ILU Otlcura WORKS tt tl Bf In curing torturing, disfiguring, humili. 6 | ating humours of the Skin and Blood. ""1:1 throughout the world, anlt Is bv EJ!Il&h and n r, t,, 'r 11:, h d;.po I 1, ."LrNir tykgoxs 1, King Edw-d-ct., Lond_ r- C'-¡:T1.r 4 CORP. ne P R0C!t+ TT p
----------ARDDANGOSFA CAERNARFON.
ARDDANGOSFA CAERNARFON. Dydd Lliin nesaf (Grwyl y Banciau) cyn- helir arddangosfa fawreldog o anifeiliaid, own a dofednod yn y Pafilion, Caernarfon. Dealiwn fod nifer yr ymgeis ,vyr yn anarferol o luosog, ac y ceir cystadlouaeth anarferol o dda. Dywedir fod yr ymrysonfa neidio yn debyg o droi allan yn Ijynod ddyddorol. Mae y gwobrwyon yn cyrhaedd y swm ar- dderchog o 300p, a threfnwyd i gael cerbyd-- resi rhad o bob cwr o'r wlad. Gan fod yr wyl hon yn myned yn fwy poblogaidd y naill flwyddyn ar ol y 11^13, disu y bydd i'r arddaugosfa hon droi allan yn hynod lwyddianus.
- ----------CWRW ! CWRW !…
CWRW CWRW CWRW! Y peth mwyaf arwyddoaaol a bythgofiad- wy mewn "cysylltiad ag etholiad cyffredinol 1895 (medd y Methodist Times ") ydoedd gorchfygiad Syr William Harcourt. Mae I gwir acbos y gorchfygiad yn cael ei egluro yn y "Times" pan y aywed fod I shares mewn cwmni darllawol wedi cyfodi o un i ddau y cant pan gyhoeddwyd y newydd. Dyna'r secret Cwrw (twrw cwrw Y fasnach feddwol, ac nid Ty'r Arglwyddi, syad yn llywodraethu Lloegr heddyw. Diau fod y Sporting League yn gynorthwy mawr i'r trade. Ond y gyfundrefn a roddodd y fath ddyrnod ofnad-,vy i rinwedd cenedl- aethol ydyw y fasnach mewn diodydd meddwol.
j MARW YN YR EGLWYS.
j MARW YN YR EGLWYS. I Bu boneddiges farw yn ystod y gwasanaeth yn Eglwys Mair Santes, Beverley nos Sul. Clefyd y galon oedd achos ei marwolaeth.
BWRDD YSGOL MEWN HELYNT.;…
BWRDD YSGOL MEWN HELYNT. Dydd Sadwrn, cyfarfyddodd Bwrdd Ysgol Pembrey, Llanelli, am yr ail waith ar ol iddo gael ei ethol, ond torodd y cyfarfod i fyny ar ol dadl pur ryfedd. Yn y cyfarfod blaen- orol yr oedd pedwar allan o bump o aelodau yn bresenol. Yr oedd y pumed heb ddych- welyd o'r America. Llywyddwyd gan y Parch J. Rogers, a chan fod dau gadeirydd wedi eu henwi, ond heb eu heilio.wrth gwrs, oherwydd rhif y bwrdd bu raid gohirio y gweithrediadau. Ofnir y bydd raid cau yr ysgolion, a dwyn y mater i sylw Swyddfa Addysg.
I MR GLADSTONE GARTREF.
MR GLADSTONE GARTREF. Mae iechyd yr Hen Wron o Benarlag yn parhau yn dda. Mae yn myn'd allan bob Mae iechyd yr Hen Wron o Benarlag yn parhau yn dda. Mae yn myn'd allan bob dydd, ac yn cael llawer o les oddiwrth awyr iach y wlad o amgylch y Castell, Yn ddi- weddar bu ar ymweliad lawer gwaith a'r lyfrgell y mae wedi ei chodi yn y pentref. Dydd Gwener, daeth Mr John Morley ar ymweliad a'r Castell ar ol cymeryd gor- phwysdra ar ol yr ymgyrch yn Newcastle. Mae ef wedi cael hamdden i siarad llawer a'r Hen Wron yn ystod y tridiau y bu yn y Castell, a diau fod gan yr ymweliad ryw- beth i'w wneyd a'r bvd gwleidyddol y dyddiau hyn. Dydd Sul aeth Mr a Mis Gladstone i'r eglwys gyda Mr Herbert Gladstone, yr hwn oedd wedi d'od adref i bleidleisio dros Mr Samuel Smith.
HEN BULPUD Y (IROES WEN.■
HEN BULPUD Y (IROES WEN. Y mae rhywbeth yn hynod gynhyrfus a thoddedig yn yr hanes am yr hen foneddwr o Gymro yn yr America-yr Anrhydeddus Daniel Edwards—yn syrthio mewn cariad a hen bulpud y Groes Wen, ac yn penderfynu ei symud i'w gartref mabwysiedig yn y Gor- llewinfyd pell. Mae'n debyg mai Hughes y Groes Wen" oedd un o'r pregethwyr cy,ntaf mae'n gofio, a bod ganddo feddyliau uchel am dano. Pan ar ymweliad a'r wlad hon yn ddiweddar gwelodd hen bulpud y Groes Wen mewn hen benty yno, syrtbiodd mewn cari*d ag ef, a chafodd ganiatad i'w symud i'w gartref yn America. Ychydig 19 wythnosau yn ol daeth dwy o'i ferched a gwr un ohonynt, Mr Theodore L. Newell, i wlad eu tad a'u teidiau. Arosant gyda Dr Parry, yn Mhenarth, a byddant yno hyd Hydtef nesaf. Yr oedd y merched urddasol wedi clywed eu tad yn siarad llawer am y Groes Wen, ac am Gruffydd Hughes a'r hen bulpud bach. Aeth y ddwy foneddiges a Mr Newell ar bererindod tua'r Groes Wen, a gwnaed y parotoadau angenrheidiol i symud yr hen bulpud. Er fod yr hen dderw wedi mallu i raddau gan amser, a'i dyliu yn fan ac yn ami gan hiliogaeth Mallt, ac er mai diaddurn ydoedd Arch y Groes Wen, awd a hi tua phcrthladd Caerdydd, a chyr- haeddodd yn ddiogel i gartref yr Anrhy- deddus Daniel Edwards, Kingston, Penn- sylvania, America. Yn naturiol, y mae yno lawenydd mawr yn mysg y Cymry ar ddy- fodiad un o hen eirch cysegredig Cymru —ie, un mor santaidd yn ngolwg y Cymry ag oedd arch y cyfamod i'r hen genedl gynt —i'w mysg; ac fel hyn yr ysgrifena y Parch T. Cynonfardd Edwards, D.D., i'r Drych Yr wythnos hon daeth yr beo bulpud i Kingston, Pa. Mae pawb a adwaenai Caledfryn yn gwybod na allai ef oddef hen bulpud cul a diaddurn fel hwn i fod yn ei gapel ef, oddieithr ei gadw yn unig fel adgof am yr hen amser. Mae oapel presenol y Groes Wen yn un ffasiynol, yn ol! dullwedd y dyddiau diweddaf hyn. Er's 1 tair wythnos yn ol aeth Theodore L. Newell, mab-yn-nghyfraith yr Anrhyd. Daniel Edwards, Kingston, Pa., ar ymweliad a'r Groes Wen, a chafodd afael ar yr hen bul- pud, yn nghanol rwbelau eraill yn y dwfn-I gelleedd yno, a chafodd ganiatad i'w ddwyn gydag ef i America. Ac wcle efe yma. Ca ei lanhau, ei olchi, a'i farnisio, a'i gadw yn barchus gan deulu Mr Newell fel arwydd o barch i hen weinidog ei dad-yn-nghyfraith. Mr Hughes yw y gweinidog cyntaf y mae Mr Edwards yn cofio am dano oddiar tua'r flwyddyn 1829 neu 1830. Mae ganddo lawer o bethau doniol iawn i'w hadrodd am yr anfarwol genad. Bydd y pulpud hwn bellach yn drysor gwerthfawr yn meddiant y teuluoedd hyn. Rhoddir cyfteusdra yn fnan i holl Gymry yr ardal hon gael golwg arno. Ca y beirdd, yr haneswyr, a'r hynafiaeth- wyr, a phawb fantais i dderbyn ysbrydol- iaeth trwyddo." Yn mhlith miloedd rhyfeddodau A holl gywrain bethau'r oes, A gyfrifir yn drysorau, Bydd hen bulpud Hughes o'r Groes." Os y genad a barlyswyd, Os y pryfed fwyty'r pren, Byw wewn nerth wna'r 8-air bregethwyd Dros hen bulpud y Groes Wen. Y mae llawer hen bulpud arall heblaw un "Hughes o'r Groes Wen n y buasai atal i Gymro yn hoffi ei gael i addurno ei dy ond y mae llaw y dibris a'r anystyriol o gysegr- edigrwydd hen bethau wedi eu tori yn yfflon a'u tori yn goed tan —Idriswyn.
[No title]
Wrth ro3di bywgraffiad o Mr Stanley, fel aelod Toriaidd Gogledd Lambeth, desgrifir I ef gan y Times fel wedi ei eni yn Nih- I bych, Cymru, 1841." Hyddai raid i ddyn, os derbyniai fywol- iaeth gan Arglwydd Donnington, gwerth 4,000p yn swydd Leicester, addaw na wnai dderbyn esgobaeth. Nid oeid ganddo ond 400 o bobl i edrych ar eu hoi.
MR W. JONES, A.S., YN LLANDUDNO.…
MR W. JONES, A.S., YN LLAN- DUDNO. Ymwelodd yr aelod anrhydeddus dros Ar- fon a Llandudno nos Fawrth, pryd y cafodd dderbyniad cynes iawn. Cyfarfyddwyd ef yn yr orsaf gan Mr Elias Jones, cadeirydd y Gymdeithae Ryddfrydol, a'r arweinwyr Rhyddfrydol ereill, a gyrwyd trwy heolydd y dref mewn gorymdaith, yn cael ei blaenori gan Seindorf Bres St Tudno. Wedi cyraedd maes yn Gloddaeth street yr oedd yno dorf fawr yn ei aros, a llywyddwyd gan y Parch J. Raymond. Wrth godi i auerch y dorf cafodd Mr Jones dderbyniad brwdfrydig. Diolchodd iddynt am eu cefnogaeth, a dy- wedodd fod ganddynt le i longyfarch eu gilydd ary fuddugoliaeth Ryddfrydol ar- dderchog a gawsant yn Arfon (cymeradwy- aeth). Yr oedd ganddynt yr arglwyddi, y personiaid, a'r tafarawyr yn eu herbyn, ond ?• oedd y bobl o'u plaid (cymeradwyaeth). r oedd llai o arian wedi ei wario ar y fudd- ugoliaeth hon nag odid un etholiad a ym- laddwyd erioed. Y rheswm am hytoy oedd fod holl feddwl, calon, a hnnan-aberth y werin yn Arfon yu yr ymladdfa (uchel gy- meradwyaeth). Yr oedd y Toriaid wedi eu gorchfygu a'u syfrdanu. Er eu bod yn falch o'r fuddugoliaeth, yr oeddynt yn fwy bolch o'r ysbryd a'i sicrhaodd. Yr oedd Llandudno eisieu clwb Rhyddfrydol, lie y gallai dynion ieuainc gael addysg yn y ffydd a chynorthwyo i enill Ilawer brwydr dros yr achos (cymeradwyaeth). Dywedid fod Rhyddfrydwyr Seisnig pan yn dyfod i Gymru yn troi tua Thoriaeth, ae fod gwa- hanfnr rhyugddynt a'u brodyr Cymreig. Bydded iddynt feithrin brawdgarweh, ac ywuno i weithio gyda'u gilydd am gydradd- oldeb crefyddol, am ddiwygindau addysgol, ac am ryddid i'r wlad oddiwrth ei chwynion gwleidyddol (cymeradwyaeth).
CYNRYCHIOLWYR CYMRU. --
CYNRYCHIOLWYR CYMRU. Dyma enwau y gwahanol aelodau Seneddol a'u pleidiau:— I.—RH YDDFJl YDW TR, 1. E. Jonep-Griffith, Mon. 2. D. Lloyd-George, Bwrdeis. Arfon. 3. William Jones, Arfon. 4. J. Bryn Roberts, Eiflon. 5. T. E. Ellis, Meirion 6. 8yr G. Osborne Morgan, Dinbych (Deheu). 7. Herbert Roberts, Dinbych (Gogledd). 8. Humphreys Owen, Maldwyn. 9. Yaughan Davies, Aberteifi. 10. J. L. Morgan, Caerfyrddiu (Gogledd) 11. Abel Thomas, Caerfyrddin (Deheu). 12. W. Abraham (Mabon), Morganwg. 13. S. T. Evans, Morganwg (Gogledd). 14. Alfrad Thomas, Morganwg (Deheu). 15. David Itandell (Gower), Morganwg. 16. W. R. Daries, Penfro. 17. D. A. Thomas, Merthyr. 18. W. P. Morgan, Merthyr. 19. Brynmor Jones, Abertawe. 20. Charles Morley, Brycl einiog. 21. J. Herbert Lewis, Fflint. ° 22. SamHel Smith, Fflint* 23. R. M. M'Kenna, Mynwy. 24. Alfred Spicer, Mynwy. 25. Syr Wm. Harcourt, Mynwy. II.—TORIAID. 1. J. M. Maclean, Caerdydd. 2. W. Tudor Howell, Bwr. Dinbych. 3. E. P. Jones, Maldwyn. 4. P. C. Millbank, Maesyfed. o. Cudfridog Ixturie, Penfro. 7 Llewelyn, Abertawe. '• F. C. Morgan, Mynwy (Deheu). I RHYDDFRYDWYR trXDEBOL. I o' JefkiCs, Bwr. Caerfyrddin. I Uchgadben Quinn, Morganwg (De).
Y FFRANCOD YN MADAGASCAR
Y FFRANCOD YN MADAGASCAR Mae sefyIlfa pethau yn Madagascar yn bar ddifrifol. Nid yw y Ffraucod wedi gallu gorchfygu y brodorion hyd yn hyn, a diau y cymer peth amser cyn iddynt wneyd hyny. Mae llawer o'r milwyr yn wael, a dywedir fod 25 y cant yn analluog i gludo arfau. Dywedir fod teyrnas Madagascar mewn cyflwr arianol atifoddhaol-bron yn fethdalydd. Mae gwrthryfel wedi codi yn erbyn y prif weinidog, a dywedir fod hel- yntion blin yn Antanayarno. iDywedir fod y frenhines wedi gorfod dianc oddiyno.
- --I MARWOLAETH DISYFYD CLERIGWR.
MARWOLAETH DISYFYD CLERIGWR. Bu y Parch Jenkins Jones Jenkins, curad Aberaman, Aberdar, farw ddydd Sadwrn dan amgylchiadau hynod. Yr oedd wedi myn'd adref i Aberarth, ger Aberaeron, er mwyn i'w iechyd wella cyn iddo fyn'd yn gurad i Abbaty Nedd. Er ei fod wedi pre- gethu yn Aberaeron ddydd Sul, Gorphenaf 14eg, gwelodd ei dad ei fod yn isel ei feddwl, a gwyliodd ef. Dydd Sadwrn di- weddaf cododd yn foreu a gadawodd y ty. Pan oddeutu 300 llath o'r ty gwelodd ei dad yn ei ddilyn. Yna rhedodd i lawr y bryn i lan y mor, a'i dad ar ei ol. Aeth i'r mor fel yr oedd, ac weii mYll'd yn bur bell tafl- odd ei hun ar ei wyneb. Yr oedd ei dad wrth ei ochr ar unwaith ac aeth ag ef i'r lan. Yr oedd yn anym wybodol ond yn anadlu. Fodd bynag, bu farw cyn pen ychydig funydau. Y mae dau frawd i'r trancedig yn I. bregethwyr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.
Y GWRTHDARAWIAD ARSWYDUS YN…
Y GWRTHDARAWIAD ARSWYDUS YN LLYDAW. Digwyddodd dam wain arswydus i ger- bydres yn Llydaw. Ymadawodd cerbydres gyda 24 o gerbydau a dau beiriant, yn llawn obersonau o Eglwys St Anne d'Au- ray, o St Quintin, ac yr oedd oddeutu dwy filldir a orsaf Plaintel pan yr aeth y peir- iant oddiar y rheiliau. gan dynu y cerbydau ereill ar ei hoi. Cymerodd y peth le mor sydyn fel na chafodd y gyrwyr amser i droi y peiriannau yn ol, na hyd yn nod i roddi y brakes ar waith. Taflwyd y cerbydau y naill ar ben y llall. Maluriwyd wyth o honynt yn chwilfriw. Yr oedd yr olygfa yn awr yn galonrwygol. Gwaeddai y trueiniaia o dan y milurion, tra y diangai y rhai a gaw- sant eu hunain yn rhydd mewn dychryn ar draws y caeau. Cafwyd deuddeg o gyrph yno, ac yr oedd hanner cant wedi eu hanafu, dwsin yn arswydus. Teithio yn rhy gyflym ar gylch yr oedd y gerbydres.
[No title]
Mae llafurwyr a gweithwyr y rbeilffyrdd, meddir, j n hynod rydd oddiwrth wallgof- rwydd.
Y CYFRIN GYNGOR.
Y CYFRIN GYNGOR. Brydnawn Mawrth, am y tro cyntaf ar ol yr etholiadau, cynhaliwyd cyfarfod o'r Cyfrin Gyngor, a diau fod pawb yno yn llawen eu hysbrydoedd. DeaUir mai y prif waith oedd tynu allan Araeth y Frenhines, ac ymgynghori pwy ddewisir yn Llefarydd. Credir mai y tebygolrwydd yw mai ail- ddewis Mr Gully a wneir i gadair Ty'r Cyffredia, er fod llawer o'r Toriaid yn gwrthryfela yn enbyd yn erbyn y syniad.
MACEDO-NIA.
MACEDO-NIA. Daw Macedonia dan sylw Ewrop yn uan. Nis gall beidio. Mynd o ddrwg i waeth y mae pobpeth yno. Yn agos i le o'r enw Strumitza bu ymladdfa ffvrnig rhwng 125 o wrhhryfelwyr' (fel y gelwir hwy) a milwyr rheolaidd Twrci; a'r olaf, oherwydd gwell disgyblaeth, a orfuant. Mewn lie a'i enw Uskub, ychydig yn ddiweddarach, bu ym- laddfa rhwdg yr un pleidiau, gyda'run can- lyniad. Mae y ddau le hyn bron ar derfyn Bwlgaria, a dywedir mai o Bwlgaria y daeth y gwrthryfelwyr." Gresyn na fuasent yn fwy llwyddiannus.
---ARMENIA.
ARMENIA. Ar gyfer Armenia dywedir fod y Sultan a'i wcision wedi tynu allan gynllun newydd, yr hwn sydd yn well Il::¡,'r ddau gyntaf, meddir. Hefyd mae efe wedi penodi Shakir Pasha i aroiygu y gwaith o roddi ei ddi- wygiadau ef mewn ymarferiad. Ond nid fel hyn yr hud-ddeuir y galluoedd Ewrope- aidd, yr ydym yn gobeithio. Taflu Ilweh i'w llygaid yn y modd mwyaf digywilydd ydyw hyn oil. Da genym gael ar ddeall fod Arglwydd Salisbury am ddilyn gwladwein- iaeth Arglwydd Rosebery.
MARWOLAETH "CHWARELWR AD-NAB…
MARWOLAETH "CHWARELWR AD- NAB YDDUS. Walnutpart, Pa., Gorphenaf 6,—bu farw William Griffith, o'r lie hwn, yn 62 mlwydd oed, wedi dioddef cystudd o 14 o fisoedd. Ganwyd ef yn Tynymaes, ger Bethesda, sir Gaernarfon, G.G., Mawrth 19, 1833. Sym- udodd i'r America y. nechreu haf 1851. Yn 1857, priododd Aunr Williams, ac ymsefyd- lasant yn Danielsville, Pa. (Gap Bach). Ganwyd iddynt un-ar-ddeg o blant, saith o'r rhai, set tri mab a phedair 11 merch, sydd yn fyw yn bresenol. Mawrth 24, 1890, bufarw ei anwyl briod. Chwarelwr ydoedd yr ym- adawedig wrth ei alwedig;ieth. ond trwy ddi- wydrwydd a cl-, yr., ildeb a llawer o yui medd- yliol, yr oedd er's amryw flynyddau yn cario masnach ei hun. Ar y 9fed ymgasglodd tyrfa fawr o'i hen gyieillion a'i gydnabod, o wahanol genhedl e id, i'w hebrwngidy ei hir gartref yn mynwent St. Paul, Cherry ville, Pa., lie y gorweddai ei briod a paedwar o'u plant. Gwasanaethwyd gan y Parch J. W. Mabry, yn nghyda'r Free Masons. Hedd- wch i'w lwch a nodded y nef dros ei blant.- Drych.
Advertising
fa7tv Disinfectant (NON-POISONOUS) Instantly Stops Infection The Safest and Surest Protector against Fevers, Small-pox, Cholera, Diphtheria, and ether Infectious Diseases. The most powecfal germ destroyer at present known to science." An entirely unique discovery, net a coal-tar product. Instantly Stops Infection Sinks, Traps, w.c.'s, Drains, &c., flushed at trifling cost, a cs. 6d. bottle maktng 30 gat^ans of strong reliable disinfectant. leal is far more easily distributed through water thaa carbolic acid, and is perfectly safe, and free from risks. Instantly Stops Infection Sold in Bottles, is., as. 6d., and 4s. 6d., and in Gallon Tins, 10s. A sanmle bottle or tiki seat carriage paid in the United KingAxn for postal order. Izal Toilet Soap-OfCltmrists, Grocers, Oilman, It. bd. j>erbox,j>romotis healihy skin, and relieves Eoeema, Izal Medical Soap—per box, a powerful agent in the treatment of Skin Diseases. Izal Bmbrocatloil2- and bruises; powerfully antiseptic, and gmekfy relieve* any unusual muscular strain. For domesti* use, n, rd. a bottle; for veterinary use, 2s. Izal Household Laundry Soap—^d. per lb., Splendid for Laundry and ScouringThe best for hard water. Izal Soft Soap— Free front caustic alkali, and is a powerful disirrfiotant 2 tins, lb., 6d.; sib., jod.; 3 lb., is. Izal Cream—is. Tubes, very convenient antiseptic, in emollient ferm, far the Skin. Izal Ointment-is. IJhd, Oeroot, excellent for Burns, Scalds, Chapped Hands, Cizilblaixe, Av. Izal Tooth Powder-IS, per box, most usiftll fw teeth and gums. Izal Lozenges-rs. Id. a box, admirabiefor Sore Throat, and useful preventive of infection. Izal Smelling Salts-Cure and relieve Influenza, Catarrh, Cold in the Head Faitt-, Slc., great protection agaio&sf infection, II. I/It. SOI-B MANUFACTURERS— NEWTON, CHAMBERS & Co., Ltd., ThorncUffe, Sheffield; 50a, Lord Street, Liverpool; aad Qrosvenor Buildings, Deansgate. Mancbeeter., l Nid yw etifeddiae^h Sandringham, eti- fedaia th Tywysog Cym-ii, mewn sefyllfa Lflodeaog iuwn.