Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

LLENYDDOL.

! CHWITH AT609 )

Blaenion y Gan.

News
Cite
Share

Blaenion y Gan. Cyngerdd Miss Laura Evans- Williams. ER' garwed yr hin nos lau, Mehefin 24ain, daeth cynhuiliad lliosog i Adroddawd Lleisiol Miss Laura Evans-Williams a Mr. Edward Ties, yn Neuadd Bechstein,Llundain. Hon, fel y gwyddis, yw un o brif gyrchfaoedd y cerddor cyfarwydd a beirniadol, oherwydd y fynych arlwy uchraddol a geir ynddi gan gantorion ac offerynwyr tramor a Phrydeinig o fri. Diau fod llawer fel nirmau wedi cyrchu yno o gyrrau pella'r Brifddinas enfawr yma drwy gryn anghysur ond po fwya'r aberth a wnaed, mwyaf oil raid fod y mwynnad. Cynhwysai'r rhaglen elfennau o ddyddordeb neilltuol, ac nid y leiaf ohonynt oedd yr amrywiaeth a geid yn nodwedd y gerdd- oriaeth. Cynrychiolid lliaws o oreuon can- gyfansoddwyr o ddechreu'r ganrif ddiweddaf hyd y cyfnod presennol o Schubert a Schumann ar y Cyfandir—ond odid y ddau mwyaf eu hawen a'u cynyrch ohonynt oll- i lawr at Cowen ac Elgar yn y wlad hon. Yn netholiad y caneuon a'u cyflead ar y rhaglen hefyd yr oedd barn a medr llywiwr y. cyngerdd yn amlwg iawn. Am y rhan bwysig a llafurfawr a ddisgynnai arno ef ei hun, yn ei swydd ddeublyg o ddatgeiniad a chyfeilydd, yr oedd meistrolaeth lwyr Mr. lies ar lais ac offeryn yn gyfryw na chyf- erfydd ond yn anfynych yn yr un person. Yn ei ddisgyblaeth fanol a chelfydd ar ei lais bariton gwych, gorchfygid pob anhawster gyda'r rhwyddineb mwyaf, ac nis gallai fod dim perffeithiach na'i don-raddiadau godidog a'i symudiadau esmwytli o'r naill gwmpawd i'r llall. Hawdd y gellid manylu ar ddat- ganiadau neilltuol o'i eiddo, ond y cwbl a chwanegwn yw mai yng nghan Brahms o Magelone y gwnaeth yr argraff ddyfnaf arnom ni. A'i ddisgybl, Miss Laura Evans-Williams, y mae a fynnom ni fwyaf yma, a hynny am y gwyddom fod edmygedd calon cenedl gyfan yn gwylio ei chamrau cyflym hi i enwogrwydd gyda dyfalwch a dyddordeb eitliriadol. Er dyddiau Madame Edith Wynne a Mrs. Mary Davies, dichon na fu gennym neb wedi ei chynysgaeddu a, chynifer o briodoleddau cantores gwir fawr a Miss Laura Evans- Williams. Pan y dywedwn ddarfod iddi ganu agos i ugain o ganeuon a deuodau o nodweddion tra gwahanol, gellir gweled nad oedd hi yn brin o gyfleusterau i arddangos ei galluoedd cynhwynol a chyrhaeddedig ac yn sicr ni bu hithau esgeulus ohonynt. Ni ddylid gadael allan gyfeiriad arbennig at ansoddau llais ein cantores ddoniog ei burdeb perffaith ei fireinder a'i bereidd-dra tarawiadol a'i rymuster cyfoethog ac ad- seiniol. Efallai mai ei phrif orchest oedd ei datganiad mawreddig a ehofiadwy o Emyn i'r Hollalluog," Schubert. Gyda phrofiad hirfaith o'r cyngherddan Seisnig goreu, yn ystod yr hyn y clywsom gantoresau byd- enwog lawer,nid yn fynych y gorchfygwyd ein teimladau i'r un graddau Ðg y gwnaethpwyd gan y dehongHad gwir fawr hwn o gan wir fawr a bron na theimlem ein bod yn gwrando ar yr enwog Titiens yn ei dyddiau goreu, er ei bod hi wedi disgyn i'w bedd ragor na; deng- inlynedd-ar-hugain yn 01.. Lie yr oedd y rhagoriaethau mor ami, io, He yr oedd y cwbl yn rhagorol, ymddengys bron yn afreidiol cyfeirio yn neilltuol at ereill o'r caneuon eto teimlwn fod rhai yn hawlio sylw. Dylid crybwyll "O pakia mia" Verdi a Chanson des Baisers Bemberg, dwy gan o arddull hollol wahanol a gan- wyd gyda chwaeth a medr difai. Swynol iawn oedd y datganiad o Santa Claus," can brydferth sydd eto heb ei chyhoeddi, o waith Mr. Oscar Beringer, ac ail alwyd am dani. Yn y gan Pleading," o agoriad yr hon i'w diwedd y pelydra athrylith lachar Elgar, yr oedd Miss Evans-Williams ar ei goreu. Yn agos i'r terfyn, hi a ganodd ddwy o Hen Ganeuon Gwerin Cymru, sef Breu- ddwyd y Bardd a'r Saith Gysgadur," yn dra effeithiol; ac mewn atebiad i'r gymer- adwyaeth uchel a ddilynodd, cafwyd Clych- au Aberdyfi ac yn ddiweddglo i gyngordd llawn o wir fwynhad fe ganodd Miss Evans- Williams a Mr. lies ddwy ddeuawd gan Saint Saens, y cyfansoddwr Ffrengig enwog. — Y Meinglust.

Advertising

L LITH LLUNDAIM.