Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Advertising

YR ETHOLIAD YR ARFON.

- -11;;iMKID NODION ETHOLIADOL.

News
Cite
Share

11 ;;iMKID NODION ETHOLIADOL. Safle'r Fleidiau. Dal i enill tir y mae y Toriaid. Saif y pleidiau fel hyn pan yr ydym yn myned i'r wasg. Rhyddfrydwyr 141 Cenedlaetholwyr 59 [ 210 Parnelliaid 10 j Undebwyr 383 593 1 Y mae gan y Llywodraeth 173 o fwyaf- rif ar hyn o bryl. Wrth reswm, dychwelwyd Syr William Harcourt yn Mynwy gyda mwyafrif anrhaethol, er fod yno hefyd fymryn o olyr adweithiad Seis- nig. Yr oedd y bleidlais yn llai o 32 nag yn etholiad 1892. 0 ran hyny gallasai pethau eraill foi yn achos o'r lleihad. Ychydig o'r deugain etholiad a gymefodd le ddydd Mawrth sydd wedi ein cyrhaedd tra yr ydym yn ysgrifenu. Fodd bynag, mae yn eglur erbyn hyn mai yn Lloegr ac nid yn y tair gwlad arall y mae ysbryd yr adweithiad yn cyflawni gorchest- ion. Deil yr Iwerddon ya sefydlog yn ei ffydd megis cynt. Gwelwn fod y Parnell- iaid wedi enill dwy neu dair o seddau oddiar y Cenedlaetholwyr, a'r Cenedlaeth- olwyr oddiar y Toriaid. Achos arall o lawenydd yn y cyfrifon am ddoe yw ddar-, fod i Mr Tom Mann, yr ymgeisydd llafur, fethu yn waradwyddus. Y mae holl ym- drechion y Sosialiaid wedi troi allan yn aflwyddianus. y Pabyddion. Nid yw yn hollol glir pa fodd y gwnaeth y Pabyddion yn yr etholiad. Fodd bynag, iddynt hwy y priodolir gorchfygiad y blaid Ryddfrydig mewn lluaws mawr o fanau. Honir ddarfod iddynt fod yn ffyddion i'w hegwyddorion yn Mangor, Caernarfon, Fflint, a manau eraill yn y Gogledd; ond yn Nghaerdydd, Abertawe, Llunden, Manchester, a degau o'r bwrdeisdrefi Seis- nig ac Ysgotig, gwnaethant yn ol cyfar- wyddyd y Cardinal Yaughan. Suddasant bob peth yn ffafr cael trethi i gynal ys- golion enwadol. -Yr Eglwysi Caeth a'r Eglwysi Ehydd. Yr wythnos hon y mae y "Weekly Register," un o bapyrau y Pabyddion, yn Uongyfarch y fFyddloniaid, yn arbenig y clerigwyr, ar lwyddiant eu hamcan. Daw y mater gerbron Ty y Cyff edin yn ddi- ymaros; dadwneir amodau heddweh; dyg- ir i mewn fesur yn gorfodi cynal ysgolion y Pabyddion a'r Eglwyswyr yn hollol fel y cynhelir Ysgolion y Byrddam. Y mae hyn yn tybiei adeiladu ysgolion newyddion at wasanaeth enwadaeth a chynal yr hen ys- golion. Gwelir fod y Conference Wes- leyaidd yn Lloegr ar fedr ymarfogi i'r frwydr. A brwydr a fydd hi na fu ei bath yn y deyrnas ers talm byd—brwydr y ddwy Eglwys Gaeth a'r Eglwysi Rhydd- ion. Ar yr un pryd, nid yw y Pabyddion yn hollol ddiobaith am adferiad eu hannibyn- iaeth hyd yn oed yn yr Iwerddon. Di- gwyddodd amgylchiad dyddorol odiaeth mewn Eglwys Babaidd y Sul diweddaf. Yn nghapel Hill safodd y Tad M'Donnell ar risiau yr allor," a dechreuodd draethu ar gyfrifoldeb y bleidlais. Rhybuddiai y Z5 fFyddloniaid rhag iddynt mewn un modd gyfeiliorni gydau dyledswydd i gefnogi yr Ymgeisydd Cenedlaethol. Tra yr oedd hyn yn myned yn mlaen cododd Paul Larkin a dywedodd ei fod yn foddlawn marw mewn amddifFyniad i'w grefydd, ond nas gallai efe oddef i'r offeiriad gamarwain yr ethol- wyr yn y lie hwnw. Ymleddais," ebai Paul, "yn erbyn Kibboniaeth, Landlord- iaeth, ac yr wyf yn awr yn ymladd gyda Chlerigaeth." Galwai Mr Larkin am yr efengyl am y dydd, a rhybuddiai yr offeiriad rhag dwyn gwleidyddiaeth i'r Eglwys. Da iawn, Paul Larkin, Paal Larkia ac Olfeiriaid CJmru. Bydd yn rhaid i rhyw u Paul Larkin" godi yn llanau gwledig Cymru yn fuan er rhybuddio yr offeiriaid Cymreig rhag di- lyn esiampl y Tadau Pabaidd. Enfyn gohebydd achlysurol atom o Lanberis i fynegi am yr ergyd annisgwyliadwy gafodd y gynulleidfa yn Eglwys St. Padarn foreu Sul wythnos i'r diweddaf gan 'bregeth boliticaidd y Parch David Jones, ebrwyad y plwyf. Yr oedd yr ebrwyad yn pregethu ar yr angemheidrwydd am ftui-fio ysgolion Eglwysig a chael y trethi i'w eynal. Aeth rhagddo i draethu geiriau annoeth am weith- redoadd y Weinyddiaeth Ryddfrydig. Ym- ddengys fod rhai Anghydffurfwyr Seisnig yn y gynulleidfa, ac o'r braidd y gallasant ymatal rhag codi ar eu traed i wrthdystio yn ddifrifol yn erbyn gwyrdroi pwlpud y Han i bregeiau syniadau plaid wleidyddol. Gwell i'r Parch David Jones yii-groesi rhag Z5 cyflawni ffolineb o'r fath yma etc yn nglyw- edigaeth cynulleidfa gymysg o Saeson, onide fe lwydda i dynu cymeriad pwlpad yr Eglwys Seisnig yn Nghymru yn is nag y mae. Rhaid i Mr Morley aros. Nid oes nieb hyd yma wedi cynyg ym- neillduo o'i sedd yn ffafr Mi John Morley. Ond odid nad allan y bydd efe hyd nes daw cyfle i ymladd am sedd mewn etholiad arall. Byddai hyny yn golled o'r mwyaf ar y fath adog a hon yu hanes gwlailywiaeth y deyrnas. Nis gall y Rhyddfrydwyr hebgor colli cymaint ag un o'i phrif ddynion. Gellic1 aberthu haner dwsin o aelodau ail- raddol, a hyny i fantais y deyrnas, mewn trefa i balmantu ffordd i wr 0 alluoedd Iltr Morley i ddychwelyd i'r Senedd. Gresyn o'r mwyaf na welai rhai o'r aelodau bychain gyfleustra yn yr amgylchind hwn i enill enwogr\vydd a ph arch cyffredinol y blaid Ryddfrydig drwy fymryn o hunan- ymwadiad. Hwrw yr Undehwyr Allan. Hyd yma y mae y Rhyddfrydwyr Un- deboi wedi aros yn aelodau yn y clybiau Rhyddfrydig. Ond bodola anosmwythder cyffredinol yn Lloegr am gael ymwared a hwynt. Cymerodd y Clwb Rhyddfrydig yn ijiverpool arno^ ei Iran y cyfrifoldeb o fabwysiadu penderfyniad yn nacau aelorl- aeth i'r Undebwyr yn y clwb hwnw. Nid yw yn hollol eglur ai dotth y cam hwn o eiddo y Rhyddfrydwyr. O'r tu arall, ym- ddengys fod y Toriaid yn gwrthod derbyn yr Undebwyr yn aelodau .ou clybiau fel! "Undebwyr." Nid ydynt hwy, druain, na.1 Thoriaid na Rhyddfrydwyi-, ac am hyny y maent yn wrthodedig y ddwy blaid. Gwesgir hwy cyn bo hir gan amgylchiadau i fod y naill neu y Hall. Agor y Senedd Newydd. Deallir fod trefniadau wedi eu gwneyd i agor y Senedd newydd ar y 12fed o Awst. Dilynir y dull yr agorwyd Senedd 1886. Fel y gallesid disgwyl, bydd Araeth y Frenhines" yn fer a dibwys hollol ei defnyddiau. Ni bydd ynddi achosion mae achlysuroti i dcladl,.faith. Amean penaf yr t: j r j; 1. l r ,| | |M| I.. ::= J JIr eisteddiad fydd pasio moddion bywioliaeth y Llywodraeth a threfnu er cael Mesur Tir i'r Iwerddon. Pie y Ceir Sedd i Mr Morley? Dadleua y Faner nad yn Nghymru v dylid chwilio am sedd i Mr John Morley. Pobl yr Iwerddon a ddylai ofalu am dano ef. Gan ei fod yn gyn-Ysgrifenydd yr Iwerddon y mae priodoldeb neillduol yu yr awgrym. Ar yr un pryd, nid hawdd gweled pa fodd y gellir gwneyd aelod M'Carthaidd ohono. Cenedlaetholwyr ydynt hwy-a Chenedlaetholwyr Gwyddelig yn unig. Cas- heir ef gan y dyrnaid o Redmoniaid. An- fonodd John Redmond bellebyr i ddiolch am fod y Jailer Morley wpdi colli ei sedd. Sais cryf di-lol, ac nid Celt, yw Mr Morley oni buasai fod y Cymry yn bobl gynes-galon a charedig ni buassii sou am sedd i'r bon- eddwr yn Nghymru. Ond y ffaith yw, Lloegr a ddylai agor ei broichiau i'w groes- awu ef. Y Newyddiadurwyr a'r L'yfreithwyr. Amlhau y mae y cyfreithwyr yn y Sen- edd ni bu erioed gymaint ohonynt yn ym- geiswyr Seneddol ag yn yr etholiad presenol. Bu mesur da o lwyddiant ai ymgeiaiaeth newyddiadurwyr (journctlists) yn yr ethol- iad diweddaf, eithr yn yr etholiad presenol ysgubwyd hwy ymaith i gyd o'r 'br,)n. Dyma enwau cyfran o honyntMr Byles, Syr W. Ingram, Mr A. E. Fletcher, Arnold Morley, Herbert Paul, W. M, Thompson, John Morley, Syr Charles Cameron, J. M. Robinscn, Samuel Storey, H. S. Baines, Mr Kernpster, Keir Hardie, Arch. Grove, T. Macnamara, Franc Smith, F. Horner, A. C. Harmsworth, J. O'Conner Power, R. E. Leader. T. P. Ritzema, J. W. Benn, 'R. S. Baines. Mae Mr Maelaren, yr aelod newydd dros Gaerdydd, rhan-berchenog o'r Wes- I tern Mail," yn iix o'r ychydig lwyddianus o wyr y wasg. Enill yr Fen Seddaa a OolIwyJ. Un 0 ddigwyddiadau hynotaf yr etholiad yw adferiad y seddau a gollwyd i'r Rhydd- frydwyr mewn etholiadau a gymerodd le rhwng yr etholisdau cyifredinol. Dyna Huddersfield, Mid Norfolk, Inverness, Grimsby, sir Linlithgow, sir Forfar, Brigg, &c. Dychwelasant yn eu hoi i'r gorlan Ryddfrydig pan yr oedd seddau newydd yn caeI en cipio ar bob llaw i'r llynclyn Tori- aidd. Ond megis y dychwelodd. y seddau hyn, felly befyd y dychwel y seddau Rhydd- frydig a gyfeiliornasant yn yr adweithiad mawr presenol. Ymddengys fod y seddaru afradlon hyn wedi cael digon ar wlad y moch a'r cibau, a dychwelasant adref eu cyfle cyntaf. INFotio Toriaidd; Ðiwygiadau" Toriaidd. Y mae y "Times" eisoos yn rhybucldio y gweithwyr i beidio a chymeryd eu siomi yn eu dysgwyliadau. Os darfu iddynt hwy fwrw y Rhyddfrydwyr heibio a chroesawu y Toriaid i awdurdod, yr eglurhad ar y weith- red yw fod y llafur wyr drwy fotio i'r Tori- aid yn dymuno gwustadhau c vestiynau llafur ar linellau Ceidwadol. Wrth reswm! Ar yr un pryd, disgwyl mwy yr oedd y llafurwyr druain gan y Toriaid nag y gallu- ogwyd y Rhyddfrydwyr i'w estyn iddynt. Ymddengys fod yr ymgeiswyr Toriaidd ar hyd a lied Lloegr yn addaw tri pheth mawy i'r bobl. 1. Tai rhad. 2. Cyflogau mwy. _,t 3. Pe nsions, Dyna r tair addewid tawr lygad-dynodd fil- oedd 0 weithwyr yn y bwrdeisdrefi a'r sir- oedd. Ond cw mawr fydd eu siomedig- aeth. "Araetliy Frenliines" Caed copi cynar 0 Araeth y Frenhines yn y "Times" dydd Mawrth. Gwueir sylw arni mewn lie arall, ond dodir lli yma yn ei chyfanrwydd trcfzitts- I.—Iwerddon. (a) Ad-drefniad y tir yn yr Iwerddon bydd i'r telerau ^dibynu ar ym- ddyiriatl da y bob!. (b) Llywodraeth leol; hwn eto yn di- byuu ar iawn-ymddygiad y bobl. (c) Awdnrdod ganolog gyda gallu i dra- fod gwaith Mesur Preifat. (d) Lleihau ugitin vn rhif cyarychiolwyr Gwyddelig Seneddol. II. -Scotland, (a) Mesur i ad-drefuu tir y Crofftiaid. III. -Llundain. (a) Dadganoiir llywodraeth y ddinas. (b) Cyfaddawd dros y ddina,s a'i heiddo. IV. Lloegr. (a) Ysgafnhau beichiau yr ysgolion en- wadol drwy y trethi neu dollau. (b) Ad-drefnu beichiau y tir. (c) Cyfrifoldeb meistriaid a deddfwriaeth ffactris. Ymwneir a'r naill a'r llall mewn ysbryd eangach a llawer mwy anmhleidiol nag a ddangoswyd gan y Llywodraeth ddiweddar." (d) Diwygiad Deddf y Tlodion. Ym- drinir a hyn mewn cull cynil ac arbrawfol."

Y FFRANCOD YN MADAGASCAR.

Y PROGRAM TORIAIDD.

CHWAREU TEG I GYMRU.

BODDIAD YN NGHAER.

DAMWAIN OFIDUS YN FFESTINIOG*

PWYLLGOR IECHYDOL SIR GAERNARFON.

Advertising