Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

36 articles on this Page

Y GWENYN A'R LLYTHYR-FLWCH.

Advertising

COLLED AC ENILL.

GWRTHWYNEBU MR. T. E. ELLIS.

OSGOI STREICi !

SWYDDOG PLWYFOL MEWN HELBUL.

DYSGU RHYFELA.

Advertising

SUT CA'I FOTIO r

News
Cite
Share

SUT CA'I FOTIO r LLYTHYR (Oddiwrth Lafurwr Amaethyddol at ei fab, hwnw hefyd ya Lafurwr Amaeth- yddol). FY ANWYL J OHN,- Ti gofi i mi ysgrifenu llythyr atat y tro dweutha 'roedd yna lecsiwn yn dweud wrthyt sut yr oeddwn i yn mynd i fotio a sut yr oeddwn i yn meddwl y dylet tithau fotio. Wel, mae'r amser wedi dwad i ni fotio eto, ac y mae yn rhaid ini wneyd ein meddwl i fyny beth a wnawn-rboi'r Toriaid i mewn ynte dychwelyd Rhydd- frydwyr unwaith eto. Y diwrnod o'r blaen yr oedd mistar yn dweud withyf ei fod ef yn methu gwybod sut yr oeddan ni weision ffarmwrs yn cael ein llyncu i fyny gan chwiMrowyr R,tdicalaidd-.dyna oedd ei ffordd ef o ddesgrifio y siaradwyr Rhyddfrydol oedd wedi bod yn cynal cyfarfod yn yr ysgoldy y noswaith ^ynt. Rwan d'alla'i ddallt (a mi ddeudis i hyny wrtho fo hefyd) sut y gall dyn sy'n gorfod gweithio am ei fywioliaeth, ac nad oedd ganddo ormod o arian i spario, helpu bod yn aelod o'r parti Rhyddfrydol. Mae bron bob awr o bob dydd yn profi pa faint yr ydym mewn dyled i'r parti hwnw. Pan fyddaf. yn codi yn y boreu ac yn edrych drwy'r ffenestr i weI'd fydd hi'n gwlawio ai neidio, byddaf yn cofio fod y trethi ar ffenestri ac ar wydr wedi eu diddymu gan y Rhyddfrydwyr. Pan yn parotoi ar gyfer fy niwrnod gwaith, yr wyf yn gwybod fod y sebon yr wyf yn ei ddefnyddio yn rhad, am fod Mr Gladstone wedi ei wneyd felly trwy dynu'r doll oddiarno. Wrth fwyta bara a menyn, neu gaws; wrth yfed te neu gocoa, ni byddaf yn anghofiD pa barti ddiddymodd y doll ar y rhai hyn i gyd, ac mai'r Rhyddfrydwyr sicr- haodd ddiddymiad Deddfau'r Yd a ben- dith Bara Rhad. Pan fyddaf yn gwel'd y plant yn cerdded i'r ysgol, gyda'u gwynebau bywiog a hapus, daw i'm meddwl yr amser-25 o flynyddoedd yn ol-pan y dechreuodd y Llywodraeth Ryddfrydol ein Cyfundrefn Addysg Gen- edlaethol, a'r modd y darfu iddynt gyn- hyrfu am Addysg Rydd, nes y dychryu- wyd y parti Toriaidd ac y gorfu iddynt ei roi. Pan fyddaf yn myn'd i'r capel nis gallaf lai nag anghofio sut y mae'r Tori- aid bob amser wedi gwneyd eu goreu i rwystio i Yaaneillduwyr gael yr un iawnderau a'r Eglwyswyr, ac mai i Ryddfrydwyr yr ydym yn ddyledus yn awr am Addoliad Rhydd, diddym- iad y Dreth Eglwys, a Dadgysylltiad yr Eglwys Wyddelig. Byddaf yn hoffi meddwl hefyd pan fyddaf farw y gail fy ngweinidog fy hun fy nghladdu yn myn- went y plwyf-trwy dferynoFaeth :Mer Claddu Rhyddfrydol. Bob tro y byddaf yn gwario ceiniog am bapyr newydd, nen am anfon llythyr, byddaf yn cofio fy mod yn ddyledus i'r Rhyddfrydwyr, y rhai a gymerasant y doll ar bapyrau newvddion ymaith, a'r rhai hefyd a rois- ant Wasg Rydd i ni, ac a sefydlasant y Llythyrdoll Ceiniog. Pau fyddaf yn fotio yn y lecsiwn nesaf yma mae'r Ballot, yr hwn y gwnaeth y Toriaid eu goreu i'w rwystro, yn fy ngalluogi i fotio fel y tyb- iwyf yn oreu, heb ofn na ffafr. Elli di synu felly fy mod yn dal yn ffyddlon i'r blaid Ryddfrydol sydd wedi gwneyd cymaint imi ac ini gyd 1 Dyn anwyl, rwyf fi yn cofio'r amser-yn yr Hen amser da," chwedl rkai pobl-pan na byddai llafurwr amaethyddol byth yn enill deg swllt yr wythnos; ac nid oedd swllt y pryd hwnw, sylwa di, ddim yn myn'd agos mor bell ag y gwna yn awr. Yr oedd y dorth 4 pwys sydd yn costio 4c neu 5c yn awr yn costio mwy oa swllt y pryd hwnw,ac nid oedd wedi ei gwneyd o fiawd gwyn da fel yn awr, on i yn ami iawn mor ddrwg fel nas gellid ei bwyca. Gallwn oil fod yn ddiolchgar ein bod wedi cael gwared o'r "Hen Amser;" a'r bhid Ryddfrydol sydd wedi gwneyd hyny i ni. Y mae'r Rhyddfrydwyr wedi gwneyd llawer yn y gorphenol, ond nid yw eu gwaith wedi ei orphen. Er yr etholiad diweddaf y maent wedi rhoi Cynghorau Plwyf i ni, ac am y waith gyntaf erioed gall holl boblypentref,cyf^ethogathlawd, y meistr a'r gwas, gael en llais yn rheol- eiddiad materion y pentref. Gallwn gael Daliadau gyda llawer iawn llai o drafferth a chost, ac y mae'r Eluseuau yn cael edrych i mewn iddynt—ac nid cyn ei bod yn amser i wneyd hyny. Gallwn ddef. nyddio'r ysgoldy at wasanaeth plwyfol Nis gall tir-feistri ein hyspailio o'n llwybrau; ac os bydd arnom eu heisiau gallwn gael neuadd bentiefol neu bare cyhoeddus. Am y waith gyntaf hefyd y mae genym wir lais yn newisiad Gwar- cheidwaid i edrych ar ol Deddf y Tlodion I a'r ben bobl. Paid ag aoghofio pa fodd y darfu i'r Toriaid wrthwyuebu Deddf y Cyngor Piwyf, ac ymhdd rhanau ohono fesur llinell. SUT YR YDW I AM FOTIO YN YR ETHOLIAD HWN? Yr wyf am fotio dros y Rhyddfrydwyr am eu bod o blaid rhoddi i'r bobl yr hyn y maent mewn augen am dano heb ofyn i Dy'r Arglwyddi am ganiatad. Nis gallaf ddeall pam y rhatd i'r bobl ydym yn ddewis i'n cynrychioli yn Nhy'r Cyffredin roi ffordd i ryw ychydig gannoedd o Ar- glwyddi,y rhai &ydd yn Nhy'r Arglwyddi yn unig am eu bod yn digwydd bod yn blant i'w tadau. Dim ond er yr etholiad diweddaf y maent wedi gwneyd llawer o ddrwg: ac heblaw digon o bethau eraill, y maent wedi rhwystro i gyfiawnder gael ei wneyd yn yr Iwerddon. Pau fyddwn wedi gwneyd i ffwrdd a Veto yr Ar- glwyddi gallwn gael yr holl welliantau eram :-Biwydd-daliadau i'r Oedranus, fel y gall yr hen b >bl gael digon yn eu hen- aint heb orfod myned i'r Tlotty; gallu ychwanegol i'r Cynghorau Plwvf,- yn awr pan y maent yn llawn gwaith, i edrych ar ol yr Elusen-iu; cynllun symlach a rhatach nag sydd yn bodoli j yn bresenol iddynt gael tir allot- ments a dvbenion cyhoeddus eradl;! Daliad&u Bvckain, fel ag i ailuogi y ilalltii wr, os bydrl yn llwyddianus, i dd'od yn ffarmwr bych,in yn ngwrs amser; gsvall tai a rhai mwy cyfaddas i foduu dynol diigo ynddynt; a thyddynod i gael eu hadeiladu gan y Cyngor Piwyf UGu'r Cyngor Dosbarth, lie nad oes digon o honynt yn cael eu hadeiladu mewn ffyrdd ereill cynllun symlach i brynu ac i werthu tir un dyn un bleidlais, a dim o'r drafferth bresenol i gael ein henwau ar y rhestr etholiadol; diddymiad y tollau sydd hyd yn hyn yo aros ar y fath angenrheidiau a the, coffi, a cocoa; yr baw) yn ein dwyio i ly wodraethu y fasnach mewn diodydd meddwoljgwelliacttrwyadl yn Neddf y Tylodion; gwell deddfan i'r Haw weithfeydd i geisio atal pob math o sweating, a'r holl welliantau ereill ag y mae y blaid Ryddfrydol yn awyddus i'w gwel'd yn cael eu pasio yn gyfreithiau. Dyma y rhesymau, John, pa'm yr ydwyf am bleidleisio i'r Rhyddfrydwyr unwaitb eto. Hwy sydd wedi bod yn gyfeillion ini yn y gorpbenol, abwynt- hwy fyddant, mi gredaf, em cyfeillion ya y dyfodol. Ni buasai bywyd yn werth ei fyw heddyw onibae am yr hyn y mae y Rhyddfrydwyr wedi ei wneyd yn y gorphenol. At y Rhyddfrydwyr y mae yn rhaid ini edrych at y dyfodol. Cvmer fy nghyngor.a phaid a chymeryd dy gylch- arwain gan glebar y Toridd ynghylch eu program cymdeithasoL Gwn cad ces angen imi dy rybuddio rhag eael dy gy- meryd i mewn gan y peth rhyfedd hwnw a elwir yn Ryddfrydiaeth Undebol. Gwna fel yr wyf fi am wneyd, mewn gair fel y mae yr holl weithwyr yn y parthau hyn am wneyd. Dyra dy bieidlais i'r hen blaid Ryddfrydol sydd yn cario ar ei baner eto y geiriau- Rhyddid, Cyfiawnder, Gwelliant. Dy Serchog L AD.

PERYGLON PliNT— |RHYBUDD.

CYMRU^RIAR DYDD.

GWYS I'R GAD !

Advertising

NODION ETHOLIALDOL.

MARW WET a DDADLEU POLITICS.

PETISIWN LLANEILIAK.

I DIRWASGIAD Y FASNACH LO.

FFRWYDRIA.D YN DUBLIN.

LLONG Y TOLLDY AR LAWR.

MAB Y CADFRIDOG OWEN WILLIAMS.

RHODDI'R SELIAU I FYNY.1

FFRWYDRIAD FFWRNAIS.

DAMWAIN YN ABERDYFI.

DARGATFFOD GWRMBAENT.

CAEAU GWAIR AR DAN.

TAN YN MHARIS.

ETllOLAETH EIFION.

GORPHWYS FEL MEDDYGINIAETH-

Y CAIS I LADD EI GARIAD YN…

Advertising

-----------------CEISIO LLOSGI…

DYNLADDIAD GAN HEDDGIDWAlù

J."" LLOFRUDDION.

'iii. EI LADD GAN OLWYNWR.

LLADRATA 17,000P.

TANAU YN YR AMERICA.