Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

vi 0 BIG 4^% Y G'LOMEN.

Gyda'r Clawdd, Sef Clawdd…

o ddolgellau

Draws Mon ac Arfon.

BIRKENHEAD.

News
Cite
Share

BIRKENHEAD. Yn Clifton Road. WRTH ddirwvn i ben eu tymor am eleni. cymerodd Cymdeithas Ymdrech Grefyddol eglwys Anibynol Clifton Road hamdden i nos lau i anrhegu'r gweinidog, y Parch. O. Lloyd Owen, ag inlaid rosewood bureau bookcase fel arwydd o'u gwerthfawrogiad o'i wasaneth i'r Gymdeithas er pan y sefydlwyd hi ganddo bum mlynedd yn ol, ac a rifai'r pryd liwnnw ac sy heddyw'n rliifo 80, ac yntau heb fod yn absennol o'r gadair ond chwe thro yr lioll adeg. Caed gair eynnes gan amryw o r aelodau, yn feibion a merched, a diolchodd -Air. Owen am eu geiriau earedig a'u hanrlieg hardd. Angladd Mr. Hugh Roberts, Daeth tyrfa liosog i angladd Mr. Hugh Roberts, Derfel House, ym mynwent Flay- brick Hill ddydd Sadwrn diweddaf. Ar- weiniwvd y gwasanaeth ynghapel y fynwent gan y Parch. W. M. Jones darllenwyd rhan o'r Ysgrythyr gan y Parch. O. J. Owen, M.A. caed anerchiad Saesneg gan y Parch. G. Ellis, M.A., yr hwn hefyd a weddiodd. Wrth y bedd cvmerwyd rhan gan y Parchn. J. Hughes," M.A., a S. G. Evans, B.A., a chan- wyd emyn dyn ymwasgar. Heblaw Mrs. Roberts (y weddw), Mr. Gomer Roberts (y mab), a, Mr. John Roberts (nai), roedd yn y dyrfa liaws mawr o gydnabod ein diweddar fro,wd-o Birkenhead, a Lerpwl, ac o Gymiu. Un ffyddlon o galon gu, 1'w-oes, dros achos lesu, Casglodd a rhoddodd yn rhad O'i ragorol fawr gariad Arian ac aur, clyd-aur clau, 1 gario'r achos goreu." Y cyfaill cywir Hugh Roberts yn ei fedd Y mae rhyw iasau yn mynd drwof wrth feddwl na chaf weld ei wyneb siriol byih mwy. Gwii v maddeuweh i mi am anfon rhyw deyrnged fach am un a edmygwn mor fawr. Er fod ei wallt o liw'r almon, a'i glyw yn pallu, yr oedd yn llawn nwyf ac asbri hyd yn ddiweddar, ae anodd oedd credu ei fod ar fin ei 77 mlwydd oed. C'efais lawer o'i gwmni diddan yn vstod y 25ain mlynedd diweddaf, ac yr oedd yn gymeriad ar ei ben ei liun. Nid oedd yn dyn- wared neb. Yn ei syniadau gwreiddioJ, yn ei ddull o'u eyfleu i ereill, yn ei osgo, yn ei ger- ddediad, yr oedd yn hollol ar ei ben ei liun. Pan yn siarad yn gyhoeddus a'i ddwylaw ar ei gefn, a'i lygaid yng ngliauad, fe ddywedai bethau pert a synhwyrol iawn. Ni wenieith- iai i neb pwy bynnag, ond ni tlu ywanodd neb yn ei gefn erioed, ac nid oedd gwenwyn yn oi saethau. A'i fodd o ymadroddi, Cu, fytli nid a o'm cof i." Nid oedd na brad na rhagrith nac ystumiau yU ei natur. Digiodd ami un wrtho am ddweyd y gwir, a chlywsom rai yn ei feirniadu nad oeddynt gymwys i ddal canwyll iddo. Crafodd lawer ar y gweinidogion am esgeuluso yr Ysgol Sul, ac am siarad yn ddistaw yn y pulpud. Yr oedd bob amser yn gryf yn erbyn pob gwastraff ynglyn a symudiadau crefyddol. ond er ei fod am gadw'r costau i lawr, doedd neu yn yr eglwys yn fwy barod i gyfrannu at bob achos teilwng' Credai yn gryf nad oedd gan eglwys, fwy nag unigolyn, hawl i redeg i ddyled, a gofyn i bobl ereill ei thalu, a gresyn na fuasai mwy o rai cyffelyb iddo. Cliwith gennym feddwl fod y gwr unplyg. dirodres. diddichell, a ffyddlon hwn, wedi hwylio drosodd i'r wlad o'r hon nid oes neb yn dychwelyd. Prennau ffrwythlon ac ir- aidd yn y winllan yn Pal'kfield oedd Griffith Roes, Thos. Jones, Sun Street, Ebenezer Jones. Wm. Jones, Elm House, a Hugh Roberts. Yr oedd eu camrau yn addurn i'r grefydd bur a arddelent, ac yn esiampl i ninnau ddilyn eu hoi. Y maent hwy i gyd yn eanu mewn seiniau pereiddiol gan Moses a chan yr Oen.-I.D.

[No title]

Advertising