Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Advertising

I NOSWYL I

Rhodd.ffarwel ei Swyddfa.

Rhodd=ffarwel ei Eglwys.

MAIR LLOYD GEORGE. 3

News
Cite
Share

MAIR LLOYD GEORGE. 3 Dadorchuddio Ffenestr-Goffa. TLWS fa dyddorol iawn oedd y ddefod dad- orchuddio'r ffenestr-goffa i Miss Mair Lloyd George, brynhawn Sul diweddaf, ynghapel M.C. Clapham Junction, Llundain, lie y byddai hi'n aelod ac yn organydd. Wele fras-bortread o'r ffenestr :—Yn y canol, wele lun Miss Mair, yn eistedd megis wrth yr organ uwchben, dacw gor o engyl ar un tu iddi, dyma'r gair Cariad Addfwyn- der ar y tu arall gyferbyn ac odditanodd y gair Moliant," a'r darn adnod, Gwyn eu byd y rhai pur o galon." Yna'r chwe Ilinell a ganlyn, gwaith lolo Caernarfon ;— Ffrwyth gras a hiraeth rhiaint llaith eu gruddiau Er cof am un oludog o rinweddau Addolai yma, drwy ei gwanwyn iraidd, c Yn symledd gwresog ffydd a chariad peraidd, Yr Arglwydd ym mhrydferthwth ei sanct- eiddrwydd, Gan berarogli'r byd mewn gostyngeidd- rwydd." Ac yn olaf, hyn o gof-ysgrif :— pi Mair Eluned Lloyd George, |Yr hon a hunodd Tachwedd 29ain, 1907 Yn 17eg oed. Daeth llu mawr o flaenion Llundain i'r dad- orchuddio, yn Oil mysg :—Syr J. H. Roberts, A.S., Me L H. Lewis, A.S., Mr. Timothy Davies, A.S. Aed drwy rannau dechreuol y gwasanaeth gan y Parch. Herbert Mor- gan, B.A., eglwys Castle Street (B.), a'r Parch. H. Elfed Lewis, M.A. Yna caed byr-an- orchiad nodweddiadol gan y Parch. v John Williams, Brynsiencyn, yr hwn hefyd a dynnodd y gorchudd oddiar y ffenestr dlos ei lliwiau, ac a'i cyflwynodd yn ffllrfiol i'r eglwys ac i'r Cyfundeb. Wedi gair gan weinidog yr eglwys, y Parch. D. Tyler Davies, diben- nodd y gwasanaeth syml a dwys. P|Pregethai'r Parch. John Williams yn Clapham Junction yr hwyr. Ymysg y gwrandawyr 'roedd Mr. Lloyd George, ac efe a wrandawodd y plant yn dweyd eu hadnodau yn y seiat ar ol.

---0----Dawn y Cae.

0 Ore Daniel Owen.

EBION LERPWL. -------

Allan Line to Canada.

coleg y Gogledd, Bangor