Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Cymdeithasfa'r Gogledd.

DYDD MERCHER.

DYDD IAU.

DYDD GWENER

Chwe' Chywydd Ymryson

News
Cite
Share

Chwe' Chywydd Ymryson Rhwng Rd. Cynwal a Rd. Phylip. [GAN GWRTHEYRN, Y BALA]. CYN ac ar ol pedwar can mlynedd yn ol, yr oedd teulu Palas y Rhiwedog, ger y Bala, yn nodedig ymhlith pendefigion Cymru am eu cefnogaeth a'u nawdd i feirdd a thelynorion y wlad. Profir hyn yn amlwg mewn ugeiniau, os nad cannoedd, o gywyddau mawl i fon- eddigion y Palas, sydd ar gael ,o waith Tudur Aled. Simwnt Fvchan, Lewis Mon, Gruffydd Hiraethog, William Llyn, Richard Cynwal, Richard Phylip, Howel ap Reinallt, Sion Brwynog, Richard ap Howel ap Dafydd, Edward ap Huw, Ifan Tew, Sion Tudur, Rhys Cain, Sion Mawddwy, Lewis ap Edward, Thomas Gwynedd, Huw Pennant, William Cynwal, Lewis Menai, Huw Arwystl, Owen Gwynedd, Rhys ap Einion, Edwart ap Ruff- ydd, John ap William Gruffydd, Robert Dafydd Llwyd o Grymlyn, y Parch. Sion Davies (o Fallwyd), ac yn ddiweddarach, Rhys Jones o'r Blaenau. Fe fu Richard Phylip (brawd i'r enwog Sion Phylip, a chystal bardd ag yntau) am flyn- yddoedd yn Fardd Teulu y Rhiwedog ond mewn ymrysonfa farddol rhyngddo a Richard Cvnwal, fe gollodd y dydd, ac aeth Cynwal a'r He oddiarno. Ymddengys mai y ffordd y byddai William Llvvyd (" Bendefig mwyn- lan," chwedi Rolant Fychan) yn dewis ei Fardd Teulu, oedd trwy osod y boirdd a chwenychent y lie i gystadlu yn orbyn eu gilydd mown parodrwydd a phertrwydd prydyddol, tobyg i Ganu dan Bared." Yr v dull hwnnw y cafodd Richard Phylip y lie ar y cyntaf, canys dywed ef ei hun :— Fy ungwaith o fyw angerdd Fu ;.iiiryson ar gyson gerdd, Am y llys hon i'm lleshad, A dau Brif-fardd da brofiad Un fu Benllyn fab iawn-llwydd, A Hafren ber awen rwydd 0 ddwyn y Beirdd hyn i bant I mi addas fu'r meddiant." Y ddau Brif-fardd' a goncrwyd ganddo oedd Thomas Penllyn a Gruffydd Hafren. Bu Richard Phylip, fel y dywedais, mewn medd- iant o'r "llys" am flynyddau, hyd nes y daeth y bardd iouanc Richard Cynwal heibio (brawd William Cynwal, a laddwyd, meddir gan yr hen Archddiacon Prys), yr hwn, yn yr un dull ag y cafodd ef y lie, a ddygodd y Ilys oddiarno, fel yr eddyf ef ei hun eto Mae'r awron fardd mawr arall, A'i mynn or cerdd, mwynwr call 0 bell y dug fyrbwyll daith I Riwedog ar rywdaith Yno daeth, hynod ioithydd, Ac yno, mae'n bostio, bydd." Wedi colli y Rhiwedog, cafodd Richard Phylip dderbyniad i Nannau, ger Dolgellau, fel Bardd Teulu ond yr oedd ei galon o hyd yn Rhiwedog, ac ymddengys ef fod bybh a hpfyd yn coisio disodli Richard Cynwal, yr hwn oedd yn flin rvfeddol ohono. Fodd bynnag, fe ddaeth y stori i'r Bala a'r gym- dogaeth fod Richard Phylip, Bardd Nannau, wedi syrthio dros bont Dolgellau i'r afon, ar h mawr, ac wedi boddi. Parodd hyn lawenydd mawr i Richard Cynwal, am y tybiai y carfai bellach lonydd i fwynhau Pleser rhad Plas Rhiwedawg ac fe ganod.d gywydd doniol i'w ryfeddu, i gymeryd arno alaru oherwydd, ond mewn gwirionedd i ddathlu, yr amgylchiad. Yn y deugain llinell cyntaf 0'1' cywydc, nid yw yr awdwr ond yn cynffona i w feistr a l feistres, trwy hel eu hachau, brolio ei le yn Rhiwedog, a channiol y pala.sau ereill o'r eiddynt, sef Yr Aber, Llwyfeni, a Cheiswyn Cawn yn Aber haelder hwn, Llwyfeini oil a fynnwn Goreu im' y gaer yma, Gwrgenau deg a'r gwin da Llys Rhiwaedog, lies rliydyd, Lie bn'r beirdd, a llwybr y byd Llwybr y byd:" pawb yn mynd yno, onide ? Cana'n Rhiwaedog hynod, Ac yng Ngheiswyn glyn y glod Honr a fod ei feistres yn ffafriol iawn iddo ef fel Bardd y teulu :— Am hynny mae fy mlieunes, Marged Llwyd, mawr ged a lies, Yn peri im-pur im oodd- I'w thai aros, a'i thiroedd A chan fod Die PhyJip wedi boddi,fel y tybiai ef, Ni lestair neb, undeb iawn, I mi aros ym Meiriawn, Am farw un myfyriwr Ag awen deg yn y dwrr Die Phylip, deg gaffaeliad, Dewr lew oedd ar dir ei wlad Ymryson gynt, helynt hawg, Yr ydoedd am Riwaedawg Ni fynnai 'n ei fyw yno Hardd hynod fardd ond y fo; Ei feddwl evn ei foddi Fu, at hael wr f'attal i. Ni fynaswn, gwn y gad, Mo'i farw or ei gamfwriad." Oddiyrna i ddiwedd y Cywydd (y gweddill o'r hwn a gyhoeddir yr wythnos nesaf), mae y bardd yn trin ei frawd boddedig bron yn anuwiol o chwareus. -0

CYMRY'R DISPEROD.

Advertising