Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
J Permanent Carbon O'J Portrait BY SARONIE, Atelier, 3 LORD STREET, Liverpool. WHAT BETTER. MAKE APPOINTMENT. lIours-9 to 6. Saturday, 9 to 5. cion Parle Francais. Slaredir Cymraeg Day and Electric Light.
Advertising
-Perfect wmmammmmmm■ Pastry KEENORA Self-Raising FLOUR. Pastry, Scones, Buns, etc., are ALWAYS light in the homes where Keenora Self Raising Floor is J reeularlv used. r| There is no other Self-Raising 1j Flour on the market which is JUST II the same as 'KEENORA." Try M it and see what a boon it is. It I offers ■ Better Results without Added I Expense. Z To be had from all Orocers and I Italian Warehousemen- I Better Results without Added I Expense. Z To be had from all Orocers and I Italian Warehousemen- I ■ »l Sole Wholesale Agents- MORRISI<5 JONES Liverpo 0,
Advertising
Beaty Bros., Ltd., CELEBRATED TAILORS. | Largest and Most Up=to=date StocK in City.. • • 37 to 43 LONDON ROAD, 28 to 30 CHURCH STREET, LIVERPOOL. ——————— JONES'S Summer Sale SATURDAY NEXT, JULY 17th. ^shades giving away prices, ^Hier Blouses and Shirts Half Prices. WtePing Reductions in Gloves and Hosiery. °Unding Bargains in Millinery. Urea«.. pk. Sa*e of Summer Dresses. Wren's Paletots at Half Prices. ^e^Uctions in Ladies' and Children's Underclothing. Sale of Ladies' Belts, Purses & Satchels. Sowers and Foliage greatly reduced. e of Ribbons, Laces and Needlework. ^^rSains in Gent's Outfitting. and Muslins Greatly Reduced. FORGET SATURDAY NEXT to WINDOWS THURSDAY AND FRIDAY-DRESSED WITH :SENSATIONAL BARGAINS. "rial Order will be esteemed. Post Orders prompt and careful attention. JONES,s ",BEE HIVE9 59,61,63 Brunswick Rd., Liverpool. FOR ALL THOSE EYE- AND HEAD TROUBLES CALLING SIMPLY FOR GLASSES. WOOD, ABRAHAMS' Undertaking to keep their glasses right for the sight free for 2 years, keeps all strain away. Only by removing the strain can the sight be preserved till extreme old age. WOOD, ABRAHAM'S, OPTOLOGISTS.LORD ST. 4 Gt,CHARLOTTE ST ROBERTS Et^frARDS ESTATE AGENTS, 64 Kirkdale Rd., Liverpool. Telephone: 2193 Royal. COOK & TOWNSHEND. -0- Special Bargains THIS WEEK. Boys' Norfolk Suits, 8/11 Boys' Henley Suits, 9/11 Boys' Rugby Suits, 12/9 BEST VALUE IN THE CITY. Byrom St. & Dole St., LIVERPOOL. ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and BottleSr SODA WATER. POTASH WATER. SELTZER JWATER. LEMONADE DRY GINGER ALE. Eto., etc.! IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St. LIVERPOOL, Ride the C E World famed Y Eaey Payments iiPHim PER 4d' DAY- L 9 EM I The Bee Cycle & I Motor Co., I & 3 Wavertree rd <% Liverpool. City Depot: 28 Gt. Charlotte Street Rider Agents Wanted. Send for Lists, Established 1885. Telephone, 2853 Royal
l LYTHYR GWLEIDYDDOL
l LYTHYR GWLEIDYDDOL [GAN Y GWYLIWR.] OV Tibr, Westminster, $. Nos Fawrth, Gorff. 13, 1909. Y Blaid Gymreig yn Ymysgwyd. NA, camgymeriad fyddai dweyd fod y Blaid Gymreig yn y Senedd wedi marw! Nid yw agos mor effro ag y dylai fod yn wir, y mae wedi treulio cryn amser mewn trwmgwsg ond y mae'n dechreu ymysgwyd unwaitli eto. Cyfarfyddodd, dipyn yn afreolaidd feallai, ond fe gyfarfyddodd yr wythnos ddiweddaf i ystyried ei safle yn wyneb colli Mr. Herbert Lewis o ystafell y Whips. Mewn canlyniad i brotest y Blaid rai blynyddau yn ol fe osodwyd Mr. Lewis mewn swydd gan y diweddar Brifweinidog fel Welsh^ Whip," ac arehwyd i'r aelodau Cymreig i wneud defnydd ohono fel y cyfryw, pryd bynnag y dymunent ddod i gyffyrddiad agos a'r Weinyddiaeth, neu a rhyw aelod penodol ohonni ar unrhyw fater o bwys yn dal cys- ylltiad a Chymru. Mae'n wybyddus i ni fod Mr. Herbert Lewis wedi bod o gryn was- anaeth i'r btaid yn y oysylltiad, ac yr ydym yn dra aier y teimlir ei golli o YstafelJ y Cyrmull os na lenwir ei le gan aelod Cyinreig arall. Pwy Geir ? CYFJjKUSTBA. Woinyddiaeth ac nid mantaib personol Mi". Herbert Lewis, barodd iddo gaol ei sy mud i'r Local Government Board. Oblegid Ivyii ny, nid vw Cymru o dan unrhyw ddyled i'r Weinyddiaeth am y dyrehafiad sydd wedi digwydd (yn hollol haeddiannol, cofier) iddo, ac y mae ei hawl i Whip Cymreig vn arcs. Mae'r Ysgotiaid, fol arfer, wedi caei eu cyfran yrn inhenodiad Mr. Gulland, fe ddylai Cymru gael ei rhan hithau ym mhell- odiad, dyweder Syr Herbert Roberts neu. William Jones yn lie Mr. Herbert Lewis. Oherwydd rhyw reswm nas gall neb y tu allan i'r Cylch Cyfrin ei esbonio, fe benodwyd Sais (Mr. Partington) yn lle'r Ysgotyn (The Master of Elibank) ac Ysgotyn (Mr. Gulland) yn lle'r Cymro (Mr. Herbert Lewis). Pwy raid oedd am le fel hyn i Mr. Partington, aelod cymharol ieuanc a dibrofiad, nid wyf yn gwybod, ac y mae llawer yn barod i ddweyd mai camgymeriad oedd. Os daw Mr. Part- ington yn ol (ac yr ydym yn hyderus y daw, am ei fod yn Rhyddfrydwr ffyddton ac egwyddorol) y tebygolrwydd ydyw, y cymer ad-drefniad arall le yn fuan yn y Whips' Office, ac yr ydym yn lied hyderus y gwelir Cymro yno eto megis yn y blynyddoedd diweddaraf. 0 ie, yr hyn a wnaeth y blaid Gymreig yn y mater ydoedd gofyn i byr Alfred Thomas fyned i weled Mr. Asquith ar y pwnc. Ymddengys ei fod wedi gwneud hynny, ac yr ydym yn deall ei fod yn ystyried atebiad ac addewid y Prifweinidog o ber- thynas i'r swydd yn y dyfodol yn foddhaol. Dad-gysylltiad. NAs nid ydyw Dadgysylltiad wedi marw ychwaith, er fod y campaign wedi syrthio i'r gwellt Cyhoeddodd un o ivewyddiadurwyr crediniol y Wasg Seisnig y dydd o'r blaen fod trwst ym mrig y morwydd Ceidwadol, a bod SV blaid ryfedd honno yn barod i werthu braint yr Eglwys Wladwriaethol am saig y gwaddoliadau—mewn geiriau' ereill, yn barod i ganiatau Dad-gysylltiad ond i Anghydffurfwyr beidio pwyso am Ddad- waddoliad. Y mae rhyw fath o Dorlaid hwyrach a werthant eu genedigaeth fraint, modd yr enillant swydd, ond nid drwy foddion fel yna y daw Dad-gysylltiad. Mwy ym- arferol i ni ar hyn o bryd ydyw ymholi both y mae Rhyddfrydwyr Cymru a'u cynrychiolwyr yn y Senedd yn ei wnend gyda'r mater. AT wahan i Clement Edwards, yr hwn sy'n hwmian fel cacynen wyllt mewn bys coch," nid yw yr Aelodau Cymreig yn gwneud dim ond aros mor ffyddiog ag y medrant am y tymor nesaf," pryd y bydd eu Mesur hwy (gobeithiant)ary blaen. Yn y cyfamser, mae tri ohonynt yn mynd i gyfarfod rhyw niter o gynrychlolwyr a ddewiswyd gan y Cyngor Rhyddfrydol Cenedlaethol Cymreig pryn- hawn yforu yn Nhy'r Cyffredin i ystyried pa fesurau y byddai'n ddoeth eu cymeryd i gadw'r pwnc yn fyw gerbron y wlad. Ym- ddengys i ni fod rhyw wall yn y cynllun. Pan roddwyd terfyn ar y campaign a fugeilid mor ddeheuig (os gellir bugoilio campaign) gan y Pareli. Toliri Hugh Edwards, gynt o Aberystwyth, yn awr o Peckham, y syniad oedd y gellid gadael i'r pwnc weithio ei gwrs gwleidyddol priodol ei hun. Ond y mae rhywun a'i fys yn y browes o hyd ac mae'n debyg y gwneir rhyw ymgais y fory i gan y Parch. -Tolin Hugh Edwards, gynt o Aberystwyth, yn awr o Peckham, y syniad oedd y gellid gadael i'r pwnc weithio ei gwrs gwleidyddol priodol ei hun. Ond y mae rliywun a'i fys yn y browes o hyd ac mae'n debyg y gwneir rhyw ymgais y fory i beri i'r crochan ferwi, gan nad betli a ddi y, wydd i'r|bys wydd i'r|bys Addysg Athrawon. MAE'r Blaid Gymreig yn cyfarfod prynhawn yforu i ystyried y Rheolau Newyddioh a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Mr. Walter Runciman, neu yn fwy tebyg Syr Robert Morant, ynglyn a'r Training Colleges. Dy- wedir fod y rhai hyn wedi eu trefnu yn y fath fodd fel ag i gau allan nifer liosog iawn o efrydwyr yr Ysgolion o Golegau y Brifysgol yng Nghymru, a bod y gofynion yn gyfryw fel nas gall ond ychydig o'r ysgolheigion byth obeithio eu cyfarfod. Bernir mai mewn anwybod y gadawodd Mr. Runciman hwynt i ddianc o'i ddwylo, a beir swyddog arhosol y Swyddfa Addysg am ganiatau iddo syrthio i'r cyfryw amryfusedd. Yr wyf yn deall fod Llywydd y Bwrdd Addysg erbyn hyn wedi gweled ei gamgymeriad, ac y bydd iddo, naill ai ei egluro ymaith, neu ei gywiro. Myn -Clement Edwards fod dichell gwrth-Ddad- gysylltiol yn gystal a drygau ereill i'w canfod yn y Rheolau Newyddion, ac y mae yn hwmian yn fwy llidiog nag erioed yn y bvs coch. Rhyngddo ef a'r aelodau yr edrych Clement i lawr arnynt, sef y gweddill o'r Blaid Gymreig, y mae Mr. RUllciman yn wynebu amser lledanhapus pan ddaw pwnc Addysg ger bron ddydd lau. -0-
LLITH LLUNDAIN,
LLITH LLUNDAIN, [GAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG]. Y Brifddinas, Nos Fawrth. Hyd yr Oriau Man. EISTEDD hyd oriau man y bore a wnaeWi Ty r Cyffredin am dair noson yr wythnos ddi- wedtlaf i ddadleu'r Mesur Cyllidol, a cliollodd amryw o'r aelodau eu tymer fwy nag unwaitli. Nid peth an odd yw hynny i rai ohonvnt o dan yr amgylchiadau hyfrytaf, y mae 'n ddwywaith haws pan fo'r amrantau yn galw am dawel wch i huno. Cymer ysbrydion gwylltion yr Wrthblaid fwy o fantais ar Gadeirydd a Dirprwy-Gadeirydd y Pwyllgorau nag a feiddient gymeryd ar y Llefarydd, a phob tro y rhoddir y Cloadur mewn gwaith, crocli- floeddiant yn ddilywodraeth. Y mae pleid- wyr y Llywodraeth yn aberthu cwsg, ac yn goddef ffyliaid yn amyneddgar, os nad yn llawen, er mwyn cario'r Mesur drwodd. Cedwir y mwyafrif yn rhywle rhwng y cant a hanner a'r deucant ymhob rhaniad bron, ac nid oes son yn awr am yr 11 ogof y dywedid rai wythnosau yn ol oedd yn mynd i wneud hafog ar gynhygion Canghellwr y Trysorlys. Ond ychydig iawn o gynnydd a wneir gyda'r Mesur. Nid yw'r ail adran wedi mynd drwy'r Pwyllgor eto, ac y mae mwy o welliantau ar y papur heddyw nag oedd wythnos yn ol. Os na wthir y Mesur ymlaen yn gyflymach nag y gwnaed y tair wythnos ddiweddaf, bydd yn Galangaeaf cyn y'i danfonir i Dý'r Ar- glwyddi. Ymgais y gwrthwynebwyr, wrth gwrs, yw gorfodi'r Llywodraeth i ddefn- yddio'r Cloadur ar adrannau cyfain, iiiodd y caff o'r Arglwyddi esgusawd dros ei daflu allan, oherwydd 11a roed i Dy'r Cyffredin gyfle digonol i'w ystyried. Hyd yma, y mae'r Llywodraeth wedi gwrthsefyll y demtasiwn i wneud dim o'r fathr eisteddir hyd dri a phedwar o'r gloch y bore yn lie hynny. Y mae'r eisteddiadau hirion hyn yn dreth drOlll iawn ar Mr. Lloyd George, ac yn peryglu ei iechyd ef. Edrycha lawer yn hyn nag yr edrychai flwyddyn yn ol. Ond ceidw ei fywiogrwydd a'i fedr a'i sirioldeb heb yr amhariad lleiaf. -<> Y Clwb Cymreig. DANGHOSAI yr adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod blynyddol y Clwb Cymreig yr wyth- nos ddiweddaf fod y sefydliad mewn cyflwr pur lewyrchus. Rhifa'r aelodau tua saitIt cant, ac y mae'r sefyllfa ariannol yn llawer iawn mwy boddhaol nag ydoedd ddeuddeng mis yn ol. Sefydlwyd y Clwb yn 1905, a bu yn byw am dros dair blynedd ar y seithfed llofft yn 2 Whitehall Court. Ym mis Medi diweddaf, symudodd ei drigfan i 4 Whitehall Court, i ystafelloedd ar yjllawr isaf, ac er hynny, y mae wedi ychwanegu ugeiniau at rif ei aelodau, a mynychir ystafelloedd bob hwyr gan luoedd o Gymry'r Brifddinas. Nid oes i'r Clwb liw politicaidd na chrefyddol-cenedlaethol ydyw yn ystyr ehangaf y gair. c «■ Mynd a'r Tlodion Cymreig i'r wlad. Y MAE'N arferiad bob blwyddyn trefnu diwrnod yn y wlad i Gymry tlodion LIun, dain. Y Cenhadon Cymreig o dan Gen hadaeth Ddinesig Llundain a ofalant am y gorchwyl daionus hwn, a cliant gefnowaeih Q--