Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
at (jBWY'q"DBYGU) L....J
News
Cite
Share
at (jBWY'q"DBYGU) L .J Eisteddfod Llundain 'l'rwy'r Drych—o'r pellter-y gallwn weied yr Eisteddfod y tro hwn, oherwydd methu o honom gael y mwynhad arferol o ddilvn y Iliaws i fod yn bresennol. Ond nis gallwn ymatal heb ysgrifenmx ychydig yn ei chylch. Da gennym iddi, yn ol fel y clywsom, glirio ei thraul ariannol, ac felly fod yn fwy ffodus na'r tro o'r biaen y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Brifddinas. Diflas fuasai i ddynion cenedlgarol a hael dreulio cymaint o'u hamsor a'u hegni cyhyd, ac yn y diwedd orfod tain o'u llogellau eu hunain am gael gwneud liynny, fel y digwyddodd unwaith. Gyda'r profiad a gawsent yn flaenorol. rhaid oedd wrth lewder mawr i'r antur ddiweddaf. Ond gwyddom yn dda fod yn Llundain Gymry glwladgar, ac eisteddfodwyr profedig. Gwir fod yno wyr ariannog, ond y mao gan- ddynt hefyd galon fawr a llaw hael. Ni bydd yr elw ond ychydig, ac efallai na cheir ei fed yn ddim erbyn clirio pob gofyn. Modd byn- nag, bydd yn foddlonrwydd go lew i'r wlad yn gyffredinol ddeall y bydd i'r Eisteddfod dalu ar ci hoi. Clywsom gan amryw y sylw.nad yw Llundain yn lie manteisiol i Eisteddfod boblog. Wel, y mae gwir yn hynny Eto, nid yw yn adlewyrchu yn erbyn y Pwyllgor Lleol, ond yn eu ffafr. Fe ai Ilawer o Gymry i Lundain nad aent i'r Eisteddfod—mynd i weld rhy- feddodau y Brif-ddinas a wnaent hwy. Cafwyd profiad o hynny yn 1887 ac a hwy yn gwybod y pethau hyn oil, mwyaf yn y byd oedd clod Cymry Llundain yn mentro gwa- hodd Eisteddfod nas gallasai fod o fudd ar- iannol iddynt hwy, ond a allasai fod yn golled. Llongvfarchwn y Finsent a'r llu dowr y bu yn eu harwain mor llwyddiannus i gynhyrchu Eisteddfod Llundain 1909. Llwyddiant Caernarfon. Y dref gyda'r fwyaf Cymreig yng Nghymru yw hi, a'i thraddodiadau llenyddol, bardd- onol, cerddorol, ae eisteddfodgar yn ddis- glair dros ben. Deffrodd ei hysbrydiaeth cystadleuol y tro hwn gyda grymuster Sam- sonol. a gwnaeth i'r estroniaid-na, nid chwerthin," ond edmygu, ac i Gymru, ac yn arbennig y Gogledd, lawenhau. Cododd y Cor i bwynt uchel iawn mewn rhagoriaeth, ac yr oedd yn amrywiaeth hyfryd i symud budd- ugoliaeth bennaf y corau o Loegr i Gymru, ac o'r De i'r Gogledd. Mae arwyddion fod y gwersi lied lymion a gafodd y corau Cymreig y blynyddoedd diweddaf gan eu beirniaid, yn gystal a'u gwrthymgeiswyr Seisnig, yn dechreu dweyd ar eu cynnydd. Nid oes neb a wad ddawn can y Cymro, ond buont yn m ddiffygol mewn diwylliant, ac yn y gor- ffenrwydd a wna ganu corawl yn gelfydd yn gystal a hwyliog. Gyc!a'r Cor, cafodd Caer- narfon fri lleol ym muddugoliaeth fawr Gwyn .Tones, enillydd y gadair, a T. O. Jones, ar y ddrama, yn gystal a gwobr lenyddol arall. Yn sicr, y mae gan y Canoris Ie i deimlo'n falch o'r bri a ddaoth arnynt drwy'r budd- ugoliaethau hyn. Areithiau Llywyddion. Gyda'r gwyr enwog oedd yn y gadairyn ystod yr Wyl. nis gallesid llai na disgwyl anerchiadau oithriadol. Buasai eiddo Mri. Balfour, Asquith, Lloyd George, ac ereill, yn werth eu eadw ymysg y trvsorau oisteddfodol. Lhvyddodd Mr. Balfour i daro tant yng nghalon y Cymro yn gystal a phob cenedl arall a'i gwrandawai. Aeth yn ddigon dwfn i hanfod cerddoriaeth fel ag i gyffwrdd y llinynau a red drwy y ddynol natur." Mae yr Eisteddfod o werth pe na bae ond am y ffaith y rhydd lwyfan i bob sect a phlaid i lefaru ar bynciau sy'n gyffredinol a di-gweryl i bawb. Ac nid di-fudd ymweliad yr Eist- eddfod a Llundain pe na chawsid dim neilltuol iawn drwyddi ond hyn. Ni fydd yn un an- fantais i Gymru ddarfod i Saeson ac arwein- wyr politicaidd estronol weld y Cymry mown Eisteddfod. Pwy a wyr na fydd y dvlanwad yn Ilawer mwy effeithiol na hvawdledd llu o areithiau ar lawr y Senedd ? Er i vegrech Gymraeg ryw Suffragett adsain drwy y Neu- add, nid yw y Cymry'n gyfrifol am y dwlni hwnnw, ac ni feir hwynt am dano. Ennill a Cholli, Mae ennill yn brawf ar fardd, mae colli yn brawf ar ddyn. Un o'r pethau diflasaf ynglyu ag eisteddfodau yw y drwg deimladau a achosir rhwng cystadleuwyr a'u gilvdd, ac yn enwedig a'u beirniaid, yn lied fynych. Cen- hedlwyd cenfigep a, chas rhwng brodyr ar rai achlysuron fel ag i ddweyd ar eu hagwedd at en gilvdd ar hyd eu hoos. Nid hawdd cael oolhvr da. Wrth gwrs, nid oes neb yn boffi colli, na neb na thDimla ryw bang o loes ar y pryd ond rhaid fod dynoliaeth unrhvw un yn dlawd o bopeth ond balchter oni fedr ddal heb chwerwi a dtgio a rliuo yn ei gorn am na fuasai-efe yn cael y wobr. Mae ambell un mor betlima fel ag i feddwl nas gall dy- farniad fod yn gyfiawn ond yn unig pan fyddo yn', oi ffafr ef. Bydd wedi breuddwydio ei goroni neu ei gadeirio, a'r weled igaeth yn wen o angylion clod a bri ond os na sylweddolir ei ddyfaliad, ca weledigaeth ddu o gyth- rouliaid dichell, malais, dial, a phob anghyf- iawndor, a bydd o hvny allan mewn vsbryd rhegi ci fairniaid a'i drechwr. Beth bynnag am y bardd, mae y dyn yn brin. Nid yw beirniaid yn anffaeledig, ac mae'n debyg ddarfod iddynt fethu mewn barn fwy nag unwaith o bryd i bryd, Er hynny, y maent, ni gredwn, fel rheol yn gywir. Diwylliant yn dweyd. Mae Cymru Sydd yn dechreu dangos yn ddigamsyniol hyd yn oed mewn barddoniaeth fod y manteision addysg a berthyn iddi yn dweyd ar yr Eisteddfod. Wrth gwrs, cre- bwyll ac awen yw y pennaf peth i fardd, ond mae addysg a diwylliant yn angenrheidiol i gyfansoddwr da. Gwnaeth y beirdd Cymreig yn rliagorol yn ystod anfantoision mawrion v rhan fwyaf o'r canrif diweddaf, a haeddant fwy o glod nag a roddir iddynt gan rai a gaw- sant fanteision mwy. Eto, fe ddylai yr hen ddosbarth fod yn ddigon eangfryd i groesawu y to ieuengach a dysgedicach o feirdd diweddar ein gwlad. Diau fod ymysg boirdd na chawsant addysg uwcliraddol rai ag y deil eu coethder a'u hawen yn ddisglair o oes i oes yng nghanol cynhyrfiadau goreu eu dilynwyr—yn enwedig Ceiriog. Ond pe byddai i feirriaid barddonol dysgedicaf Cymru heddyw fynd drwy gyfrolau mwyafrif y beirdd a ddaethant i'w bri yn ystcd y canrif diweddaf, credwn y gosodent farciau lliosog ar bob tu dalen mown ffordd o gywiro a beio, mewn iaith, priod-ddull, arddull, a ffigyrau. Nid addysg yw y cyfan, ac mae rhai, or yn vsgolheigion da, heb fawr o awen yn eu g"; aith. Ond y mae gon nYID: heddyw -foirdd sydd yn berchen athrylith farddonol uchelryw ynghydag addysg a diwylliant helaeth, ac at y cyfan rai yn meddu anianawd Gymreig ddigon cref i gadw ei hunandeb drwy bob dylanwad a ddaw arnynt. Mae eu haddysg yn eu dat- blvgu ac nid eu trawsffurfio drwy efelychiad i nodwedd estronol. Un o'r pethau mwyaf anioddefol mewn barddoniaeth yw y rhodres epayddol a welir mewn rhai i wneud eu hunain yn debyg i feirdd estronol fel Brown- ing neu Tennyson, mewn niesurau a syniadau, nes colli eu gwahanfod Cymroaidd heb gael dim o wei-tlt-dim ond dry(-! i iolaoth--yn ei le. Mae Gwynn Jones yn ddysgodig yn llenydd- iaeth amryw genhedloedd, ac vn gynofin a gweithiau prifeirdd y byd. Erh,vni-iy,-eanyn wir Gymreig. Y mao'n gyfarwydd a'r beirdd Cymreig mwyaf henafol a diledryw, yn deall eu hiaith a'u dull o feddwl a chyfansoddi. Teimlwn wrth ddarllen rhai eyfaiisoddiadaii barddonol Cymreig diweddar, er pan mae yr Athro J. M. Jones ar y fainc feirniadol-yn enwedig wedi'r gyflafan a wnaoth yn Eis- teddfod Bangor ar awdlau Ymadawiad Arthll.r-fod y beirdd yn ymgais at arddull y rhamantwyr a'r hon feirdd clasurol. Ond y mae rhai, hyd yn hyn, heb fod yn ddigon cyf- arwydd a'r maes, ac yn ymddangos fel efel- vchwvr amrwd. Ond mae Gwynn Jones wedi astudio Cymraeg y gwahanol gvfnodau, wedi anadlu awyrgylnh yr hen feirdd goreu, yn gwybod arbenigion iaith, gwJad, a phobl Cymru yn drwyadl, tra y mae ei waith yn addfed a'i ddttll yn naturioL Hawdd gen- nym gredu, oddiwrth ei Ymadawiad Arthur, fod ei Wlad y Bryniau yn ardderchog. Ac nis gallwn lainallawenhauynyffaith fod awdlau fel eiddo Gwynn Jones, J. J. Williams, ac Eifion Wyn, ynghyda beirdd ieuainc ereill,yn debyg o gadw i'r awdl ei lIe priodol fel ffurf arbennic ar farddoniaeth Gymreig, ac na fydd iddi farw gyda'r pen campwr cyng- haneddol Dyfed. Pryddestwr a Thraethodwr Gwnaeth Mr. W. J. Gruffydd orchest anghyffredin, a chafodd swm da o aur yn ei logell, yn gystal a choron arian ar ei ben Dyma un arall o gynhyrchion y Brif Ysgol, ac y mae'n anrhydedd i'w genedl. Y mae'n lienor campus, ac yn vsgrifennwr Cymreag cvfareddol. Bu yn ail ar destyn y goron ym Mangor pan yr enillodd ei gyfaill Silyn. Gwnaeth W.J.G. yn Llundain fusnes tebyg i eiddo Elfed yng Ngwrecsam. Un neth nod- edig yn yr Eisteddfod hon yw y ffaith mai lleygwvr a gafodd ei phrif wobrwyon bardd- onol a thraetliodol. Bu xhyw ffugeuwau yn ebychu'n ddolefus drwy y wasg ers tro bellach yn erbyn i weinidogion gipio'r gwobrwyon hyn. Nid ydym yn "meddwl fod v dolefwyr wedi cael dim cvsur yn Eisteddfod LJundain. Efallai mai y cri nesaf fydd yn erbyn i athraw- on colegau gystadlu. Wedi'r cyfan. nid yw y prif wobrwyon cenedlaethol, yn enwedig mewn barddoniaeth, yn gyfiawn anrhydedd oni enillir hwv yn erbyn pwy bynnag a ddewiso gystadlu. Gall fod lie i deimlad o anrhydedd personol, ond ynfvdrwydd yw gosod deddf gwaharddiad ar y mater. Clyw- som fod y fath beth, ond carem wybod pa bryd ac ymha 10 y pasiwyd y ddeddf. Cyd=awduriaeth. Nid gyda'r amcan o awgrymu dim an- nymunol am vr awdwyr y gwnawn gvfeiriad at y ffaith ddarfod i ddau faia,dwr gvdweith- redn i gynhyrchu yr un cyfansoddiad, vr hwn a ddj farnwyd yn oreu yn Eisteddfod Llun- dain. Ni cheisiasant gelu y ffaith, ac yr oedd hynny ar unwaith vn ou dangos yn ddynion gonest ac anrhydeddus. Ond y mae y fath gvfansoddiad, i amcan cvstadleuol, yn peri i eldvn feddwl am v peth, A yw yn iawn mewn 1. p cystadleuaeth ? ac os yw mewn traethodwyr, paham na fyddai hefyd mewn barddoniaeth cadair a choron ? Bu helynt flin ar ol un Eisteddfod Gened-laethol oherwydd y tybid fod dan awdwr i'r un traethawd, ac ysgrif- enwvel pethau chwerwon parth amryw gyn- hyfchioti barddonol buddugol oherwydd yr honnid fod mwy nag un awdwr i'r un cyf- ansoddiad. Wrth gwrs. os dvna'f ffaith, yr oedd lie i gondemnio am guddio'r gwir ond vmddanghosai i ni fod v syniad o ddau awdwr i'r un awdl neu bryddest yn cael ei gyfrif ar unwaith fel peth hollol wrthun ac anam- ddiffvnadwy. Mae y pwyrit yn un mor ddy- ddorol a ohyrhaeddbell fel y Ijyddai yn ddiogelwch i gyd-ddealltwriaeth pe ceid goleuni pellach arno, a rheol ddianiwVs hofyd.
Coronfardd Llundain.
News
Cite
Share
Coronfardd Llundain. Y MAE Mr. W. J. Gruffydd, M.A., Caerdydd, a enillodd y Goron yn Eisteddfod Llundain ddydd Mereher diweddaf, yn frodor o Bethel, sir Gaernarfon yn fab chwarelwr ac yn un o ddisgyblion V 'ch. Phys J. Huws, oedd ar y 'pryd yn weinidog yn y lie hwnnw, 0 Ysgol Sirol Caernarfon, enillodd Y sgoloriacth a d-lali-,N,yd ar un adeg gan Goronwy Owen, eiluri llenyddol y Coronfardd newydd. Ef- rydodd yng Ngholeg lesu, tan y Prifathro Syr John Phys, a graddiodd yn 1903 gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf. Ers tair blynedd, y mae yn ddarlithydd Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac y mae'n llawn o'r afiaeth Eisteddfodol a llenyddol. Cy- hceddodd Ganeuon a Cherddi o'i waith ei hun yn 1903 a rhai blynyddau'n ol, cydweith- iodd a'i gyfaill y Parch. R. Silyn Roberts, Ffestiniog, al; lyfr o delynegion agylioeddwyd ganddynt.
Cadeirfardd Llundain.
News
Cite
Share
Cadeirfardd Llundain. Y mae Mr. T. Gwynn Jones, a enillodd Gadair Eisteddfod Llundain ddydd 1 an di- weddaf, yn enedigol o Bettws yn Ehos, Aber- gele, yn fab ffarm, ac yn caru pob tywarchen o dir Cymru a phopeth Cymreig a dyf ohono. Cafodd ei addysg yn Ninbych, troes at newyddiadura, ac ymgydiodd a'r Faner, y pryd hwnnw tan ofal Thos. Gee. Daeth i Lerpwl,a bu'n is-olygydd y Cymro ym ychydig amser. Aeth i Gaernarfon, i is-olygu'r Herald Cymraeg. Gwaolodd ei ieehyd; a rhoed iddo dysteb genedlaethol 3¡J gallu- ogodd i fynd i'r Dwvrain. Gwedi dychwelyd ac yniadfer, ail ymaflodd yn ei waith new yddiadurol, ac ar hyn o bryd efo yw golygydd Y Genedl, Caernarfon. Y mae'n ieithydd gwych,—yn gyfarwydd a'r Ellmyneg, Eid- aleg, ac a iaith Llydaw, ac wedi ennill ysgolor- iaeth am ei wybodaeth o'r Wyddeleg. Efe enillodd Gadair Genedlaethol Bangor, 1902, ar Arthur a'r llynedd, yn Aber- tawe, efe a enillodd y wobr am gyfieithu ei awdl ei hun ar Arthur i'r Saesneg. Efe hefyd a. ysgrifennodd y Hhagdraeth galluog i gyfieithiad Daniel Rees o Dante. Y mae'n awdwr amryw nofelau o fri; yn ysgrifennwr toreithiog i'r cylchgronau Cymreig, ac i'r rhai Celtaidd ar y Cyfandir perfformir rhai o'i ddramodau gan gwmniau, ac ymysg lliaws o bethau a gyfieithodd i'r Gymraeg, y mae nofel L'homme qui rit Victor Hugo. Bu mewn cysylltiad agos a'r diweddar Emrys ap Iwan a pharhad ohono ef i gadw Cymru rhag ymSeisnigo mown iaith a delfryd.ydyw Gwynn Jones. ,0-
PILLIAU EOS DAR.
News
Cite
Share
PILLIAU EOS DAR. Wele ddetholiad o'r penhillion y cafodd Eos Dar gymaint clap a chlod o'u canu yn Ngorsedd a Neuadd Llundain yr wythnos ddiweddaf Cymru fach yn Llunden fawr, Yw'r oedfa'n awr yn brydferth Ar y maen, yr awen mwy A geidw'r ddwy yn gydwerth Dewr yw nod yr awen wir, Yn nhir y BroninTorwortli.Brynfab. Os ymffrostia'r Eidal heulog Yn ei chelf-arlunwyr enwog, Fe vmffrostia Cymru Fechan Yn ei hanwyl blant ei hunari.—Brynfab. Mae pob Cymro'n tyfu'n awr, A Gwalia'n fawr i'w gweled Megir bechgyn ymhob plwy Yn Golfyn mwy nac Elfed A daw rhai fel Pedr Hir 0 gynnyrch tir a'i gaiied.Brynf(tb. I arwain byd, ca'r awen ber Rymusder i ymestyn 0 for i for, a'i chainc a fydd Llawenydd ar bob llinyn A bydd fwynhad ei defion hi Hyd dwyni Gwlad y Wynwyn. Mae Llundain fawr yn rhoddi bri Ar wyl barddoni Prydain Ond mynn ein hen Eisteddfod ni Roi mwy o fri ar Lundain Mae'r uchaf wyr mewn dawn a gras Yn eirias yn ei liarwain.-Dyfed. Er mai yng Nghymru lawn o hedd Mae'r Orsedd yn ei helfen, Mae cynnal Gorsedd dros y clawdd Yn ddigon hawdd i awen A'r defion hynaf yn y tir Hebrvngir lie bo ayi.geii.Dy.ied. Os bu celanedd yn y Twr, A chyflwr fel y fagddu Di-gynnwrf yw y stanc yn awr, A'r fwyell fawr yn cysgu A beiddia Cymro drwy y Hen, A'i ben heb ei wahanu.—Gwili. Ein Vinsent brysur yma sydd, Cadeirydd mil pwyllgorau Ac Elfod fwyn a'Machreth Rhys, Wyr dilys gar y diliau ,v Ac er rhoi trefn ar gwyr Caerludd, Eifionydd ddaeth-a finnau !—Gwili. Fo a y Dafwys fawr ar dan Gan seiniau can yn adsain, 0 orielau'r Albert Hall, Nes bydd St. Paul yn darstain, Rhyw londer gyrraedd byd y ser Yw Honder 'Steddfod Llundain.—Gwili. Mae Llundain bron llyncu Hen Gymru i gyd Mao'n llyncu a llyncu O Gymru o hyd Wrth dderbyn bwyd iachus 0 hen Gymru fach, Mae Llunden yn cadw Mor fyw ac mor iach W. W. Croesaw fil i Dyfed lwys, A Gwynedd, bwysig berson, A Chadvan hardd a Marsiant far dd T ardd yr hen farchogion Ac i Eifionydd fawr ei ffyss, Gwr nervous o Gaernarfon.— Llewelyn Williams. Ysbryd Glan y Gors o hyd A esyd fflangell ysol, Ar bob Die Shon Dafydd ddaw 0 draw ar hyd yr heol Da yw'r clwyf a dorai cledd Gwirionedd Jac werinol.—Brynfab. Os oes gennycli ddoniau per Yn llonder pawb yn Llunden Os oes goanych adar cordd A'Ll cyngerdd ar bob cangen Madam Patti'n Nghraig y Nos Yw eos gwlad yr awen. Tra bo cylch ar fill yr aig, A thra bo craig yn crogi, Tra bo tonnau'r Werydd maith Ar fin y traeth yn torri, Bydd awen Cymru Jan ei gwedd, A'i Gorsedd yn rhoi gwersi. Dywed rhai fod toyrn yr Almaeo Yn llygadu tua Phrydain, Deued trosodd pan y mynno Os caiff ganiatad i lanio.-Brynfab. Deued trosodd i'r Eisteddfod, Wrth reolau braint a Defod, Ac os bydd yn fachgen ufudd, Fe gaiff englyn gan Eitioiiydd.Bryrtfab. Rhaid i lawer gwr o gyfoeth Dan y Dreadnought fynd yn droednoeth, Ac fe flingir Cymro bychan Llawer awr wrth gasglu'r arian. Fe geir Ilawer gwraig yn bloeddio Am gael ll.odrau'r gwr i'w gwitgo, Dyna'r erchyll beth sy'n cadw RJiywun yn y cylch yn weddw. Fe all cleddyf mawr Hercomor Ddofi'r bardd sy'n wyllt ei dyrner, Ond anhysbys yw y ddyfais All dawelu merch y bleidlais. Pa beth wnelai Llunden, er cymaint yw hi, Heb ferched a bechgyn o Gymru fach gu Am gan ac am delyn, a phregeth gwir yw, Hen Gymru sy'n cadw Dinas Llunden yn fyw 0 Gymru daw'I' canu, o GYIlru daw'r swn, Daw Llundain bron tagu i Gymru am ddwr, Mae Llunden yn anfon i Hen Wlad y G an Am laeth, ac am enwyn, am ddwr, ac am dan. Os colla y Cymro ei lafar a'i iaith, Fe gollir y genedl heb fod yn faith, Wel, dyma le sobr, wel, dyna le gwag, Fycfd gweled hen Gymru heb air o Gymraeg. i
Advertising
Advertising
Cite
Share
Telephone 1157 Royal Established 3857, ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South, Has Property to Let in various parts of the town. Mortgages arranged. Valuations made. THOMAS H. OWEN, ESTATE AGENT kACCOUNTANT, 246 WALTON ROAD, Liverpool. Property bought and sold, and Estates economically managed. Telephone, No. 1775. HENRY JONES, Estate Agent, Valuer O Property Auctioneer, 5 COOK STREET, LIVERPOOL. Ranta Collected. Valuations made. Property sold by Public Auction or Contract. Telephone No. 7909. J. LEWIS JONES, ESTATE AGENT & VALUER, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rents personally collected. Purchases and Sales negotiated. Mortgages arranged and Insurances effected. THOMAS a JONES, ESTATE AGENTS VALUERS, INVESTMENT BUILDINGS, 67 Lord Street, Liverpool. Telephone No.-5586 Central. Properties Bought and Sold. Mortgages arranged. Valuations made, Rents Collected. TiL. 42T ANFISLD. Established 1872. SIEPKEK ROBERTS & SON, ESTATE AGENTS A VALVERS, 137 Everton Rood, Liverpool (Late 5 StanSeld Road). Properties carefully Managed, Rents personally CoJ If-JOted. Purchases and Salas Negotiated. Mortgages arranged and Inanm-o* efiacifced. R, E. HUGHES, Estate Agent, Surveyor 6 Valuer. Charing Cross. Birkenhead. Talephone No.—5 J B'h*sftd, Has Houses to Let, and for Sale, in varions parts of the Town and out districts. Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made to Builders. Estates laid out. Rents Collected, and Property o&rofuliy managed. Telephone 3034 Central. WILLIAM WILLIAMS. LAND AND ESTATE AGENT, VAL'JKR AND PROPKETY SALESMAN, 20 NORTH JOHN ST., Liverpool 20 FREEHOLD HOUSES, 6/6, near Sheil Rd. FOR SALE. CHEAP. CHANGE OF ADDRESS Bromley Edwards & Co. (Late Bromley Edwards, 6 Royal St.) ESTATE AGENTS, MORTGAGE AND INSURANCE -BROKERS, HAVE REMOVED TO 102 K.rkdale Rd., Liverpool J. l. Longford & Slater, FA Estate 49 Land Agents* Surveyors & Valuors, ICivil & Sanitary Engineers, Property Auctioneers, Spec- ialists in all Estate Matters, 26 North John EStreet, Liverpool. Telegrams Approval, Liverpool." Telephone: 2169 Liverpool Central. Established 1881. TitiPHosi 4585 BANK. QUEEN FOSTER, (James Henry Foster; F.B.A.A.) ESTA,TE, MORTGAGE AND INSURANCE AGENTS, Building Societies Offices. 2 South John Street, Liverpool (IQrntr of Lord Stropt) T. WOOSNAM ROBERTS Practical Estate Agent, Bootle Estate Office No 52 STANLEY RD., BOOTL (2 &oorz'ero<m Bedford Road), » Litherland, Sea forth & Pierhead Cars plUS. Established 1884 'Phone, 23 5 O. JONES WILLIAMS, ESTATE AGENT & VALUER, 24 SIR THOMAS STREET, LIVERPOOL. Personal supervision in every detail general management of all kinds of Feal Estate, Confidential Reports and Valuati for Purchase, Sale, or Mortgage. Est. 1885. Telephone 1903 Ceøtt RiA IRe 0 M B I G S made up, 2/' j JH per oz. I COVERLETTE HAIR FRAMES FROM 3 /6 EACH. TAILS OF ) FIt old .1 PURE Y R/6 HAIR, J Gent's Scalps, Perfect Fit and Match* T. S. BROWN, 3 Leece Street (Car Station), Liverp°° .==========t I Maes llofur Undeb Ysg. Llawlyfr ar Epistolai M gan y Parch Hugh Williams, Amlwcb Pris 2/6. am 2/= Parch. | John Owen Jones, Pris 1/6 am 1/3. Parch. Dr. Phillips. Pris 2/6 net. Iw gael gan HUGH EVANS, < 444 Stanley Rd., Liverp Hanes y Diwygiod 9 0 a'r Diwygwyr: Yn cynnwys hanes Mr. Evan RobeT^tfo rieni, ei ddvgiad i fynv, ei alwad &c., &c., gan y ParcJj. Thomas Gorseinion. Hanes cychwyniad a gj iad y Diwygia drwy Gymru, ysgrifennu gan lenorion adnaby Hanes Mr. Dan Roberts a Mr. Evans, a chargliad o farddoniaeth J iad, y Cynhwysa y gyfrol liaws o ddarlum _gjS rhai a gyhoeddir am y waith gyntaf, darluniau o rieni Mr. Evan Roberts, £ Casllwchwr, ac Ysgoldy Pisgah, &c.» PRlS HANNER CORON. nett E. W. EVANS. Swyddfa'r Goleuad Dolgellso PILES. WHY SUFFER FROM THIS COMPLAINT ? WHEN YOU CAN 13 ABSOLUTELY By a few applications of a remedy that been known to fail to cure the most obs^ long standing cases—whether itching, Pr or bleeding. WITH HEMROIDINE. \1betÐ Hundreds have been cured in South Africap ,der. the proprietor discovered this wocdertui otlfJ It is now introduced for the first time In a tfif country, so that al! snfferers can give It and be convinced of its marvellous efficac^^ if It is a clean, ready application ca^e tine relief it gives and permanent innljs T estimoaials on application, or the orl& re<} to! inspected at the following address, prepai proprietor and to be obtained from D. H. EVANS, Dispensing 148 Lodg Lane, Liverp°%0> POST FREE 2/3 PER GA}\ Maes Llafur Ysgolion M.C.1909=10. Llawlyfr ar yr Actoo Gan y Paroh. f O. J. OWEN, M.A., RocK Gwerthodd yr Argraffiad Cyntaf alJ8Jl ychydig amser. Darparwyd y Llawlyfr gogyfer a r iadau Ieuengaf a Chanol y mae'n hyn< 8c 0 hefyd at gynal Dosbarthiadau Darllen» ■> cynllnn a gwerth y N odiadau, dyrna n Esboniad goreu o'i fath yn yr iaith. Y mae'n dair rhan, sef ewestiy^ yo j? y geiriau, a nodiadau esboniadol. ragorol, a phwy bynnag fyddo weai llyfr hwn, ni raid iddo ofni Y Parch. J. MORGAN JONES yn Y .veonUllythyreÐ Cynwysa 136 o dudalennau, fan ond hollol eglur. 6c-b- Amien 9c. Pris i Ysg Limp Cloth,yn cynnwys Map prydfer* Paul, 1/3. I Ysgolion, 9c- miioP^ I'w cael gan Lyfrwerthwyr, neu y« oddiwrth y Cyhoeddwr- .1 HUGH EVANS, 356..8a a 444 Stanley FREEHOLD LAND FOR SALF; AT SEFTON PARK. WAVERTREE, TOWNSEND LANE, WALTO !1J LONGMOOR LANE. ADVANCES MADE IF REQUIRED Apply Jones & Hughes, 13 WhitechdP I TELEPHONE—7732 CENTRAL. 4r