Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
B^jaDMSl)^TMALDW^ 1
B^jaDMSl)^TMALDW^ 1 YMGEISYDD TORIAIDD NEWYDD, Gan nad ydyw Syr P. Pryce Jones, yr A.S. dros Fwrdeisdrefi Maldwyn, oherwydd afiechyd, yu bwriadu sefyll eto, dywedir fod ei fab, Major E. Pryce Jones, wedi cael ei ddewis yn rheolaidd gan y Toriaid fel eu hymgeisydd yn yr etholiad nesaf. Dywedir yn mhellach fod Mr Balfour am dd'od i lawr rai o'r wythnosau nesaf i roddi help Haw iddo.
COLLED AC ENILL.
COLLED AC ENILL. Mae dynion bron yn ddieithiiad yn foddlon aberthu neu golli rhai pethau er mwyn enill peth mwy. Eraill, arol colli rhyw be; h owerthfavvr yn eu golwg yn ddamweiuiol, a gynygiaat wobr am ei adferiad. Ond y mae llawer o golledion yn ein eyfarfol sydd yu anadferadwy. Mae dyuion yn ami yn colli y trysor mwyaf yn eu meddiant wrth geisio enill rhyvvbeth arall llai ei werth. Coliir iechyd, y trysor penaf fedd dyn' yn ami wrth geisio enill cyfoeth neu bleser. Coliir y trysor hwn weithiau trwy ei gam- I ddefnyddio, ac yn fynych trwy esgeuluso gwneyd defnydd priodol o'r moddion cymhwys i'w ddiogelu a'i gadw. Mewn llawer o'r wchosion hyn, gellir adenill y 'n trysor a gollwyd trwy wneyd defnydd prio;ol ac amserol o'r moddion a'r manteision yn ein cyr- haedd. Mae pawb ar ol colli eu hiechyd yn awyddus i gael adieriad buan, an i'r dybeu hwnw cymerant y feddyginiaeth a fernir sydd yn fwyaf cvmhwys i gyrhaedd yr amcan. Yn y dyddiau hyn gellir cael meddyginiaethau breintiedig wedi eu parotoi yn ofalus gan fedd- ygon neu fferyllwyr medrus, at well a lluaws o anhwylderau y mae dynion yn ddarostyngedig iddynt. Y meddyglyn goreu sydd yn adnabvddns yn yr oes hon at amryw glefydau yw Quinine Bitters G-wilyin Evans, meddygiuiaeth a ddyf- eisnvyd ar ol blynyddau o ytiiOhwiliad ac ym- brawf. CynTvysa Quinine Bitters Grwilym Ev ns el- fenau rhinweddol y prif lysiau meddygmiaethol sydd yn adnabyddus trwy yr holl fyd. Cydnebydd pawb sydd wedi rhoddi prawf arno mai Quinine Bitters Gwilvm Evans yw y feddyginiaeth oreu at welll holl anhwylderau y cylla, y giau, yr af i, a'r gwaed. Mae ar werth gan bob fierydydd, ntwn potali 2a 9c, a 4s 6c yr un. Neu gellir eu cael yn ddioed trwy y post am y prisiau uchod yn uniongyrchol oddiwrth y perchenogion :—Qu;nine Bitters Manufacturing Co., Limited-, Llanelly, South Wales,
GLYWSOCH CHWI t]
GLYWSOCH CHWI t] I íIai fel y canlyn y rhigymodd un o I fe'irdd Kict Peris i'r gwlaw 1 Kyno-1 o wlyb ydyw gwlaw, I. Yn bwrw yma ac yn bwrw draw, Yn bwrw yn arw ac yn gwlawio'n llai, I Nes gwlvchu cerig pen y tai. Yn bwrw am ben y ddafad a'r oen, t Nes bydd y ddau yn wlyb at eu croen, Oiid i'r brawd hwn baihau i ddad- blygu ei dalentau d:sg;aer, y ^geiiir gwneyd ohono olynydd teilwug i'r an- farwol Brif-fardd Cocosaidd ? Mai trwy gum'r simddeu gyda'r pocer y bydd un ierch ieuanc yn LI yn ceisio tvnu sylw llaue iyuauc o g}ia}dog iddi? iddi? Fod mynd da ar y potiaii jam cemiog yn mhiith merched SuOpau C-î-n l Mai y merched mwyaf fashionable sydd yn prynu mwyaf o'r jam? Mai da iawn oedd gan y duau hyny gael lift yn y drol mul wrth ddcd adref o Ddinas Dinlle nos Lun 1 Glin nad oedd y drol yn hynod am ei glanweithdra, i'r ierch faeddu ychydig ar ei gwisg ? Nad cedd y niwad yn fwy nag a allai ychydig benzine .ei welia dranoeth ? 'od eisieu cenhadcu yn y lleoedd csn- lynol :-Pont y BJa a Fiordd Ty Du, Llanberis 1 Y bydd 11 Haws re awr yn gwag-rcdiana j ac yn e.-gauluso pob moddion o ras yn y cyfryw fanau ? Y dylid rhoddi anogaethau yn awr a .phryd arall ar y priodoldeb o fynychu moddioa was yn y gwahanol addoldai yn ) Llanberis ? zD Mai tro gwac1 cedd i'r llanciau hyny n goHi'r trsn wrth geisio rnyced i Lerpwl brydnawn Sadwin 1 Mai colleci fawr gafodd y chwarelwr hwnw o F—s—a, pan rwygodd ei got yn heol fawr Bangor brydnawn Linn ? Mai siwt newydd oedd ganddo, sc nad oedd wedi talu am dani ? Fod gwerthu ar y Sul yn myced a gynyeid yn Nghaernaifon ? Fod byd yn nod adcdau crefyddol yn agoryd drysau eu masnachdai ar y dydd- hwnw, ac yn gwerthu inclusion, &e. ? Y byddai yn eithaf peth i'r heddgeid- waid gymeryd y mater mewn Ilaw ? Na fu erioed gymaint o feddwi ac ym- ladd yn Llanberis ag a fu nos Sadwrn diweddaf 1 Mai y navvies oedd yn cymeryd y rhan fwyaf blaenllaw yn hyn ? Am y ddau gariad hyny o LI—b—s a wnaethant gytuudeb i fyned i Fangor I gyda'r tren naw ddydd Llun ? 6 Fod y dyn ieuanc yno yn bi-ycilon, ond na wnaeth yr eneth ti hymddaugosiad 0 mewn pryd ? I'r dyn ieuanc arcs y t, on nesaf, gan ddisgwyi yn siwr y buasai ei anwylyd yno erbyn hyny 1 Mai ofer fu ei wa:th yn arcs, ac iddo benderfyuu myned hebddi ? Pan oedd yn Station Caernarfon yn hwylio i fyned adref iddo weled ei gariad yn Dghwmni dyn ieuanc arall yn dyfod ailan o dren o gyfeiriad Bangor 7 Fod yn ymddang03 i'r eneth wneyd cytiKideb a dau, ac fod yn debyg iawn mai hen ferch fydd yn y diwedd cs na fydd iddi fod yn fwy gofalus 1
SAEAtI JACOB.
SAEAtI JACOB. Hysbysir am farwolaeth Evan Jacob, sei tad yr enetli hono, Sarah Jacob, o Bencader, a fu byw am fisoedd heb fwyta nac yfed. Dyna oedd prif bwnc y newyddiaduron a phrif destyn siarad yn miiob parth o Gymru tua'r amser hwnw-chwe' mlynedd ar hug-ain yn ol. Yr oed1. gwahanol farnau am hyn ar y pryd—credai rliai fod yr oil yn wirion- edd, ond baruai eraill mai twyll y rhieni i gycl ydoedd ac ystryw i wneyd arian. Yn y diwedd penderfynwyd prcfi y peth, ac yr wyf yn credu hyd heddyw iddynt fyn'd yn holiol cbith i v/neyd hvnv. Fel hyn y gwnaed. Penderfynwyd v eaei "nurses" o Lunden i wylio yr eneth a oedd yn cael bwyd net beidio mown rhyw ddull neu gilydd. Symudwyd hi i wely inewn ystafell arall, ac ni chai ei thad jna'i inala dd'od yn ages ati: Gwyiiwyd hi yn ddyfal gan y dyeithriaid, ac yn mhen diwrnod neu ddau bu y fechan farw, a'r hyn oedd yn syndod i mi y pryd hwnw, ac sy'n para felly hyd yr awrhon yw-pa Îodd y gellid profi trwy ei marwclaeth mai tvvyll oedd y cyfan ? Yr oedd yn ainlwg fod y ferch yn dioddef o dan rhyw afiechyd, ac y mae marwolaeth natur- iol yn cael ei flaenori gan afiechyd felly nid oedd yn un syndod i'r eneth farw, a hyay yn ystcd presenoldeb y nurses, y rhai oedd wedi peri dychryn mawr i'r plentyn claf a gwanllyd. Dywedaf nad oedd ei marwol- aeth yn profi dim, oblegid dyina ddiwedd pob dyn a dynes; a cham dirfawr oedd cosbi ei thad a'i mam ar sail y fath dystiol- aeth. Buasai rhoddi bwyd iddi, ac iddi hithau adfywio'a,' gweHa mewn canlyniad yn llawer gv/ell prawf ei bod yn cael lluniaeth yn ddirgelaidd, tra yr oedd ei marwolaeth yn IWY o brawf o wirioneddclrwydd yr am- gylcbiad nag o'i FU?.—Idriawyn.
----,-"-= C-WAITH NWY ESTHS8DA…
-= C-WAITH NWY ESTHS8DA AR DAN- Eryanawn LInn torodd tin allan yn Egwaiih nwy Cyagor Dinesig Bethesda, fel y bernir trwy fod y pibellau tar yn gollwng. Llosgai'r tan vn fi'yrnig am oriau. Metbai'r gweithwyr oedd yn y lie a chael gafael ar yr un bibell inoiarubber i ddiffodd y tan, a phan anfonwyd i orsaf y rbeilffordd am fenthyg un, cafwyd nad oedd hono yn fiirio y pibellau clwfr yn y lie, ac felly yr 'd cedd yn hclioll ddiddefnydd. Cafwyd nifer o fwcedi, a phesid y rbai hyn o law i law i ben yr adeilad, a thywelltid eu cyn- wysiad i'r oddaith odditanodd, a defnyddid niter o bibellau bychain yr arferir dyfrhau gerddi a hwynt. Trwy yr ymdrechion hyn llwyddwyd yn mhen rbai oriau i ddiffodd y tan. (jtweithiodd y c-hwarelwyr yn ganmol- adwy. Y"n sicr, ar ol y lhybudd difrifol two, ni ddylid oedi i gael peiriant priodol i ddiffodd tan yn y dref bwysig hon.
---------SANDY A'R BAUFWR.…
SANDY A'R BAUFWR. I Aeth Ysgotyn—yr hwn a werthai ysgubau —i siop barfwr yn Glasgow i gael ei eillio. rrvv-oO,,d y bariwr un o'i ysgubau; aw ar ol ei eillio, gofynodd y pris. Dwy geiniog," atebai yr Ysgotyn. Nii., na," meddai y barfwr; "mi a roddaf i ti geiniog; ac os nad yw hyny yn dy foddloni, eymer yr yssub yn ol." Cyjnerodd yr Ysgotyn hi, a gofynodd pa beth oedd raid iddo ef dalu am i eillio- Ceiniog," meddai gwr yr ellyn. "Na, mi a roddaf ddirnai," atebai Duncan; ac os nad ydyw hyny yn dy foddhau, dyro fy inarf yn ol i mi, fel yr oedd cyn i ti ei heiilio ymaith
Advertising
MESCANcuqiins. N as Sev Joseph Holmf?'sMex:can IV Prescrxtion, is the only guaranteed remedy for all those who suffer from the errors of youth, nervous weakness, exhaus- ted vitality, kidney, blaaner, gravel, pro- state and kindred complaints, and has stood the test for twenty years. Bend a self- addressed stamped envelope to Jos. Holmes' RemedvCo.. Bloomsbnry Mansions, Blooms burySquere, Loiulcr., and get full uarticu- a of this great remedy tree of cnatce.
HHYFEIJ OARTREFOL TR AMERICA.
HHYFEIJ OARTREFOL TR AMERICA. YN Y LLYNGES 0 13611 1865. I ADGOKION CYMRO. I ANTURIAETHiU PERYGLUS. ♦ LGAN H. 0. PRITCrrARD, ORE BANKS, VA., DIWEDDAR 0 FETHESDA, ARFON]. Pan dorodd y rhyfel allan rhwng y De a'r Go^ledd yr oeddwn yn gweithio yn Slate Hill, Pa., a chan fod y Mason and Dixon Line, sef yr un rhwng Maryland a Pennsyl- vania, neu dalaeth rydd a thalaeth gaeth, mor agos, ac na wyddem ar y pryd beth fyddai tynged Maryland—gwrthgilio ¡o'r UndLb ai nad e, daeth i feddwl rhai o bobl yr ardal gcdi Home Guard, fel amddiffynfa i'r lie. Yr oedd gwyr ieuainc yr ardal yn awyddus ac yn birod, ond cael rhywnn i'w dys-ru fel arweinydd, a gwnaethom gais at Cadben Jones, yr hwn fuasai yn myddin Lloegr am flynyddoedd. Cymerodd y Cad- ben y gwaith arno o'n dysgu i ryfela-tua cbant obonom, a'r rhan fwyaf yn Gymry. Yr oeddym yn cael ein drilio ganddo ar brydnawn Sadyrnau, mewn cae cyfagos, a byddem yn cael llawer o ddigrifwch yn yr hen gae, yn enwedig pan yn mynd trwy sham battle, gyda darnau o bren yn gwas- anaethu fel gynau. Cawsom ein dysgu felly aa; ddau neu dri mis; ond rywfodd fe glywc-dd y Llywodraethwr Curtin, Penn., am danom, ac anfonodd lythyr at Cadben Jones yn cynyg iddo y bwydd o gadben os deuai ef a'i gwmni i Harrisburg ac ymrestru yn y fyddin. Rhoddodd y Cadben y peth o flaen y cwmni, ac yr oedd rhai o'r bechgyn yn barod ac yn awyddus i fynd. Gofynwyd i'r Cadben beth oedd ef am wneyd, pryd y gwrthododd roddi atebiadboddhaol, ac aros- odd gartref. Ymhen ychydig amser fe dor- odd y cwairii fyny-neu i lawr, fe ddylwn ddweyd; ond yr oedd rhai ohonom yn meddwl y dylem, a'i bod yn ddyledswydd arnoitij fynrl i ymladd er mwyn cadw cyfan- rwydd yr Undeb felly aeth pedwar ohonom i lawr i Philadelphia, gan fwriadu ymrestru i'r fyddin. Wedi cyrhaedd y ddinas tarawsom ar yr hen wron David Pace, yr hwn oedd wedi gwasanaethu yr U. S. navy er's amryw flyn- yddau, ac yr oedd ef yn awyddus am i ni ddyfod gydag ef i'r llynges, yr hyn bender- fynasom wneyd ac ar yr 18fed o Ragfyr, 1861, fe ymrestrodd naw o honom yn Gymry Cymru, ac aethom i'r swyddfa i gael ein tyngu i fewn. Wedi ysgrifenu ein henwau, ein hoed, a'r wlad lie ein ganwyd, cawsom orchymyQ i fyned i ystnfell arall,ac ymddiosg o'u dillad, gan ein bod yn myaed o flaen dau feddyg i gael ein harchwilio y naill ar ol y I Hall. Yn noeth y daethom i'r byd, ac yn noeth yr aethom o flaen y meddyg, yr hwn ddywedodd ein bod yn llwyr gymwys i ryfel. Clywais wedi hyny ei fod wedi anfon hysbysiad o'r amgylchiad i'r Philadelphia Ledger dranoetb, gan ddweyd fel yr oedd wedi arebwilio naw o Gymry-y dynion mwyaf perffaith ddaeth o'i flaen erioed o ran cyfansoddiad corphorol, yn ddynion iach, cryf a heini. Yr oeddym yn awr yn ngwasanaeth Uncle Sam am dair blynedd neu ragor,ond dim mwy na phum mlynedd. Dranoeth yr oedd yn rhaid mynedi'r llong, sef yr U. S. Steamer Brooklyn—llong goed o wneuthuriad cad- am, ac yn cario 26 o ynau 9 mod. a dau Sin. rifle. Yr oedd 400 o ddwylaw ami. Yn mhlitb y Cymry ar fwrdd y Brooklyn" yr oedd y Cymry canlynol David Pace, genedigol o sir Fon, wedi marw. Griffith G. Ellis o West Bang-or, Pa., wedi marw. Isaac Rowlands o LlaRddeiniolen, wedi marw. Hugh H. Jones o Ty'nymaes, Bethesda. Michael Williams o Llanddeiniolen. Meredith Evans o Ffestiniog. John D. Davies o Ty'ntwr, Bethesda. John G. Thomas o Braichmelyn, Bethesda. Humphrey 0. Pritchard o Bethesda. Wedi i ni fyned i'r llong, yr oedd yn rhaid myned o flaen meddyg arall, a chymerodd hwnw ryw erfyn inimog gan waedu ein braich chwith. Gofynodd un o'r bechgyn, I be mae hwn yn ein gwaedu ni, dywed ? Ond i ddaugos i ti," meddai y llall, "fgd yn rhaid i ti golli dy waed dros dy wlad." Wel, os na chollaf fwy na hyn, byctdaf yn foddlawn iawn." Wel, ddarllenydd anwyl, gelli feddwi ein bod mor green a dail cab- bage, heb fod erioed o'r blaen mewn lie o'r fath; ac y mae yn anhawdd i neb ddych- mygu pa fath le yw man of war," ond y rhai sydd yn gwybod trwy brofiad. Ba yr hen gyfaill David Pace yn help mawr i ni, trwy ein dysgu a dyweyd wrthym beth i'w wneyd a beth i beidio, fel yn mhen ychydig amser yr oeddvm wedi dyfod yn Hed gyfar- wydd a'n dyle:iswyddau, a'r brif wers wedi ei hargraffu ar oin meddyliau, mai ufuddhau orders yw dyledswydd gyntaf pob milwr. Wedi i ni gael pob peth yn barod, cychwyuasom i lawr yr afon Delaware, ac aethom i Hampton Roads, lie y cafodd ein capten oi sealed orders oddiwrth Ysgrifenydd y Llynges o Washington; ond nid oedd 0 0 ganddo hawl i agor ei sealed orders nes myned hyn a hyn c filldiroedd i'r mor. Ar ol aros ychydig ddyddiau yn y lie hwn, a chael y pethau oedd yn angenrheidiol, cod— asom yr angor a ffwrdd a ni a'n gwynebaW am Gulf of Mexico. Cawsom ystorm ofn- adwy pan yn croesi Cape Hatteras ar lanau North Carolina- y He mwyaf peryglus i longau, mae yn debyg, ar lanau Gogledd America. Yr oeddwn yn meddwl bob munyd mai yn ddrylliau y byddai yr hen long. Yr oedd y tonau yn 'golchi drosti, y gynau yn dod yn rhydd wrtb i'r llong droi o'r naill ochr i'r Hall, a'r tanau yn dyfod allan o'r ffwrneisi. Llucbid y lleng fel gwibedyn gan y gwynt a'r tonau; ond trwy -rugareld daeth yr ben Brooklyn trwy yr oil yn ddianaf, ac heb ddamwain i neb, oddigerth fod llawer o honom yn sal iawn gan glefyd y mor. Yn mhen rhai dyddiau daethom i'r afon forawl bono, y Gulf Stream. Mae dwfr hon yn lasacli na dwfr y mor, a gwelir lla- wer o chwyn y mor yn nghvda phethau eraill yn cael eu cario gan y ifrydlif yn y cyfiymdra o dair neu bedair milidir yr awr. Teithiasom nes dod i clwg rhai o'r West India islands, ac yno daethom i'r trade winds," a chymerasi:m fantais arnynt, gan dynu yr holl danau allan er mwyn glanhau y berwedyddion a'r peiriant. Codasom yr holl hwyliau ac aethom i ororau Cuba, ac heibio i St. Thomas. Yr oedd yr hinsawdd yn boeth ddychrynllyd yn y Ileoedd hyn. Troisom yn ol oddiyno i Key West, Florida, lie cawsom lo a phethau eraill angen- rheidiol. Oddiyma aethom i warchae Blockade Run- ners wrth enau yr afon fawr Mississippi. Gwelid golygfa fav/reddog o ben yr hwyl- bren-y mor neu y gulf o liw glas a'r hen afon yn llwyd fudr, ac i'w gweled am lawer o filldiroedd yn gwthio ei hun trwyddo gyda nerth anorchfygol, gan ymddangos fel heb gymysgu dim a dwfr glas y gulf. Cofied y darllenydd fy mod yn ysgrifenu hyn oddiar gof yn unig. a'r pethau hyn wedi digwydd dri deg o flynyddau yn ol. Yr oeddym wedi cael gwybod erbyn hyn ein bod ar ein ffordd i gymeryd New Orleans oddiar y gwrtliryfelwyr, a bod Admiral Farragat i I a lywyddu yr ymgyrch Ar ol i ni fod wrth enau yr afon am wyth- nosau heb ddim neillduol wedi dygwydd, ond ein bod yn cael eiu drilio a'n dysgu bob dydd gyda'r gynau, modd bynag, ar ryw fore gyda'r wawr, pan oedd niwl tew ar wyneb y dyfroedd, dyma y look-out oedd ar ben yr hwylbren yn gwaeddi, Sail ahoy I" a'r officer of deck yn gofyn iddo, Where away ?", a'r look-out yn ateb, On the port bow;" Can you make her out ?" She is a large steamer, side-wheeler." Yr oedd y look-out ar ben yr hwylbren yn gallu ei gweled dros ben y niwl; ond nis gallem ni ei gweled oddiar y dec, am fod y niwl mor dew. Mae y cadben yn awr yn rhoddi gor- ehyrayn am i ni slipio yr angor, hyny yw, j .ldio ei godi, ond rhoddi buoy yn gadara wrln y chain i ddangos lie byddai yr angor, fel y sallem ei gael wedi d'od yn ol. Ni faom yn hir cyn cael ager i fyny a myned ar ol y Blockade Runner. Wedi i ni fyned o'r niwl gwelem agerlong fawr yn Hwythog o getwiu, ac yn rhedeg mor gyflym ag y gallai, a ninau ar ei by], mor gyflym ag y gallai ager, hwyliau, a gwynt ein gyru. Trwy nad oedd gan y llong fasnachol ddim hwyliau, a'r gwynt yn ffaf riol i ni, yr oeddym yn enill arni, a dyma ein capten yn rhoddi gorchymyn, "Allhandst to quarters, and clear the deck for action." T'aniwyd un gwn ar ei bol fel rhybtidd iddi aros, ond yn mlaen yr oedd yn myned ym taniasom un neu ddau arall, ond nid oedd dim yn I tycio. Yr oeddynt yn awr yn taflu y fiotwin f i'r mor er ysgafnhau y llwyth, ond yr oedd- ym yn enill arni o hyd a phan welsant nas gallent ddianc ceisiasant ei rhedeg ar y lan, gan feddwl dianc mewn cychod goreu gall- ent. Yn y cyfamser yr oeddym ninau erbyn hyn wedi dyfod yn agos ati, ac yn anfon ein cychod yn llawn o wyr arfog ar eu holau, a bu raid iddynt roddi y llong a'i llwyth i fyny i ni. Wedi i ni fyued i mewn i'r Hong, a chymeryd meddiant o honi, gwelem y prif beiriannydd yn gorwe ld yn farw yn y fire room. Yr oedd wedi amcanu ei chwythu i fyny rhag iddi syrthio i'n dwylaw, ond yn lie chwythu y Hong fe chwythodd ei hun i dragwydcoldeb. Cymerasom hi a'r dwylaw heb ymdrci i Key West, a'u troi drosodd i Uncle Sam. Magnolia oedd ei henw, llong werthfawr, hi a'i 11 wj th. Cafodd dwylaw y Brooklyn wobrwyon arianol am ei dal, pob un yn ol ei renc. Daeth i fy rhan i 42'00 o ddoleri am y divrnod hwnw; yr oedd y swyddogion, wrth gwrs, yn cael llawer mwy. Pan mae llong fel hyn yn cael ei dal, mae y llywodraetb yn hawlio yr hanner, a'r hanner arall yn cael ei ranu cyd- rhwng y dwylaw fel price money." Wedi eu hanfon i Key West daethom yn ol i'r afon, a chawsom hyd i'r angor heb fawr o drafferth. Cymerodd y pethau hyn le yn mis Mawrth, 1862. Erbyn hyn yr oedd llongau ereill yn ymgasglu wrth enau y Mississippi at wneyd ymosodiad ar amddi- ffynfeydd y gwrthryfelwyr. (liv barhau.)
POBL SY'N EFELYLCHU.
POBL SY'N EFELYLCHU. Lie na byddo efelychiad neu ddynwared- iad yn myned yn mhellach na'r hyn sydd anrhydeddus, gellir dweyd Uawer drosto, arddengys gryn raddau o wyleidd-dra neu ostynseiddrwydd mewn unrhyw un i gyd- nabod diffyg mewn gwreiddioldeb meddyliol, ac y mae yn well hyd yn oed i ddynwared hen bethau nag ymorphwys heb wneyd dim. Mewn ystyriaethau eraill, fodd bynag, y mae dynwarediad yn drosedd anfaddeuol. Lie byddo ddarganfyddiad pwysig wedi profi o fudd anrhaetbol i filoedd o bobl, ac ymofyn- iad mawr am dano oherwydd hyny, y mae yn dwyll o'r mwyaf creulawn i unrhyw un fyddo yn hollol anwybyddus o elf enau gwir- ioneddol y darganfyddiad wthio ar bobl ddiniwed a difeddwl, rhywbeth mewn enw neu Ymddan-osiad allarol fyddo yn tebygu iddo, ond mewn gwirionedd yn hollol ddi- werth o'i gydmaru a'r gwir ddarganfyddiad: wrth gwrs yr engraifft mwyaf gwrthnn o dwyll trwy ddynwarediad yn yr ysbyr hwn ydyw llusgo gerbron y cyhoedd feddygin- iaetfhau honiadol, hollol ddiwerth ynddynt eu hunain ar bwys tebygolrwydd arwynebol i feddyginiaeth adnabyddas, y mae y cjfryw ddynwaredwyr yn llythyrenol yn cellwair a bywyd a marwolaeth. Y mae y newyddiadur hwn, yn gystal a holl newyddiaduron y rhanbitrth hwn o'r wlad, wedi cyhoeddi yu ystod y ddwy flynedd ddiweddaf, hanesion rhyfeddol iawn am bersonau a adferwyd i gyflawn iechyd, y rhai oeddynt i bob ymddango&iad bron marw, gan y feddyginiaeth a gyhoeddir dan yr enw Dr Williams' Piuk Pills for Pale People, ac y mae llaweroedd o bersonau sy'n dioddef dan wahanol anhwylderau YI1 y:n- ofyn am yr un feddyginiaeth. Yn an- fforturius, y mae dynion wedi cymeryd mantais ar yr alwad fawr sydd ar y fedd- yginiaeth hon, fel ag y maent yn chwareu ar ddiniweidrwydd y dioddefwyr drwy gynyg iddynt efelychiad o Dr Williams' Pink Pills, o herwydd hyny y mae o bwys mawr i wneyd yn hysbys i'r cyhoedd fod y cyfryw ddichell- ion yn cael eu cario yn mlaen, ac fod yr efelychiadau yn hollol ddiwerth. Pwy bynag sy'n cymeryd arno ei fod yn gwerthu yr un pethau a Dr Williams's Pink Pills, y mae yn eich twyllo, ac y mae y rhai sydd yn gwerthu Dr Williams's Pink Pills yn rhyddion yn ceisio gwerthu pethau di- werth a thwyllodrus. Ni werthir y pelenau gwirioneddol yn y ffordd yma. Y mae y [ rhai sy'n dweyd y gallant barotoi yr un L pelenau yn dweyd anwiredd. Nid oes yn bosibl i neb wybod beth ydyw yr elfenau sy'n cyfansoddi Pelenau Pine Dr Williams. 5 Ychydig amser yn (.)1, eyhoedctwyd yr hyn a elwid yn ddad&nsoddiad o belenau Dr Wil- t liams, yr hyn fu yn fethiant hollol. Meth- "• wyd yn lan a dangos beth ydyw cyfansodd- 5 iad y feddyginiath ardderchog hon. Dylai y cyhoedd gael eu rhybuddio rhag 1 yr hyn a ddywedir yn ami fod Dr Wil- |, liams's Pink Pills yr un petb a'r f eddy gin- iaeth adnabyddus Bland's Pills. Y mae pwy bynag sy'n dweyd hyn yn dangos anwyb .d- 1 aeth dybryd, a bydded pawb ar eu gwyliad- wriaeth na phrynant feddyginiaethau mewn unrhyw ffurf gan dwyllwyr. ) Y mae Dr Williams's Pink Pills yn wir 1 feddyginiaeth at anhwylder' eyffelyb i gryd- [ cymalau, poen y giau, locomotor ataxy, St. 1 Vitus's dance, cur gieuol yn y pen, a gwen- did, lludded, afiechydon y gwaed, megys manwynion, taneiddew parhaol, &c. Maent hefyd yn gryfhaol, adferant i'r croen llwyd, 1 gwelw, liw a graen iechyd yn foddion pen- 1 odol rhag holl anhwylderau neillduol y 1 rhyw fenywaidd; ac i ddynion effeithiant wellhad trwyadl oddiwrth anhwylderau a gyfodant oddiar flinder, gorweithio, neu or- 1 mod rhysedd o unrhyw natur. j Gan fod y Pelenau yma mor effeithiol, y L mae Hu yn ceisio dynwared; ond teimla y jjerchenogion yn dra diolchgar i. unrhyw berson neu bersonau yn rhywle a'u hys- J bysant o'r twyH. Os bydd unrhyw amheu- 1 aeth gwell i chwi anfon eu gwerth mewn stamps i'r Cwmni, y Dr Williams' Medicine ] Company, 46, Holborn Yiaduct, London, am 2s 9c y blwch, neu chwe' blychaid am 13s 9c. Ni werthir Pelenau Dr Wil- liams yn rhyddion, neu wrth y dwsin, neu wrth y cant.
Advertising
Torodd tan allan mewn glofa yn swydd Fife dydd Gwener. Lladdwyd dau lowr ac anafwyd saith yn beryglus iawn. Dinystr- iwyd y shaift yn hollol. Yu ystod ystorm fawr o fellt a thiranau yn Hamburg, Germani, nos Wener, taraw- odd mellten seston yn cynwys oil lamp perthynol i gwmni Seisnig. Aeth yr olew ar dan, a dinystriwyd pump seston o oil. TE PERAIDD MAZAWATTEE TE PERAIDD MAZAWATTEE. TE PERAIDD MAZAWATTEE. TE PERATDD MAZAWATTEE. Mewn pacedi a tiniau, Is 6c i 4s y pwys, gan bob Grocers.
PAttAM ?
PAttAM ? Paham y mae y teimlad cysglyd, difywyd, hwn arnaf ? Paham y boen yn fy nghefn, a beth yw'r achos fod fy mywyd yn peri cymaint o anesmwythdod ? Paham y mae genyf gur mynyeh yn fy mhen, a sut yr wyf yn ei cbael mor anhawdd cael gorphwys- dra'r nos ? Beth yw'r achos fy mod yn colli cnawd, ac yn pasio mau-ro neu geryg yn y dwfr ? Am fod eich gwaed yn llawn o wenwyn uric add, a rhaid ei wihio allan cyn y gellwch adeuiil iechyd. Y mae eich iau yn rhy wau-wjli ei rhedeg i lawr, ei llesgau, a'i gwneyd yn dnvmswrth-i aliu oarthu. y beil sy'n croni ac yn gwenwyno'r gwaed, y cyfansoddiad, a'r elwlod—mae yr organau hyn tyr elwlod) yn methu cyflawni eu swyddog'teth natariol. Dyna'r "Paham Ac os mynwch gael adferiad buan i lawn iechyd, nis gellwch wneyd dim yn well na chymeryd Warner's Safe Cure. Y mae hon yn feddyginiaeth sicr mae yn bywiogi a nerthu'r iau i weithrediad iach- usol. Gall degau o filoedd ddwyn ty^tTol- aeth i'r ffaith hen. Byddwch ddoethion Dywedodd Frederick Fawr unwaith: Pethau dwyfol ydyw ffeithiau nid oes ond ffyliaid a amheuant ffeithiau." Mr G. H»ll, 15, Q^rltPH iStreet, West Hartlepool, a ddywed: Il Yr wyf wedi diodlef o'm plen- tyndod oddiwrth billiousness ac afiechyd yr iau, ac wedi treio llawer math o gyffyriau ond ychydig ryddhad a dderbyniais oddi- wrthynt, hvd ne-i y perswadiwyd fi i roddi prawf ar WaIWr's Safe Cure, a gallaf ddweyd mewn gwj'rloTiC^rl mi dderbyn es- mwythad trwy yr ychydig au^nau cyntaf.'
BRAWDLYS SIR GAERNARFON.
BRAWDLYS SIR GAERNARFON. Cynbaliwyd y frawdlys hon boreu heddyw (ddydd alanv-rth) gerbron y Barnwr Law- rance. Syr Llewelyn Turner oedd blaenor yr uchelreithwyr. Dywedodd y Barnwr fod cynifer ag unarddeg o achosion iliv profi, ond un yn unig oedd yn ddifrifol, sef y cy- huddiad o ddynladdiad yn erbyn chwarelwr, John Owen Parry. Dedfrydwyd William B. Tomlinson, bill- poster, Gwrecsam, yr hwn a brofwyd yn euog yn Mrawdlys Hydref o yru llythyr yn bygythio John.T. Morgan, os na roddai ar- ian iddo, i dri mis o garchar gyda llafur caled. b. Owen Williams, glanhawr clociau, a addefodd iddo ladrata cloc perthynol i'r ddi- weddar Mrs Foulkes, Erw Fair, Bangor, a gwlanen perthynol i R. Evans, Sarn Meill- teyrn. Dedfrydwyd ef i du mis o garchar gyda Hafur caled. J. Jones, cerbydwr, a addefodd iddo gym- eryd lp 14s 6c oddiar ei feistr John Roberts, perchenog cerbytlau, Llandudno, trwy dwyll. Hysbysodd John Roberts fod i'r carcharor gymeriad da yn iiaenoi ol, ac yr oedd yn barod i'w gymeryd i'w wasanaeth os rhyddheid ef. Ar yr amod hon rhyddha- wyd ef ar ei feichniaeth ei hun. John Me Laughliu, mAn-weril-hwr, Caer- narfon a gyhuddid o ladratta oriawr arian, gwerth Iõs eiddo J. Williams, Alltgoch, lilanberis. Cafwyd y carcharor yn euog, a dedfrydwyd ef i chwe mis o garchar gyda llafur caled. Walter Snell, trafaeliwr a gyhuddid o gael trwy dwyll oddiar un Mary Williatus y swni o lp 7s eiddo William Williams, Glan- adda, Bangor. Erlynai Mr Honoratus Lloyd (yn cael gyfarwyddo gan Mr Thorn- ton Jones) ac ainddiffynid gan Mr Ellis J. Griffith (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr R. A. Griffith). Wedi i Mary Williams roddi ei thystiolaetli, cyfarwyddodd y barnwr i'r rheithwyr ddychwelyd rheithfarn o ddienog am nad oedd tystiolaeth yn ei erbyn. William Williams, 17 mlwydd oed, Pen- rhosgarnedd, a addofodd iddo dori cyuffonau gwartheg perthynol i Owen Jones a Mrs Williams, Penrhosgarnedd. Erlynai Mr Trevor Lloyd (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr Thornton Jones), ac amddiffynai Mr Ellis J. Griffith (yn cael ei gyfarwyddo gan Mri D. Owen a Griffith). Yr oedd yr ynadon wedi cyfarwyddo i archvviliad gael ei wneyd i\v gyRwr meddyliol, a rhoddwyd y dystiol- aeth hon gan Dr J. Williams, Caernarfon. Dedfrydwyd ef i dri mis o garchar. Thomas Tersdale, gwas mewn gwesty yn Mhenmaenmawr, a gyhuddid o drosedd an- foesol ysgeier. Erlynai Mr Trevor Lloyd (yn gael ei gyfarwyddo gan Mr J. Porter), ac wedi i un tyst roddi tystiolaeth, cyfar- wyddodd y barnwr i'r rheithwyr ddyweyd nad oedd digon o dystiolaeth yn ei eibyn. Felly rhyddhawyd ef. Bryan Casey, tincer, 33 mlwydd oed, a gyhuddid o ymosod yn anweddus ar Catherine Jane Evans, Gyffin, ger Conwy. Dedfrydwyd ef i bedwar mis o lafur caled. Erlynid gan Mr Trevor Lloyd (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr Porter, Conwy), ac amdditlynid gan Mr Yates. Anfonwyd Jane Evans, Bangor, a John Roberts, Pant, Bethesda, i garchar am fis bob un, am anweddteidd-dra mewn lie cy- hoeddus yn Mangor. Erlynid gan Mr Her- bert Williams (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr S. R. Dew), ac amddiSynid Roberts gan Mr Ellis Jones Griffith (yn cael ei gyfar- wyddo gan Mri Ellis a Davies, Bethesda). C. E. Smith, a fu hyd yn ddiweddar yn is- bostfeistr yn Llandudno, a gyhuddwyd o ladrata y swm o 25s a dal wyd iddo gan John Davies i'w rhoddi yn mane cynilo y Llywodraeth yn Llywodraeth. Erlynid gan Mr C. Lloyd (yn cael ei gyfarfwyddo gan Mr Allanson), ac amddiffynid gan Mr Honoratus Lloyd. Anfonwyd ef i benyd- wasanaeth am dair blynedd. Cyhuddwyd Thos. Jones a Henry Williams, o ladrata dwy alwyn o whisci a 24 potel o gwrw o orsaf Porthaethwy ddydd Sul, y õed o Fai. Erlynid gan Mr Colt Williams a Mr Trevor Lloyd ar ran cwmni y London a'r North Western, ac amddiffynid gan Mr Honoratus Lloyd (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr S. R. Dew). Dedfrydwyd y ddau i bedwar mis o garchariad bob un, gyda liafur caled. Y CYHUDDIAD 0 DDYNLADDIAD. John Owen Parry, Tanybryn, Llanrug, a gyhuddwyd o achosi marwolaeth cydweith- iwr o'r enw Edward Fellows, ar y 27ain o Fawrth, yn Chwarel Glynrhonwy, Llan- beris, dan amgylchiadau y rhoddasom o'r blaen adroddiad llawn o honynt. Erlynid gan Mr Ellis Jones Griffith a Mr Bryn Ro- berts, A.S. (yn cael eu cyfarwyddo gan Mr Mostyn Roberts ar ran y Swyddfa Gartrefol); ac amddiffynid gan Mr Honorable Lloyd (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr J. T. Ro- berts, Caernarfon). Wedi gwrando y tyst- iolaethau o blaid yr erlyniad gofynodd y Barnwr i'r rheithwyr a oedd arnynt eisieu e!ywed y tystiolaethau dros yr amddiffyn- iad. Credai ef mai annoeth oedd cyhuddo dyn ar y fath gyhuddiad difrifol ar sail y tystiolaethau a roddwyd o'u blaenau. Ar ol ychydig o ystyriaeth dygodd y rheithwyr reithfarn o "ddieuog heb alw ar Mr Lloyd i'w hanerch, a rhyddhawyd y cyhuddeuig.
Advertising
TP1 PKIiAIDJJ MAZ A W A i'TiS H TE PERAIDD MAZAWATTEE TE PERAIDD MAZAWATTEE TE PERAIDD MAZAWATTEE Mewn pacedi a tiniau, Is Gc i 4s y pwys, gan bob grocer. Deallwn fod Mr Owen wedi gwerthu lotiau ychwanegol y dyddiau hyn o ystad Pant Afon, Llanrug, fel nad os yn awr yn aros ond yn unig yr Hafod."
ROBERT THOMAS, LLIDIARDAU.
ROBERT THOMAS, LLIDIARDAU. Un rbyfedd iawn oedd yr heu bregethwr Methodistaidd, Robert Thomas, Llidiardau, ac fel hyn yr adroddir au* dano gan ei gof- iantydd doniol, y Parch Owen Jones, B.A.: —' Yr oedd yn gwneyd defuydd o dobaco mewn dwy wedd, sef trwy ei ysmocio a'i gnoi, ond i raddau pur gymedrol. Dywedai fod yn haws iddo gnoi wrth weithio a theithio; ond yr oedd yn hoff o fygyn yn y ty. Tun'r adeg hon ymunodd cwmni a'u gilydd i droi tobaco heibio yn gwbl; ae yr oedd coron o ddinvy ar y neb a dorai ei ben- derfyniad. Parhaodd hyn am dipyn. Ond ryw noswaith collodd Sarah ef o'i wely, a chan ei fod yn hir, aeth i chwilio am dano; a chafodd ef yn y gegin, a'i draed un ar bob penÜm a'i ben yn y siuiude yu ysmocio ei oreu. Yr oedd awydd mygyn wedi codi arno pan yn methu oysgu, a rhag i neb yn y ty afugli y if.1 n £ i achwyn arno wrth y. gymdeithas meddyiiodd am y ddyfais hon. Ni l'eddyliodd yr hen law byth wedyn am roddi i fyny ei fygyn a'i getyn cwta. Gan fy mod (ebai Idriswyn) we-I rjechreu son am yr iiyiKxl Robert Thomas, nis gallaf yinatal rhag rhoddi yr hanesyn caulynol am dano pan ar d/ith gyda'r addfvvyn Cadwaladr Owen yn y Deh,ulir yma:Fel yr oedd yn rhaid i arall ofaiu am ei wisg a'i ddiwyg cyn cychwyn, felly yr oedd yn rbaid ar hyd yr holl ffordd fel pe buasai efe blentyn bach. Un diwrnod gwelai C. O. olwg go ddilun ar ei grys, a dywedai wrtho wrth fyned i'w wely, fod ganddo grys rhyfedd iawn. "Y e1 oe8,' meddai yntau, ni bu genyf yr un erioed rhyfeddach. Fe wnaeth Sara, a rhyw hen sobi o heu bogen, grysau i mi cyn cychwyn. y crysau rhyf- pdiaf fd am {lanaf fi Crloed.' Aeth C. 0. i l edrych, ac wedi craffu dywedodd,—'Wei, aB.obert bach, y mae gwyneb y crys ar eicn oe/a, a chefn y crys ar eich brest cbwi. Y cbwi sydd wedi ei roi am danoch y tu chwith. Yll nilaen. Crys yn cau y tu ol ydyw h. 'n.' Beth ddarfu i'r dyn-wel, ie yn saff cld)Jon felly y mae,' meddai toc; y fath hen lob jwmon ydwyf fi, a minau yn rhoddi y bai ai-1 Sara a'r hogen.' Y mae yn debyg iddo fod ddyddiau a choler y crys ar ei war, heb wvbccl nad oedd fel y bwr- iadwyd iddo fod. jPywedir i C. Owen, gyda'i ofal arferol am dano, edrych arno wrth fyned at ryw dref, a dweyd—' Y mae eich crys braidd yn fudr, Robert.' 1 Ydyw, dywedwch ? Wel, mi newidiaf fi o/ le, mi fydd amser yn y ty cyn myned i'r capel.' Na, mi newidiaf fi fo y mynyd yma,' ac felly fu, ar ganol y ffordd fawr; ac wedi gorphen aeth o hyd i'w gyfaill, a'r pethcyn- taf a welai hwnw oedd braces" Robert yn crogi un o bob tu i'r ceffyl; yr oedd wedi anghofio eu codi dros ef ysgwyddau." Yr oedd yr hen bregethwr hwn mor Hawn o athrylith fel yr ymgollai i. bobpeth arall o'i amgylch Wedi cyffwrdd a'i enw, y mae'n anhawdd peidio rhoddi un stori arall am Robert Thomas, Llidiardau, pan ar daith yn y De gyda Cadwaladr Owen:—"P.egethent ar ganol dydd gwaith mrwn ardal yn nhanol gweithiau glo. Hysbysid amgylchiadau yr ardal i'r pregethwyr cyn mynd i'r capel, fod yn debyg y deuai llawer i'r capel yn union o'r gwaith gan na chaent amser i ymolchi, gan eu hawydd i glywed y gwyr dyeithr, ac y deuent pan y byddai un o honynt yn pre- gethu efallai, ac iddynt beidio chwitho yn yr olwg arnynt. Ni chymerodd Robert Thomas yr un sylw o'r hyn a ddywedid, ac ni wyddai i ddim o'r fath gael ei ddweyd yn ei glyw, ei feddwl, mae'n debyg, yn rhy lwyr gyda'i bregeth i wrando ar ddin. Dechreuwyd yr I. odÍa, mewn cynulliad go fychan; ond pan yr oedd Robert Thomas wedi mynd i ganol ei bregeth, dyma y colliers yn haid i'r capel, heb na newid dillad nac ymolchi, i glywed 'y gwyr o'r North," ac yr oeddynt cyn ddued ag ysgubwyr simneiau; ar hyn fe dawodd y pregethwr yn sydya, edrychodd arnynt yn syn, a dywedodd—'Y mae golwg mwy tebyg i gvthreuliaid arnoch chwi nag i ddynion yn dyfod i wrando yr efengyl: ni fedraf fi ddim rly dweyd dim yn ychwaneg wrthych. Bendith arnoch, A'nen.' Dechreuodd C. Owen ar ei ol, fel pe na buasai yno ddim anghyffredin ac yn ol ei arfer tarawodd ar ryw danau yn nghalonau y bodau duon oedd o'i flaen a brofodd yn fuan mai dynion oeddynt a chyn diwdd yr odfa yr oedd ffrydiau o ddagrau yn llifo dros eu gruddiau duon." Ac nid oedd neb yn barotach i gyfaddef ei fod wedi camgymeryd na Robert Thomas.
GOLYGFA MEWN LLYS BARN.
GOLYGFA MEWN LLYS BARN. Yn heddlys Westminister, ddydd Llun,am yr haner canfed tro, cyhuddwyd Jane Mara, 29ain mlwydd oed, o fod yn feddw ac afreolus. Yn ei breichiau yr oedd baban bychan gwael a theneu. Ar ol profi'r cy- huddiad galwodd y warder sylw at y cy- I huddiadau a brofwyd yn ei herbyn yn flaenorol, pryd y tarawodd y ddynes ef a'i ddwrn yn ei wyneb. Aeth yn ymladdfa rhwng y ddau yn y doc, a Hefai'r baban yn ddychrynllyd, ac oni bai i arolygydd ei dynu oddiar y fam mae'n eithaf posibl y buasai wedi cael ei ladd. Bu raid cael pedwar o heddgeidwaid i fyned a'r ddynes oddiyno. Anfonwyd hi i garchar am fis am feddwdod, ac am dri mis arall am daro swyddog. Melldithio'r ustus a wnai Jane pan symud- wyd hi o'r llys.
Advertising
TE PERAIDD MAZAWATTEE. TE PERAIDD MAZAWATTEE. TE PERAIDD MAZAWATTEE. TE PERAIDD MAZAWATTEE. Mewn pacedi a tiniau, Is 6c i 4s y pwys, gan bob Grocers. Yn Hartburn, ger Morpeth, syrthiodd y Parch W. P. Shepperd, clerigwr o Preston, a lladdwyd ef yn y fan. TE PERAIDD MAZAWATTEE TE PERAIDD MAZAWATTEE TE PERAIDD MAZAWATTEE TE PERAIDD MAZAWATTEE Mewn pacedi a tiniau, Is 6c i 4s y pwys, gan bob grocer. ,NO 4, jpr MAE LLUN I FEL 4" -,A v GALON HYN AR BOB BLWCH 0 HUGHES'S BLOOD ) l. LJ PILLS. HEB HYN T'SVYLL YDYW Y mae "HUGHliS'S BLOOD PILLS" a luii y galoQ arnynt yn \J IdygiiiiaetU at y Qwasd, y Croen, y Serves, y Cylla, yr Afu Arenaut I NI WELODD Y B YD EI TEBYG Y :n h o b afiechyd ac yr ydyin yn gwy- bod am dano y mae HUGHES'S BLOOD PILLS, wedi gwneyd mwy o dda-ion; I v I I a neb arall. GAlli AT Y, BOBL. Pan y bydd aWl" neu Wraig, Mab neo Fercb, yn dioddef oddiiwrth Waed Drwg Tarddiantau v Croerti,Poeil Pen, Afa Drwg, Diffyg Traul, Gwynt, Biliousness, Nerrea Egwan, Gwynegon, (hI a Ghvan, Poen yt Arenau ac yn y Cefn Corff rwymedd, Piles, &c., yr hvn 011 sydd yn tarddu oddiar Waed Drvyg a G wan, cymerer HUGHES'S .Â>' .íL..Å BLOOD PILLS Y rbai fs'cli gwellliaut yn bur- fuan. mawr yn cael en hiachau yn flyn^rfdol. Y MAENT YN IACHAU PAN If DD BOB PETH ABAJLX YN NEI -iU. FEJ LY fIEn OKDi Danfoner am danynt oddiwrth y Chemist neu Worthwr Patent Medicines. Eu pris 'w Is. lc., 23. 9c., a 4s. fk., ueu danfoner gan amgau Stamps at y Darganfyddwr, JACOB HUG EES, Manwfactiirin Cite iYilst, PEN A LlT H, 0.,1 R DIFF Yr hwn a'u danfona gyda Throad y Poat Agent yn .America-MR WILLIAMS, Medical Hall. Plymouth, Penn. POBLOGJiW YDD CYFFREDINOL. PERFUME YSPLENYDD, ,%gum EM COKEKTRLnr, BLOSSOMS Crab Apple Blossoms A'U BYD-ENWOG CROWN Lavender Salts. 0 v GWERTHIR DROS 500,000 0 BOTELI BOB BLWYDDYN. Rhoddwch brawf ar y Crab Apple Blossoms Perfume a'r Lavender Salts. gwerthfawr. Y maa elfen barhaol yr ogleuydd swynol hwn yn peri ei fod yn rhatach na'r rhai cyffredin a llai eupris. GWERTHIR YN MHOB MAN. THE CROWN PERFUMERY 08., 177, New Bond street, London. Q^OBE p UKNISHING^IOMPANt Dodrefnwyr Tai Cyflawn, Cyfanwerthol. Manwerthol. 12, 14, 16, a 18, PEMBROKE PLACE. LERPWL. DCDREFN AM ARIAN, NEU AR f GYFUNDREFN LOG-FENTHYCIOL AM BRISIAU ARIAN PAROD. CWMNI DODREFNOL Y GLOBE yw yr hynaf a'r eangaf o'r rhai sydd yn dwyv ymlaen fasnach ar y gyfundrefn log-fenthy- ciol yn y talaethau; y maent yn Oyflenwi dodrefn i dai, gwestai, a phalasau, llawer iawn rhatach nag y gwna y mwyafrif o'r masnachdai sydd yl gwerthu am arian parod yn unig. Yr ydym yn alluog i wneyd hyn drwy fod genym gyfalaf mawr at ein-alwad ac hefyd drwy ein bod yn wneuthurwyr y prif nwyddau a werthwn. NID OES EISIAU SIC W\NTSG DIM TRtiULlAU YCH uJG-Ji. AR EIN GYFUNDREFN FEN- THYCIOL. Y mae ein dull teg a cbyflawn o ddwyn ein masnach yn mlaen, a'a telerau rhesymol, a'r prisiau isel mor adnabyddus trwy Ogledd Llotgr a Chymru, fel nad oes eisieo • ych /aneg o sylwadau. telerau cyifredinol, y rhai, fodd bynag gellir eu newid i gyfarfod cyiieusderau em cwsmeriaid. Taliadau wyfcluiosol, misol chwarterol:— Swm y pryniantlOp, Taliad 0 3 6 yr Bnus. „ 20p, 0 5 0 „. 60p, 0 10 0 „ lOOp, „ 0 17 6 „ 600p, 4 0 0 „ Bydd iarchwiliad o'n Stoc roddi ar uu- waith foadhad i'r rhai sydd yn bwriadu pwrcasu, n bod yn rhoddi gwell gwerth a thelerau haewddach 0 dalisdau na'r un mus nachdy cyffelyb yn y Talaethau. DODREFNIR AM ARIAN, NEU AR Y GYFUNDREFN LOG-FENTH JCCIOL Anfunir Goygleni newyddioa, liliagleii fawr Ddarlyiadol, Barn y W*sg, a'c Prit- restr dewy llythyrdy ar aroliiai. Enwch y papyr hwn. GLOBE FURNISHING COMPANY 12, 14, 16, a 18, PEMBROKE PLACE LERPWL. Argrattwyd a chyhoeddwyd gan Gwmiii' Wasg Genedlaetbol Gymreig, Cyf., yn eu swyddfa, Balaclava roal, Ca^inarfoa j