Skip to main content
Hide Articles List

12 articles on this Page

- BHYFEL GARTREFOL YRI AMERICA.

PURWCH Y GWAED.

BWRDEISDREFI ARFON,

News
Cite
Share

BWRDEISDREFI ARFON, MR LLOYD GEORGE YN KGHONWY. CyfarfoJ Brwdfrydig. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Nghonwy nos Fawrtb, i gefnogi yrngelsiaeti; Mr Lloyd George. Yr oedd y cynulliad yn lluosog a brwdfrydig, a liywy ddwyd Cynghorydd Morg&n, llywydd y Gym deithas Ryddfrydol. Mr Thomas Gee, Dinbyeh, a ofynodd i'r rhai oeddynt yn bresenol beth oeddynt yn fwriadu ei wneyd yn y cyfwng pwysig pre- senol, pan y mae y ddwy blaid yn ceisio sicrhau mwyafrif y:i Nhy r CytVrediH. Y cynorthwy mwyaf allent ei roddi i'r blaid Ryddfrydol oedd dycbwelyd Mr Lloyd George gyda mwyafrif mwy dros fwrdeis- drefiArfon (oyiiieradwyaetb). Wrth ddyweyd hyn dywedai nad oedd yr un cynrychiolydd arall yn yr oil o'r Dywysogaeth, nac yn wir yn yr holl deyrnas, oedd vn haeddu gwell cefnogaelh oddiwrth ei etholwyr na Mr Lloyd Gporge (uchel gymeradwyaetb). Yr oedd wedi bod jTn ffyddlon i'w yniddiried- aeth ar bjb amgylcliiad, ac yr oedd hefyd wedi bod yn ffyddlon i'w egwyddorion, a gallai edrych yn newvrpb ei etbolwyr beb ofni cwrdd a'u h m u bymeradwyaeth am un- rhyw sylw oedd wedi ei wneyd yn y Ty, nac am unrhyw bleidlais a ioddodd mewn un- rhyw ymraniad pwysig (cymeradwyaeth). Yr oedd Mr Lloyd Genrge yn env..og fel Cenedlaetholwr Cymreig, ac yr oedd wedi profi byny, nid yn unig- yn y Ty, ond befyd yn mhob symudiad ac yn mhob araeth a dra- ddododd yn y wlad (eyn eradwyaeth). Mwy na byny, yr oedd Mr Lloyd George wedi sicrhan cyfnewidiad pwysig yn Mesur Darl- gysylltiad i Gymru-cyfnewidiad oedd yn foddhaol iawn i'w etholwyr, ac yn wir i holl Ryddfrydwyr Cymrn, 'Zln v bu-isai y Mesur pe buasai wedi ei br.sio wedi rhoddi y degwm yn nwylaw Cyngor Cenedlaethol, yn lie bod yn nwylaw Dirprwywy-, yr oil ohonynt yn Eghvyswyr, a dau yn Sais (uchel gymerad- wyaeth). Er fod Mr Lloyd George yn cael ei feio gan rai aelodau Cymreig am y rban a gymerodd yn y mater hwn, nid oedd unrhyw [ ambeuaeth ei fod wedi gwneyd yr hyn oedd j yn iawn, a pban csodwyd y gwrthwyneb- iadau o flaen Mr Asquith, rhoddodd ef i mewn ar y pwynt, a dy wedodd ei fod yn barod i wneyd y cyfnewidiad a ofynai 'Mr Lloyd George yn yr adran pan dJeuai ger- bron y pwyllgor (uchel gymeradwyaetb). Wrtb ddiweddu anogai Mr Get y cyfarfod, ac yn wi: J'oob Oymro oedd yn caru eiwlad, i bleidleisio dros Mr Lloyd George a'i gyd- Vi-eithwyr (uebel gymeradwyaeth). Mr Lloyd George, yr hwn a gafodd dder- byniad tywysogaidd, ar ol desgvifio dygiad i mewn ac ail-ddarlleniad y Mesur yn Nhy'r Cyffredin, a ddywedodd iod Mesur Dadgys- yiltiad yn effeithio ar Gymrn yn unig, a phan y gallai unrhyw aelod Toriaidd ddangos ei fod yn cyffwrdd a hawliau Seis- nig yr oedd ei wrtbwynebiad yn cael ei gyd- nabod. Yr oedd dyweyd nad oedd gan aelod bawl i welJa mrsur a effeithiai ar ei etholaeth yn gystal a gwneyd cynrychiolaeth Gymreig yn ddieffaith (cymeradwyaeth). Nis gallai unrhyw aelod Cymreig gyda cl gronyn o hunan-barcb dderbyn y cyfrifoldeb o gynrychioli etholaeth yn y Senedd dan y telerau hyn. Buasai y cyfryw delerau yn iselhad, ie.yn ddiraddiad hollol arno (clywch, clywch). Cynygiai y Mosur gyflwyno drosodd eiddo yr Eghvys [i ddirprwywyr, y rhai oeddynt yn cael yr awdurdod uchaf mewn gwario y dry«orfa. Felly yr oedd yn bwysig i Gymru wybod pwy oedd yn gwneyd y ddirprwyaeth i fyny. Yr oedd degwm lleol, fel degwm Conwy er engraipht, i'w wario yn lleol ond byddai i'r drysorfa genedlaethol gael ei gwario ar ddeoniaid, canoniail, a'r nefoedd wyddai beth arall (chwerthin). Ac er y gallai y Cynghorau Sirol gynyg cynllun, gallai y dirprwywyr wrtbod y cynllun. Wd, pwy oedd ar y ddirprwyacth ? Xid oedd dau ohonynt yn j Gymry. Xis gwyddai ef beth oedd- ynt (chwerthin). Mr ruce a, Syr Algernon f West (chwerthin). Nid oeddynt yn byw I yn Nghymru. nid oeddynt wedi cael profiad o Gymru, ac hyd yn oed os oeddynt yn Rhyddfrydwyr salw iawn oeddynt (chwerthin). Yr oedd y trydydd yn gymaint o Dori ag y gellid ci wele rhwng Conwy a Chastell Gwynfryn (uchel chwerthin). Tori rhonc, goruchvvyliwr Syr Watkin. Yn ber- sonol nid oedd ganddo ef unrhyw wrth- wynebiad i'r Cyrnol Hughes, ond nid hyny oedd y pwynt. Nid oedd ganddo yr un dyhead Cymreig. Toriaidd oedd boll ogwvdd ei feddwl. Nid oedd arnynt eisieu y fath ddynion i edrych ar ol eu heiddo, ai oedd ? (" Nac oes "). Nae oedd; yr oeddynt yn bobl oeddynt yn tyfu. Dechreu tyfu yr oeddynt, ac yn fuan byddeat yn genedl ardderchog (cymeradwyaeth faith). Yr oeddynt yn genedl o Ymneillduwyr, yn genedl o Ryddfrydwyr, Rhyddfrydwyr i'r earn (cymeradwyaeth), ac eto cynygid rhoddi eu heiddo yn nwylaw tri o Eglwys- wyr a dim un Yiiineillduvor. Yr oedd dau o'r tri yn Rhyddfrydwyr glasdwiaidd, a'r trydydd yn Dori rhonc (chwerthin). Ond nid hyn oedd y cwbl. Pe deuai Llywodr- aeth Doriaidd i mewn i swydd—rywbryd neu gilydi yn ystod y ganrif nesaf (chwerthin)—gallai Senedd Doriaidd gael ei hethol (chwerthin Hchel). Pe tybient i un o'r ddau Kyddfrydwr ar y ddirprwyaeth ymddiswyddo, byddai iddo gael Tori rhonc fel olynydd os Llywodraeth Doriaidd fyddai mewn gallu. Bydded iddynt feddwl am y canlyniad. Yr oedd yn ddigon i daro dyn yn fad gan ddychryn (chwerthin). Gan gyfeirio at y modd y condemnid ef urn bwyso ymlaen ei welliant i'r nawfed adran, cyf- iawnhai Mr George ei ymddygiad, a dy- wedai ei fod yn gwrthod edrych ar unrhyw Lywodraeth, pa un bynag ai Rhyddfrydol ai Toriaidd, fel pe bae ei phenderfyniadau yn archiadau Rhagluniaeth (uchel gymer- adwyaoth). Os deuai y mesur hwn ryw- bryd o flaen Ty'r Cyffredin eto, ni byddai ynddo Ddirprwywyr i edrych ar ol eiddo Cymreig (cymeradwyaeth). Ni fyddai i'r Llywcdraeth ei gynyg, ac ni fyddai i'r Toriaideigynyg. Osdychwelidy blaid Rydd- frydol i swydd yn yr etholiad nesaf byddai i fesur Dadgysylltiad gael ei ddwyn i mewn, a byddai cyngor cenedlaethol yn rhan o hono (uchel gymeradwyaetb). A allent gyfyngu gwaith y cyngor i reoli eiddc, yr Eglwys Gymreig ? Na, dim perygl. Byddai y cyngor yn sicr o estyii ei reolaeth dros addysg a holl beirianwaith bywyd Cymreig, a phan gaent gyngor cenedlaethol i reoli eu materion eu hunain, yna ac. nid cyn hyny y byddai pobl Cymru yn hollol fuddugol- iaethus yn eu gwlad eu hunain (uchel gy- meradwyaetb). Ar gynygiad Mr J. E. Conway Jones, pcnderfynw'.d yn ngb;mol brwdfrydedd niawr Fod y cyfarfod hwn yn dymnno datgan ei ddiolchgarwch dwfa i Mr Lloyd George am ei ymdreebion diail i wasan- aethu ein cenedl yn hy'r Cyffredin ac mewn lleoadd eraill, ac yn galonog yn cy- meradwyo ei ymgeisiaeth am Fvvrdeisdrefi Arfon, :1.J ymbellach yn ymrwymo i wneyd yr hyn oil sydd yn eu gallu i sicrhau ei ddy- cbweliad gyda mv/yafrif sylwêddol yn yr etholiad cyffredinol agoshaol." PWLLHELI. Nid ydyw y pwyllgor lleol wedi bod ar ol yn y trefniadau, ac er nad oedd dim paratoad I Xieillduol wedi ei wneyd erbyn yr adeg y I deuai y newylJ am yr etholiad, credwn na fydd Pwllheli ar ol. Mae y Mri W. Anthony ac E. R. Davies wedi bod yn gofalu am waith y registration bob blwyddyn, ac wedi bod yn bur llwyddianus, ioi gredwn, a rhoddodd etholiad y Cyngor Sirol gyfleustra i wyntyllio cwestiynau o ddyddordeb, a hefyd i enyn tan, sydd eto heb fyn'd yn llai effeithiol. Bu i ddifrawder ychydig o ber- sonau adeg etholiad y Cyngor Sirol roddi boi i ychydig o ofnau am ddyfodol y blaid yn y dref, ond erbyn hyn credwn fod pethau wedi gwell a, ac y bydd y blaid Ryddfrydig mor unol ag erioed. Nos Wener cynhaliwyd cyfarfod o'r Pwyll- gor Gweithiol yn ystafell y Clwb, Mr Anthony yn llywyddu. Rhoddodd Mr E. R. Davies, cyfreithiwr, adroddiad o'r hyn oedd wedi ei wneyd yn Nghaemarfon y diwrnod blaenorol, a dywedodd pa drefniadau ddylid eu gwneyd i symud yma. Penderfynwyd i bawb gydweithio i gario allan y trefniadau, ac 'roedd pawb yn barod iawn i ymgymeryd a'r gwaith dorid allan. Rhanwyd y dref yn ddosbarthiadau man, ac enwyd personau dylanwadol i ganfasio y dref yn llwyr. Dydd Sadwrn daeth Mr George yma gyda'r tren un ar ddeg, a dechreuodd ar unwaith ym- weled a'r etholwyr a'i gefnogwyr. Bu wrthi drwy'r dydd, ac ymwelodd a nifer mawr o'r etholwyr. Yr oeddis wadi meddwl cael cyfarfod nos Sadwrn, ond oherwydd anhaws- derau oedd ar y ffordd penderfynwyd ei gael nos Lun.

Araeth gan Mr Herbert Lewis,…

CYN AC WEDI PRIODI. I

[No title]

MB GLADSTONE A IIESUR DADGYSYLLTIAD.

:..-------I ANWIREDDAU TORIAIDD.

Advertising

Y WEIXYDDIAETil SVAYVDl)

Ul1It: ~MR~giadst!5NE7_ '

Advertising