Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
"TROAD Y RHOD."
"TROAD Y RHOD." [GAN GWYNETH VAUGHAN]. PENNOD XV.—Y CROCHAN BERWEDIG BoRE drannoeth aeth Nora Dermot a'i chyfeilles Siarlot Jenkins am dro yn eu cerbyd bychan i gael golwg ar y stryd felen fach yn Llan Elen. Mawr fu croeso yr hen denantiaid iddynt. Ni chofiodd Malen son am ei breuddwyd, ac nid oedd Guto Shon wedi bod mor lion ers amser maith. Cerddai yn ol ac ymlaen tra bu'r cerbyd yn aros yn yr heol,er nad oedd yno prin ddigon o le iddo ef a'r cerbyd basio eu gilydd ar unwaith heb gyffwrdd y naill y Hall. A phan ddaeth y genethod ieuainc i ysgwyd llaw ag ef yr oedd Guto ar ben ei ddigon Dim nobliach ladies yn unlle, nag oes," ebe, yn eithaf siwr ei feddwl nad oedd yn cvfeiliorni ar y pwnc hwnnw beth bynnag. Tra byddwch chwi yn rhoi tro tuag adre, Siarlot," ebe Nora, mi af innau i wneud ychydig negesau, mae yna rai o'r pysgodwyr yna tua Glan y Mor y rhaid i mi gael golwg arnynt cyn i mi fynd adre' Aeth Siarlot i holi hynt ei bewythr a'i mam, Nora, i roddi'r ceffyl mewn ystabl, ac i wneud y man negesau cyn cychwyn tua'r mor. Sylwodd fod yn y dref gryn dyrru o gwmpas, ond tref fechan brysur, yr arferai Nora feddwl am dani, ac ni wnaeth yr olwg ar ddynion yn ymgotnio a'u gilydd fan yma a fan draw beri iddi feddwl fod dim o bwys gan yr un ohon- vnt i'w drin. Cerddodd tua glan y mor, ond cyn ym- weled a'r pysgodwyr-neu yn hytrach a u gwragedd a'u platit,-),maitli a lii i gael gc)l\vg ar yr hen grochan berwedig ynghanol y graig. Mae hi'n bur stormus tua'r fan yma," ebe Nora wrthi ei hun, hwyrach y caf glywed y rhuo o'r mor fan hyn," ac oistecldodd wrth ymyl y dibvn. Ond yn lie clywed y rhuo, lleisiau dynion ddaethant ar yr awol 0'1' ochr arall i'r graig i'r lle'r eisteddai Nora. Pwy fuasai'n meddwl fod yr hen greadur wedi cymryd y peth ato mor ofnadwy. Mae'n wir 'i fod o wedi gneud hylltod o waith tua Llan Elen yma, ond rhyw neud er 'i fwyn 'i hun yr oedd o wedi'r cwbwi. Mae'r son am Dan Lloyd wedi 'i orffen o. Dyna fachgen ydi Dan. Mi fydd y llanc yna wedi helpu tipyn, os oes bywyd ac iechyd iddofo, i roi Cymru Newydd.i ni. Mae Dan yn ddoeth fel 'i fam, yn gall fel 'i dad, ac yn wr bonheddig ffit i sgwario'r goreu ohonyn nhw aed o lle'r elo fo." 0 ydi, dyna'n dyn ni, a rhaid i ni gael o hefyd. Mi gei di weld y bydd yma ddigon o droi a throsi i geisio cadw pethau yn ol yr hen drefn, ond mae hi yn rhy hwyr. Newid mae'r byd, a rhaid i ninnau newid hefyd os am fynd ymlaen, neu droi o'r ffordd i neud lie iddo fo basio." Nis gwyddai Nora yn iawn both i wneud. Nid oedd yn foddlon eistedd yn y fan honno i wrando ar ymddiddanion cyfrinachol efallai, ac nid oedd chwaith yn foddlon i golli y swn a'r mor oedd mor hoff ganddi. Ceisiodd dynu sylw y dynion, ond nid ystyrient hwy ddim yn ei chylch hi na neb arall. Cariai yr awel y swn oddiwrthynt hwy ac nid atynt. Mi fyddai'n eitha boddlon i roi fy fot i rwan i Dan Lloyd, mi gawn weld sut drefn fydd arno fo ymhen tipyn bach, dyna mae'r boys yma i gyd am neud hefyd, ond o'm rhan i fy hun un ohonom ni, dyn wedi arfer gweith- io faswn i'n leicio gael hyd iddo fo." Lie cawn ni bres iddo fo ? Faint y fiwyddvn ddylai'i gyflog o fod ? Dyma ni yn enniU pob tamaid yn eitha drud ar yr hen ddwr yma, wyt ti a minnau yn barod i godi un ohonon ni, a rhoi digon yn 'i boced o i fynd i'r Senedd '? Na, mae" r byd yn rhy galed o lawer iawn, fedrwn ni mo'i neud o." Waeth iti p'run am hynny, dyna'r dyn I ddadleu'n hachos ni. Dyn wyr beth ydi gweithio'n galed am gyflog bach." Mi fydd Dan Lloyd mor driw i ni a phe bae o wedi gneud dim ond pysgota ar hyd 'i oes, mi gei di weld. Sut bynnag, fedri di na minna ddim cadw neb ond y rhai raid i ni rwan beth bynnag." Faset ti ddim yn disgwyl i saer fod yn driw, fachgen ? Ond 'doedd o ddim." Wei, os felly, roi di ddigon o arian ym uxhoced un ohonom ni, a gyr o i Lunden, lie 'rwyt ti wedyn, gad glywed." 0, mi stopiwn ni'r cyflog os na chaiff y "'waith 'i neud yn iawn. Nid rhyw lond sach yn y dydd fel oedd yr hen Forris yn droi heibio oeddwn i yn 'i feddwl, ond rhyw gyflog gweddus i ddyn fedru byw arno to, 'Sgwn i sut mae hi ar yr hen law erbyn hvn ? Wei, mae yna rai ohonoch chi yn dechra gneud i ffwrdd ag uffern, ac os nad oes yna uffern, wn i ddim lie mae'ch cownt chi o'r nefoedd ar gael, felly hwyrach bod hi'n eitha arno fo os ydi o wedi peidio byw yn un man. O'm rhan i, os nag oes yma siawns am ddim ond y tipyn byd yma i amal un ohonon ni, 'dwn i ar groen yr holl ddaear beth ydi diben bodolaeth dyn yma yn wir. Dyn a anwyd i tlinder fydclai hanes y mwyafrif mawr ohonon ni. Mi "fase'n syndod i amal hen bererin glywed fod yma ddynion yn Llan Elen hedd- vw yn ansicir eu meddylia ynghylch y byd a r bywyd goreu hefyd." Ar v dynion mae'r bai os oes gorfod ar ddyn fynd i gredu na wel yr un ohonoch chi werth mewn dim ond y pethau allanol yma. 'Qoes dim posib peidio mynd i gredu bod yma bethau ymhell iawn o'u lie a deyd y lloia'. Edrychwch ar Llan Lien yma. Dydi hi fawr o dre rwan, ond ceisiwch chi fyw'r Bregeth ar y Mynydd ynddi hi. Trowch i fewn i'r siop y fynnwch chi, mi gewch y siopwr yn gneud popeth all o i'ch gneud chi fel byddwn ni'n deyd. Ydi o yn meddwl am fyd tragwyddol ? 'Choeliai fawr, meddwl am bob ceiniog goch all o gael oddiarnoch chi yma mae'r dyn. Ydi, mae o'n mynd i'r oapel neu'r eglwys neu rywle ddydd Sid os ydi o'n respectable, wrth gwrs, ond mi fase'n byw yn bur wahanol pe'n credu mewn byd arall. Ewch i bob cornel y fynnoch chi, mae'r un neth yn wir, dynion am gael yr hatling olaf, dyna'n hanes ni bob un. Pe bawn i o'r un farn a chi ac arall mi faswn i'n siwr o ddeyd heno fod yr hen Forus yn dechreu sylweddoli'r geiriau Coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fvwvd,' etc., ond wn i ddim beth fase'eh barn hi, lu ohonoch chi. Hwyrach buasech chi'n deyd fod talu dyledion capeli yn ddigon o hassport iddo fo. 'Choeliai fawr. Sut mae hi "Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti, canvs y byd a'i gyflawnder ydynt eiddof fi 0 ma'r hen grefydd, yr hen bethau, y cwbwl wedi darfod. Y peth goreu i ni ydi gneud am y wydd. Rhaid i grefydd na rydd hi ddim lie i ddyn neud 'i ddyledswydd tuag at 'i gymydog roi lie i ryw grefydd fyn neud hynny, gyfaill. Os na fydd i mi wedi codi yn y byd yma fedru deall sut i'ch trin chi yn well, neith y grefydd feddai mo'r tro. Mae yma bobol yn y byd yma sydd raid 'u codi nhw, Os na chodir nhw, mi fydd yma anwariaid ar 'u traed cyn pen hir iawn, yn mynnu eu hiawnderau trwy ffyrdd na wnewch chwi na minnau ddim cytuno hefo nhw. Mae amyn- odd pobol yn fawr, yn fawr iawn, ond mi dderfydd. Mae o'n dechreu darfod tua'n hen Gymru ni, ac ymhen tipyn eto mi fydd yma le gwahanol iawn. 'Neith hi mo'r tro i siarad un peth a gneud y llall. Mi bery pethau'n symol am ychydig, ond welwch chi osgo'r oes. Mae yma ddigonedd o bobol erbyn hyn fel fy hunan yn credu fod yna anrhefn rhyfedd. Byw un ffordd a chredu fel arall ynte ? Safodd Nora ar ei thraed uwchben y dibyn. Nis gallai sefyll yn y fan honno yn hir i wrando ar y pysgodwyr. Mynnai hi ddangos iddynt mor anhebyg oeddynt i hen bysgod- wyr Galilea gynt, ond cyn iddi gael yngan gair wrth neb, na ffeindio'i ffordd i fyned heibio'r graig tua'r ochr arall, dyna dwrf fel swn magnelau a'r ewyn gwyn yn codi yn drochion am latheni lawer i fyny tua'r nef 0 ebe Nora, yr oedd o'n werth aros yma i weled yr hen drochion unwaith eto. Ac mae'r dynion druain yn tybied nad oes un Duw yn bod 0, mae yma ddynion drwg, a phobl Uawn dichellion o'n cwmpas ni ymheb man, ond rhaid i ni gredu, rhaid yn wir, mai Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu' trwy'r owbwl. Mae gormod o'r bai yn cael ei roddi wrth oi ddrws Ef." Cododd ei dwylo i fyny tua'r nefoedd erbyn hyn yr oedd y dynion hefyd wedi codi ac yn dechreu hwylio tuag adref wedi bod allan trwy'r nos ae heb ddal llawer yn ou l'hwydau. Adnabu un o'r dynion yr oneth ieuanc, a chyfarchodd hi yn garedig a moesgar fel Miss Nora." Gwenodd hithau yn ol, ac ebe wrtho Heb ddal llawer y bore yma ynte ? Oedd 0 ddim yn y llong ? 0 ddynion anwyl, poidiweh a threio gneud hebddo Fo. Yna pan ewch chwi allan, er cymaint, ni thorrodd y rhwyd' fydd ych hanes chi bob un. Mae yma lot o bobol yn meddwl bod posib gneud hebddo Fo, ond fedrwn ni ddim, ffrindia bach. Mae O'n gadael i ami un rodio 11 wybran digon rhyfedd, mi fedrwn adael i bob un 'ohonyn nhw fynd i'w ffyrdd eu hunain. 'Does eisiau i ni ddal yn gafael yn neb ond yn y Moistr Mawr." Gwenodd wedi hyn, ac ebe "0, -'doedd wn i ddim yn meddwl pregethu chwaith Dyfod yma i weled y crochan berwedig yma ddarfum i, a'ch clywed chwi'n siarad heb geisio am dibyn o popeth, ac am Mr. Morris a Dan Lloyd." Wel ,Miss Nora, mae Dan Lloyd i fynd i'r Senedd, does dim dowt ar y pwnc." Ond lie mae Mr. Morris i fynd ? Dyna beth oedden ni'n dan yn geisio benderfynu. Mae Mr. Morris wedi mynd o'r byd yma ers dwyawr neu well, medda'r dyn yna yn v caban acw." Ysgydwodd Nora ieuanc ei phen, Ac mae o wedi mynd druan. Wel, mae yn y fan y mynn yr Arglwydd iddo fod. Mae hynny yn ddigon i ni." (I bai-hat)
YSTAFELL Y BEIRDD
YSTAFELL Y BEIRDD Y oynhyrchion gogyferj a'r golofn Ihon, i'w oyf- eirio PBDROG, 30 Stanley Street, Fairfield. Can y Deryn Du.—Can swynol iawn hefyd, a meddwl da ynddi. Y disgrifiad gwawdlyd a wnaeth y diweddar fardd Swinburne o Tennyson, y Bardd Llawryfol, oedd—Nico yn canu ar fraich y Frenhiniaeth. Beth bynnag am hynny, ca y Deryn Du hwn ganu ar ysgwydd y BBYTHON, faint a fynno. Hiraeth am yr flal.-Y mae wedi dod o'r diwedd, ond ca y gan ei chyhoeddi yn ddiau. Treth Dafydd ab Edmwnd.-Mae yr englyn hwn uwchlaw pob deddf, a barned y dar- llennydd :— "Nid ofnaf dreth pe bron a'm llethu-os ca Fy englyn ei argraffu Eisiau cael barn gwr a fu Yn gampwr ar ei nyddu." Gwlad y Ddyn.- >0an fer, swynol, ac yn taro'r tant gwladgar yn ddeheuig. Cymer- adwy iawn. Atgof.—Penhillion cymeradwy, a rhai darnau rlxagorol. Gallasai yr awdwr loewi ychydig ar ambell linell, megis y rhai hyn— sydd dipyn yn rhyddieithol a dibwynt :— "Ac 0 'rwyf yn teimlo yn rhyfedd Wrth feddwl mai dyma fy nghred." Cyhoedair y gan yn sicr, ac mae hi yn addewid am bethau rhagorol. 0 swn y byd a'i bechod.—Cymeradwy. Ymhob undeb mae bendiih."—-Prin yr wyf yn credu athrawiaeth y llinell fel rheol ddieitliriad. Er engraifft, undeb y wenynen lionno a bigws y bardd yn Eisteddfod Llan- gollen a'i dafod Ond rhaid credu yn nheil- yngdod gwaith mor gelfydd ac awenyddol, a cha ymddangos. ¡¡'; T.R.E.—Cymeradwy. Ereill yn disgwyl eu tro.
AWGRSTM.
AWGRSTM. Mae natur yn Hawn awgrymiadau di-ri', Ac uit o'r rhai tlysaf ohonynt yw hyn Fod y gwlaw sydd yn disgyn ar ein daear ni Oyn cychwyn o'r nefoedd yn eira gwyn (Jweddia y ddaear drwy'i syched am wlaw; A'i gwres sydd yn ateb ei gweddiau 'i hun, Mae'r ateb i'r weddi yn dod ymlaen llaxj Oes rhywbeth fel yna ynTperthyn i ddyn ? Lerpwl. sw. EIOIJANT Wyn.
^4s«J-K--®NBWYDD LOER.
LOER. Irwen loer o eirian liw,—a'i gemog Yinyl fel scrch-hudliw; A chonglog gwch engyljgwiw, Yw'r ewinloer arianliw.
GWEN MAM.
GWEN MAM. Ail i nwyf gwen heulwen iaeli,-yw gwdu mam, Ah mae'n gan mil tlysach GwSn Un anwyl ga'i'n wynnach I mi byth na gwto mam bach.,
.MORFUDD.
MORFUDD. Morfudd a dwyrudd deuros,-Ilygaid gwyll, ,Gwiwdeg wailt lliw'r ddunos Ys carwn fel-wefus ceuros 0chawii dy law ferch Awen dlos.
OWSG.
OWSG. Owsg, Tegai Huws, cwsg, ti gei hedd-fan hon I fwynliau tanguefedd; Fore barn o furiau bedd—cei esgyn O Frynyrodyn i fro anrliydedd. Nantlle. G.W.F.
OYFAROHIAD PEN BLWYDD.
OYFAROHIAD PEN BLWYDD. Yn un-ar-hugain oed, Mai 30ain, 1909. Daeth bore teg, di-gwmwl, Uwch ben mae'r wybren las Mae'r dolydd o dan feillion, A gwyrdd yw coed y maes Holl Anian a ymddawnsia, Fel ewig ysgafn droed, Y bore 'rydwyt, Gwilym, a Ya uu-ar-liugain oed. Yr wyn chwareuant heddyw PgAr fynydd ac ar ddol; M Awgryma'u hoen a'u haflaeth Fod eto haf yn ol; Edmygir melus flwsig yi Yr adar yn y coed, Y bore 'rydwyt, Gwilym, Yn un-ar-hugain oed. gf Fe dreuliaist wanwyn bywyd Heb deimlo nemawr loes;, ? Oe'st esmwyth dynerjawel l($ F IS Heb storm i dduo'th oes"; I ben y daeth dylwanwyn, A heddyw trydd y rhod, Y bore deuaist, Gwilym, Yn un-ar-hugain oed. III a Sul-gwyn y gelwir heddyw, Y gwynna* iti erioed a At gyrraedd y tri-degfed 0 Fai y rhoddaist ndd J Ond eto, er ei gyrraedd, 'Does aros yma i fod, Y fory byddi, Gwilym, [J; Dros un-ar-hugain-oed. Gofala eto, Gwilym, Am gadw'r llwybr cul; Ar hyd dy yrfa, bellach Pob dydd a fo'n ddydd Sul, Na fathra emyn dyner, Nac adnod dan dy droed Olustfeinia 'nrws y Nefoedd, Yn un-ar-hugain oed. Ar ddydd y Sulgwyn, heddyw, Fel yn yr amser gynt, Boed i ti deimlo bendith A nerth y dwyfol wynt; Oddiwrth fydolrwydd ofer, Yn Uwyr dy feddwl ffoed, Rho'th law yn llaw yr lesu, Yn un-ar-hugain oed. DY DAD (R. Ffestin Jones, Llangefni).
GOGONTANT YR ARGLWYDD A LANWODD…
GOGONTANT YR ARGLWYDD A LANWODD Y TY.2 Chron. vii. 1-3.). Yr Ysbryd yn rymus a ddaeth oddi fry— Gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tf 01 Ysbryd Glan sanctaidd, tyr'd yma i lawr, A chymer lwyr feddiant ohonom yn awr. 0 1 difa ein llygredd, a gwna ni yn bur, Mewn meddwl a gweithred yn onest a gwir Ty'r Arglwydd fo'n anwyl a sanctaidd i ni, Can's yma disgwyliwn gyfarfod a Thi. i 0 Iesu I cyflawna'th addewid yn awr, Nes ennill yn hollol drigolion y llawr Pob llais a'th glodforo mewn mawl yn gytuu, Ac mewn gwir addoliad y plyger pob glin. 0 agor ein llygaid i weled ein bai 'Naddoli gwael dduwiau o aur ac o glai,- Pleserau y ddaear ddarfyddant yn llwyr, A minnau adewir yu dlawd yn yr hwyr." Ond os y dychwelwn yn awr atat Ti, Yr Hwn fuost farw ar ben Oalfari, Dedwyddwch a heddwch diderfyn a ddaw, A llawen dderbyniad i'r Nefoedd wen draw. West Kirby. M. J. WILLIAMS o ■
Mwydiott.
Mwydiott. [Sef tameidiau o Scrapbook Brochwel]. Yr Amen made to order." Chlywir fawr o'r Amen bellach ond -ysgrifenwyd hyn o nodyn pan oedd gwibwrn canu'r amen ar ddiwedd emyn wedi medd- iannu corvii agos pob codwr y gan yn Lerpwl:— Fel y crybwyllwyd, yr oedd y canu yn Y gwasanaeth hwn yn odidog a'r unig bet" oedd yn boenus ydoedd y mynych rygnu ar yr Amen. Ac O 'r byd sydd gyda'I' amen yma yn rhai o gapeli Cymreig Liver- pool-rhai yn enbyd am dano i gloi pob emyn a genir yn ystod y gwasanaeth ereill am danogyda'r emyn olaf yn unig; a'r lleill yn ei erbyn ymhob man wrth ganu, ond yn ddigon boddlon i'w ddarllen pan y digwyddo. Nid oes dim mewn ysgwyd Haw ynddo'i hun, ond y mae peth wmbredd mewn peidio, ebe rhyw hen chwaer. Ac felly gyda'r Amen yma. Mae yn un o amodau iachawdwriaeth gan ambell godwr canu, ac aed i'w grogi gan y llall. Can' croeso i'r Amen pan neidiai fel fflam dan y Pentecost oddiar dafodau yr hen bobl; ond naw wfft i'r amen gosodedig deddfol, made-to-order a geir yn uchel- gapelau Liverpool yma'r dyddiau hyn. <- Pysgota Cyhoeddiadau. Dyn pwysig yw Ceidwad y Dyddiadur, a chibog iawn weithiau fel y cawn weled. 'Roedd y ceidwad sy o flaen y meddwl yn hyn o stori wedi derbyn cais am gyhoeddiad gan, bregeth wr ond oherwydd rhyw hen gast gwael a chwareusid ers talm yn ol, 'doedd yr efengylydd ddim yn boblogaidd gyda gwr y dyddiadur, yr hwn a'i hatebodd i'r byw fel y canlyn ANWYI-L FRAWD,—Yn eich llythyr yr ydych yn tystio eich bod yn wag ar y noson a'r noson. Wel, ni ddywedsoch erioed well gwir yn ddiau a gwag sobr ydych ar bob noson arall hefyd. Ond nid dynion gweigion sy arnom eisiau, ond rhai llawnion." Cig Drwg. 'Does eilw undyn wrth y stori isod ond mi awn ar .LY llw mai ffrwyth dychymyg direidus y Llyfrbryf ydyw ;— Y MAK son am gig drwg yn peri i mi feddwl am chwedl a glywais ddydd Llun diweddaf, oddiar dafod un fedrai ei hysgrif- ennu yn llawer arngenach nag y gallaf fi. Llafn o hogyn amddifad yn ardal Llan- dyrnog wedi ei fagu ar y plwyf, a'i yrru wedi hynnv i weini fel gwas gyda'r ffarmwrs. Fel y digwvdd yn rhy fynych, rhoddwyd of hefo hen ffarmwr cvbyddlyd arswydus a phenderfynodd un diwrnod fyned i ffwrdd heb ddweyd gair wrth neb. Cododd yr hen ffarmwr gyfraith arno am ymadael heb rybudd ac aeth yntau i ddweyd ei helynt wrth yr unig berthynas a feddai-tipyn o foneddwr, yr hwn oedd yn barod i weled ei fod yn cael chware teg. Ond pam 'roeddit ti'n madel ? gofynnai. Am nad oedd y cig gawn ni yno ddim yn ffit i neb ei fyta. Mi fu yno lo farw, a doedd dim ar v bwrdd tra parhaodd, yn ffres ac wedi 'i halltu." 'Doeddet ti ddim yn byta peth felly, does bosib ? obo'r boneddwr. Be wnawn i ? 'doedd dim byfl arall i'w gael. Yna bu'r hen hwch farw, a bu'l' hen WT yn ei sgaldio, halltu, a'i hymgeleddu, a 'doedd dim byd ar v bwrdd ond baewn honno." 'Doeddet ti ddim yn byta peth aflan felly, 'does bosib ? 'Roedd raid imi' nend hynny neu lwgll," ebe'r bachgen. A dene be bar odd i ti 'madel ? Nage BlT. 'roedd y llo yn ddrwg, a'r hwch yn waeth, ond pan fu fy hen feistres farw, ac i mi weled mistar yn mynd a'r dwr poeth i'r llofft, 'roeddwn in ofni mai HI fyddai'r nesa." '0- Waddington's, Renshaw Street, Liverpool I are the only Piano makers selling direct to the public.
Advertising
Tlephone 1157 Rojal letsblifbid 3857, ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South, Has Property to Let in various parts of the town. Mortgages arranged. Valuations made. THOMAS H. OWEN, ESTATE AGENT & ACCOUNTANT, 246 WALTON ROAD, Liverpool. Property bought and sold, and Estates economically managed. Telephone, No. I"nt. HENRY JONES, Estate Agent, Valuer 0 Property Auctioneer, 5 COOK STREET, LIVERPOOL. Rents Collected. Valuations made. Property sold by Public Auction or Contract. Telephone No. 7909. J. LEWIS JONES, ESTATE AGENT & VALUER, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rents personally collected. Purchases and Sales negotiated. Mortgages arranged and Insurances effooted, THOMAS a JONES, ESJTATE AGENTS VALUERS, INVESTMENT [BUILDINGS. 67 Lord Street, Liverpool. Telephone No.—5586 Central. Properties Bought and Sold. Mortgages arranged. Valuations made. Rents Collected. TIL. 42Y ANFHHJ). ESTABLISHED 1872. STEPHEN ROBERTS & SON, ESTATE AQENXS <& VALUERS, 131 Everton Road, Liverpool (Late 3 Stanfield Road). Properties careinlly Managed. Rents personally Collected. Purchases and Sales Negotiated. Mortgages arranged and Insurance* effected. R. E. HUGHES, Estate Agent, Surveyor & Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.—56 B'head, Has Houses to Let, and for Sale, in varions parts of the Town and out districts. Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made to Builders, Estates laid out. Rents Collected, and Property carefully managed. Telephone 3034 Central. WILLIAM WILLIAMS, LAND AND ESTATE AGENT, VALUER AND PROPERTY SALESMAN, 20 NORTH JOHN ST., Liverpool 20 FREEHOLD HOUSES, 6/6, near Sheil Rd. FOR SALE. CHEAP. Bromley Edwards & Co. 102 KIRKDALE ROAD. RENTS COLLECTED, and Estates carefully managed at moderate rates. Sales of Property and Mortgages arranged with utmost despatch, and Insurances of all kinds effected. J. L. Langford & Slater, F-A Estate Land Agentat Surveyors & Valuers, tCivil & Sanitary Engineers, Property Auctioneers, Spec- ialists in all Estate Matters, 26 North John SStreet, Liverpool. Telegrams Approval, Liverpool." Telephone: 2169 Liverpool Central. Established 1884. TMWPHOltM 4585 BANK, QUEEN 0 FOSTER, (James Henry Foster, F.B.A.A.) !;ië:'j. bi ESTATE, MORTGAGE AND INSURANCE AGENTS, Building Societies Offices: 2 South John Street. Liverpool (Oorner 01 Lord II tld) T, WOOSNAM ROBERTS Practical Estate Agent, Bootle Estate Officlog No 52 STANLEY RD., BOOTI. (2 doors:from Bedford Road), Litlierland, Scaforth Pierhead Cars paBI. d Established 1884 4 'Phone> 20 5 booti O. JONES WILLIAMS, ESTATE AGENT & VALUER, 24 SIR THOMAS STREET, LIVERPOOL. Personal supervision in every deta^ general management of all kinds of Estate, Confidential Reports and Valipt1 for Purchase, Sale, or Mortgage. Est. 1885. Telephone 1903 Centt AIR COMBINGS made up, I' JD per oz. COVERLETTE TAILS OF FfLoili HAIR FRAMES PURE A/6 FKOM 3 /6 EACH. HAIR, J Gent's Scalps, Perfect Fit and Match. T. S. BROWN, I. 3 Leece Street (Car Station), LiverpoD Maes llafur Undeb Ysg. M. I Llawlyfr ar Epistolau loa" gan y Parch Hugh Williams, Amlwcb Pris 2/6. am 2/= Pare h. | John Owen Jones, Bal8 Pris 1/6 am 1/3. Parch. Dr. Phillips. Pris 2/6 net. Tw gael gan HUGH EVANS, 444 Stanley Rd., Liverp°° Hanes y Diwygicld 0 a'r Diwygwyr: Yn cynnwys hanes Mr. Evan RobeT^^ rieni, ei ddygiad i fjny, ei alwad i'r &c., &c., gan y Parch. Thomas jj, Gorseinion. Hanes cychwyniad a ll^y gj iad y Diwygia drwy Gymru, ysgrifennu gan lenorion Hanes Mr. Dan Roberts a Mr. Evans, a chargliad o farddoniaetb J Dl iad, iuviatlt 1 Cynhwysa y gyfrolliaws o ddarluniaj rhai a gyhoeddir am y waith gyntaf, Jjl darluniau o rieni Mr. Evan Roberts, £ Casllwchwr, ac Ysgoldy Pisgah, &c., PRIS HANNER CORON. nett E. W. EVANS. Swyddfa'r Goleuad Doloolip PILES. WHY SUFFER FROM THIS DISTREWr10 COMPLAINT ? WHEN YOU CAN v ABSOLUTELY CUP.EID lot By a few applications of a remedy that beexx known to fail to cure the most obstiD" long standing caaes -whether itching, Pr0 or bleeding. WITH HEMROIDINE; Hundreds have been cured in South Afn^8' the proprxetor dxscovered thxs wonderful P It is now introduced for the first 'time 10 0^ country, so that all sufferers can give it a and be convinced of its marvellous eflirscy. g,, aø It is a clean, ready application ,spuS ti&yb ti»e relief it gives and permanent in Testimonials on application, or the origin* fot inspected at the following address, prepar proprietor and to be obtained from L. D. H. EVANS, Dispensing Cbej» 148 Lodg Lane, LiverPo0^lQp POST FREE 2/3 PER^g^ Maes Llafur Ysgolion5,,1 Maes Llafur Ysgolioo M.C.1909-10. ø Llawlyfr ar yr Actoo Gan y Parch. y O. J. OWEN, M.A., RocK 1118"" Gwerthodd yr Argraftiad Cyntaf ailaD ychydig amser. btJI Darparwyd y Llawlyfr gogyfor a r iadau Ieuengaf a Chanol y mae'n hynod g ø.O 0 ft hefyd at gynal Dosbartbiadau Darllon > ddifttl oynllnn a gwerth y Nodiadau, dyroa» Esboniad goreu o'i fath yn yr iaith., Y mae'n dair rhan, sef cwestiy ys geiriau, a nodiadau esboniadol. ragorol, a phwy bynnag fyddo wedi jj9d. llyfr bwn, ni raid iddo ofni „ Y Parch. J. MORGAN J ONES yn Y llytb) Cynwysa 136 o dudalennau, mewfl fan ond hollol eglur. ^c\n Amlen 9c. Pris 1 Ysgolioo Limp Cloth,yn cynnwya Map prydfertb 0 Paul, 1/3. I Yegolion, 9c. I'w cael gan Lyfrwerthwyr, neu yn oddiwrth y Cyhoeddwr- 1 HUGH EVANS, Lspo 356-8a a 444 Stanley pd., FREEHOLD LAND FOR SA^ AT SEFTON PARK, WAVKRTREE, TOWN SEND LANE, LONG MOOR LANE. -7"- J ADVANCES MADE IF REQUIRED el, Apply Jones & Hughes, 13 Whitechapolo TELEPHONE-1132 CENTRAL.