Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

® O • ■nmoattfl Y PELL A R…

Araith dda, ond dim Allor…

Ffetan y Gol.j

Crebwyll Ann Griffiths,

Cymraeg Ail-ilaw.

Yr Ysgol Haf Gymraeg.

Byd a Bettws.

News
Cite
Share

Byd a Bettws. l' W SUGNO I'R.DAFAI?N,Me-.),ii achos a wrandawyd gan ynadon Porthaethwy ddydd Llun diweddaf, dywedwyd fod pianos yn dod yn bethau pur gyffredin yn nhafarnau Bangor a Llangefni. Byddai Mrs. Booth arfer a sylwi mai Duw a wnaeth bob miwsig a chyng- hanedd, ac mai Efe yn Ei addoldy, ac nid y diafol yn ei dafarn, a ddylai gael eu gwas- anaeth. Y COLEG NORMALAIDD.—Y mae'r gwaith o helaethu Coleg Normalaidd Bangor wedi ei ddechreu ac wedi y'i gorffonnir, gellir aneddu ynddo 130 o efrydwryr (80 o honynt yn ferched) yn lie 70 fel cynt. Cyst, yr helaethiad £ 26,000, II WY RES TALSARN.—Yn. Llanwncla, ddydd Llun, cleddid Mrs. J. W. Jones, Plas-y- bryn, priod J. W. Jones o ffirm Jones Bros., Holloway, Llundain, ac wyres y seraff diangof John Jones, Talsarn. 4>- EI EN I MEWN EISTEDDFOD. -Mewn Eisteddfod, a gynhelid yn Rhoslnrwaen, Lleyn, yr wythnos ddiweddaf, ganwyd baban. 'Doedd hyn ddim ar y rhaglen nac ymysg y c-ystadleuon, a thaflwyd y cyfarfod oddiar ei echel gan yr. eistecldfodwr ienga' fu erioed. -Q- YN GANT A PHUMP.—Bu John Burke, Tremadog, farw nos Wener ddiweddaf, yn gant a phump oed, gan adael ei weddw'n fyw ac yn 95 oed. Gwyddel ydoedd Burke, ac un o hen ymladdwyr y Crimea. 4>- GWMWL NANTLLE.—Yr wythnos ddi- weddaf, oherwydd slacrwydd gwaith, bu raid troi cant o ddynion ymaith o Chwarel Pen- yrorsedd, Nantlle. Y PARCH. R. GURRY.—Bu farw'r Parch. Robert Curry yn y Rhyl ddydd Mer- char diweddaf, wedi byr gystudd. 13rodor vdoedd o Amlwch, a lanwodd liaws o gylch- deithiau'r Wesleaid, ond oblegid afiechyd a orfu ymneilltuo fel uchrif ers blynvddau. Claddwyd ddydd Sadwrn yn y Rhyl, y Parch. T. 0. Jones (Tryjan) yn gweinvddu. TALWYN PHILLIPS A'I Ddoe (ddydd Mawrth) dethlid chwarter canrif gweinidogaeth y Parch. T. Talwyn Phillips, B.A., ar eg]wys Anibynol y Bala. Danghosodd y gorlan y fath afael sy gariddynt yn eu bugail drwy godi -ei gyflog. YR HEBREWR O'R HEBREAID.—O'r tri ymgeisydd a chwenvchent Gadair Hehraeg CoIeg M.C. y Bala, y mae'r pwyllgor wedi cymell y Gymdeithasfa, yii. ei chyfarfyddiad agoshaol yn Ninbych, i benodi'r Parch. W. Porter, M.A., D.Litt., sof y gwr oedd yno eisoes yn cyflawni'r gwaith or pan ymadaw- odd yr athro blaeriorol-y Parch. W\ B. Stevenson, M.A.,B.D.,—i Glasgow. Ysgotyn ydyw'r Proff. newydd. a gcaddati ei ysgol- heigdod yn rhai uchel tll hwnt. Ysgotyn ydoedd ei flaen orydd hefyd, ac a ddysgodd Gymraeg yn ddigon da i nllu pregethu'n ystwyth ynddi. -<>- GYFFYLLIOG, RHUTH YN.—Mewn cyngerdd yma nos Lun y Sulgwyn, tan nawdd y Gymdeithas Gvfeillgar, cenid gydag ar- ddeliad gan Mrs. Burton Griffith, Caor, a Mr. Griff Owen, LerpwL Bu raid i'r ddau ail ganu droion. Cyfaill melus arall a glybuwyd ydoedd Mr. Thos. Jones, Isgaerwen, yn canu penhillion yn ol yr hen ddull a'r hen flas Cymreig a'r gynulleidfa yn Ilepian a mawr fwynhau yr hen eiriau a'r hen ganu. Gresyn na fae fodd oi godi i'w fri cyntefig drwy Gymru. DEDFRYDU ELLYLL.—Ym Mrawdlys Mynwy, ddydd Mawrth, dedfrydwyd John Edmunds, pyllwr pedair ar hugain oed, i farwolaeth ar un o'r troseddau ellyllaf a wnaeth neb erioed, sef lladd ?Cecilia Harris, fferm v Garnwen, Abersychan, drwy ei saethu, yna'i threisio, wedi hynny ei hys- beilio. ac yn olaf agor ei gwddf a chyllell. D Y FN HA U APON CAER.- --liludittd sv'n cael sylw a thrafod mawr gan awdurdodau sir Fflint y dyddiau hyn ydyw'r cynllun i ddyfnhau y Ddyfrdwy rhwng Coimah\s Quay a Mostyn, ac felly ddyblu a threblu r Mongwriaeth ar hyd afon Caer." Bu adeg pan yr oedd mwy o longau yn cvrraedd Caei ar hyd y Ddyfrdwy nag a gyrliaeddai Lerpwl ar hyd y Mersey. Ond y mae canrif neu ddwy er y pryd hwnnw. PLIC10 BARF Y CAPLANIAID.-Ar bregeth ynghapel Seisnig y Poncie, Rhos- llannerchrugog, nos Saboth, dywedodd y Parch. J. W. Humphrevs, lJywydd Undeb Bedyddwvr Seisnig Gogledd Cymru, fod yn gywilydd gweled cynnifer o weinidogion Y mnoilltuol Cymru mor chwannog a pharod i gynnyg eu huna,in yn gaplaniaid i'r Fyrldin Dir a chan gyfeirio at y cerdded milwrol a fu i Gapel Mawr y Rhos y Saboth cynt, sylwai mai gresyn ydoedd gweld neb yn cydio Ymneilltuaeth a lVlilwriaeth yn eu gilydd. Rhagfur yn crbyn Jingoaeth"a milwriaeth a fu'r EfJwysi- Rhyddion erioed.

Advertising

Mwydion.

Draws Mon ac Arfc"