Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

Chwe' Chywydd Ymryson

Nodion o Fanceinion.

News
Cite
Share

Nodion o Fanceinion. [GAN OYFRIN] Cip ar Dyfrig. Cynhaliwyd y Sadwrn diweddaf, ynglyn a. Eglwys Dewi Sant, de a chyngerdd yn ysgoldy y Saeson yn Tuer Street. Llywydd y Cyng- erdd oedd y Parchedig Gan on Da vies (Dyfrig), Gaerwen, neu fel y gelwid ef gan wr yn y cyfarfod Y Davies o Aberdyfi." Yr oedd mewn hwyl ragorol,a'i frawddegau yn tarro tan. Dywedodd ei fod mewn llawn gyd- ymdeimlad a'n cenedl yn nhrefi Lloegr, a gwyddai trwy brofiad yn Lerpwl am saith neu wyth mlynedd, am ymroddiad y Cymry ymysg Saeson. Yr oedd y Parch. H. R. Hughes, caplan yr eglwys, hefyd yn y Cyng- erdd; mae ef yn terfynu ei wasanaeth yma yn bresennol, ac yn symud i fywoliaeth Cilcen ar unwaith. Sylwodd Dyfrig am dano as a man that wears well, and wears to the end, improving as he goes on." Cafwyd canu da yn y cyngerdd,a chryn ddifyrrwch, oherwydd yr amrywiaeth a gynhwysai. Chwareuwyd ar y chwiban gan Mr. Simkins, a ehyfeiliwyd gan Mr. J. W. Walters, y ddau yn chwareu- wyr cerdd pertliynol i'r lieddgeidwaid, Mr. Walters yw organydd yr eglwys Gymraeg. Cliwareuwyd ar bedwar o offerynan cerdd gan Mr. H. Vernon. Adroddwyd gan Miss Priest, chanwyd gan Miss Quine, a Mr. T. E. Griffiths, Stockport, a'r Mri. T. Jones a Tom Morgan, yr hwn sydd yn frawd y Parch. John Morgan, ficer un o eglwysi Arfon. Diolchwyd • am yr amrywiol gymwynasau gan y Mri. Wm. loever, 1411 o'r aelodau ieuainc, ac Owen Ll. Foulkes, un o'r aelodau hynaf, ac hefyd gan Mr. Carter, brawd y cyfreithiwr adnabyddus o'r un enw yng Nghaernarfon. Gwelir fod rhai doniau uclieldras yn y cyngerdd, ac yr oedd y gynulleidfa yn lliosog. Pregethwyd y Saboth yn eglwys Dewi Sant gan y Canon Davies. Darnau Dethol. Bu Cymanfa flynyddol yr Anibynwyr yn Chorlton Road nos Sadwrn a'r Sul diweddaf, a phregethwyd yn rymus gan y Parchn. W. James, Abertawe, ac H. Seiriol Williams, Pontardawe. Yr oedd y gynulleidfa yn gref, a bias ar y genadwri. Rhaid marw'n yr haf tra'r heulwen yn gwenu," meddai rhywun, a dyna'r newydd a ddisgyn ar ein clyw yn fynych. Un a fu yn gurad ym Mhenarth, Morgannwg, oedd y Parch. Owen Powell Jones, offeiriad eglwys St. Phillip, Hulme. Marw yn sydyn a wnaeth yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn wr o addysg uchel iawn, ac yn Mus.Bac. Dyma air arall o Toronto, Canada, yn mynegi fod Arthur Gomer, mab y diweddar Barchedig Ddoct'or William James, Moss Side, wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Chwe mlynedd yn ol y croesodd y Werydd, ac. ni ddychwel mwy. Bedd mewn gwlad ddieithr, dyna fedd du. Eto, Gomer, ti gei yma,—addas Flynyddoedd o goffa Onid lor cyfiawn a da A'th alwodd i'r daith ola' ? Dwy orymdaith gan ddau allu cryf a fu y Sadwrn diweddaf, un yn Salford gan holl aelodau y Gobeithluoedd Seisnig, a'r Hall gan Ysgolion Sul deheubarth y dref i Alexandra Park. Wrth wrando ar y rhai olaf yn ceisio canu emynau yn yr awyr agored, meddyliais petase dim ond un gynulleidfa o Gymry yno yn canu "Aberystwyth," y buasai yr holl Saes- on wedi eu tarro'n fud yn y fan. Yr oedd ambell Gymro i'w weled yn y dorf, a disgwylia arweinwyr y symudiad y bydd amryw o'r Ysgolion Sul Cymreig yn ymuno y tro nesaf. Yr ydym oil yn dechreu teimlo o dan effeithiau clefyd y brenin, cyrhaeddwn y climax ar awr anterth ddydd Mawrth nesaf. Mae cost yr Infirmary newydd wedi ei glirio, a chryn orcliest oedd talu y eamnil punnau cyn i'r Brenin a'r Frenhmes ddod i agor yr adeilad yn ffurfiol. Mae y darpariadau mftwr i groesawu ein pen coronog yn ddang- liosiad o deyrngarwch anghyffredin. Y drwg yw lla cliaitf Edward y Seithfed ein gweled fel yr ydym ond fel y ceisiwn ym- ddangos am y tro. Cawsai agoriad Ilygaid pe deuai yma fel dyn arall ryw ddiwrnod heb i ni wybod. Yehydig iawn o ymweliadau a'r ddinas hon a gafwyd gan y Brenin a'r Frenlimes bres- ennol. Fel y cyfryw, daethant yma yn Gorff. 13, 1905, i agor doc newydd y Gamlas. Cyn hynny, buont yma pan yn Dywysog a Thywysoges Cymru yn Gorff. 20, 18G9, yn agor Arddanghosfa Amaethyddol, ac hefyd daethant i Arddanghosfa y Jubili yn Mai 3, 1887. Gall mai yr ail ymweliad hwn eleni fvdd yn olaf iddo yn frenin, pwy a ftyr 0'r hyn lleiaf, mae'n wertli gwneud ffys am v tro.

% PULPUDAU MANCHESTER.

Advertising

[No title]

Lien a Chan.

" YriHen Aelwyd Cymreig,"

Advertising