Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

PULPUDAU'R SABOTH NESAF

Llwch Ambrose Lloyd,

News
Cite
Share

Llwch Ambrose Lloyd, Y mae gan rhyw Tanc-Gymro ysgrif dda yn y Drych ar John Ambrose Lloyd, awdwr ein prif anthem, Teyrnasoedd y ddaear," a fu cyd ei gysylltiad a Lerpwl, ac sy a'i lwch yn gorwedd yn bur ddigolofn yn hen gladdfa'r Necropolis, West Derby Road. Wele damaid dyddorol o'r ysgrif :— Yr oedd ganddo liaws o donau ag oeddynt wedi bod yn fuddugoliaethus mown eistedd- fodau. Y mae i un o'r tonau hyn hanes dyddorol. Mewn cystadleuaeth yn Llun- dain, yn y flwyddyn 1862, derbyniwyd 857 o donau, o'r rhai y dewiswyd chwech i gael eu gwobrwyo, ac un o'r chwech oedd y doa St. Austin gan Ambrose Lloyd. Dyna rywbeth tebyg i fuddugol- iaeth onido ? a hynny cofier gyda goreuon Lloegr, oherwydd un arall o'r chwech oedd Dr. Dykes, yr hwn a gydnabyddir fel un o brif awdwyr tonau eglwysig y Saeson." Llwch Pedr Fardd. Cymro trylen arall mwy anghofiedig fyth ydyw Pedr Fardd, y cenir ei emynau ymron bob Saboth yng nghapeli Lerpwl, ond heb gofio na gwybod fod awdwr Yn rawnwin ar y groes Fe droes y drain, Caed balm o archoll ddofn Y bicell fain Dechreuwn fawl cyn hir Na fiinir ar ei flas. Am Tesu'r Aberth Hedd, 0 ryfedd ras," yn gorwedd or v fl. 1845 yn hen fynwent gait edig St. Paul's, Pall Mall yma, heb faen na sill i nodi'r fan. Tra bo'r Anibynwyr mor anghof- us o Ambrose, a'r Methodistiaid o Pedr Fardd, beth ped ymgymerai'r Gymdeithas Gen- edlaethol â ehodi rhyw goffadwriaeth i'r ddau yn Lerpwl ? Hwy gaent ddiolch a chymorth o'r Wyddgrug ac Eifionydd. Deddf newydd a Chast Newydd. Waeth pa mor dda y bo Deddf Newydd nag Act, y mae'r sychedigion yn sicr o ddyfeisio rhyw gast newydd i'w hysgoi. A dyna hanes Deddf fendithiql y Plant. Hynyma welwyd ar riniog un o dafarnau'r cylch y nos o'r blaen Gwraig ieuanc yn troi at ddyn elai heibio, ac ebre hi :— Daliwch v babi 'ma tra'r elwy i mewn yma i gael dyferyn. 'Chai 'run dafn tra y bo'r cyw cebyst yma ar fy rareichiau." Ac fe'i cvm'rodd y dyn aeth hithau i mown' gan ddvchwelyd yn y funud gan syehu ei gwoflau a diolch yn fawr i chi am eich cymwynas." -9- Joch o'r Gwaed. Ymwelodd dau Gymro a lladd-dv neu Laimgr Birkenliead yr wythnos ddiweddaf. Pan. fo'r farchnad yn dda, Ileddir yma ddwy fil o gatal tranior bob dydd a phe bae fodd sillobu eu brefiadau, mae'n debyg mai dyma brofiad y carnolion druain :—" Peth ofn- adwy ydyw bod yn fustach mewn lie fel hyn." Yn y boreuau," ebo un o awdurdodau'r lie daw i la'.vr yma liaws o ddarfodedigion (consumptives) i yfed glasiad o waed cynnes yr a.nifail newydd-ladd, ac y mae'n gred ganddynt ei fod yn foddyginiaeth rhag y dyciau.' Talant rhyw dair eeiniog y joch am eu ffisig cocli a gwaedlyd. Chwerthin am ben y goel a wna'r meddygon, a thaeru nad oes ronyn o sail iddi ond dal i gordded yno a wna'r cleifion sereh hynny. -9- Peidiwch dianc or Seiat Fawr. Y mae gan y Parch. John Hughes, M.A., drem ddyddorol ar Seiat Fawr y Sulgwyn yn Ymwelydd Misol Fitzclarence Street ac fel hyn y dibenna :— Da fuasai gweled yr holl frodyr cyhoeddus hyd y gollir, yn rhoddi eu presenoldeb yn y Soiat. Nid ydym yn hoffi gweled brodyr yn absenoli eu hunain o'r Seiat Fawr,"ond lie y bycido rheswm digonol. Yr oedd rhai o'r tadau yn absennol, a diau mai teimlo yn ddiffygiol yr oeddynt ar ol Uafur y dyddiau blaenorol, ac yr oedd rhai ohonynt i bregethu nos Lun a theg oedd iddynt orffwys gan na ddisgwylid iddynt gymeryd rhan. Ar yr un pryd, y mae y Seiat Fawr yn sefydliad mor urddasol a phwysig, a phersonoliaoth eglwysig mor amlwg a phendant ynddi, fel mai gweddaidd ydyw gweled yr holl frodyr a ddeuant i fyny i'r Gymanfa o'r wlad yn rhoddi eu presenoldeb o barch i'r Cyfundeb, ac o deilwng warogaeth i'r eglwysi sydd yn ymgynnull ynddi. Credu yr ydym y gwelid yr Apostol Paul ynddi, or gorfod ohono ymadael yn ebrwydd i Corinth gyda 'r train canol dydd, pe bai dim ond i annerch a'i breaenoldeb yr eglwysi svdd yn anwyl gan Dduw, ac wedi eu galw i fod yn saint. -9- Ail=godi Hen Ddosbarth. Cynhaliwyd Dosbarth Athronyddol yn un o ystefyll capel Crosshall Street yn ddi-dor am ugain gaeaf a rhagor, ond pallodd adeg ym- weliad Mr. Evan Roberts a'r ddinas. 'Roedd ymysg yr aelodau amryw o Gymry mwyaf meddylgar y cyleh gyda phob enwad, ac ymgodvmont a phynciau mwyaf dyrys ( r6 1 a Moes. Athraw ola'r dosbarth ydoedd y Parch. D. Adams, B.A., a charai rhai o'r hen aelodau sy oto hyd y Glannau wold y Dos- barth Athronyddol yn ail gychwyn tan ar- weiniad bonoddigaidd a hyddysg yr Hawen. A goir gair a thoimlad yr athronyddion ? Yn Eisiau Gwell Canu, YN ysgoldv Capel Pembroke, nos Fercher ddiweddaf, cyfarfu organvddion a ehorfoistri Eglwysi Rhyddion y ddinas i ymffurfio'n gangen o Undeb Cenedlaothol Cerddorol yr Kglvv.vsi Rhyddion. Caed anerchiad gan y Parch. Harry Youlden ar gerddoriaeth o safle pulpud a phapur gan ein cydwladwr Dr Glyn Roberts ar gerddoriaeth o safle'r cor- feistr. Wedi rhvdd-ymddiddan, dewiswyd pwyllgor o ddeuddeg, Mr. Francis Lloyd^ Mus.Bac., yn gadeirydd, a Mr. J. A. Hebson, L.R.A.M., yn ysgrifennydd. Amcan yr LTndob yw codi safon cerddoriaeth y Cysegr ymysg yr Eglwysi Rhyddion, rhag dannod iddynt fod eu canu gymaint ar ol canu'r Eglwyswyr a'r Pabyddion. Angladd Edward Owain Brynhawn dydd lau diweddaf, cleddid Mr. Edward Owen Williams, mab hynaf y Parch. J. O. Williams (Pedrog), ym mynwent West Derby. Darllenwyd rhannau o'r Ysgrythyr gan y Parch. O. L. Roberts gweddiodd Dr. Owen Evans caed anerchiad tyner ac addas i'r amgylchiad gan y Parch. O. L. Roberts ac yna dilynwyd yr arch hyd at y bedd. Yno darllenwyd y gwasanaeth claddu gan y Parch. Wm. Roberts, Trinity Road a gweddiwyd gan y Parch. T. Price Davies, Liscard. 'Roedd y tad a dau o'r meibion yn bresennol, ac yn doredig iawn eu teimladau. Trefn- iadau'r angladd yng ngofal Mr. W. G. Jones, Everton Road. Fel y dywedem yn Y BRYTHON diweddaf, 'roedd E.O.W. hoffus wedi etifeddu dawn farddonol loyw ei dad, ond y canai yn Saesneg, gan arddel y bardd-enw Edward Oivain. Wele un engraifft o'i awen gyfrin, ddwys, o blith torreth a gaed yn distaw-lechu ymysg ei bapurau :— THE ETERNAL. There reigns some Power beyond this mortal mind, Which to the source would draw all human kind. Whose kindred breath is this-the Soul of.man, Ere Eden's dark mortality began. Clothed now within the encircling coil of sin, Death frees the soul to find the origin. Dark though the firmament of mortal mind, Dark though the gloom that so engulfs mankind, Some central Sun, with still magnetic ray, Illumes the soul-dispels the veils of clay That radiant souls may wreck an earthly bond, And starlike then reveal the Light beyond Each silent star, that sheds its trembling ray, At morn doth mingle with majestic day Thou, happy Soul, that lights a word forlorn, Shalt surely blend with the Eternal dawn I Eglwysi Rhyddion Bootle. Nos Fawrth, yr 8fed, yng nghyfarfod blyn- yddol Cyngor Eglwysi RhyddionRhyddion Seisnig a Chymreig Bootle a'r cylch, ynghapel Stanley Road, dewiswyd yn swyddogion am y ffwyddyn nesaf :—Llvwydd, Mr. Ambrose Lloyd, sy'n fab y diweddar gerddor hyglod, J. Ambrose Lloyd, ac yn flaenor yn Eglwys Anibynol Seisnig Emmanuel is- lywyddion, y Parchn. CTiffith-Ellis, M.A., A. Myers, Mri. T. W. Corlett a J. W. Schole- field, Y.H. ysgrifenyddion,jMri. R. Vaughan Jones a W. T. Montgomery. Yn ystod y cyf- arfod pasiwvd penderfyniad cryf o blaid Datgysylltiad, yn cael ei gynnyg gan y Parch. O. L. Roberts, y Tabernacl, a'i gefnogi gari y Parch. A. A. Lee. Siaradwyd hefyd gan y Parch. G. E. Cheeseman—yr holl areithiau yn gryfion a chroywon. -$- Arweinydd Cymanfa Ganu'r M,C. Nos Fawrth ddiweddaf, penderfynwyd gofyn i Mr. G. W. Hughes, Cefn Mawr gynt, codwr y gan yng Nghapel Mawr y Rhos bellach, i ddod i arwain Cymranfa Ganu Methodistiaid Lerpwl yn y Sun Hall fis Mawrth nosaf. Gitaniaid Megan Mon. Fel y dywedasom o'r blaen, y mae Cor Merched v Gitana a'u bryd ar gystadlu yn Eisteddfod Llundain yr wythnos nesaf a beiddiwn ddweyd mai cor o engyl yn unig a'u ell rent. Pawb a garent eu clywed yn canu'r darnau cystaclleuol, cant gyfle yn Hope Hall nos Sadwrn nesaf, a hyderwn y rhoddir i Megan a'i merched mwynion y gefnogaeth a haeddant oddiar law Cymry'r cylch. Glee and Madrigal Sam Evans. Clywir hefyd fod y Liverpool Glee and Madrigal" tan arweiniad Mr. Sam Evans, yn prysur barter at gystadlu yn Llundain. Hai Iwc y daw'r ddau gor adre'n fuddugol, ac y ceir lie i ymffrostio yn Nhalentau Lerpwl gwedi Gwyl Genedlaothol y Pentra Mawr." -<" Ffefryn Park Road. Pregethid ynghapel Anibynol Park Road fore a hwyr y Saboth diweddaf gan un o lanciau disglaer o De ond sy'n bugeilio diadell bell a Seisnig Cowley, Deheubarth Lloegr ac 'roedd yn dorch go dynn rhyngddo ef a'r eyfaill Miall Edwards am gadair Diwinydd- iaeth ac Athroniaeth Aberlionddu'r wythnos ddiweddaf. Yn yr hwyr, 'roedd pwnc pur bwysig yn dwyn yr eglwys ynghyd, sef galw gwr i'w bugeilio fel dilynydd i'r anwyl a'r hybarch O. R. Owen. Cyflwynwyd enw'r Parch. J. Vernon Lewis, B.A.,B.D., Abertawe, i lais yr eglwys ac ar y diwedd, cododd yr holl aelodau ar eu traed i arwyddo eu cymer- adwyaeth iddo. Yn ddilynol, darllennwyd yr alwad gan Mr. E. P. Pugh, ac os etyb Mr. Lewis yn gadarnhaol, bydd gennym air helaethach ar y pregethwr ieuanc a dysgedig o'r De. -<&- Angladd Mr. E." W. Roberts. Cleddid gweddillion Mr. Ellis W. Roberts' lslwyn, Victoria Park, Wavertree, ym myn- went Smithdown Road, ddydd Mercher di- weddaf. Gweinyddwyd gan y Parchn. D. Jones (Mynydd Seion), E. Humphreys, a R. Lloyd Jones. Canwyd yr emyn, "Jesu, lover of my soul ar y don Aberystwyth, a Bydd myrdd o ryfeddodau yn ddwys iawn yn yr eglwys ac ar lan y bedd, lie y daethai tyrfa fawr i hebrwng gweddillion un a fuasai mor amIwg yng nghylchoedd crefyddol Cym- reig y ddinas. Y rhai hyn oedd y prif alar- wyr :F:IWYll ac Alvin Roberts (meibion), Mr. J. Barlow (brawd-yng-nghyfraith), Mr. Peter Davies (tad-yng-nghyfraitli), Dr. Robt. Jones a Mr. Llew. Williams (cefndryd) a Mr. Thos. Jones. Heblaw Hiaws mawr o gyfeillion Seisnig, gwelsom y Cymry a ganlyn yn yr angladd Mr. Peter Huhe, (Cephas,) Jabez Jones, Win. Davies (Tranmere), W. R. Owen, D. Roberts, T. Amos Hughes, John Jones a Moses Hughes. Yn cynrychioli Ofyrinfa Seiri Rhyddion Dewi Sant yr oedd W. Bros. Griffith, J Roberts, W.M.. Thos. Edwards, P.P.G.T., Hy. B. Lloyd, I.P.M., J. E. Jones, P.M., John Jones, P.P.G.S. of W., R. H. Morgan, P.M., H. Francis, S.W., L. Hughes, J.W., Gabriel Williams, J .D., E. S. Davies, I.G., David Williams, A. Foulkes, Thos. Jones, Owen Owens, Captain W. J. Roberts, Chas. Williams, H. Trevor Ellis, Hugh Owen, Ernest Williams, Robt. Roberts, R.W.Williams, Ellis Owen, Llew Wynne, W. Hartwell Jones,J, O. Williams, etc. F. Hughes, W. S. Williams, S. R. Richards, J. Hughes, Lot Jones (hyn)., O. H. Jones, T. Pritchard, Thos. Jones, J. O. Evans, Geo. Davies, R. T. Jones, M. G. Roberts, H. O. Jones, W. Davies, Humphrey Jones, W. Williams, John Jones, Ed. Williams, G. P. Davies, John Hughes, Robt. Thomas, W. Hughes, T. W. Thomas. 'Roadd gofal yr angladd yn nwylo Mri Thos. Porter a'i Feib., Up. Hill St.a Park Road. -0-

Advertising

[No title]

Advertising