Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

m jIBWTH MM}

0 BIG Y G'LOMEN.

News
Cite
Share

0 BIG Y G'LOMEN. MAB EI DAD —Y mae Geraint G. Roberts, mebyn tair-ar-ddeg oed Mr. L. J. Roberts, arolygydd ysgolion, y Rhyl, wedi ennill ysgoloriaeth £ 40 yn y flwyddyn a rydd fynediad iddo i Ysgol Giggleswick. Yn Ysgol Elwy, y Rhyl, yr yfodd ei ddysg hyd yma. OFN Y PLAS.-Pan hysbysodd Arolyg- ydd Cyngor Gwledig Llangollen yr wythnos ddiweddaf fod llidiart wedi ei chodi ar draws y ffordd fawr wrth Dan y Coed, Llantysilio, sef y ddreif brydferth sy tu ol i hafod Syr Theodore Martin, a'i fod yn dor cyfraith i neb godi llidiart ar draws ffyrdd y cyhoedd, dim ond dau-y Cadeirydd a Mr. John Roberts- a feiddiodd godl dwylo ymhlaid gyru tlythyr at Syr Theodore yn gorchymyn symud y llidiart. BWRN Y BAZAARS.—Yng nghyn- hadledd flynyddol Anibynwyr siroedd Din- bych a Fflint, yn nhre Dinbych ddydd Mercher, rhoes y llywydd (Mr. Oldfield, y Rhyl) anerchiad cryf yn pwyso am fwy o haelioni at grefydd yn lIe bod rhaid i'r eglwys droi at gastiau'r byd i gynnal y Deyrnas, sef trwy bazaars, rummage a fumble- sales, a phob rhyw ffair a ffwdan o'r fath. SHON SHE.INA.-Cyfrifir fod o chwech i saith gant o Chineaid yn byw yn Lerpwi, gan ennill eu tamaid drwy olchi a smwddio. A smwddiwr glana' a gloewa'r byd ydyw John Chinaman. Y mae un eglwys-y Reformed, Church of England yn Buckingham Road — yn darpar moddion gras a dosbarth dysgu Saesneg ar eu cyfer; a'r noson o'r blaen, bedyddid yno ugain Chinead melyn i'r ffydd Gristnogol, a daw 50 arall i'r moddion. -0- Y MELYN YN TRECHV'R GWYN.- Cleddid Chinead yng Nghaerdydd y dydd o'r blaen, a gosodid ymborth yn yr arch gyda'i gorff yn ol defod y genedl. Yn gweled hyn, ebe uno bobl Caerdydd wrth gar i'r claddedig Pa synwyr rhoi bwyd i'r corff. Sut y medr o'i fwyta ? Yr un faint o synwyr," ebe'r gwr melyn wrth y gwr llwyd, ag sy ynoeh chwi'n rhoi blodau efo'cli corff chwithau. Sut y medr o'u harogli ? SYR OSMOND-Yiyiysg y gwyr a'deitlwyd ar ben blwydd y Brenin yr wythnos ddiwedd- af, y mae Mr. A. Osmond Williams, A.S., sef yn cael ei godi'n Farwn. Efe'n aeiod Seneddol tros Feirion er 1900, ond yn ym- neilltuo pan ddaw'r etholiad nesaf. Fe i ganed yn 1849; ac yn 1880 priododd ferch S. W. Greaves, swydd Warwick. Ei dad ydoedd David Williams, Castell Deudraeth—yr aelod Rhyddfrydol cyntaf tros Feirion er dvddiau Cromwell, ac a ddy- chwelwyd vn 1868—blwyddyn fawr dechreu datod hualau Toriaeth, Landlordiaeth, ac Eglwysyddiaeth Cymru a'r flwyddyn y crynhodd Dewi Arfon ei hanes i'r englyn a ganlyn f Er ymosod o'r gormeswr uwchaf Ar y gwych chwarelwr Ceir gwybod-gormod i'r gwr Rwygo cydwybod criegiwr." MARCHOGION CAERDYDD—Ymysg y rhai a gafodd Urdd Marchog (Knighthood), ar yr achlysur uehod, ceir enw Mr. J. Duncan, perchennog y South Wales Daily News (R-h.), Caerdydd; a Mr. G. A. Riddell, prif gyf- arwyddwr y Western Mail (T.), Caerdydd. LLIDIARDWR LLOYD GEORGE.—Ed- ward Cartwri'ght, got pentre Nannerch, ger yr Wyddgrug, a enillodd am y dwrn drws (door knocker) dur o waith Haw yn Eisteddfod Llundain yr wythnos ddiweddaf ac am y llidiart haearn bwrw. Y mae'r dwrn wedi ei brynnu gan 1Yh. Lloyd George, a Cartwright wedi cael gorchymyn i wneud dau lidiart haearn i'w dodi o flaen v ty newydd sy'n cael ei godi i'r Cangliellwr vug Nghriccieth. Sut V gwnai yr Hafod Llwyd yn enw ar y ty newydd, Mr. Lloyd George ? DYLllNAD Y TRAMPS.—Oherwydd fod y Mri. Bellis wedi adferteisio am ddwy fil o bobl i ddod i hel mefus yn eu gerddi anferth sy yn Holt, ger G wrecsam, y mae r ardal yn frith o dramps ac o ysgubion y trefi o bob cwrr, a casual wards Tloty Gwrecsam tan sang. 0 LANFYLLIN.Y mae'r Parch. J. H. Williams, Croesoswallt, wedi derbyn yr alwad i'w bugeilio a gafodd oddiwrth eglwys Anibynoi Pendref, Llanfyllin. Ynghapel Pendref yr argyhoeddwyd Ann Griffiths, Dolwar Facli. 0 FE'TT WSYCOED. Wrth ddisgyn o edrych ar y Fairy Glen yma ddydd Mercher diweddaf, cwympodd Mr. T. N. Richards, oedd vma am y dydd gyda pha.rti o Seiri Rhyddion o Gaer, i lawr bellter deg troed- fedd ar hugain, gan gael ei anafu'n dost. -<?- PAWB EI G WPA N. Y mae'r individual communion cups yn dod yn fwy-fwy cyffredin yn y capeli. Yr wythnos ddiweddaf, anrheg- odd Mr. Morgan, Alyn House, eglwys M.C. Seisnig yr Wyddgrug a trays ac arnynt gant o gwpanau cymun felly. PRIODAS CA ERNA Rb'ON. Priodas y cyrcliodd Iliaws i'w gweled ynghapel Moriah, Caernarfon, ddydd Mercher diweddaf, ydoedd priodas Miss Hannah, mercii y Cynghorydd Fletcher,, gyda Mr. C. T. Townley, Hoylake, sir Gaer, a mab Mr. J. H. Townley, New York. Y Parchn. Evan Jones (cyn-fugail Moriah) a H. H. Hughes, B.A.,B.D. (Lerpwl) a gylym- odd y cwlwni ac wedi neithior yng ngwesty r Royal, ymadawodd y par ieuanc am eu mis rnel ar y Cyfandir. STORI 'S'l'EDDJi'OD.Ym mancwet y Gaiety Restaurant, Llundain, yr wythnos ddiweddaf, lie y croesawid y beirdd a'r eisteddfodwyr a'r beirniaidgau Mr. Pritchard- Jones, galwyd ar y Parch-. J. J. Williams, y bardd cadeiriol, i gynnyg iechyd Mr. Mc- Naught, y beirniad cerddorol, ac ebe fel: Un gwyn a glywais yn erbyn y Dr. yn ystod yr wythnos. Bu cyfeilles i mi yn aflwyddiannus yn y cystadleuon, ac ebe hi, 'Ni alwai i byth mono fo'n Dr MeNauglit, mwyacli ond Dr. McNaughty.'

OUT Y BU

0 Dde Affrica.

-0------MOR DEBYG I HENRY…