Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

DYDD GWENER.

News
Cite
Share

DYDD GWENER. Yn yr Orsedd. 'Roedd yn foro braf heddyw, megis y bu bob bore ar hyd yr Eisteddfod, ac o ddwy i dair mil wedi dod i wylio detodau r Orsedd. Clywyd Eos Dar o Mr. W. O. Jones yn canu penhillion, a Thelynores Gwalia wrth y delyn. Y Vinsent a hysbysai fod Elfed yn abseniiol a'i fod mewn profodigaeth lem-wedi colli ei fab. Caed gair oddair y Maen Llog gan y Parch. Ben Davies, anerchiad Cymraeg gan y y Tad Kane (Maol Dafydd) o'r Iwerddon, ac anerchiad yn y Gernyweg gan Dr. Jenner gair byr yn Saesneg gan Arglwydd Mostyn a rhoed urddau i'r personau a ganlyn Fr Is-Iarlles Maitland (Gwendolen Glwyd). Arglwyddes Wyndham-Quinn (Gerddores Gwlad Forgan). Mrs. Rd. Helme (Gerdd- ores Gwyr). Mrs. Ellis J. Griffith (Pryd- wen). Miss Mary Ellis, Dolgellau (Mair Elis).. Miss Gwennie Griffith, Abertawe (Gwennie). Mrs. J. Hinds, priod trysorydd Eisteddfod Llundain (Goleuni Myrddin). Mrs. Timothy Davies, Fulliam (Eos Panty- celyn). Mrs. Hy. Jones, Awstralia (Eos Rhydy,fro)-ci bron hi'n frith o dlysau a enillodd am ganu yn ei bro bell. Y Parch. Lemuel James, Ystradmynach (Hopkin),efe'n un o ddisgynyddion Wil Hopcin y bardd. Dr. Stalker (Padrig Dulyn). Mr. Tom Morgan-cliwytliwr y Corn Gwlad (Gerddor o Ludd). Mr. D. R. Hughes (un o ysgrif- enyddion Eisteddfod Llundain)—(Myfyr Eifion). —Owen (Dewi (Ittyrfrii), Waen- fawr. a Wm. Ellis Williams, Llanrug (Gwilym Ilhyddallt). Yn y Neuadd. Arglwydd Mostyn yn v gadair a Chadfan yn adrodd molawd farddonol iddo ar ol ei anerchiad.. Canwvd Can yr Eisteddfod Eisteddfod y Cymry (Dr. Parry), gan Miss Towena Thomas. Ymgeisiodd chwech ar. faled Owam Lawgoch," £ 5. Goreu, y Parch. E.^Wyn Roberts, Manceinion (mab Hywcl Tudur, Clynnog). Cyfres o benhillion ar fesur Triban Mor- gannwg, 95, Brynfab, Pontypridd. Traethawd, Y Jacobeaid Cymreig," £ 10. Un ymgeisydd ac yn deilwng, Rhosen Wen" ond ni atebodd. Yn ei anorchiad, cyfeiriodd y llywydd mai efe oedd yr unig un o Lywyddion Eisteddfod 1909 oedd yn fyw o'r rhai a lywyddent hefyd yn Eisteddfod flaenorol Llundain 22 mlynedd yn ol. 'Doedd yr un parth o'r deyrnas allai ddcd a eliynhulliad mor ddyddorol ynghyd ag Eisteddfod y Cymry, a chynhyddu 'roedd ei llwyddiant a'i .dy lan wad o hyd. Canu penhillion gyda'r delyn (dull y De). Dau ymgeisydd, a dim cystal cystadleuaeth a'r diwrnod cynt ar ddull y Gogledd. Budd- ugol, Y,2, George Harris, Gors Las, Llandebie. Nob yn deilwng ar gyfansoddi baled i gor a cherddorfa; nac ychwaith (un ymgeisydd) ar gyfansoddi can i baritone ar y geiriau Os wyt Gymro o delynegion Eifion Wyn. Cyneithu o Ffrancaeg, i Gymraeg, £ 5, Llew Hughes, Kemp Road, Llundain. Canu'r delyn fechan (cyfyngedig i Gymry), Erddigan tro'r taint," a Syr Harri Ddu." Gwobr, telyn fechan gwerth £ 3. Goreu o ddau ymgeisydd, Taliesin Merfyn Morgan, Aberdhr a Freda Holland, Birkenhead, yn cael gwobr ychwanegol gan Miss Williams, Aber Clydach, a chan Arglwydd MosStyn. Freda yn ddim ond deg oed. Morthwyl drws mewn unrhyw fold, 1, f2, E. Cartwright, Nannerch, sir Fflint. CltnhwyHbren copr neu bres, 1, JE2, neb yn deilwng 2, £1, E. Thomas, Treforris, a Jon- athan Thomas, Gw csam yn gydradd. Stol haearn, 1, 94, O. J. Jones, Fulham 2il a 3ydd wobr, neb yn deilwng. Dysgl Elusen o bres neu gopr g^r, F,2, neb yn deilwng. Llidiart gardd o haearn gweith- iedig (yn agored i ofaiítt yn unig) 1, f:6, E. Cartwright, Nannerch 2, £ 3, D. J. Will- iams, Bontnewydd 3, £ 1, J. Roberts, Gwrecsam. Traethawd ar Gasgliad o enwau lleoedd yn sir Fflint," £10, y Parch. D. D. Williams, Manceinion, yn oreu o 6. Unawd ar y sodd-grwth ('cello), Bar- carolle," cyfyngedig i Gymry. E3. 'Roedd yr ail ymgeisydd heb ofalu am gyfeilydd metliodd a cliael yr un tua'r 'Mwyfan pryd y cynhygiodd Mr. Harry Evans, Lerpwl, ei wasanaeth, ac achwareuodd iddi. 1, 13, Miss Jennie Jones, Caordydd (buddugol hefyd yng Nghaerdydd y llynedd). Gorchest Gwladys May. Adroddiad Cymraeg i ferched, Ti wyddost beth ddvwed fy nghalon," £ 2. Tair ddaeth i'r llwyfan o'r deunaw oedd yn ystafell y ehwyn- nu. Dywedodd y beirniad, Llew Tegid, mai dyma'r gyrstadleuaeth adrodd odidocaf a glywodd erioed. Bai y rhai na chafodd y llwyfan ydoedd anghofio mai hen wraig syml ydoedd mam Ceiriog, ac nid actress, a gormod tuodd i actio oedd eu bai. 1, Elinor Davies, Llanelli ond 'roedd y ddwy arall mor ragorol fel y rhoes trysorydd yr Eisteddfod (Mr. Hinds) 10/6 i'r gyntaf adroddodd, Maggie M. James, Senghenydd a mynnodd Mr. Vincent Evans roi 10/6 i Gwladys May Davies, Pentre, Rhondda, geneth wyth oed, a synnodd ac a doddodd y dorf, a,c sy'n ar- goeli bod yn un o brif adroddwyr Cymru. Yma gadawodd Cynonfardd yr awenau yn llaw LIew Tegid, gan ffarwelio a'r dorf, a dweyd, os y deuent i'r Taleithiau, am iddynt fod yn siwr o alw heibio iddo Cystadleuaeth unawd i Baritone, Cap- tain of the gods immortal," a dwy alaw Gymreig, Cariwyd y dydd" a Syr Marri Ddu." £ 3. Tri ar y llwyfan. Goren, Powell Edwards, Rhosllanerchrugog. Traethawd, Llawlyfr i addysgu Cymraeg" £ 10. Yr un o'r ddau ymgeisydd, mwyaf gresyn, yn deilwng o'r wobr. Beirniad, Mr. S. J. Evans, M.A Llangefni. Can yr Eisteddfod, Llwyn Onn," gan Miss Hannah Jones. Unawd ar y crwth. "Air Varie, Op 22. No 2" (Vieuxtemps). £3 Miss Thomas, Ton, Pentre, Rhondda. Coleren o arddurnwe, £ 1, Kate Williams, Rose Hill, Caernarfon. Taenlen gwely mewn brodwaith nen osod- waith, f:5, Miss Powell, North Parade, Mynwy. Unawd ar y berdoneg (cyfyngedig i Gymry) 93, Edith Darbyshire, Birkenhead. Unawd ar yr Organ (cyfyngedig i Gymry), f3, Robt. J. Jones, Penarth. Telyn i Madam Patti. 'Roedd y Farwnes Ccderstrom--sef > ddiangof gantreg Madame Patti—i ddod i lanw'l: gadair heddyw'r prynhawn. ond cr dirfawr siom, daetli gair oddiwrthi ar y funud ddiweddaf fod afiecliyd yn ei lluddias. 'Roedd ar y llwyfan delyn flodau hardd, y bwriodid ei chyflwyno i'r Farwnes ar ran Cymdeithas Cymry Llundain, fel arwydd a chydnabyddiaeth o'i gwasan- aeth i ganiadaeth. Cymerwyd ei lie gan yr Arglwyddes St David's a galwyd ar inii-;s Mogan Lloyd George (merch y Canghellydd), Miss Dorothy Hulme, a Miss Yvonne Ellis Griffith (merch fach yr aelod tros Fon) i gyflwyno'r delyn i'r Arglwyddes, yna i gael ei fforddoli i'r Farwnes. Diolcliwyd i'r eyfl- wynwyr ac i'r Arglwyddes gan Mr. Llewelyn Williams, A.S., aUr Hartwell Jones. 'Roedd y cynhulliad heddyw prynhawn yn llawer lliosocacli nag y bu ar hyd yr Eistedd- fod. Traethawd, "Casgliad o len-gwerin sir Faesyfed," ilO Dau ddaeth i llaw, Gir- aldus yn oreu, ond ni atebodd. Gornest y Corau Meibion. I 75 i 100 o leissiau, am ga-i-iii-(a) Fair Semele's high-born son (Mendelssohn). (b) The Reville" (Elgar). (c) 0 Peace- ful Night (Ed, German). Y ddau olaf i'w canu heb gyfeiliant. 1, £ 75 2, £ 25. Llanelli.— Yn canu5n rhy gyflym, nes colli rheolaeth arnynt en hunain, a cltollai y don- yddiaeth yn ddirfawr. Yr ocddynt yn well ar yr ail a'r trydydd ddarn, ond yr oedd yr un diffyg i'w ganfod. er hynny yr oeddynt wedi rhoddi perfformiad gweddol dda. Mid- Rhondda.—Nid llawn mor gyflym o ran amseriad, felly yn fwy agos i'r Metronome priodol trwy'r gwahanol ddarnau y lleisiau yn gliriach a'r donyddiaeth yn fwy pur, a'u datganiad yn fwy portreadol yn enwedig ar "Revillo" Elgar. Maesieg.—Yn llai o rif a gwanach. Decli- reu da, ond ar y mwyaf o'r Tremolo yn lleisiau y Tenoriaid, diffyg arnlwg a mynych pan y cenir ganddynt nodau uehel. Yr ail ddernyn ychydig yn well, ond yn rhy afrywiog, felly hefyd ar y dernyn olaf, heblaw hynny nid oeddynt yn darllen hwn yn gywir mewn amryw fannau. Ofnai y Dr. nad oedd y cor hwn wedi rlioddi digon a amser iddynt eu hunain i orchfygu y gwaith, yn arbeijnig i ymddangos yn yr Eisteddfod Genedlaetliol. Bargoed 2V:?' -Gwell ymosod, yn fwy unol mewn cyd-symud. Oh Peaceful Night" yn effeithiol a chanmoladwy. Y tilydr (rhythm) weithiau yn anheg, cam acenu, a gostyngwyd y traw yn nernyn Mendelssohn. The Reville" yn fwy meistrolgar a dis- grifiadol. Abertaice.Datgaiiiad campus o'r tri darn, y donyddiaeth yn burach, y lleisiau o ganlyn- iad yn ymdoddi yn well iw gilydd, y braw- ddegu'n dda, a llawer o ysbrydiaeth yn eu datganiadau; meddai y Cor hwn first and second Tenors campus. Gwnaethant enw da iddynt ou liuaain. Dowlais.-Tra chanmoladwy ar yr lioll waith, y gynghanedd yn lan a phur, y braw- ddegau yn gywir, pob gair yn ddealladwy, y cydseiniaid a'r llafariaid yn cael eu ynganu yn glir, pob drychfeddwl yn cael ei bortreadu, y second Tenor a'r first Bass (lleisiau llanw) yn rhagorach gan fechgyn Dowlais na neb o fewn y gystadleuaeth. Yr oedd bywyd ac ys- brydiaeth briodol yn eu holl ganu. Ebenezer Mission.- Y Cor heb fod mor li- osog,ond yn canu yn felus ar y rhangan gyntaf, ond nid llawn cystal ar Peaceful Night a The Reville. Netocastle.-Dyma.'r unig gor Seisnig. Cy- chwynai yn ysgafn a melodus ar Rhif 1, ond gostyngodd raddau mewn ton cyn y diwedd. Yr ail ddarn yn fwyn ac mewn gwell tonydd- iaeth, a'r olaf yn fwy gorffenedig. Canasant yn Jdda, ond methasant ddyfod i fyny a'r Cymry y tro hwn. Welo saflo a ffiervrau'r Corau :— °" Marciau Cyfan. Dowlais 90 94 95— 279 Abertawe 80 86 90— 256 Newcastle. 85 80 80- 245 Bargoed Teifi 85 76 65— 226 Mid-Rhondda 67 75 80— 222 Ebenezer 80 70 70— 220 Llanelli 65 70 60— 195 Maesteg 70 72 50- 1 92 Rhoes eu cyfeillion fonllef fyddarol tros yr holl neuadd pan glywsant mai Dowlais oedd fuddugol. Cyngerdd Nos Wener. Cyngerdd Cymreig trwyadl ydoedd hwn. yn y Queen's Hall, ac ugeiniau yn gorfod troi ymaith o ddiffyg lie. Gan Gor yr Eisteddfod, caed Ffarwel iti, Gymru fad (Dr. Parry) alawon Cymreig, Blodau'r Gorllewin" a Caniad Pibau Morfudd (trefn. Dr. Lloyd Williams) a rhangan Ar don o flaen gwyntoeäd" (Dr. Parry). Gan Mr. Ben Davies, Breuddwyd y Bardd," Doli," Ffarwel Mari. Y Gwcw Fach," ac ereill mewn atebiad i encor. Gan Mr. David Hughes Cymru fy ngwlad a Lili Lon." Miss Gertrude Hughes "Nant y Mynydd a Can y Forwynig." Miss Dilys Jones "Tra bo dau," Suo-Gan a "Bugail yr Hafod." Caed unawdau ar y crwth gan Mr. Philip Lewis, canu penhillion gan Eos Dar a Mr. W. O. Jones a detholiadau ar y delyn gan Telynoros Gwalia. Llywyddid gan Mr. Vincent Evans, yr hwn a ddiolchodd i'r dyrfa am eu cefnogaeth i'r Eisteddfod, yr hon, 'roedd yn falch ganddo ddweyd, oedd wedi profi'n llwyddiant. 'Roedd Mr. Lloyd George yn y cynhulliad, a gwraeddwyd am araeth ganddo. cododd ar ei draed i ddiolcli iddynt am eu clap gymer- adwyol, ond nad oedd am sefyll rhyngddynt a'r rhaglen ddidog oedd o'u blaen, ac a apeliai atynt am iddo fel Gweinidog y Goron gael noson o orffwys a gwrando fel pobl ereill ar hen alawon ei wlad i godi ei ysbryd yn wyneb yr ymdrech fawr oedd o'i flaen.

PRYDDESTAU LLUNDAIN

DYDD IAU.