Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

CANU LLUNDAIN.

Saethau Llundain.

News
Cite
Share

Saethau Llundain. LGAN SHEMERUS], L.LE go ryfedd i gynnal Eisteddfod ynddo yw'r Neuadd Albert, ac i gynnal unrhyw gyfarfod arall fo'n dibynnu arprwdfrydedd a hwyl. Y mae'n rhy fawr a'r bob yn ormod ar wasgar, Mi feddyliais pan ddois i mown gyntaf," ebe Llew Tegid, "mai wedi rhoi to ar Sir Foil yr oeddech chi." Ac y mae pob hwyl yn rhwym o oeri cyn dringo grisiau chwoch o onelau. Ond wythnos hwyliog oedd yr v/ythnos ddi- weddaf, er gwaetha'r cwbl. -<><?- ?SNid yw'r boirdd yn cynefino dim hurdd- wisgoedd. Cafwyd eymaint o drafferth i'w cael i mewn iddynt yn Llundain ag a gafwyd y tro cyntaf yng Nghaernsft'toii bymthoi.g mlynedci yn ol. Dywedai'r llu ohonynt ou bod yn methu yn lan a "JHaddeu'r camwedd i Herkomor." Rhy ddrwg oedd gwaith rhyw gellweir- fardd yn dweyd ei fod yn deall yn awr paham y mae Cofiadur yr Orsedd yn sboncio cymaint, mai'r pinnau a garia gydag ef i binio peisiau'r Gorseddogion sy'n ei bigo yn rhywle o hyd. Pwy roes gennad i wyr y cameras feddiannu cylch yr Orsedd ys gwn i ? Yr oeddynt yn bla yn Llundain, ac ar ffordd pawb. Yn sicr, dylai'r Archdderwydd ddadweinio'r cledd hyd nes y bo'r giwed haerllug hyn y tu allan i'r meini. Wrth glywed Marsiant yn dweyd yn yr Orsedd foreu dydd Ma wrth mai heddwch a deyrnasai yn y cylch, a'i fod ef a Machreth yno fel dau efaill mewn cryd, gofvnnodd rhywun ai Esau a Jacob oeddynt, ac os fplly prun ohonynt oedd y "gwr blewog," a phrun oedd y disodlwr. v' Y cwbl wn i," meddai Machreth, yw mai gin i y mae'r enedigaeth fraint, ac y mae'r fendith i fynd i'w chanlyn hi." -<- O'r holl englynion a draddodwyd yn yr .y Eisteddfod, eiddo yr Archdderwydd i Ferch y Sgrech a gynhyrchodd fwyaf o hwyl. Dyma fo Benyw mewn ffrae a'i bonet-yw y fun A wna feirdd yn darget Un belen o'i gwn bwlet x Aiff i'r jael a'r Suffraget." Ond awgrymodd rhywun y buasai'n welliant i newid y ddwy lafariad yn y gair jael.' -$- <<- Teiti un o'r darnau yn yr ail gystadleuaeth gorawl ddydd Mercher ydoedd 0 snatch me swift." Cymerodd y gystadleuaeth honno le yn union ar ol i'r Suffragettes derfysgu, ac wrth draddodi'r feirniadaeth, dywedodd Mr. Harry Evans y rhaid fod rhagwelediad y Pwyllgor yn gryf pan ddewisodd y darn hwnnw yn wyneb yr hyn a gymerasai Ie ychydig yn gynarach. Daliodd Mr. J. Pritchard Jones, Y.H., ar bob cyfle ynglyn a'r Eisteddfod i ddangos ei haelioni. A g wvr ef sut i gadw'r beirdd mewn tymer dda. Rhoddodd ginio iddynt adeg cyhoeddi yr Eisteddfod flwyddyn yn ol, cimo drachefn yn Llangollen ym mis Medi, a chinio gwell fyth nos Iau ddiweddaf. Gwahoddodd wyr y Wasg hefyd i'r diweddaf, a threuliwyd noson o'r fath fwyaf difyr. Doniol dros ben oedd areithiau Marsiant a'r Athro John Morris Jones, y naill yn cynnyg a'r llall yn ateb llwncdestyn Y Beirdd." Ni fu Balfour a Lloyd George erioed yn trin eu gilydd yn fwy medrus ar lawr Ty'r Cyrfiredin. -9- <>■ Gwnaeth Marsiant y svlw fod yr hyn sy'n hollol wir yn hollol anyddorol." Mi wn yn awr," ebe Gwilym Huws, Caerdydd, beth sy'n cyfrif am lwyddiant y Nationalist. Cic cas. -$--<?- Nid oedd neb wedi ei llyncu i fyny yn llwyrach gan ddefod cadeirio'r bardd na Megan, merch ieuengaf Canghellwr y Trysorlys. Cododd Machreth hi yn ei freich- iau fel y gallai roddi ei llaw ar y cledd, ac arweiniodd hi i ysgwyd llaw a'r cadeirfardd o flaen neb arall. Ac nid ei longyfarch ag ysgydwad llaw yn unig a wnaeth Megan, rhoddes gusan iddo hefyd. Dywed Gwynn ei fod yn falchach o'r llongyfarchiad hwnnw nag o'r lleill a gafodd hefo'u gilydd. Gwelwyd golJigfa go ddoniol yn ystod y gystadleuaeth gorawl brynhawn dydd Gwen- er-un o drefnwyr y llwyfan yn mwynhau cyntun braf yng nghadair y prif-fardd tra y canai amryw o'r corau. Wrth edrych arno ynghwsg, dywedodd rhywun fod golwg bur farddonol ar y brawd, ond newidiodd hwnnw ei farn pan welodd ef wedi deffro.

AR GIP.

Advertising

LLITH LLUNDAIN.,