Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

"TROAD Y RHOD."

News
Cite
Share

"TROAD Y RHOD." [GAN GWYNETH VAUGHAN). PENNOD XIV.-OOHR. Y BOBL. AETH Edward Jenkins yn ol ar ei geffyl i Bias Llan Elen yn lied araf. Lol oedd breuddwyd Malen, nid oedd hwnnw yn werth ei sylw ef, ond nis gallai daflu heibio mor ddiseremoni eiriau yr hen wraig ynghylch ei gymeriad ef o fod yn galed tuag at y bobl o' dano. Yr oedd y llanc yn ddigon call i ddeall os oedd bachgon tlawd am godi yn uchel yng Nghymru mai ar ysgwyddau'r worin y cerid ef i'r uchelion. Gwerin oedd ac ydyw plant Gwalia ers llawer canrif bellach, un o blant y werin oedd Edward ei hun, a bu yn ystyried y pwnc yn lied drwyadl cyn cyrraedd y Plas. Rhaid oedd rhoddi tro mor sydyn a chwpan yn y dwr, a hynny ar unwaith. Sut i wneud y cyfnewidiad, a byw yn ddibynol ar Mr. Morris oedd yr anhawster. Rhyddfrydwr neu Whig oedd ei feistr o ran enw, ond ni fu un Tori yn fwy o ormeswr erioed nag ef, a gwyddai Edward hynny yn dda er ei fod yn rhoddi rhoddion tywysog- aidd i fil a mwy o acliosion cyhoeddus, ac yn enwedig i adeiladau lie y llewyrchai ei enw ef ar eu cerrig sylfaen am flynyddoedd lawer. Ond ni thynnodd deigryn yr amddifad, na chwyn y weddw, geiniog goch o'i logell erioed. Ni feddai y rhai hynny, dru ;.in, mo'r udgyrn angenrheidiol i ganu ei glod ef. Yehydig latheni cyn cyrraedd y Plas, daeth dvn ieuanc glandeg yr olwg arno i gyfarfod Edward, a chyfarchodd ef yn siriol. Hawdd oedd gweled y boneddwr yn ei holl ysgogiadau. Adnabu Edward ef ar unwaith, a neidiodd i lawr oddiar ei geffyl. Nid oedd y ffaith ei fod yn cashau y dyn ieuanc hawddgar gymaint ag y cashaodd y bachgen ragorai arno yn yr ysgol erioed, yn un rhwystr iddo ei gyf- arch yn hynod gyfeillgar. Yr oedd Daniel Lloyd yn fab i ffermwr yn meddu ar ddigon o bethau y byd hwn i allu rhoddi addysg ragorol i'w fab. Hanai y teulu o'r un eyff a'r teulu o'r un enw, Lloyd y Tg Gwyn, ond fod y berthynas yn un lied bell. Wedi gadael hen ysgol fechan Penybont, aeth Daniel i ysgol arall oddicartref, ac wedi hynny i Rydychen, lIe yr enillodd radd bur an- hydeddus. Nid oedd Edward wedi gweled Dan—fel y gelwid ef bob amser gan y bech- gyn—ers cryn amser, a dechreuodd y ddau ymgomio yn rhydd a'u gilydd Ydi hi yn stormus iawn tua'r Plas, Edward ? Mae'n debyg nad oes fawr o ddim ddywed pobl yn pwyso ar feddWI Mr. Morris hefo'i holl gyfoeth o ran hynny ond teimlad y bobl ydyw ei fod wedi fotio drosto ei hun yn y Senedd, ac nid dros ei gynrychiolaeth." Wei, 'roedd yma dipyn o siarad distaw ar y dechreu, ond mae Llan Elen yma yng nghil dwrn Mr. Morris, fel byddwn ni'n deud. Mae o wedi prynnu llawer iawn o'r lie. Digon prin y meiddiai poboi Llan Elen gadw swn." Gwenodd Dan, ae ebe Hwyrach os nad oes yma lawer o swn, fod yma ddigon o waith yn mynd ymlaen. Ond beth bynnag am Lan Elen, mae'r bwrdeisdrefi ereill yn dechreu codi mwstwr. Dyna pam yr ydw i wed'im galw adre. Mae'r dynion yn ben- derfynol o fynnu cael Rhyddfrydwr i'w cynrycliioli, medda nhw, ac nid dyn fotith hefo'r Toris yn erbyn Mr. Gladstone pan fydd rheitia wrth 'i fot o hefyd." Ond beth sydd a wnelo hynny, Dan, a chi ? Beth sydd eisio i chi neud hefo'r helynt ? Dim ond bod y bwrdeisdrefi am i mi fod yn Ymgeisydd Seneddol drostynt, Edward, ac felly rhaid i mi fynd o flaen y Cymdeith- asau Rhyddfrydol i ddweyd sut ddaliadau gwleidyddol a feddaf, ac iddynt hwythau fy holi wedi hynny er mwyn cael gwybod os ydwyf yn ddigon uniongred iddynt." Edrychai Edward arno yn syn am ennyd heb yngan gair, ac ebe Lie cewch chi ddigon o arian, Dan ? Mae'n gofyn hylltod i fod yn Aelod Seneddol fel Mr. Morris." 0 nid aelod seneddol fel Mr. Morris sydd eisio i mi fod. Wedi blino arno fo mae'r dynion." Mae o wedi gneud 'i oreu glas iddyn' nhw yn Llan Elen, beth bynnag. Mi wyddoch sut le oedd yr hen dre fach yma cyn iddo fe 'i chymryd hi mewn Haw. 'Rwan mae hi'n flit 'i galw'n dre, a phe cawsai Mr. Morris lonydd mi wn i y gneutha fo Llan Elen yn addurn i Gymru, Dan. Mae o yn 'i blan o dynnu pob hen dý bach tlawd i lawr, a chodi tai ffasiwn newydd hwylus yn 'u lie nhw." Ond beth sydd ym mhlan Mr. Morris ar gyfer y bobol dlodion na fedra nhw ddim talu am dai mawr. Mae'r Ysgrythyr yn dweyd y bydd y tlodion gyda ni bob amser os felly, mae'n rhaid cael rhyw fath o ddar- pariaeth ar 'u eyfer nhw yn siwr. O'm rhan fy hun, rhaid i mi addef fy mod i am gadw bythynod by chain gwynnion Cymru lie bvnnag eu ceir, cyhyd ag sydd yn bosibl. Mae rhai o'n dynion goreu ni wedi eu magu ynddynt, ac mewn bwthyn digon distadl v ganwyd ac y magwyd Mr. Morris ei hun hefyd, ran hynny." Oes yna siawns i chi ennill, Dan, a'r f-gweiar acw a digon o arian i brynnu pawb. Tvbed y bydd Cymru yn foddlon i ddyn mor ifanc fvnd vn aelod Seneddol. Mae hi wedi bod ar hyd yr oesau yn cael dynion ariannog a ■ mewn oed yn aelodau Soneddol ? Y mae'r cwbwl yna yn wir, Edward, ond m te Cymru wedi blino ar y dynion yna sydd yn mynd yn aelodau Seneddol er eu mwyn eu hunain, heb gofio fod ochr arall i'r ewest- i vti, oclir y bobl a, gynrychiolir ganddynt. Y munud cyntaf y byddant yn Llundain, uoient yn gollwng yr hen wlad yn ango, dyna fu'r hanes hyd yma. Pe cawn i fynd yno, gweithio dros Gymru wnaethwn i. Goreu Cnnru, nid goreu Dan, fyddai holl ddiben fy a/>!odaeth Seneddol. Dilyn 61 troed Henry lidlard fyddai'm hymgais. Dyna un o ddowrion Cymru mewn gwirionedd." Wei, Dan, mae siarad fel yna yn swnio yn (J'.hi, ond fedrweh chi na minnau ddim fforddio coSio am ochr y bobol i gyd, ac anghofio'n hunain," atebodd Edward. Eto mae yna adnod fach yn dweyd mai "T hwn a ewyllysio gadw ei einioes a'i cyll a r hwn a'i collo o'm plegid i a'r efengyl, a'i (,¿tiff hi.' Yedra i ddim anghotio oclir y bobl, Edward. Pe clywech fy nhad a'm mam yn dweyd hanes dioddefiadau y bobl yng Nghymru yma, ac yn wir yn ein teulu ni, am eu bod yn mynnu rhyddid cydwybod, ni ryfeddech fy mod i'n barod i gymryd ochr pobl fy ngwlad. A mi fuasai pawb yn dis- gwyl i addysg William Jones yn hen dy'r gwydd, Penybont, fod wedi cael yr un effaith Henoch chwi hefyd." Wet, Dan, mi leiciwn i ddymuno lwc dda i chi, ond fedra'i ddim a minnau yng ngwas- anaeth Mr.Morris oni bai hynny, mi gawsech 'y ngweld i ymhob cyfarfod yn y cyffinia yma, ond rhaid i mi fod o ochor y Sgweiar tra byddai'n derbyn 'i gyflog o. Wn i ar y ddaear pam daru o fotio yn erbyn Mr. Gladstone chwaith. Mi fydd o'n arfer gweld dipyn ymhellach na hynny beth fydd oreu iddo fo er mwyn poblogrwydd. Credu yr ydw i mai camgymeryd ddaru o. 'Ddyliodd o 'rioed fod Cymru yn mynd i ochri hefo Gladstone y tro yma pan oedd o'n ceisio rhoi Protestaniaid y Werddon o dan draed y Pabydd." Chwarddodd Dan, ond aeth Ed- ward ymlaen a'i Mwrs "Mae Mr. Morris wedi arfer bob amser a syrthio ar 'i draed, mae o'n gweld ymhell iawn, a mi ddyliodd na chawsai Gladstone byth mo Gymru Anghyd- ffurfiol i'w helpu i roi Parliament Pabyddol i'r Werddon. Ond mi fethodd y tro yma." Yn lie hynny, mae Cymru Anghyd- ffurfiol am i'r Gwyddel gael cyfiawnder, ac ychydig o ollyngdod oddiwrth iau orth- rymus y Sais. Wel, mi rydw' i o'r un farn a Chymruj a dyna'r pam y galwyd arna'i yn ol i fy hen Sir i annerch y dynion y bu Mr. Morris yn eu cam-gynrychioli yn Senedd Prydain. Gobeithio y caf fi fynd yno hefyd, mi gynhesai i le yno i chwithau hefyd, Ed- ward, erbyn yr amser y byddwch yn barod i gychwyn yno. Ymadawodd y llanciau a'u gilydd ar deler- au rhagorol ond y foment yr oedd Edward Jenkins ar ben ei hun, daeth ei eiddigedd at bawb a phopeth nad oedd a wnelent a'i ddyrchafiad ei hun i'r golwg yn ei wyneb. Beth," ebai yn fyfyriol, beth oedd eisiau gofyn i Dan Lloyd i ddwad yma ? Y fo o bawb. Pe base Mr. Morris wedi aros tipyn bach heb dynnu'r bobl yn 'i ben, i mi fynd yn hyn o ychydi,g, a chael gafael ar arian Morfudd mi gawswn i y siawns. Rhaid i mi ryw lun neu gilydd setlo'r pwnc tua'r Garreg Ddu. Mae yno geiniog ddel 'neith 'y nhro i i'r dim. Ond y peth cynta' raid i mi neud ryw ffordd neu gilydd ydi cymryd arna 'mod i'n bleidiol i'r bobol a'u hiawn- derau. Dyna fel y mae Dan wedi medru myndi'w liewys nhw. Rhaid i mi ddylan- wadu ar y Sgweiar i adael llonydd i'r hen stryt felen fach yna, ac hefyd goisio rhoi ar ddeal I i bawb mai fi fedrodd ei berswadio er mwyn yr hen bobol. Fydd ladies y Ty Gwyn ddim yn clegar y cwbwl ar bennau'r tai, ma nhw yn ormod o ladies, neno dyn, o lawer i hel straeon a chyboli, does dim peryg yn y byd i neb gael yr hanes. 'Dwyr Malen ddim am yr helynt, ne mi fase hi'n breuddwydio eto ma'n siwr, a Guto Shon yn canu ac yn bloeddio. Mi rydd yr helynt beth bynnag, eitha lift o dana ond i mi fynd o gwmpas pethe'n iawn. Aros di, Dan, my lad, a mi gynhesa di le i mi. Purion, ond cymer di bwyll hefyd. Mi fyddi di yn hwylus i mi i roi nhraed ar dy 'sgwyddau di, 'rwyt ti yn o dal mewn mwy nag un ff ordd" Wedi cyrraedd y Plas, gwelodd fod yno ryw brysurdeb mawr Mistar sy wedi dwad adra, Mistar Jenkins," ebe un o'r gweisiori, Mae o o'i go yn ofnadwy wedi clywed bod nhw am 'i droi o o'r Sonedd." (I barhau).

--0--BARA BRITH. ---

YSTAFELL Y BEIRDD

Y DYCHYMYG.

YR ANGHYFLOGEDIG.

RHOSYDD MOAB.

: DAN Y PENDDUYN.

OYWSDD ANNEROH I MEGAN RUWS.

Advertising