Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Advertising

l LYTHYR GWLEIDYDDOL

News
Cite
Share

l LYTHYR GWLEIDYDDOL [GAN Y GWYLIWR.] OV Tgr, Westminster, Nos Fawrth, Mehefin 29, 1909. Erlid y Canghellwr. INID oes neb, mae'n debyg, yn hoffi cael ei dretliu, a pheth digon eyffredin ydyw gweled trethdalwyr yn gwingo yn erbyn y swmbwl, yn enwedig pan fyddo'r swmbwl yn un newydd. Ond y mae yr amharodrwydd i drathiad y Canghellwr eleni wedi troi yn fath o orffwylledd ymhlith rhai pobl. Wedi bod yn bloeddio am fisoedd am ychwaneg o wagitjraff ar Fyddin a Llynges y mae cyfoeth- ogion a phendefigion y Ddinas yma yn grwgnach pan y gofynnir iddynt dalu'r bill. Yr wythnos o'r blaen, cyfarfu y Cyf- newidwyr Arian yn nheml Mamon, a chan ddyrchafu eu lief, melltithiasant y Cang- hellwr a'i holl weithredoedd. Ond--a dyna sydd yn wir ryfeddod—ni chynhygiodd cy- aint ag un ohonynt awgrymiad yn y ffordd o ymwared. Yr oedd Mr. Lloyd George ar dir eitliaf diogel y dydd o'r blaen pan yn liawlio gan ei feirniaid ryw ddanghosiad o well ffordd i gyfarfod amgylchiadau ariannol y wlad ar hyn o bryd na'r ffordd a gynhygiai efe. "Nid eill busnes ni rW ffeindio ffordd," meddai gwr tordyn o'r enw Shaw, un o aelodau y ddirprwyaeth a fu'n ymweled a Changhellwr y Drysorfa y dydd o'r blaen. Pwy fusnes sydd gennych chwi i gondemnio yr hYll nas gellwch wella arao ? oedd gofyn- iad naturiol y Canghellwr. Gwelai cvfeillion y gwr tordyn resymoldeb y gofyniad a bu raid i Shaw yswatio. Nid yw arianwyr cyfoethog y City nemor gwell. Y mae Arglwydd Roths- child [" gorixjod o Lord Rothschild, chwedl y Canghellwr], Arglwydd Avobury, a Mr. Felix Schuster a'u cyffelyb, yn ddigon parod i feio ac i ladd ar gynliygion ariannol y Wein- vddiaeth, ond nid oes un ohonynt yn dod ymlaen i ddweyd drwy ba foddion hawddach ac esmwythacli y gellir dod o hyd i'r iiii- miliwn-ar-bymtheg o bunnau sydd yn eisiau Beia rhai pobl wangalon Mr. Lloyd George am ddweyd y gwir mor blaen am wr xnor bwysig a'r Lord Rothschild ond fe ddy- wedodd wirionedd ag y mae gofyn ei ddweyd, a'i ddweyd yn ddifloesgni. Peth perygius ydyw i genedl fyned o dan draed ullrhyw ddosbarth o bob! y perygl mwyaf o bob perygl ydyw syrtliio i ddwylo inelyn y dnw Mamon. O grafangau mileinig y duw hwnnw rliy brin y dianc hyd yn oed a'i lianadl Wrtii gwrs, y mae i'r eriedigaetli oddiallan ei counterpart o'r tu fewn i'r Senedd. Nid yn unig y mae yr Arglwyddi yn awyddu am eu hysglyfaetli ond yn Nhy y Cyffredin fe "eir yr Wrthblaid. yn arfer pob ystrynv au afresymoldeb dadleuol i rwystro ffordd y Mesur sydd yn awr ger ein bron. Wedi pcdair noson o ddadleu poeth md oes brin gynifer a hynny o linellau o'r Mesur wedi eu pasio eto Synnwn neithiwr beth allai fod barn Mr. John Williams, Brynsiencyn, pan 01 le yn y Gallery y gwyliai Mr. Balfour, a r milod by chain a droant o'i gwmpas, yn crwastraffu amser, amynedd a thalentau i hollti blewiach dadl i'r diben, nid i oleuo y Ty, uac i chwilio am oleuni, ond yn unig i atal hyd y medrant ymdaith y Mesur drwy y I f- Blewyn main y bu arweinydd yr Wrthblaid a Syr Edward Carson am hir amser yn ceisio ei hollti ydoedd pwy a dal y dreth ar fuddiant mewn tir pan y digwyddo'r tir hwnnw basio ddwywaith drwy lease. a sub-lease oddeutu r un amser. Nid oedd wiw i'r Twrnai Cyffred- inol egluro y gallai y byddai raid i'r lease a'r sub-lease sefyll treth fod y cwbl yn dibynu ar yr elw ychwanegol (increment) a ddeilliai o'r ddau transaction. I bobl gyffredin, ym- ddanghosai yr esboniad yn eithaf clir, ond i feddwl athronyddol Mr. Balfour, yr oedd ynddo ddefnyddiau holltiadau diderfyn. Cadwodd ef a'i ganlynwyr y Ty hyd ori or gloch y boreu i hollti'r blewyn hWII a 1 gynely ac fe barhant i wneud yr un peth am wyth- nosau i ddod. Dyrchafu a Gwobrwyo. Ynglyn a'r dullpresellnol o wleidydda y mae dyrchafu a gwobrwyo yn rhan o'r gyf- undrefn. Rhaid i ni gydnabod, with gwrs, fod pob aelod Seneddol yn abertliu ei litlii yn wirfoddol er lies ei etliolwyr a'i wlad, ac nad yw bytli yn edrycli ymlaen at daledigaetli y gwobrwy, oleiaf yr ochr lion i r afon Ar yr un pryd, nis gellir disgwyl i'r un ohonynt wrtliod anrliydedd a dyrchaliad pan y deuant i'w cyfarfod. Oblegid ein bod yn synied fel hvn, llawenychwn yn ddirfawr pan y syrtli rhai o wobrwyon set a ffyddlondeb gwleid- yddol i'n pobl ni, Dynar aelod dros Sir Feirionydd, er engraifit, y mae ef era ann\ w o flynyddcedd yn adduru i Dy y Cy„redn^ at fel Syr Arthur Osmond Williams fe bery felly, tra yr ychwanega yn ddirfawr at ogoniant y Farwnigiaeth. Nid yw Syr John Duncan, perchennog y South IVale8 Daily News, yn bolitician yn ystyr gulaf y gair, ond dyry ei wasanaeth hirfaith i Ryddfrydiaeth ac i Addysg bob hawl iddo i'r anrhydedd sydd wedi disgyn i'w ran. Gwr dieithr i mi ydyw Syr George Allandyce Riddell, prif gyfar- wyddwr papur Ceidwadol Caerdydd, ond mae ei ddyrchafiad i'r Farchogaeth yn bra.wf diamheuol, onid ydyw, o amhleidgar- wcli y Prif Weinidog a'i gynghorwyr ? Mwy dyddorol yn awr, feallai, ydyw y cyf- newidiadau a ddisgwylir mewn canlyniad i'r symudiadau a achoswyd trwy ymddiswyddiad dau o Is-ysgrifenwyr y Weinyddiaeth. Y mae lie Mr. Herbert Samuel yn y Swyddfa Gartrefol eto heb ei lenwi, a da gennym weled fod rhai o ddoethion y Wasg Seisnig yn enwi ein Herbert ni-yr aelod dros Swydd Gallestr —fel dilynydd iddo. Gwyr pawb sy'n ad- waen Mr. Herbert Lewis a'i waith ei fod yn dra theilwng o'r cyfryw ymddiriedaeth os y trosglwyddir hi i'w ddwylo. Nid yw yr oil o'r aelodau Cymreig eto wedi eu gwobrwyo am eu ffyddlondeb i'r Weinyddiaeth—hyder- wn y daw eu tro hwythau cyn bo hir. Pan gaffont oil yn ol eu haeddiant, bydd hawliau Cymru hwyrach ar uwch tir. Gwyn ein byd os gwelwn hynny. yj f,C:h, 0

EISTEDDFOD POWYS,