Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Cymdeithasfa'r Gogledd.
Cymdeithasfa'r Gogledd. YN NINBYCH. YR wythnos ddiweddaf, cyfarfu cynrychiol- wyr Cymdeithasfa M.C. y Gogledd yn Ninbych, tan lywyddiaeth y Parch. E. Griffith, Meifod.
DYDD MERCHER.
DYDD MERCHER. Yn gyntaf oll, cytunwyd i gynnal y Gym- deithasfa nesaf ym Mhwllholi, Mai lo 17. Dewis Athr. Hebraeg, Darlleiiwvd Adroddiad Pwyllgor Athrofa r Bala gan yr ysgrifennydd, y Parch. J. Owen, AnfieJd. Gyda golwg ar benodi athro Hebr- aeg, 'roedd naw wedi apelio am y swydd a'r tri a ganlyn wedi eu dethol o'u mysg at y dewis terfynol-y Parch. G. Parry Williams, M.A. (Pontypridd), R. Roberts, B.A., Ph.D. (Trefnant), a Dr. Porter, oedd eisys yn cvflawni'r gwaith yn y Bala er pan ymadaw- odd Dr. Stevenson, yr Athro Hebraeg blaenorol. Yn y pwyllgor, cafodd Dr. Porter 25 o bleidleisiau a Mr. Parry Will- iams 4. Cymhellent felly fod Dr. Porter yn cael ei benodi yr hyn a gadarnhawyd gan godiad dwylo'r Gymdeithasfa. Dr, Porter a'i gyrhaeddiadau. 'Roedd Dr. Porter yn bresennol, a diolch- odd i'r gynhadledd am ei benodi. Dyma fcl y llirxellid ei yrfa a'i gyrhaeddiadau dysg yn adroddiad Pwyllgor yr Athrofa :— 0 ran addysg'a chyrhacddiadau cyffredin- ol cvmerodd Dr. Porter y radd o M.A. ym Mhrifysgol Edinburgh gydag anrhyded.d mown Llenyddiaeth Seisnig, ac wedi hvnnv aeth trwy y ewrs diwinyddol o bedair blynedd yng Ngholeg yr Eglwys Rydd Unedig (New College), Edinburgh. Ac ei vmadawiad cafodd y Diploma with Honours. Derbyniwyd ef fel pregethwr gan yr Eglwys Rydd Unedig, a hyd yr amser y daeth i'r Bala yr oedd yn gweith- redu fel gweinidog cynorthwyol i gynull- eidfa berthynol i'r Eglwys Rydd Unedig. Yn y pynciau arbennig y disgwylir i'r athraw newydd eu dysgu, bu Dr. Porter o dan addysg y Proff. Dr. A. B. Davidson vn y New College am ddwy flynedd, y Proff. Kennedy, ym Mhrifysgol Edinburgh am ddwv flvnodd, a'r Proff. Wellhausen a Noldeke ac ereill yn Germany am dair blynedd. Yn yr efrydiau neilltuo] hyn enill- odd wobrwyon yn y gwahanol ddosbarthiad- au ynghyda'r Scott Travelling Scholarship a'r radd o Doctor of Letters (ar gyfrif traeth- awd ar y cyfieithiad o'r Efengylau i'r Syriaeg) vm Mhrifysgol Edinburgh a'r Kerr Travelling Scholarship yn y New College. Er mis Hydref, 1907, y mae Dr. Porter wedi bod yn ddarlithydd mewn Hebraeg ac Esboniadaeth yr Hen Dest- ament yn Athrofa y Bala, a dygid y dyst- iolaeth uchaf iddo gan yr holl athrawon ereill o berthynas i'w gymeriad a'i alluoedd, ac yn arbennig i'w allu i ddylanwadu ar yr Efrydwyr." Haelioni Syr Herbert. Cyferiodd y Parch. J. Owen hefyd at y cynnyg hael a wnaeth Syr J. Herbert Rob- erts, A.S., amser yn ol, sefy tanysgrifiai f,50 y flwyddyn am dair neu bedair blynedd at Athrofa'r Bala; ac ymhellach, y rhoddai £1000 ar derfyn yr adeg honno ar yr amod fod yr arian yn mynd at chwyddo cydnab- yddiaeth yr athrawon. 'Doedd hyn, ebe Mr. Owen, ddim yn golygu fod y eyflogau a gai'r athrawon ar hyn o bryd i'w codi, o herwydd 'roedd y scheme a fabwysiadwyd ddwy neu dair blynedd yn ol yn cynwys y codiad cynvgiedig a wnaed yn ddichonadwy drwy rodd Syr Herbert hael. Amod arall ynglyn a'r rhodd ydoedd na bo dim symud ar y Coleg na newid ar el gyfansoddiad yn ystod y tymor crybwylledig. Cymeradwywyd gwaith y Pwyllgor, a diolchwyd yn wresog i Farwnig BryngwenaUt Actuary Newydd. Ar awgrym pwyllgor arbennig a ddethol- wyd i ystyried y pwnc, pasiwyd i benodi Mr. Duncan Fraser, Lerpwl, yn actuary gogyfer a. Thysorfa'r Gweinidogion, yn lle'r diweddar Mr. Griffith Davies, Llundain. Byddai Mr. Frazer hefyd yn archwilio cynllun cynygiedig y blwydd-dal i weinidogion. Y Genhadaeth Gartrefol. Yn yr hwyr, cynhaliwyd cyfarfod cy- hoeddus, pryd y caed anerchiadau ar Y Genhadaeth Gartrefol gan y Parchn. D. D. Williams (Manceinion), E. J. Jones (Rhyl), a Mrs. Humphreys (Rochdale), etc.
DYDD IAU.
DYDD IAU. Ordeinio Naw. Y peth cyntaf lieddyw oedd y gwas- anaeth ordeinio fel y canlyn. :—H. Ernyr Davies, Gellidara Edward Griffiths, B.A., Felinheli; H. T. Owen, Dyffryn Clwyd D. R. Jones, B.A., Rhiwabon D. G. Jones, Tai Nant Rd. Hughes, Brymbo H. G. Richards, Llaiirbaiadr R. Norman Edwards, B.A.,B.D., Mancott ac O. Arnold Evans, B.A.. Garston. Fe'u holwyd a'r cwestiynau arferol gan y Parch. J. Williams, Brynsiencyn, o'r Cyffes Fjydd; traethodd y Parch. D. Hoskins, M.A., Ffestiniog. ar Natur Eglwys a chaed Cyngor nodwedcliadol gan y Parch. 9 D. Williams, Llanwnda. Methodistiaeth Dyffryn Clwyd. Caed stat yr achos vii Nyffrvn Clwyd gan Mr. R. J. Jones, Llanelidan, fel y canlyn :— Rhif yr eglwysi, 71-6 ohonynt yn achosion Seisnig gweinidogion, 49 Rhif yr aelodau, a'r gwrandawvr wedi cynhyddu'n fawr er 1906, pan fu'r Gymdeithasfa yn y Dyffryn o'r blaen. yc yn cyrraedd 12,894. Casglwvd yn 1908 £ 10,355—-cynydd o E165 ar y flwyddyn yn cvnt. Cvrhaeddai dyledion y capeli f 16,36f) —cynydd o f 2,955 er y fl. 1905. Ymgeisiodd 800 vn Arholiadau Ysgrythyrol y flwyddyn. 'Roedd canu cynulleidfaol yn cael sylw dy- I dwy; lied ddifater oedd yr eglysi gyda P.rwest, ond yr oedd y Cyfarfod Misol wedi peiiderfvnu na dderbynnid iddo 'run diacon oni byddo'n llwyrymwrthodwr. Gwan yd- oedd cynulliadau cyfarfodydd noson waith ac oodfa boron Sul. Y Trai Ysbrydol. Achlysurodd yr adroddiad uchod drafod- aeth effro a dwys ei thôn-y Parch. J. Ven- more Williams yn agor gyda gofyn pa beth, tybed, a gyfrifai am leihad graddol yr Ysgol SuI. -r Y Parch. R. J. Jones, Llanelidan, a atebai mai'r d6n o ddifrawder ac o ymollwng ys- brydol ar ol y Diwygiad a gyfrifai am hynny ac mai meddwdod ac aniweirdeb oedd dau bechod mwyaf cyffredin y gwrthgiiwyr. Y Parch. W. Owen, Lerpwl, a ofidiai glywed adroddiad mor ddi-gynydd ymhob cyfeiriad. 'Roedd llacrwydd ysbrydol yr eglwysi, a chynydd anfoesoldeb a dywedyd celwydd, yn frawychvis o fawr. Clywentfodcyliiidc-liadau hyllion i ymddangos mewn cylchgrawn Cym- raeg neilltuol, wedi eu hysgrifennu gan wein- idog yr Efengyl a gwr o bwys, ac nid iddo ef y perthynai holi beth am onestrwydd y bwriad oedd wrth wraidd cyhuddiadau o'r fath. Ond y pwnc iddynt oedd hwn A ydynt yn wir ai nad ydynt ? Rhaid iddo ef gydnabod fod anfoesoldeb yn rhemp o uchel ei ben drwy'r wlad, ac fod argyhoeddiad y bobl o bechod yn liawer llai a mwy arwynebol nag y byddai. Ymhell y bo'r Achosion Seisnig." Honnai'r Parch. D. E. Jenkins, Dinbych, fod peth o'r difrawder yn codi oddiar y rhag- farn a'r culni oedd yn yr eglwysi Cymreig yn erbyn yr Achosion Seisnig, a chlywent am rai enghreifftiau lie 'roedd yn well gan rai pobl weld yr ieuenctyd yn ymuno a'r Eglwys Wladol yn hytrach nag ymgydio a'r Achos Saesneg. Dichon fod yr ystyriaeth yn cyfrif am ryw gymaint o'r lleihad yn yr Ysgol Sul. 0 Pyagota ar y Sabothlym Mon. Y Parch. J. Williams, Brynsiencyn. a ddywedai nad oedd Dyffryn Clwyd ddim gwaetli na pharthau ereill o'r Gogledd o ran anuwioldeb ond yr oedd y pwnc o bwys mawr i'r Gymdeithasfa ac i'r wlad drwyddi. 'Roedd celwydda ar gynydd, a'r Saboth yn cael ei sarnu'n gywilyddus. Ym Mon, or engraifft, gwelid pobl barchus, Sul ar ol Si-il, yn pysgota yn afonvdd a llynnau r \ny'?. Cynhygiai fod cenadwri yn cael ei da,nfon i'r holl Gvfarfodydd Misol a'r Henaduriaethau, yn galw en sylw mwyaf difrifol at y gwyn. Ond credai'r Parch. O. Owens (y Rhyl) fod prinder troseddau yn y brawdlysoedd ar sesiwnau chwarter yn dangos nad oedd pethau ddim cynddrwg ag y teimlai'r siarad- wyr blaenorol eu bod. 'Ac am y lleihad yn yr Ysgol Sul, credai y Parch. R. W. Eames (Bangor) fod a wnelo pwvsau eithriadol addysg yr ysgolion dydd- iol gryn lawer h hynny caent gymaint gwersi i ddod gyda hwy gartref nes cyfyngu eu haddysg grefyddoi ar yr aelwyd. Diwedd y drafodaeth a fu penodi'r Parchn. J. Williams, J. Owen, M.A. (Bowydd), a W. Owen i ysgrifennu cenadwri ar y pwnc erbyn y Gymdeithasfa nesaf. Y Genhadaeth Gartrefol a'r Achosion Seisnig. Y Parch. E. J. Jones, M.A. (y Rhyl),a. roes adroddiad yr achos uchod. Cynihellai r pwyllgor fod f.30 yn cael ei roddi i'r Parch. R. Jones, Mancott, fel gwerthfawrogiad o'i waith ar ran y Gymdeithas .ac fod Mr. J. Owens, Caer, yn cael ei benodi'n drysorydd yn lie Syr J. Herbert Roberts, A.S., a fynnai ymneilltuo. Gresynai Mr. Mason Powell (Manceinion), fod yr eglwysi Cymreig mor enbyd at achos- ion Seisnig y Cvfundeb ac 'roedd ef yn gwbl sicr fod dyfodol y Cyfundeb yn glwm ddi- ysgar wrth Iwyddiant a chynnydd yr Achosion Seisnig. Mabwysiadwyd yr adroddiad, a diolchwyd i Syr Herbert am ei wasanaeth mawr a hir fel trvsorydd.
DYDD GWENER
DYDD GWENER Y Genhadaeth Gartrefol. Cyflwynwyd adroddiad pwyllgor y Gen- hadaeth Gartrefol gan y Parch. D. Hughes, M.A., Caernarfon. Oherwydd gwaeledd, 'roedd y Parch. O. R. Owen yn gorfod rhoddi fyny ofal eglwys Pontrobert ac 'roedd yn mryd y Parch. Wm. Jones roddi fyny ofal yr achos yn Ynys Enlli fis Medi nesaf. Cym- hellid peidiQ cychwyn achos newydd ar hyn o bryd yn Connah's Quay. Y Parch. Isaac Jones, Nantglyn, a sylwai nad oedd yr hyodledd a'r hwn y cyflwynwyd yr adroddiad yn dylanwadu dim arno ef. Bu ef ar un adeg mewn cysylltiad agos a'r achosion cenhadol a gweiniaid, ac yn ei farn ef ni lwyddent byth. A dweyd, y gwir 'doeddynt ronyn pellach ymlaen heddyw nag oeddynt hanner can m'ynodd yn ol. 11 7 (" Cwestiwn," a llawer o ysgwyd pen anghvm- eradwyol). Gadewch i ni gael mwy o ystad- egau, a llai o hyawdledd. Cododd Mr. James Venmore, Y.H. (Lerpwl) i ateb fod ar hyn o bryd 105 o leoedd cenhadol, ac iddynt 50 o weinidogion, 12,500 o fynych- ivyr, 8000 o aelodau'r Ysgol Sul, a 5,800 o aelodau eglwysig, a hyderai y byddai y ffi- gyrau hyn yn foddhaol i Mr. Jones. 'Roedd eisieu f,3000 bob blwyddyn at waith y Gen- hadaeth lion, oedd yn ogoniant y Cyfundeb. A chynnwys yr Achosion Seisnig, 'roedd 400 o orsafau i'w cynnal, ac onichaent yr arian, byddai raid cau llawer o'r addoldai. Cymera_dwyw\rd yr adroddiad. Yn safn y Babaetb. Hysbysodd Mr. Peter Roberts, Llan Elwy, fod v Pwyllgor i Wrthweithio'r Babaeth bellacli wedi gorffen ei waith, a dymunai alw eu sylw mwyaf difrifol at ledaeniad a gafael y Babaeth ym mharthau o sir Fflint. 'Doedd unmar yng Nghymru, meddai, ag angen cymaint sylw a'r ardel o amgylch Treffynnon, lie 'roedd i'r Pabyddion eu colegau a'u lleian- dai. Cyfodai'r perygl o dri achos gwendid yr eglwysi Protostanaidd, cryfder y Pabydd- ion, ac vmledaeniad yr iaith Saesneg a chymhellai'r pwyllgor fod Cyfarfod Misol Sir Fflint, Henaduriaeth swyddi Lancaster a Chaer, a, phwyllgor y Genhadaeth Gartrefol, a chynrychiolwyr dewisedig gan y Gym- deithasfa, yn cyd-ystyried yr holl sefyllfa. Sylwodd y Parch. E. J. Jones, M.A., yntati, fod v- safle yn un wir ddifrifol fod y Pabydd- ion yn proselvtio amryw byd eu bod yn llech-ddvlanwadu drwy lawer cast a chynllun, yn cael lie a gorchwyi i blant Protestanaidd vuihell o gartre'r plant, a'r diwedd yw fod y rheiny yn troi'n Babyddion yn y maruiau hynny.—Cymeradwywyd cynihelliad y pwyllgor. Yr Odfeuon. Dylifodd miloedd o wlad a thref i'r odfeuon, lie y pregethid gan y Parehn. John Davies, Bontddu J. Williams, Brynsiencyn W. E. Prvtherch, Abertawe Edward Edwards, Carrog H. H. Hughes, B.A.,B.D., Lerpwl W. Owen,|Lerpwl, a J. Puleston Jones, M.A., Pwllheli.
Chwe' Chywydd Ymryson
Chwe' Chywydd Ymryson Rhwng Rd. Cynwal a Rd. Phylip. [GAN GWRTHEYRN, Y BALA]. CYN ac ar ol pedwar can mlynedd yn ol, yr oedd teulu Palas y Rhiwedog, ger y Bala, yn nodedig ymhlith pendefigion Cymru am eu cefnogaeth a'u nawdd i feirdd a thelynorion y wlad. Profir hyn yn amlwg mewn ugeiniau, os nad cannoedd, o gywyddau mawl i fon- eddigion y Palas, sydd ar gael ,o waith Tudur Aled. Simwnt Fvchan, Lewis Mon, Gruffydd Hiraethog, William Llyn, Richard Cynwal, Richard Phylip, Howel ap Reinallt, Sion Brwynog, Richard ap Howel ap Dafydd, Edward ap Huw, Ifan Tew, Sion Tudur, Rhys Cain, Sion Mawddwy, Lewis ap Edward, Thomas Gwynedd, Huw Pennant, William Cynwal, Lewis Menai, Huw Arwystl, Owen Gwynedd, Rhys ap Einion, Edwart ap Ruff- ydd, John ap William Gruffydd, Robert Dafydd Llwyd o Grymlyn, y Parch. Sion Davies (o Fallwyd), ac yn ddiweddarach, Rhys Jones o'r Blaenau. Fe fu Richard Phylip (brawd i'r enwog Sion Phylip, a chystal bardd ag yntau) am flyn- yddoedd yn Fardd Teulu y Rhiwedog ond mewn ymrysonfa farddol rhyngddo a Richard Cvnwal, fe gollodd y dydd, ac aeth Cynwal a'r He oddiarno. Ymddengys mai y ffordd y byddai William Llvvyd (" Bendefig mwyn- lan," chwedi Rolant Fychan) yn dewis ei Fardd Teulu, oedd trwy osod y boirdd a chwenychent y lie i gystadlu yn orbyn eu gilydd mown parodrwydd a phertrwydd prydyddol, tobyg i Ganu dan Bared." Yr v dull hwnnw y cafodd Richard Phylip y lie ar y cyntaf, canys dywed ef ei hun :— Fy ungwaith o fyw angerdd Fu ;.iiiryson ar gyson gerdd, Am y llys hon i'm lleshad, A dau Brif-fardd da brofiad Un fu Benllyn fab iawn-llwydd, A Hafren ber awen rwydd 0 ddwyn y Beirdd hyn i bant I mi addas fu'r meddiant." Y ddau Brif-fardd' a goncrwyd ganddo oedd Thomas Penllyn a Gruffydd Hafren. Bu Richard Phylip, fel y dywedais, mewn medd- iant o'r "llys" am flynyddau, hyd nes y daeth y bardd iouanc Richard Cynwal heibio (brawd William Cynwal, a laddwyd, meddir gan yr hen Archddiacon Prys), yr hwn, yn yr un dull ag y cafodd ef y lie, a ddygodd y Ilys oddiarno, fel yr eddyf ef ei hun eto Mae'r awron fardd mawr arall, A'i mynn or cerdd, mwynwr call 0 bell y dug fyrbwyll daith I Riwedog ar rywdaith Yno daeth, hynod ioithydd, Ac yno, mae'n bostio, bydd." Wedi colli y Rhiwedog, cafodd Richard Phylip dderbyniad i Nannau, ger Dolgellau, fel Bardd Teulu ond yr oedd ei galon o hyd yn Rhiwedog, ac ymddengys ef fod bybh a hpfyd yn coisio disodli Richard Cynwal, yr hwn oedd yn flin rvfeddol ohono. Fodd bynnag, fe ddaeth y stori i'r Bala a'r gym- dogaeth fod Richard Phylip, Bardd Nannau, wedi syrthio dros bont Dolgellau i'r afon, ar h mawr, ac wedi boddi. Parodd hyn lawenydd mawr i Richard Cynwal, am y tybiai y carfai bellach lonydd i fwynhau Pleser rhad Plas Rhiwedawg ac fe ganod.d gywydd doniol i'w ryfeddu, i gymeryd arno alaru oherwydd, ond mewn gwirionedd i ddathlu, yr amgylchiad. Yn y deugain llinell cyntaf 0'1' cywydc, nid yw yr awdwr ond yn cynffona i w feistr a l feistres, trwy hel eu hachau, brolio ei le yn Rhiwedog, a channiol y pala.sau ereill o'r eiddynt, sef Yr Aber, Llwyfeni, a Cheiswyn Cawn yn Aber haelder hwn, Llwyfeini oil a fynnwn Goreu im' y gaer yma, Gwrgenau deg a'r gwin da Llys Rhiwaedog, lies rliydyd, Lie bn'r beirdd, a llwybr y byd Llwybr y byd:" pawb yn mynd yno, onide ? Cana'n Rhiwaedog hynod, Ac yng Ngheiswyn glyn y glod Honr a fod ei feistres yn ffafriol iawn iddo ef fel Bardd y teulu :— Am hynny mae fy mlieunes, Marged Llwyd, mawr ged a lies, Yn peri im-pur im oodd- I'w thai aros, a'i thiroedd A chan fod Die PhyJip wedi boddi,fel y tybiai ef, Ni lestair neb, undeb iawn, I mi aros ym Meiriawn, Am farw un myfyriwr Ag awen deg yn y dwrr Die Phylip, deg gaffaeliad, Dewr lew oedd ar dir ei wlad Ymryson gynt, helynt hawg, Yr ydoedd am Riwaedawg Ni fynnai 'n ei fyw yno Hardd hynod fardd ond y fo; Ei feddwl evn ei foddi Fu, at hael wr f'attal i. Ni fynaswn, gwn y gad, Mo'i farw or ei gamfwriad." Oddiyrna i ddiwedd y Cywydd (y gweddill o'r hwn a gyhoeddir yr wythnos nesaf), mae y bardd yn trin ei frawd boddedig bron yn anuwiol o chwareus. -0
CYMRY'R DISPEROD.
CYMRY'R DISPEROD. 1ST. HELENS.- -Nlos Sadwrn ddiweddaf, cyfarfu Cymdeithas Genedlaethol Gymreig St. Helens a'r cylch i ddadleu p'run ai mantais ai anfantais i'r wlad fyddai i'r ffyrddhaearn fod yn nwylo'r Llywodraeth. Mantais, dadleiiai Thos. H. Wiiliams eithr nage, an- fantais, dadleuai Abram Jones.m Siaradwyd ymhellach gan Rd. Jones, D. Roberts, D. Hughes, E. Jones (Earlestown), Ben Roberts, a r Parch. J. Peron Jones (y llywydd).
Advertising
Railway Lost Property I CEND 2/4 for a Splendid Silk Umbrella (Lady's or Gent's), 3 carriage paid per post for 6/ also grand selection of goods suitable for presents, 5/6 and 7/6. Travelling Rugs, 6/6. Sunshades. from 2/- each. Northern Depot, 28a BOLD S'i'H z,.r, LivNiuuoL 'Phone-30 11 Central. J1 W. GRIFFITHS dI Tailor, I' 29 SOUTH JOHN STREET, LIVERPOOL ALSO AT •49 STANLEY ROAD, BOOTLF. 'Phone—27x Bootle. LUNT'S Boots are VALUE FOR MONEY -P TRY A oil PAIR Ladies' & Gents in Great Variety. 51 & 53 Paradise St. The only address Have YOU had your EYES EXAMINED and TESTED BY a a Moreton Parry, THE SIGHT SPECIALIST ? If NOT, HOW CAN YOU TELL WHAT MODERN SCIENCE CAN DO FOR YOU ? ONLY ADDRESS. 163 Oakfield Rd., Liverpool. ->- | BRYSIWCH I geisio potelaid gan y Fferyllydd nesaf atocb. cyn i'r Anwyd fyned yn waeth. Gofinroh COUGH MIXTURE 1 HUGH DAVIES, Machynlleth, I 13c. a ~8. 9c. y hotel. 1 DAVIES'S COUGH MIXTURE At Beswch, 8 DAVIES'S COUGH MIXTURE Anwyd. I DAVIES'S COUGH MIXTURE Asthma, 1 DAVIES'S COUGH MIXTURE Bronchitis. I DAVIES'S COUGH MIXTURE Ilas, Crygni, I DAVIES'S COUGH MIXTURE Influenza, T'Tv Mr. HARRY EVANS Conductor, Adjudicator. Organist" Teacher of Singing, 26 Princes Avenue. LivcfP^ Dr. GLYN ROBERTS, ATHRAW CERDDOROL. Dyfeisydd y Roberts' Patent Watch nome." Arweinydd Gymdeithas Gerddorol1 « Gwersi mewn gwahanol gangenau o Gerddo* Porotoir ar gyfer Arholiadau. Gwersi trwy'r Poet, Tonic Sol-fa neu Hen P*0** 59 Crawford Avenue, Sefton I'at8 LIVERPOOL. Mr. ARTHUR ROBERTS (BARITONE). At Homes, Concerts, Banauets, 6° • tel Self or full Concert partieg of High-Olass Artbto Address-36 Balmoral Road, Live rPool. T. CARRINGTON (Pencei-dd GGIVY"Yvo) BEIRNiAD A CHYFEILYDDi Can vvladgaroll newydd, "Oymru" i Drwy'r Post 7c. (Cenir gan Brif Gantorion Anthem Gotfa Oanrhawdfardd, Gwyn ci if* Pris Ie. U Model o gyfansoddiad ar gyfer OYD025 Canu,Cynogfab yn y I Owyliedydd.' )1. Cyfeirier-Coedpoeth, WRE Mr. PETER EDWARDS, Mus. 00" (Pedr Alaw), ifl) Golygydd COLOFN Y GAN yn J(e l tLlu".dIJ Beirniad Cerddorol, ta, Arweinydd Cymanfaoedd CanO, Park Villas, Abergele-I WIn. Crewe. Athraw a Beirniad Cerddorol* I 4 Arweinydd Cymanfaoedd. GWERSI DRWY'R POST. Hen Nodiant neu Sol-ffa [ Darperir ar gyfer Arholiadau- 22 Maesgwyn Rd., WrcKhofl1' E. KINGSTON JONtS, Gold Medallist and Winner of the National Eisteddfod also 3 times at New Brighton Tower, gives i(i Dramatic, Humorous MOB Of Recitals, Concerts, 6c.,—Paf Entire Evening, LESSONS GIVEN IN ELOOUTION—MODBBAT* Apply—27 Clifton Rd. E., Mr. D. D. PARRY, A. U.C.W., Beirniad Cerddorol, {J(; Cyfeiriad y sgol Gerddorol, LlanrWS^ ti General Printing of$ kind. Commercial and Artist^u^, Evans, Sons, & Foulkes, Brython 1 Don Chambers, 8 # (Telephone 1112 Central), and 1eW 358A Stanley Road, Liverpool phono 591 RnofcW D. R. JONES (Alaw Modog)1 PIANOFORTE & ORGAN DEALER, MUSIC PUBLISHER, Oc. 103 Hampstead Rd., Liverpool Beirniad Cerddorol ac ArweinyddJCymanfaoedd Canu (Telerau Rhesymol) NEW CATALOGUES ofAPianos, Organs, Harmoniums, & GRATIS llÍ/jf TERMS- On the Hire-Purchase System or Cash. Tuning and Repairing a SpeC Estimates given for Pipe Organs, Free. Catalogue of Welsh Songs, 6c. (O^cr 600). & Also containing all the latest Musical Books, such as :—" Gems Selection* of Wales," by D. Emlyii Evans, &c. with English and Welsh Words and both Prices (best cover), 3 /6 Cloth, 2 /6. Postage 4d. ————— CANTATA—" Y Cynhauaf (The Harvest), by Miss A. J. Williams$"^0 Performed with grand success at Llangollen National Eisteddfod, 1908, praised by the best musicians. Very suitable for chorus of 50 and Up Prices—O.N., 2/6 and 2 Sol-ffa, I English and Welsh Words. USUAL DISCOUNT FOR QUANTITIES. _=- ,m_ 11IIm!n!jU¡1!1111111I1nHn!I¡llnll¡\¡\(I!IJ111!lllllmml\lmmllll1IIml!I¡l!IflUIII_, The Perfect Balance of the Perfect Bicycle. It is due to their scientifically correct design, and to the unrivalled excellence of the materials and workmanship used W yBzW exclusively in the Rudge-Whitworth Works, the largest in the Kingdom. ^||i The new 68-page Art Catalogue describes in detail the new features M /TV of the 1B09 Models of Rudge-Whitworths, including the U m Patent Combined Celluloid Handlebar Covering and Grips @ MM Patent Rustless Finish All-steel Flush-joint Frainea |nPatent Brakes Featherweight Roadsters Egg BSmVariable Speed Gears The 10 Years Guarantee J||f: H Prices from £ 3 15s. cash to £ 14 12s., or from 11- pur month- Jgl yBk The Catalogue is sunt Post Free frutii 4||? RUDGE-WHITWORTH, Ltd. 101 Bold Street, t LIVERPOOL" RIll/Bill UIUII mmmmllllllfll In I filii ¡ HII 1!fiIIUlJllllmmmRlill111nllllllllmn 111111 t1IJ\ØlllllmIlMIIIIUIUI/l1 Rudge-Whilworih I Britain's Best Bicycle IOIIIIIIIÎUlUlUJUfllJUllillIIJI)IIUUIIIIIIllIUUUJIIIIUlUIIIIIIIIIIUHIIlliHlU!I!U!!JUlmlJllliIIIUlllUmllll Il!lIImmmll 1111 IIIlIImnmmnnlHUlillliill1l