Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
37 articles on this Page
Advertising
TE PERAMD MAZAWATTEE. TE MAZAWATTEE. TE PER AID* MAZAWATTEE. TE PERAIDD MAZAWATTEE. i Mewn pacedi a tiniau, Xs 6c i pwjsi gaa bob Grocer
-.r RHAI 0 ARWYR RHYDDID CYMRU.…
r RHAI 0 ARWYR RHYDDID CYMRU. MR T. E. ELLIS. MR J. HERBERT LEWIS. MR D. LLOYD GEORGE.
, BODDIADAU.I
BODDIADAU. I Aeth bachgen o'r enw Coxon i mewn i dwil dwfn tra yn vmdrochi yn Durham ddydd Llun, a boddodd. Boddodd dau ddyn wrth ymdrochi yn y Solway, yn Culvend, oddeutu ugain milldir o Dumfries, ddydd Sul. Yr oedd y ddau yn nofwyr da, ond cariwyd hwy ymaith gan y llanw, a boddas- ant yn mhresenoldeb1 nifer mawr o bobl. Tra yn vmdrochi yn Hartlepool, ddydd Sul, boddodd dyn ieuanc o'r enw Winter. Ddydd Sadwrn boddodd bacbgen deudddeg oed yn yr afon yn Warrington.
CI YN BRATHU.
CI YN BRATHU. Yn Llundain aeth labrwr i gefn tafarndy, ac yno brathwyd ef yn ei goes gan gi y tafamwr. Am hyny cododd wys yn erbyn perchenog y ci. "Wel," ebai'r ynad, "rbaid i chwi brofi ei fod yn gi peryglus." Dyna fy nhrowsus," ebai'r labrwr, gan ddal i fyny bar o lodrau wedi ei ddarnio, profa hwn yn sicr fod y ci yn un peryglus, gan ei fod wedi ei ddarnio." Ie, ie," ebai'r Barnwr, ond rhaid i chwi brofi ei fod wedi brathu rhywun arall o'ch blaen chwi." Yr erlynydd, Gallaf brofi hynv o enau'r di- ffynydd. Eis ato a dywedais, Mae'ch ci wedi mrabhu.' Dywedodd yntau, 'Ni chlyw- ais ef yn cyfarth.' Ebra finau, Ydi'ch ci chwi yn cyfarth ac vn brathu ? 'Dydi cwn chwi yn cyfarth ac yn brathu ? 'Dydi cwn yn gyffredin ddim yn gwneyd y diati beth.' Ebra yntau, Mae nghi fi yn gwneyd y ddau!' Yrwau, os na ddarfui'w gi erioed o'r blaen frathu neb, sut y gwyddai ef hyny P (chwertbin mawr). Y Barnwr I' Mae hynyna yn logic da, nid yw yn dyst- iolaeth yn rigolwg y gyfaith" (mwy o chwerthin). Yr erlynjdd: "Ond dyma'r trowsus gwelwch fel y mae'r ci wedi ei dori. Dydi hyna yn ddigon i brofi ei fod yn fi peryglus?" Y Barnwr: "'Does yna dim tystiolaeth gyireithiol fod y ci wedi brathu neb arall, ac felly nis gallaf ond rhcddi dyfarniad o blaid y diffynydd."
GWENW YNO MEWN MYNACHLOG.
GWENW YNO MEWN MYNACHLOG. Y dydd o'r blaen bwytaodd oddeutu ped- war ugain o fonachesod giniaw mewn myn- achdy yn Limerick, ac aethant bob un yn sal ar ei ol. Ymddengys fod gwenwyn yn y bwyd, ond ni wyddis sut y daeth yno. Bu dwy farw, ac y mae dwy arall mewn cyflwr pur beryglufl.
GENEDIGAETH AR PWRDD AGER.LONG.
GENEDIGAETH AR PWRDD AGER- LONG. Tra yr oedd yr agerlocg Express ar ei thaith o Dublin i Lerpwl, brydnawn SId- wrn, rhoddodd gwraig ieuanc ar ei bwrdd enedigaeth i blentyn.
OFFEIRIAD YN SAL MEWN PRIODAS.
OFFEIRIAD YN SAL MEWN PRIODAS. Tra yr oedd y Tad Gradwell yn gwein- yddu mewn priodas yn ei eglwys yn St. Helens dydd Llun cafodd lewyg, a chariwyd ef i'r ysgcldy. Yr oedd yn digwydd mai meddyg oedd y priodfab. Ac yr oedd nifer o feddygon yn y briudas.
CHWAREU GYDA MATSUS.I
CHWAREU GYDA MATSUS. Prydnawn Sul, fel yr oedd dau o blant yn chwareu gyda matsus, yn Lorneville, Canada, rhodda.sant y ty ar dan, ae erbyn saitb o'r gloch yr oedd pump-ar-hugain o dai gyda'u holl ddodrefn en dinystrio. Y mae yr holl bentref o'r bron wedi ei losgi i lawr, ac y mae deugain o deuluoedd heb gar- trefi. Eiddo gweithwyr yn y ffactris oedd y tai gan mwyaf, ac yr oeddynt wedi eu prynu gydag arian cynilo fuont am flynyddau yn eu casglu.
PRIFYSGOL CYMRU.
PRIFYSGOL CYMRU. Mae rhestr yr ymgeiswyr llwyddianus yn y Matriculation Examination yn nglyn a'r Brifysgol uchod wedi ei chyhoeddi. Oddi- wrth hon ymddengys mai deg yn unig sydd wedi pasio yn y dosbarth cyntaf, o'r rhai y mae pump yn efrydwyr o Aberystwyth, dau o Gaerdydd, dau o Fangor. Yn yr ail ddosbarth y mae un ar bymtheg o ymgeis- wyr llwyddianus, tri o Aberystwyth, pump o Gaerdydd, a phedwar o Fangor. Mae 21 wedi llwyddo i foddloni yr arholwyr mewn pedwar o bynciau, ac unarddeg wedi llwyddo i basio mewn tri o bynciau. I
Advertising
BEST FOR THE SKIN.—Calvert's Car bolic Toilet Soap, the active ingredient of whicn is recommended by the medical profession for all skin ailments.—Pleasantly perfumed and improves the complexion. In Is 6d 3-tablet boxes at Chemists, &c., or post free for value from F. C. Calvert and Co., Manchester. Awarded 65 Gold and Silver Medals and D iploma,
MEWN ADGOF AM Y GWRON.
MEWN ADGOF AM Y GWRON. CAN ETHOLIADOL. ÅLAW-" God save Ireland." I. Gyda banllef uchel, glir, Fo'n adseinio dios y tir, Cadw wnawn ein henwog wron mewn coffad; Caffed fyw i weld y dydd, Pan y chwal cymylau prudd, A phau d'w'no heulwen Rhyddid ar ein gwlad: Rhoddwn dair hwre i Gladstone, Hen gad-lywydx-brwydrau fil,- Caffed fyw i weld y dydd, &a. 11. Gyda chalon fel y dnr, Gyda meddwl gonest. pur, Fe ymladdodd frwydrau Rhyddid megys cawr; Dewraf ydoedd yn y gad, Ffyddlon fyth i'w Deyrn a'i wlad, A chyfaill goreu gwerin Prydain Fawr,— Rhoddwn dairhwre i Gladstone, Hen gad-lywydd brwydrau fil, Caffed fyw i weld y dydd, &c. III. Wylo bu ein Cymru wen, Ond yn awr mae'n codi ei phen, Gwel ei meibion glewaf yn crynhoi i'r gad An mae'n disgwyl am yr awr Pan yr egyr pyrth y wawr, Pan ddiflana Gormes cldll o'n gwlad Rhoddwn dair Hwre i Gladstone, Hen gad-lywydd brwydrau fil, 11 y Caffed fyw i weld y dydd, &c. IY. 0 mor ddvsglaer fydd y dydd Pan fo Cymru'n Gyrara rydd, Bloedd llawenydd bed dros fryn a gwaen, D'wed gwladganvch dan ein bron,— I brysuro'r goncwest hon, Bydded Cymru-anwvl Gymrti-ar y blaen! Rhoddwn dair Hwre i Gladstone, Hen gad-lywydd brwydran fil, Caffed fyw i weld y dydd Pan y chwal cymylau prudd, A phan d'w'no heulwen rhyddid ar ein gwlad. AJTTHPWOPOS.
I CHWE' CHANT YN SYRTHIO I…
CHWE' CHANT YN SYRTHIO I AFON. Rhoddodd pont ffordd yn Bristol, Indiana, o dan dorf fawr o bobl oeddynt yn gwylio rhedegfa gychod yn yr afon odditanynt. Taflwyd chwe' chant o bobl i'r dwfr, yr hwn oedd bellder o 40 troodfedd odditanynt. Ni foddodd neb, ond anafwyd oddeutu dengain gan falurion a syrthiasant arnynt, ac yr oedd ychydig wedi eu hanafti gymaint fel y profodd y niweidiau yn angeuol iddynt.
MARWOLAETH AMHEUS YN RHOS-I…
MARWOLAETH AMHEUS YN RHOS- YMEURE. Dydd Mawrth gorphenwyd y trengholiad gorph gwraig weddw o'r enw Anne Matthews, yr hon a gafwyd wedi marw dan amgylchiadau amheus yn ei ty yn Rhos- ymedre. Galwodd llythyrgludydd yn y ty, a chanfyddodd y wraig yn gorwedd wrth waelod y grisiau yn ymddangos yn farw. Cafodd gynorthwy i'w symud i'r gegin, a daeth meddyg ati, ond yr oedd wedi marw cyn iddo gyrhaedd. Ei mhab aeth i ym- ofyn y meddyg, a dywedai hwn ei fod ef wedi dychwelyd adref oddeutu dau o'r gloch y boreu hwnw yn feddw, a'i fod wedi gweled ei fam yn gorwedd yn ngwaelod y grisiau, ond tybiai ei bod yn feddw, ac wedi hysbysu cymydog o'r ffaith aeth i'w wely, o'r lie y galwyd ef gan y llythyrgludydd. Yr oedd archoll dwfn ar wddf y ddynes y tu I 01 i'w phen, ac ofnid ei bod wedi cael cam. Wedi tystiolaeth y meddygon, dygwyd rheithfarn fod y wraig wedi syrthio i lawr y I grisiau yn ddamweiniol, ac iddi farw o'r niweidiau a dderbyniodd drwy hyny.
Advertising
TE PERAIDD MAZAWATTEE TE PERAIDD MAZAWATTEE. TE PERAIDD MAZAWATTEE. TE PERAIDD MAZAWATTEE. Mewn pacedi a tiniau, Is 6c.. i 'is y jjvtjs, gin fceb Grocers.
. PAHAM YR YDWYF AM FOTIO…
PAHAM YR YDWYF AM FOTIO I LLOYD GEORG. RHESYMAU GWEITHIWR. SYR,—Gweithiwr ydw i, ac felly nis gallaf ysgrifenu yn rhyw dda iawn, ond nis gallaf beidio rhoddi ychydig o'r rhesvmau sydd gen i dros bleidio Lloyd George yn erbyn Nanney y tro yma. Mae cryn lawer o ddadleu rhwng y Librals a'r Toris ynglyn a sefyllfa y gweithiwr dan y naill Weinydd- iaeth a'r llall. Mae'r Toris yn dadleu fod y gweitbir yn fwy cyfoethog dan y Llywod- raeth Doriaidd na phan y bydd y Rhydd- frydwyr mAwn swydd. Oad welis i erioed ddim gwahaniaeth. Yn wir roeddwn in dechieu meddwl fod yn well arna i rwan nag y buo hi erioed, masnach yn dechreu byw- iogi ar ol iddi fyn'd i'r lie isaf y galla hi fyn'd iddi pan oedd y Toris mewn awdurdod, ac y mae arna i ofn yr eith hi yn ddrwg eto gan fod y Toris am wario mwy ar bethau nag y mae eisio, neu felly faswn i'n meddwl ar en bymddygiad nhw ynglyn a'r man arfau. Gwario mwy nag yr oedd y gofyn am dano. Wel yn lie mynd i feddwl am bethau fel yna, mi ddechreuis gysidro pa un un o'r ddau wr sydd gerbron yr ctholwrs ydi'r gora. DynÅo Mr George ar un ochr, a Mr Nanney ar y llaw arall: ga.dewch i ni eu mesur nhw. Y mae Mr Lloyd George yn ddyn ifane heini, digon o fyn'd yno fo, a'i lygad yn i ben. Yn wir, mae "o wedi ei drainio i fod a'i lygad ya ei ben bob amser. Ar yr ochor arall mae Mr Nanney yn ddyn canol oed, yn dechreu blino ar bethau, os oedd yr olwg ges i arno fo y dydd o'r b'aen yn rhoi mynegiad cywir o'i deim- ladau, ac heb erioed gael ei drainio i fod fel twrna yn gwel'd pethau ar un waith. Dyn gymith amser, ie, ac amser mawr, i gysidro beth i siarad a sut i wneyd pethau, yn lie gwel'd pethau ar unwaith, a medru cario allan ei benderfyniad heb oedi. Mae Lloyd George yn siaradwr hyawdl a llithrig; yn wir y Cymro a'r tafod arian y gelwir ef gan y Saeson. Chwerthinllyd fuasai ceisio dweyd yr un peth am Nanney. Un o'r siar- adwyr salaf dan haul, faswn i'n feddwl, ydi o. Mae o yn methu cadw rhyw lawer o gyfarfodydd. Ond am Lloyd George,mae o yn medru siarad, ac yn defnyddio y medr hwnw at wasanaeth ei genedl. Welwch chi mor dda y defnyddiodd ef a Herbert Lewis eu gallu o blaid y dynion gafodd eu troi i ffwrdd ar y relwe. Mi ddaru'n orchfygu y Saeson yn lan, a thori tir newydd yn y Senedd. Ni fu y Senedd erioed o'r blaen yn ymyraeth dim pan y byddai y meistr creulon yn gwasgu ei weision, oherwydd nad oedd neb wedi mentro dwyn eu hachos yno. Ond rwan diolch i Lloyd George, mae gan y gweithiwr hawl i godi ei lef yn y Senedd, ac mi all y Senedd reoli'r meistr anghyfiawn. Fasa Nanney wedi gallu gneyd yr hyn naeth Lloyd George dros y gweithwyr ? Na fasa byth. Fasa fo wedi ymladd fel teigr o'n plaid ? Na, mi fasa wedi dilyn Mr Kenyou t.'i blaid, a bod yn ddystaw. Mae o'n ddyn mor neis." Rbaid iddo fo gael cadw i fenyg am i ddwylo, ac mi fasa'n resyn i maeddu nhw i weithio dros ychydig o labrwrs. Pe na bae Lloyd George wedi gwneyd dim yn y Senedd ond amddiffyn y gweithiwrs yma, mae o yn haeddu cael ei anfon yn ol yno eto. Dylai pob Cyipro gwladgarol votio drosto fo, ie, pob un Tori a Rhyddfrydwr. Welodd Cymru yr un amddiffynwr mor selog a chadarn o'r blaen. Ond heblaw bod yn siaradwr ac yn ymladdwr, y mae Lloyd George yn gwybod beth sydd arnon ni eisio. Weles i rioed mo Nanney yn gneyd dim ond yn adeg lecsiwn. Weles i rioed mono fo yn siarad ar ddirwest, a chlywis i ddim i fod o wedi gneyd. Nath o rywbeth ar yCownti Cownsul ? Chlywis i ddim. Na, Mae Cyrnol West a dynbn eraill y Toris yn fwy gweithgar nag ef. Mae o'n ddyn rhy neis i weithio rhyw lawer. Ond nid yn unig y mae Lloyd George yn gweithio adra, ond mae o wedi dwad ag enw Bwrdeisdrefi Arfon yn adnabyddus i'r byd. Prun well gan yr etholwrs gael rhan amlwg yn y Senedd, ynte cael eu cynrychioli gan ddyn na wneith un araeth mewn blwyddyn, a'r hwn fydd yn ddystaw fel y bedd. Fel y gwyr pawb, nid yw y Toris yn addo dim i ni. Mae nhw yn gwrthod Dadgysylltiad, yn gwrthod Mesur Dirwestol, yn gwrthod Mesur Bwrdd oyf- lafareddiad iawn, yn gwrthod pob peth sydd arno ni eisiau. Nid ydyw y Celtiaid yn werth sylw ganddynt. Felly, yr ydw i yn credu mai rhoi ein cynorthwy i'r rhai y mae yn werth ganddynt ein cydnabod fel cenedl ydi y goreu, a gwrthod Mr Nanney. Trwy wnejd hyny, byddwn yn sicr o roddi mwy o anrhydedd arno. Mae yn awr wedi ei orch- fygu dair gwaith, ac os gwrtbodwn o eto y tro yma, bydd i Arglwydd Salisbury gyd- nabod y gwaith a wnaeth dros y Toriaid, a'i wneyd yn arglwydd neu yn farwnig. Felly, os am gael cynrychiolydd iawn i'r Senedd, ac am roddi chance i Mr Nanney gael ei neyd yn Arglwydd, PLEIDLEISIWX DROS LLOYD GEORGE. Yr eiddoch, LABRWR.
Y FASNACH ALCAN.
Y FASNACH ALCAN. Mae alcanwyr y De wedi bod allan ar streic am wythnos wedi enill buddugoliaeth. Dydd Llun, cyhoeddodd nifer luosog o'r meistri eu bwriad i dalu yn ol safon 1874 i'w gweithwyr, ac wrth gwrs dechreua y dynion weithio ar unwaith ar y telerau hyn. Yn mysg y meistri sydd wedi caniatau y cyflogau a ofynai y gweithwyr, y mae Mr W. Wil- liams, gynt A.S. Rbyddfrydol dros Aber- tawe. Mae rhai o'r meistri eto yn dal yn gyndyn, ond tybir napharha y streic yn his eto.
- HUNANLADDI IB GOBUCHWYL-1WR…
HUNANLADDI IB GOBUCHWYL- 1WR ETHOLIADOL. Digwyddiad Galarus yn Nghaernarfon. Y TRENGHOLIAD. Yn nghanol y berw etholiadol ta^wyd trigolion tref Caernarfon a'r amgylchoedd, ddydd Mawrt.h, a braw gan Y newydd am farwolaeth sydyn Mr George H. M. Owen, cyfreithiwr, Caernarfon, goruchwyliwr et ad iadol Mr II. J. Ellis-Nanney, yr ymgeisydd Toriaidd dros Fwrdeisdrefi Arfon, ac ysgxn- enydd i Gymdeithas Tirfeddianwyr Goglecld Cymru. Cafwyd ef yn far- Yn ei swyddfa yn Market-street oddeutu haner awr wedi *Yn yr hwyr cynhaliodd Mr Bodvel Ro- berts, trengholydd sir Caernarvon, ymchwil- iad i achos ei farwolaeth yn swyddta Mn Nee a Roberts, cyireithwyr. Mr J. Menzies eedcl blienor y rheith-yr. Mr R. Mostyn Robeits, cyfreithiwr, a ddywedai ei fod yn is-sirydd y 3fa hon, a galwodd y trancedig gydag ef oddeutu un-ar-ddeg o'r gloch i otyn dydaiad } r a'r polio dros y sir. Yr oedd yn berffaith siriol y pryd hwnw. Mr Nee, cyfreitniwr, a ddywedodd ei fod ef a Mr Thomas Jones, ceidwad y clwb Toriaidd, wedi myn'd i swyddfa y trancedig oddeutu ugain munud wedi dau. Yr oedd y swyddfa yn yr uu adeilad a i swydafa yntau. Yr oedd clo a,r y drws. ond medrodd y z, ddyties a edryeba, i ar ol y tv ei agor gyda i hagoriad ei hunan. Yr oedd y trancedig yn eistedd yn ei ddwbt ar y gadair. Ceisiodd Thomas Jones unioni y corpb, tra yr aeth yntau i chwilio am feddyg. Cyfarfyddodd Dr Owen, brawd y trancedig, a dywedodd wrtho ef, ac YUlr, aeth am Dr Parry. Daeth y ddau feddyg i'r 11e. Nid efe gafodd y llythyr a ysgrifenwyd gan y trancedig, ond yr oedd wedi ei weled. Yr oedd y papnr wedi ei ysgrifenu gyda phensel, a chafwyd ef ar y bwrdd wrth ymyl yr hwn yr oedd y trancedig yn eistedd.. Dr R? Parry a ddywedodd ex fod ef, yngorweddaryllawr. Yr oedd ei frawd, Dr Owen, yn ceisio gwneyd iddo anadlu, ond nis gallai y tyst weled unrhyw symud- iad gan y galon nac unrhyw arwydd arall o fywyd. Daeth i'r casgliad ei fod wedi marw er'sbaner awr. Yroedd inarcar ei wefus isaf tebyg i'r hyn fuasai canlynmd cymeryd carbolic mid. Yr oedd y botel yu haner gwaer. Mevvn atebiad 11' trengho.yact jn ittglyn a sefyllfa meddwl v trancedig, dy- .wedodd y tyst iod y weithred a gyflawnudd allan o bob rheswm o'i gydmaru a'r boen oedd wedi ei gael, ac anveiniai hyny y tys. i'r casgliad fod yn rhaid fod ei feddwl allan o i 1CMr R. Gordon Roberts, cyfreithiwr, a sylwodd id,io weled y trancedig oddeutu hansr awr wedi deg yn y boreu, pan yr ym- ddangosai yn isel ei ysbryd. Yn ystod yr wythnos cwynodd wrth y trancedig oher- wydd poenau yn ei ben, y rhai ddeuent arno yn sydyn, ac a'i gwnaeot ef yn^ wallgof bron.13 Rhoddodd Thomas icnes, ceidwad y Clwb Toriaidd, a Mr Charles Owen, chemist, brawd arall i'r trancedig, dystiolaeth, y diweddaf yn sylwf fod y botel wedi ei phrynu gan y trancedig yn ei siop ef yr wythnos ddiweddaf fel disinfectant. Darllenodd y trengholydd y ^ytbyr a adawyd gan y trancedig, yr hwn oedd iel y canlyn:— I Fy no-wraig a luinau ydynt y cwpl hapusaf °yn y byd. Mae genym ferch I fechan anwvl, OND (a dwy lmell dan y I gair) y mac yr etholiad yma wedi ty ni- I fetha. Yr wyf wedi cael fy llethu a I gwaith dyrus, ac ni wnaifl: fy ymesydd I weithio i mi. 1-be wedi dyrysu. Aid I wyf yn debyg i mi fy hun, a dynar I rheswra am y weithred ofnadwy hon. Y I mae gormod o gyfrifoldeb arnaf, a dim I ernorthwy, sydd- wedi dod arnaf mor I sydyn wedi difetha fy ymenyld. Nis I eallaf fy w oberwydd nis gallaf wlleyd fy I ngwaith. Nid oes arnaf eisieu marw, I ond beth ydy w'r use os na allaf wneyd fy I ngwaith ?" j I Ar ol gwrando y papur yn cael ei ddarllen I rhoddodd y rheithwyr fynegiad o'u cyd- I ymdeimlad dwfn, a chvtunasant ar unw<ut;i I ar reithfarn o hunanladdiad tra mewn oyrlwr I o wallgofrwydd, ac wedi hyny pasiwyd I pleidlais o gydymdeitnlad gyda theulu y I trancedig. | ■ Mor fuan Itg y daeth y newydd galarus ( I yn wybyddus yn y dref daeth cynulbad I mawr ynghyd i Market street, lie y saif I swyddfa y trancedig, a dangosax pawb yn ■ ddiwahaniaeth gydymdeimlad dwfna r teulu, L,yr I ac yn enwedig a'i weddw a'i blentyn bychan. j I Yr oedd y newydd mor sydyn fel yr aehos- ■ odd ddychryn trwy y dref. Edrychid ar Mr H Owen bob amser fel un o'r dynion mwyaf tawel, a gweithiwr di-ail, ond ymddengys fod y gwaith wedi ei lethu yn awr. Ym- ■ ddangosai yn hollol iach foreu Mawrta, ac hyd yr amser y cymerodd y digwyddiad le H gwnaeth ei waith fel arfer. Cyfreithiwr ■ ydoedd y trancedig, fel yr hysbyswyd ois- oes, ac yr oedd yn 37 mlwydd oed. Mab ienengaf y diweddar Mr Griffith Owen, ■ «hemist, High street, ydoedd, Yroeddyn ■ un o rai blaenaf y Gyiadeithas Doriaidd, ■ a pban fyddai etholiad pwysig ar droed ■ selwid ef i wneyd gwaith goruchwyliwr. an ddyrchafwyd Arglwydd Rendel iDy r H Arglwyddi, ac yr oedd etholiad yn sir M Drefaldwyn, galwyd arno ef i fod yn orach- M wyliwr i'r ymgeisydd Toriaidd. I ddechreu M aid oedd ond ysgrifenydd y biaid yn Nghaer- narfon, ond oherwydd ei alluoedd cafodd ■ swyddi ysgrifenydd i Gymdeithas Geidwadol M sir Gaernarfon, i Gymdeithas Tirfeddianwyr H Gogledd Cymru,i Undeb Ceidwadol Gogledd H Cymru, i Glwb y Toriaid yn Ngbaernarfon, ac i Gymdeithas y Briallu yn yr un dref. H EI OLYNYDD. Mewn cyfarfod yn y Clwb Ceidwadol yn Nghaernarfon, cos Fawrth, bysbysodd Mr Charles A. Jones ei fod ef yn barod i H Weithredu am dymhor, yn unol a chais taer a wnaed arno. H Y RHYDDFRYDWYR YX CYDYMDUIMLO. Mae y Rhyddfrydwyr yn y^ Bwrdeisdrefi yn cyffredinol gydymdeimlo a'r Toriaid, ac H a theulu y diweddar foneddwr. Yn nghyf- H arfod y blaid yn Ngbaernarfon, nos Fawrth, H dan lywyddiaeth Dr Parry. pasiwyd y pen- H ^erfynisd canl.vnol Em bod, wedi clywed am farwolaeth sydyn a galarus Mr George Owen, ysgrifenydd v Gymdeithas Doriaidd, yn dymuno datgan em parch tuag ato fel gwrthwynebydd anrhydeddus ac fel cyd-drefwr defnyddiol a pharchus.
Y FRWYDR TRWY Y DE)CRNAS.
Y FRWYDR TRWY Y DE)CRNAS. ■ Yn ol rhestr a gyhoeddwyd ddechreu yr wythnos hon, nid oedd ond 19 o etholaethau heb ymgeiswyr Undebol, tra yr oedd 116 o etholaethau heb ymgeiswyr Rhyddfrydol. O'r 12 o etholaethau Rhyddfrydol y mae pump yn fwrdeisdrefi Seisnig; deg yn siroedd ^|Sei?nig a Chyaireig; dwy yn fwrdeisdrefi ^■Ysgotaidd a dwy yn siroedd Ysgotaidd. ^■O'r 119 seddau Toriaidd ac TJndebo\ y tnae xm ar ddeg yn Llundain, 73 o siroedd^ Seis- nig a 26 o fwrdeisdrefi Seisnig. Yn siroedd Dorset, Hampshire, a Hertford, md oes yr un ymgeisydd. Gwrthwynebir dwy allan o wyth o seddau yn Kent, dwy allan o saitb ^|yn Middlesex, dwy allan o chwech yn Surrey, a dwy allan c chwech yn Sussex.
CYMRY LLUNDAIN A'R ETHOLIAD.
CYMRY LLUNDAIN A'R ETHOLIAD. Ncs Wener, cynhaliwyd cyfarfod cyffred- inol o aelodan Gymdeithas Cymru Fydd Llundain yn y Clwb Rhyddfrydol Cenedl- aethol i barotoi ar gyfer yr etboliadau. Lly wyddai Mr J. Gilbert ar gynulliad rhag- orol. Wedi i'r cadeirydd roddi anerchiad byr, traddododd Syr G. O. Morgan, A.S., araeth yn gofyn am gefnogaeth Cymry Llundain i'r blaid Ryddfrydol, gau ddyweyd nacl oedd yr un blaid wedi bod mor deyrn- garol i egwyddorion Rliyddfrydiaeth ag aelodau Cyoiru. Cyfeiriodd at y gwaith a wnasth y Llywodraeth, ac yn enwedig at Fesur Dadgysylltiad. Ar ei gynygiad ef pasiwyd penderfyniad yn cymeradwyo cylch- lythyr y Oyngrair Cenedlaethol, yn diolch i'r Llywodraefcli a'r blaid Ryddfrydol am eu gwaith yn nglyn a Dadgysylltiad, ac yn galw ar yr aolodau i weithio dros yr ymgeis- wyr Rhyddfrydol neu Ritdicalaidd yn Llun- dain fyddant yn benderfynol o sicrhau rbyddid crefyddol i Gymru. Gwnaed trefn- ia dau i weithio o blaid yr ymgeiswyr Rhydd- frydol yn yr etholaethau canlynol :-Cbelsea, Gogledd Lambeth, (Joiilewin St. Pancras, Gogledd St. Pancras. Deheu-Orllewin Bethnal Green, Gogledd-Orllewin Bethnal Green. Gogledd Kensington, Deptford, Dwy rain Finsbury, Gogledd Islington, Battersea, Clapham, Fulham, Gorllewin Marylebone, Bermondsey, Gorllewin Isling- ton a Walworth.
PURWCH Y GWAED.
PURWCH Y GWAED. Mae llawer o'r clefydau a'r aihwylderaa y niae dynion yn ddarostyugedig iddynt, yn en- wedig yn ystod misoedd yr haf, yn cael eu hachosi gan waed afiaoh. Mae oerni a lleith- der y gauaf, a'r ymborth braanch sydd vn "ngenrhetdiol i ni ei gymeryd er cynal gwres yn ein cyrph, wedi gadael anmhuredd yn y gwaed, ac y mae >n rhaid ei symud oa ydym am fwynhau icchyd da yn y dyfoool. Mae gwaei afiach yn cael ei arddango8 gan welwder, ewendii, y manwynau, cornwydydd, toriadau ar y croen, &c. Arf..rai eio hyrftifiaid ge'sio ymwared oddiwrth yr anmhnreddaa hyn yn y gwanwyn trwy agor gwythieu yn y fiaich a gollwng peth o'r gwaed anrahur al'an, 01U trwy gymeiyd dognau mynych o frwm- Btan, neu gyffyriau o!ill i buro y gwaed. Mewn canlyniad i ymcliwiliadau a dargan- fyddiadun meddygol, mae amryw ddarpar- iaethftu llysieuol at boro y gwaed asjmu i anhwylderau yn cael eu cynyg i'r cyhoodd yn yr cea bon. Ond tystiolaeth milocdd yn y wlad hon a gwledydd eraill yw nad oes dim cyffelyb i Quinine Bitters Gwilym Evans at gyrbeedd yr amcan hwn. Mae rtiai o faddyg- on penaf y deyrnaq ïl tystic nad oes debyg i Quinine Bitters Gwuym Evans at buro y gwaed. Ceir hefyd f -d y meddyglyn enwog E-svn yn anmhrisiadwy me^n acboaion o wen- did, yn enwedig i wragedd a phlant, a pher- eonau yn dechreu gwella ar ol twymyn neu y cyffelyb ac mae wedi profi yn hynod effdith- iol mewn achosion o'r fath, yn ogyptal ag i adfer nerth ac yni i rai yn dihoeni mewn llesg- edd ar 01 ymosodiad o'r clefyd poaaus hwn. Mae miloeid yn ein gwlad a dystiant i' w werthfawredd a'i effdtbiolrwydd mewn achos- ion o'r f"th. Rhoddwch brawf arno. Mae ar werth gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un, neu gellir ei gael yn ddidraul trwy y post oddiwrth y perchen ogionQuinine Bitters Manufacturing Co., Limited, Llanelly, South Wales.
Advertising
Cyflwynir rhyddfreiniad dinas Llundain i'r Is-iarll Ppel, y diweddar Lefarydd. Mae Mr Edward Davies, Llandinam, yn celsio adgyfnerthiad i'w iechyd. TE PERAIDD MAZA.WATTEE TE PERAIDD MAZAWATTEE TE PERAJDD MAZAWATTEE TE PERAIDD MAZAWATTEE Mewn paced a tiniau, Is Cc i is y gin Ushgrocara
DIWEDD CWERYL.
DIWEDD CWERYL. Y mae dwy ddynes a dyn yn y ddalfa am achosi marwoleeth gwraig weddw yn Ro- sana Lane. Yn y cweryl tailasant hi ar lawr, a thorwyd ei chefn.
IS-IARLL MORGANWG.
IS-IARLL MORGANWG. Hysbysir mai teitl y Gwir Anrhyd. Henry. Matthews ar ei ddyrchafiad i Dy'r Ar- glwyddi fydd :Is-farll Morganwg. Pa gysylltiad sydd rhwng y Tori cul a'r sir Gymreig, nis gwyddom. Yn sicr nis gall Cymru lawenychu oherwydd fod un sydd mer gul yn erbyn rhyddid yn dwyn enw yr un rhan ohoni.
STREIC YN LEICESTER.
STREIC YN LEICESTER. Er's rhai misoedd bellach y mae y meistri a'r gweithwyr yn y fasnach hosanau yn Leicester wedi bod yn trafod y cwestiynau sydd wedi codi ynglyn a chyflogau, ond methasant a dyfod i gytundeb, a boreu Llun peidiodd 3000 o bobl a gweithio er mwyn gwrthwynebu y cais i leihau eu cyf- logau. Credir mai byr fydd parhad y streic, am fod yr undeb yn bur dlawd ac fod mas- nach yn dda. I
DADGORPHORTAD.I
DADGORPHORTAD. Dydd Linn, yn Windsor, cynhaliodd ei Mawrhydi Gyngor arbenig, yn yr hwn yr arwyddodd y Frenhines Broclamasiwn yn dadgorphori'r Senedd. Yr oedd Arglwydd Salisbury a lluaws o'r gweinidogion yn bre- senol. Yn ol y proclamasiwn, y mae'r Senedd newydd i gyfarfod ar y 12fed o Awst. ond mae'n sicr y newidir y dyddiad eto.
Y SHAHZADA.
Y SHAHZADA. Mae'r Shahzada, xiab Ameer Afghan- istan, wedi ei foddbau gymaint gyda'r hyn a wel yn y wlad hon fel y mae wedi estyn tymor ei arhosiad yma. Yn Mrighton, Tunbridge Wells, &c., y treulia yr wytbnos hon. Credir ei fod wedi cael argrafl ffafriol am fawredd ac adnodd Prydain.
DAMWAIN I GWCH.
DAMWAIN I GWCH. Digwyddodd damwain arswydus yn Ar- undel oddeutu saith o'r gloch nos Sul. Cymerodd chwech o ddynbn gwch i fyn'd i fyny yr afon i bentref cyfagos. Cyn iddynt fyn'd milldir o'r dref trodd y cwch a thafl- wyd y dynion i'r aion. Diangodd dau gyda.'u bywydau, a bu raid i un daflu ym- aith ei gydymaith er mwyn achub ei hun, a boddodd y pedwar arall.
MARWOLAETH HYNOD YN MANCEINION.
MARWOLAETH HYNOD YN MAN- CEINION. Cynhaliwyd trengholiad yn Manceinion ar gorph dyn anadnabyddus. Ymddengys fod y trancedig a dyn o'r enw Kelly yn ymladd ar yr heol yn Ancoats, pan y daeth y Rhingyll Wilson i'r lie ac y gwahanodd hwynt. Yn yr ymrafael tarawodd Wilaon y trancedig yn ei frest gan ei daflu i lawr. Bu yntau farw yn y fan. Beiai rhai o'r tystion y rhingyll am arfer creulondeb at y tranc edig, a dywedent ei fod wedi ymddwyn yn greulon tuagato. Modd bynag, credai y rheithwyr nad oedd digon o dystiolaeth sut yr achoswyd y niweidian a brofodd yn angeuol iddo, a dalient nad oedd y swyddog i'w ieio.
COLLED AC ENILL.
COLLED AC ENILL. Mae dynion bron yn ddieithxiad yn foddlon abertlnx neu golli rhai pethau er mwyn enill peth mwv. EraiU, ar ol colli rhyw bekh gwerthfawr yn eu golwg yn ddamweiniol, a gynygiant wobr am ei adferiad. Ond y mae Ilawer o golledion yn ein cyfarfod sydd yn anadferadwy. Mae dvuion yn ami yn colli y trysor mwyaf yn eu meddiant wrth geisio enill rhywbeth arall llai ei werth. Collir iechyd, y trysor penaf fedd dyn, Collir y trysor hwn weithiau trwy ei gam- ddefnyddio," ac yn fynych trwy esgeuluso gwneyd defnydd priodol o'r moddion cymhwys i'w ddiogelu a'i gadw. Mewn llawer o'r achosion hyn, gellir adenill y trysor a gollwyd trwy wneyd defnydd priodol ac amserol o'r moddion a'r manteision yn ein cyr- haedd. Mae pawb ar ol colli eu hiechyd yn awyddus i gae; adferiad buan. ac i'r dyben hwnw cymerant y feddyginiaeth a fernir sydd yn fwyaf cvmhwys i gyrhaedd yr amcan. Yn y dyddiau hyn gellir cael meddyginiaethau breintiedig wedi eu parotoi yn ofalus gan fedd- ygon neu fferyllwyr medrus, at wella lluaws o anhwylderau y mae dynion yn ddarostyngedig iddynt. Y meddyglyn goreu sydd yn adnabyddns yn yr oes hon at amryw glefydau yw Quinine Bitters Gwilym Evans, meddyginiaeth a ddyf I eisiwyd ar ol blynyddau o ytuchwiliad ac ym- brawf. Cynwysa. Quinine Bitters Gwilym EVrlns el- fenau rhinweddol y prif lysiau meddygmiaethol sydd yn adnabyddus trwy yr holl fyd. Cydnebydd pawb sydd wedi rhoddi prawf i arao mai Quinine Bitters Gwilym Evans yw y ) feddyginiaeth oreu at wella holl anhwylderau y I cylla, y giau, yr af a, a'r gwaed. Mae ar worth gan bob ftoryllydd, mewn poteli 2s 9c, a 1 4s 6c yr un. Neu gellir eu cael yn ddioei trwy y post am y prisiau uchod yn uniongyrchol j oddiwrth y perchenogion :—Qninine Bitters c j Manufacturing Co,, Limited, Llanelly, South I ate3.
I SUGNO MATSUS.
SUGNO MATSUS. Sugnodd plentyn bychan a adawyd gan ei fam yn ngofal ei chwaer, yn Lerpwl y dydd t, o'r blaen, benau amryw o fatsus, a bu farw o'r gwenwyn. 0, ddiofalwch rhieni!
MARWOLAETH SYDYN GWEINIDOG.…
MARWOLAETH SYDYN GWEINIDOG. 1-- Bu y Parch J. Roberts, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Rhosymedre, Rhiwabon, farw foreu Llun yn hynod o sydyn. Ym- ddangosai yn hollol iach nos Sul, a bwytaodd ei swper yn dda. Hyd yn ddiweddar yr oedd wedi bod yn weinidog ar eglwys Cefn I Bychan, Rhiwabon, a chyn hyny bu yn gweinidogsethu am ddeunaw mlynedd yn Brynaman, Deheudir Cymru. I mmmmmmm
RHYDDHAD O'R CARCHAR.i
RHYDDHAD O'R CARCHAR. Mae Mr A. C. Humplireys-Owen wedi ei hysbysu fod deiseb a anfonodd ef ar ran Mary Matthews, gwraig dros ddeng mlwydd a tbriugain. Yr hon a draddodwyd i gar- char Mai 30ain diweddaf am dri mis am ladrad, wedi bod dan ystyriaeth yr Ysgrif- enydd Cartrefol, yr hwn sydd wedi awdur- dodi ei rhyddhau am resymau meddygol.
Mgr.,.. YSTORMYDD YN CHICAGO.
Mgr. YSTORMYDD YN CHICAGO. Chwythodd ystorm arswydus o wynt a gwlaw dros ran helaeth o'r Unol Dalaethau, gan wneyd difrod neillduol yn Chicago a'r amgylchoedd, y dydd o'r blaen. Chwyth- wyd gwifrau y pellebyr i lawr, ac felly buwyd am ddyddiau heb wybod mawredd y galanastra. Trodd cwch ar lyn Geneva, yn Wisconsin, a boddodd chwech o bleserdeith- wyr.
------RHANBARTH-CROESOSWALLT.
RHANBARTH-CROESOSWALLT. Mae amaethwyr Bhyddfrydol rhanbarth CroesoswalitosirAmwythig wedi dewis yr ymgeisydd goreu y gallant ei gael. Er's mis neu chwech wythnos bellach y mae y Cadben Owen Thomas, Brynddu, yr hwn a hynedodd ei hun yn Mon fel cyfaill y gweis- ion ffermwyr, wedi bod yn gweitbio yn egniol yn yr etholaeth, ac y mae y ffermwyr yno yn cael ynddo ef ffermwr profiadol yn gwybod eu hanghenion, a'r cam y maent yn dioddef dano. Wrth gwrs bydd yn ymdrech galed i'r Cadhen poblogaidd ddiorseddu Mr Stanley Leighton.
CYNGOR PLWYF NEFYN.I
CYNGOR PLWYF NEFYN. I Nos Fercher cynhaliodd y Cyngor hwn ei gyfarfod misol rheolaidd, o dan lywyddiaeth Mr O. Williams, y cadeirydd. Cafwyd ym- drafodaeth frwd ar amryw faterion, ond y pwnc pwysicaf yr ymdriniwyd ag ef ydoedd cael dwfr i'r Morfa. Penodwyd pwyllgor, yn cynwys pump aelod o'r Morfa yn nghyd athri o aelodau eraill o Nefyn, i eurych i mewn i'r mater, ac i geisio cael allan a ellir rhoddi pwmp neu ddau yno yn rhywle ac i ddod ag adroddiad manwl ar y mater i'r Cyngor mor fuan ag y byddo yn bosibl.—Deallwn fod amryw o ddieithriaid wedi dyfod yma yn barod, ac y disgwylir llawer mwy y mis nesaf. Pa beth a wna y Cynghor Plwyf er dwyn y lie i fwy o gy- hoeddusrwydd fel ymdrochle ? Beth hefyd a wnant ar gyfer y dieitbriaid sydd yn dod yma ?
GWRTHDARAWIAD AR Y RHEILFFORDD.
GWRTHDARAWIAD AR Y RHEIL- FFORDD. Ar reilffordd y Grand Trunk yn ngorsaf Craigshead ger Montreal, Canada, cymerodd damwain arswydus le ddydd Mawrth. Yr oedd dwy gerbydres fawr yn 11awn o ber- erinion ar eu taith o Richmont i St. Anne de I Beaupre, pan y rheddd y naill i'r rhan olaf o'r gerbydres arall gan ddinystrio dau o gerbydau, alladd y bobl oedd yn teithio. Dywedir fod 25 wedi eu lladd a 34 wedi eu hanafu.
ACHUB BYWYD YN YR ABERMAW.
ACHUB BYWYD YN YR ABERMAW. Ychydig ddyddiau yn ol, fel yr oedd Miss Ashmore, Borthwnog, yn ymdrochi yn yr afon Mawddach, torodd neu rhoddodd raff oedd ganddi yn ei Haw, oherwydd ei bod yn methu nofio, ffordd, a chariwyd hi ymaith gan y llif. Mae yr afon yn beryglus, gan ei bod yn ddofn ac yn Ilawn o drobyllau, ac y mae ynddi lifeiriant cryf. Yr oedd y llanw yn rhedeg allan yn gyflym ar y pryd. a buasai Miss Ashmore wedi ei cbario ymaith onitae i Mrs Joyce, gwraig i glerigwr.neidio i'r afon fel yr oedd, yn ei dillad, a nono ati, ei dal a'i dwyn i'r lan, ac felly achub ei bywyd.