Skip to main content
Hide Articles List

38 articles on this Page

"0 FON I FYNWY.

News
Cite
Share

"0 FON I FYNWY. Daliodd y don Greidwadol i chwyddo a hodi tra y parhaodd y frwydr fythaof iadwy sydd yn awr ar ben. Os llaciodd ei erym am enyd, pan ddechreuodd yr ym- laddfa yn y siroedd, nid oedd ond am yehydig. Prin iawn yw nifer enillion y Rhyddfrydwyr-dim end ugain, tra y mae eu colleiion yn gant a deg. Ac Did gydag un dosbarth o bobl yr oedd y blaid Rydd- frydol allan o ffafr, end ymddangosai pen- derfyniad y dosbarth gweithiol i ymwrthod a. hi yrunmor ddiysgog ag atgasedd y bobl fawryn eu herbyn. Prin hefyd yr oedd yn ddichonadwy i lawenydd ARGLWYDD BASS wedi gweled llwyddiant anarferol y cylch- lythyr a anfonodd ef at holl gwsmeriaid a chyfranddalwyr darllawdv enwog Bass a'i Gwmni-fod yn fwy na'r ymlawenychiad a dorodd allan fel can o fawl o enau Dr Joseph Parker, gweinidog enwog y City Temple 11 Y mae'r Toriaid wedi enill y fuddugoliaeth," ebai ef mewn llythyr yn y -1 Times," ac y mae yn destyn llawenydd mawr i mi i Gwyddem ei fod ef yn wrthwynebol i Home Rule, ond i ba beth arallJn rhaglen y blaid Ryddfrydol y teimlai ef y fath wrthwynebiad fel ag i gydymogoneddu a'r tafarnwyr yn nghwymp y blaid 1 CEFNU AR GABEDIGIOK. Erbyn hyn nid annaturiol yw i ninnau ofyn paham y bu i weithwyr Lloegr droi eu cefnau ar eu caredigion yn yr etholiad hwn. Ar ddiwrnod icyntaf yr etholiad rhoddodd Manchester gyweirnod yr ethol- iadau ? Afth yr hell ddinas yn eiddo y Toriaid ond un sedd. Pilynwyd yr esiampl yn Llundf.in, fel na fydd ond wyth aelod Rhyddfrydol yn ySenedd nesaf droqLundain. Rhaid fod rhyw resymau arbenig i gyfrif am, hyli, pa mor anmharod bynag yr ydym i gredu hyny. Os nad ydym am bender- fynu fod mwyafrif mawr y ganedl yn yn- fydion ffolion, hollol anghymwys i roddi barn, y mae yn rhaid fod llawer, os nad y rhan fwyaf, o'r bai wrth ddrws y blaid Ryddfrydol ei hun. Gwir yw fod y tafarn- wyr yn eu herbyn; nid oeddynt felly o'r blaen. Ar yr un pryd rhaid cofio fod nifer y rhai sydd ganddynt ddyddordeb a budel yn y fasnach feddwol yn fwy lluosog yn awr nag y bu mewn unrhyw etholiad blaenorol. Mae cwmniau mawrion Bass ac -llaopps a Guiness erbyn hyn yn Haw mil- oedd lawer o etholwyr y deyrnas mewn shares; ac yn ddiameu, bu i gannoedd lawer o Ryddfrydwyr a feddent gyfran yn y cwmniau hyn bleidleisio yn erbyn y Rhyddfrydwyr y tro hwn am y waith gyn- taf erioed, gan yr ofnent y byddai i Fel-ur Dewisiad Lleol niweidio eu buddiannau. UNDEBAU Y GWEITHWYR. Nid ydyw undebau y gweithwyr yn agos mor gryfed yn awr ag yr arferent fod; hud-ddenwyd llawer 3 honynt gan Social- ism, y rhai drache'n, trwy redeg ymgeis- wyr o'r eiddynt eu hunain lie nad oedd yn bosibl iddynt enill, a lwyddasant i daflu amryw o seddau Rhyddfrydol i'r Toriaid. Amser a ddengys pa faint o fantais neu an- fantais fydd hyn i blaid y llafurwyr. Credaf fod a wnelo y ffaith amlwg fod y Weinyddiaeth ddiweddaf yn anmhender- fynol ar luaws o fesurau pwysig lawer a'i dwyn i waradwydd yn yr etholiad. Nid oedd y blaid, nag hyd yn nod yr arwein- wyr, yn unfryd-unfarn ar yr uu o'u piif fesurau, ac oherwydd hyny mynych wrth- ddywedent eu gilydd, ac nid oedd fawr o frwdfrydedd yn eu gweithrediadau am nad oeddynt wedi eu cychwyn oddiar argy- hoeddiadau clir a diamwys. n YR arweinwyr MEWN PENBLETII. Pa beth oedd oreu ei wneyd gyda'r aelodau Gwyddelig gyda golwg ar Home Rule-eu cadw yn St. Stephan i lywodr- aethn yno yn ogystal ag yn Dublin-ynte eu gyru i'r "VVerddon yn gyfangwbl, ac felly dori i fyny arwydd.penaf yr undeb ? Beth a wneid i Dy'r Arglwyddi-ei ail wneyd ynte ei dynu i lawr ? Vdyw Dad- gysylltiad yr Eglwys ftefydledig yn gor- wedd ar gyfiawnder a chrefydd, ai ynte mater o policy ydyw? A roddid unrbyw iawn i dafarnwyr o dan ddewisiad lleol, ai ynte na wneid ? Nid oedd y blaid wedi cael golwg glir ar yr un o'r cwestiynau hyn, ac y mae yn eglur fod y petrusder yr eeddynt hwy ynddo wedi peri dyryswch a phensyfyrdandod i'r wlai. ROSEBERY A HARCOURT. Ac i ychwanegu at hyn oil yr oedd yn eithaf gwybyddus nad oedd y Prif Weini- dog Rosebery, ac arweinydd Ty'r Cyffredm, Syr William Harcourt, yn rhy hoff o'u gilydd. Credai llawer—a minau yn eu myog-mai ar Harcourt, ac nid Rosebery, yr oedd gogwydd naturiol mantell Mr Gladstone, nad oedd yr un o'r ddau yn gymwys^i'w gwlsgo, ac yr oedd yn eglur y teimlai Harcourt mai efe oedd y gwir etifedd. Ond siomwyd ef, a chredaf mai hon oedd siomedigaeth fawr ei fywyd. Yr oedd Chamberlain wedi codi ei sawdl yn erbyn yr hen gad-ly wydd, Dilke wedi syrthio i anmharch, ac nid oedd neb yn Nhy'r Cyffredin o gymaint profiad a eallu a dylanwad a Harcourt. Yn awr wele yr hen wron C-klaulstone yn rhoddi y gwaith i fyny, a dyma, yn dcllddadl, umg jlyfleasdra Barconrt am y Bnf-wemydd- iaeth. Ond ni chafodd gynyg arni-awd heibio iddo, heb gymeryd unrhyw sylw o hono, a rhoddwyd y swydd y br,- dwyd- iodd, y disgwyliodd, ac y gweichiodd ef trwy ei oes am dani i ddyn ieuanc, aelod o Dy'r Arglwyddi, un oedd yn yr ysgol am rai blynyddoedd wedi i Harcourt fod yn aelod amlwg o Dy'r Cyffredin! Suddodd y siomedigaeth hono fel bustl i'w natur, nid ftpth am foment o'i gof, ac er iddo arwain y Ty yn well nag unrhyw un a gymerodd y gwaith mewn llaw y ganrif hon, deuai j cys^od ei alar mawr dros ei wyneb, a Uithrai ei sain i'w ymadryddion yn llawer rhy J fynych. Oherwydd hyn, anaml iawn y I rbedai ei areithiau ef ag eiddo y Prifwein- idog ar yr un llinellau, ac nid oedd yn hawdd gweled pa berthynas neu gysylltiad oedd rhyngddynt. Yr oedd hyn yn aD- fFawd fawi i'r blaid, ac yn un o acnosion ei chwymp. CWERYEON Y GWYDDELOD. Ychwaneger at hyn gwerylon par- haus yr a4elodtiti Gwyddelig, a cheir un eo-lurhad pellach ar y trychineb eth- oliadol. Dadleuodd Mr Gladstone lawer dros y Gwyddel, a chysegrodd holl ddy- lanwad ei athrylith frwdfrydig i'w amddi- ffyn yn ngwyneb sen ac absen ei wrth- wynebwyr. a llwyddodd i enill llawer o'i blaid. Wedi enciliad Mr Gladsone-a d)ma y frwydr gyffredinol gyntaf i'r Rhyddfrydwyr ei hymladd hebddo-nid oedd neb i'w gael fedrai wneathur cystal esgusawd dros y Gwyddel. Ni fu erioed onestach dyn na John Morley, ond md oes ynddo gymaint a gronyn o danbeid- rwydd-ac er ei fod yn areithydd da a gwir alluog nid ydyw yn gallu cyffwrdd llinynau W gJon] fel Bright a Gladatone. Onder hyny gvraaeth gystal gwaitli dros J yr Iwerddon ag un dyn fu erioed yn llyw- odraethu ami, a gellid meddwl y derbyn- iasai ddiolchgarwch a pharch pob Gwyddel a Home Ruler o leiaf. Ond, ysywaeth, nid felly y mae. Pan daflwyd ef allan o New- castle trwy offerynoliaeth un o ymgeisrryr byrbwyll y gweithwyr, yr hwn alwyddodd i drosglwyddo sedd i'r Tori, dyma bedwar o ddilynwyr Parnell yn anfon pellebyr i longyfarch eu cydwladwyr am daflu allan Jailer Morley Arwyddid y pellebyr gan Will-ie Redmond a thri dyn salach nag ef ei hun. Dyma dal dyn uniawn a chywir gan rai o'r Gwyddelod am flynyddoedd o lafur caled dros yr Iwerddon. GOGLEDD CYMRU. Oiqd er gwaethaf y galanas cadwodd Cymru ei gogoniant Safodd yn wrol a digryn Taflodd holl fygythion ac addew- idion y Toriaid i'r gwynt, a glynodd yn ddewr wrth ei hargyhoeddiad! Dyma genedl yn gwybod ei meddwl, yn siarad ei barn yn groew, ac yn glynu yn ddi-ildio wrthi. Ar y tir yma yn unig yr enillwn y brwydrau sydd yn mlaen, ac y cyrhaedd- wn y tir dymunol yr ydym wedi cael cip- olwg ar ei gyrau yn ystod y Senedd-dymhor ddiweddaf. Cawn fwy o gwmni ein hael- odau Seneddol gyda ni yn ystod y blyn- yddoedd dyfodol nag a gawsom y blynydd- I oedd diweddaf. Bydd hyny yn fantais ddirfawr i ni. Byddant yn gaffaeliad gwerthfawr yn ngliynghorau plwyfol a sirol y wlad, ac ar y byrddau addysg. Yr ydym wedi derbyn llawer y freintiau yn ddiweddar, ond credaf fod llawer o waith hyfforddi ac arwain amom cyn y gallwn wneulaur y defnydd goreu ohonynt. Os cawn hyn o fantais drwy y dinystr etholiadol byddwn yn bwyta mel o esgyrn y Ilew. PEREDUR.

CHWARELWrR NANTLLE.

[No title]

OFN MYN'D YN DDALL.

TAI YN SYRTHIO.

MADAM PATTI.

Advertising

' FFRWYDRIAD MEWN GLOFA.

--BODDIAD YN NHREFALDWYN.

DEISEBAU ETHOLIADOL.

BODUI AR EU FFORDD I BLEIDLEISIO.

YR YSTORM.

[No title]

CYDYMDEIMLAD A'R LLYWODRAETH…

YSBEILIWR DIGYWILYDD.

-----._-----TERFYSG YN LUTON.

I GWRTHDARAWIAD YN ERBYN Y…

JAPAN: EI MILWYR A'I LLYNGES.

PA FODD I DREULIO EIN GWYLIAU

Advertising

----------ARDDANGOSFA CAERNARFON.

- ----------CWRW ! CWRW !…

j MARW YN YR EGLWYS.

BWRDD YSGOL MEWN HELYNT.;…

I MR GLADSTONE GARTREF.

HEN BULPUD Y (IROES WEN.■

[No title]

MR W. JONES, A.S., YN LLANDUDNO.…

CYNRYCHIOLWYR CYMRU. --

Y FFRANCOD YN MADAGASCAR

- --I MARWOLAETH DISYFYD CLERIGWR.

Y GWRTHDARAWIAD ARSWYDUS YN…

[No title]

Y CYFRIN GYNGOR.

MACEDO-NIA.

---ARMENIA.

MARWOLAETH "CHWARELWR AD-NAB…

Advertising