Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

DYLEUSWYuD Yii YU.NLq.ILL-DUWYR.…

News
Cite
Share

DYLEUSWYuD Yii YU.NLq.ILL- DUWYR. Yn ol pob rhagolwg, fe ddadgor- fforir y Senedd ddydd Llun nesaf,. ac apelir am farn y wlad yn ddiym- droi. Bydd yr ymdrechfa yn un hynod frwd, ond fe fydd yn un fyr hefyd. Cyn pen tua thair wythnos. bydd yr holl etholiadau drosodd. Ar hyn obrydy mae Arghvydd Salisbury mewn awdurdod. Yn awr mae'r Rhyddfrydwyr" Unciebol wedi bwrw eu coelbren yn ffurfiol gyda'r Toriaid. CJilgwthiwyd cifer fawr o Doriaid oedd yn y Weinyddiaeth Doriaidd ddiweddaf er gwneyd He i Due Devon, Mr Chamb-ri-iin, Syr Henry James, Mr Jesse Collings, ac ereill. Bellach, fe wet y Vlad yn eglur fod y Rhyddfrydwyr" Un- debol, nid yn Rhyddfrydwyr ar bob cwestiwn ond Ymreolaetb, fel yr ar- ferent honi, ond wedi ymroddi o lwyrfiyd calon i ddal breichiau yr Arch-Dori Arglwydd Salisbury. Tori- aid coch hen ffasiwn yw mwyafrif aelodau y Weinyddiaeth, ac ni fydd Chamberlain a'i gyfeillion yn ddim amgen na chymunwyr coed a gwe- hynwyr dwfr i'r Toriaid rhoncaf fli: erioed wrth Iyw y Llywodraeth. Na, chyittered yr yn Cymro ei hud-ddenu gan y ffiloreg mai gwrthwynebu Tm- reolaeth yr J werddon yn unig y mae'r Rhyddfrydwyr Undebol;na,. maent wedi gwrthwynebu yn y gor- ffenol bob mesur a ddaeth y Wein- yddiaeth ddiweddar yn mlaen, a llawn fwriadant gefnogi mesurau hollol wrthwynebol i fuddianau gwerin ein gwlad. Y gwirionedd yw fod y" Rhyddfrydwyr Undebol yn fwy Toriaidd na'r Toriaid eu hunain- Heblaw y ewetiyna-u mawrion o. Ymreolaeth i'r Iwerddon a diwygio- Ty'r Arglwyddi, y mae materion crefyddol a moesol yn sicr o gael lie amlwg yn yr ymdrechfa sydd gerllaw. Credwn fod yr amgylchiadau eithr- iadol presenol yn galw yn uchel ar i'r holl enwadau Ymneillduol yn Nghymru i osod. o'r neilidu bob man wahaniaerh, ac i dd'od yn mlaen yn eofn i daro ergyd trymach nag erioed er sicrhau cydraddoldeb crefyddol yn ein gwlad, a cheisio rhyddhad oddi- wrth y drygau ofnadvvy sydd ya nglyn a'r dull eiddil presenol o reol- eiddio y fasnach andwyol mewn diod- ydd meddwol. Oni cheir cynorthwjr arweinwyr crefyddol ein gwlad, bydd i'r diwygiadau moesol a chrefyddol y soniwn am danynt gael eu cadwoddi- wrthym am daim pellach o flynyddau, a bydd raid i ni syllu yn ddiymad- ferth ar anghyfiawnder eglwysig yn parhau yn ein plith, a gofidio ein bod heb ddim gallu i achub ein brodyr gweiniaid rhag profedigaethau y diodydd meddwol. Am Ddadsefydliad yr Eglwys yn Nghymru, prin y mae eisieu gosod pwyslais ar fawredd y pwnc hwn. Darfu i Weinyddiaeth Arglwydd Rosebery ddwyn mesur yn mlaen i'r perwyl hwn, a gwthiasant ef, nid yn unig drwy borth yr ail-ddarlleniad, ond hefyd drwy'r Pwyllgor. hyd nes y jdymchwelwyd hwy ar gwestiwn yn [ nglyn a'r Fyddin. I'r Ymneillduwyr eu hunain y disgyna'r cyfrifoldeb o benderfynu ffawd y mesur yn y Senedd sydd ar fin gael ei hethol. Heblaw hyny, dyna gwestiwn addysg elfenol. Ar ol i addysg fod am ugain mlynedd o dan reolaeth y L, trethdalwyr, gwneir ymdrech gan y Toriaid i ddymchwel y trefniant hwn. Pe dychwelid y Toriaid i awdurdod, mae genym bob rheswm dros ofni y pleidleisid arian o bwrs y wlad er mwyn cadw addysg miloedd lawer o blant o dan reolaeth clerigwyr yr Eglwys Wladol a thrwy hyn fe reddid estyniad oes i'r egwyddor o waddoli'r Kglwys Sefydledig ar gost y wlad, a pharheid i noddi yr ysbryd erlidgar a phroselytaidd sydd mor fynych yn ffynu yn nglyn ag addysg enwadol. Yn ychwancgol at hyn, dyna achos sobrwydd. Darfu i'r Weinyddiaeth ddiweddar ddwyn i fewn Fesur oedd yn sylweddoli dy- headau a gcbeithion caredigion sobr- rwydd. Pe buasai y Mesur hwn wedi ei basio, gallesid disgwyl y byddai i filoedd lawer o bobl ieuainc Iwyr osgoi y demtasiwn o syrthio dan ddylanwad y diodydd meddwol. Oni fydd i garedigion dirwest bleid- leisio dros yr ymgeiswyr hyny a getnogant fesur o ddewisiad lleol, fe gollir y cyfleusdra hwn, a gor- fodir cenedlaeth arall o ieucnctyd ein gwlad i wynsbu yr hudoliaethau sydd wedi denu cynifer o'u brodyr hynach hyd at ddibyn dinystr- Credwn ein bod wedi dangos mai dyledswydd pob Ymneillduwr sydd yn cam moes a chrefydd yw cefnogi a gweithio eu goreu o blaid yr ym- geiswyr hyny sydd am bleidio mesurau a ddyrchafa foes ein gwlad, ac i beidio rhoddi eu gwyneb gyda'r blaid hono sydd bob amser yn gyfaill calon i'r fasnach feddwol.