Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

Awel o'r De.

(mm)

News
Cite
Share

(mm) Y" Derby Day." YR ydym yn hoff o'r march, a chreadur hardd a gwasanaethgar ydyw. Un o'r ffafrau pennaf a gaem pan yn ieuanc iawn oedd ein codi ar gefn caseg a elwid yn Hen Ddarbi," gan ffermwr caredig yn yr hen gymdogaeth. Cafodd cenedlaethau o blant y pentref eu codi i urdd y marchogion ar gefn yr hen gaseg honno. Anifail gwar ac araf iawn oedd yr Hen Ddarbi prin yr oedd posiblrwydd naid na rhedeg ynddi, a hawdd y gallasai cerddwr cyffredin ar draed ei phasio. Ond 11am go fawr yw oddiwrth yr Hen Ddarbi honno at yr orchest a wnaeth Minoru, march y Brenin, yn rhedegfa Epsom y dydd o'r blaen, wrth ennill y gamp a elwir y "Derby." Ni fuom erioed yn gweled rhedegfa o'r fath yn un man, ac nid yw yn debyg yr awn, uc addefwn y gall hynny fod yn un diffyg o bwys ynnom i allu fforddio barn deg ar y redegfa hon. Mawreddog iawn yw yr ad- roddiadau mewn newyddiaduron yn darlunio y golygfeydd. Ymddengys fod amryw feirch talentog ereill yn y gystadleuaeth, a disgwyliai llawer mai i un o'r rhai hynny yr ai y fudd- tigoliaeth. Modd bynnag, yr oedd llwvddiant inareli dyngedig a medrus Minoru yn bur boblogaidd, oherwydd mai eiddo y Brenin ydoedd. Mae y Brenin wedi bod yn nodedig o ffyddlon i'r Turf. Gydag i Minoru ddangos ei ben athrylithgar heibio'r post terfyn yn goncwerwr ar ei frodyr, ffwrdd a'r Brenin ato, i'w longyfarcli a'i arwain i'w le. GeUid meddwl oddiwrth yr adroddiadau fod gwaith y Brenin yn mentro'r fath beth a hyn, a mynd i ganol y bobl, agos gymaint ag a fuasai iddo arwain cad ar faes brwydr. Dywedir na welwyd erioed y fath beth, a bod hyd yn oed y Brenin am unwaith wedi ei orehfygu, ac nisieu help cyfeillion i'w gynnal i fyny o'r tonnau o groeso a dorrent arno, a ffynhonnau y gorfoledd a vmdorrent yn ei galon, oherwydd y ffaith fod ganddo farch mor orchestol a llwyddiannus. Yn wir, mae gweled Brenin Lloegr yn colli ei hunan-feddiant mewn gor- lawenydd, pan wedi ei fframio gan redegfa cefiylau, a chan filoedd, ymhlith ereill, o wehilion cymdeithas, yn rhywbeth a bair i un ryfeddu ato. Nis gallwn yn ein byw gael ein hysbryd i gywair y dyddordeb a deimla y lliaws yn y math yma o gystadlu am wobr ac anrhydedd. Yr hyn sydd braidd yn chwith- ig yw fod Minoru ei hun, yr anifail a wnaeth yr orchest, yn analluog i'w gwerthfawgori. Gwyr y bardd Cymreig pan y mae yn ennill cadair neu goron neu wobr, ond dyma geffyl v Brenin wedi ennill anrhydedd pennaf Eisteddfod Epsom-y Derby—a'r enillydd yn gwybod dim am y petb, ond ei berchennog yn gorfod ymostwng i dderbyn y clod a'r wobr "fyn ei le. Datgysylltiad-Barn y Bohl. T Cawsom yr wythnos ddiweddaf gryn lawer o gyfleusterau yn y wlad i wrando barn lliaws o ddynion o amrywiol amgylchiadau gyda golwg ar y mater hwn. Nid ydym eto wedi cael yr un rheswm i siglo oin cred ni yn y farn a gyhoeddasom yn y Drych diweddaf, ond rhaid i ni gydnabod fod Cymru yn gyffredinol yn decbreu teimlo dipyn yn bry- derus gyda golwg ar i'r Mesur gael ei weithio ymlaen hyd yr eithaf yn ystod y Senedd- dymor hwn. Mae y mwyafrif, fel ninnau, wedi ymddiried yn addewidion y Llywodraeth. Yr oedd ereill o'r cychwyn yn amheus gyda golwg ar fwriad y Prif Weinidog ac amryw o'i gvd-weinidogion. Erbyn hyn, mae y dosbarth olaf yn tueddu i gyfiawnhau eu safle, ac yn haeru fod arwyddion yn amlhau mai nid heb sail yr amheuent. Y mae'n bur sicr os y syrth y Llywodraeth yn fyr o wneud yr hyn a addawodd i Gymru, hyd y mae hynny'n bosibl, gyda golwg ar y Datgysylltiad -y mae'n sicr, meddwn, y bydd siom a chwerwedd y rhai a gredasant iddi yn ddi- fesur, ac mai nid mor hawdd yr enillir eu hymddiried wedi hynny. Mae'n ddiameu fod y gwahaniaeth barn a theimlad yng Nghymru rhwng amheuwyr a chredwyr y Llywodraeth wedi peri na chynhaliwyd mwy o. gyfarfodydd ac na chadwyd y pwnc yn fwy amlwg a pharhaus o flaon y cyhoedd ers tro bellach. Ac oherwydd hynny, mynn y gelyn- ion dynnu'r casgliad nad oes ar y wlad yn gyffredinol awydd am Ddatgysylltiad, onide y buasai mwy o gyffro yn ei gylch, yn enwedig pan yr oedd yn nesu i'w gyfyngbwynt. Y felltith yw, nas gall yCymry yn gyffredin drafod materion fel hyn yn brydlon ac mewn ysbryd rhydd a theg, a pheidio cymeryd safle bendant a therfynol ar fater o bolisi hyd oni fvddo trafodaeth drwyadl wedi cymeryd lie. Mae gormod o lawer o'r agwedd bersonol, bleidgar a chwerylgar, wedi bod hyd yn oed ymhlith y Rhyddfrydwyr a'r Ymneilltuwyr ar v pwnc hwn, ac y mae hynny yn sicr o fod yn wendid ynnom fel y safwn o flaen y Saeson. Gorthrwm CymrU. Cymerir gormod yn ganiataol gyda golwg ar sefyllfa tirfeddianwyr yng Nghymru. Gwir fod pethau yn well nag y buont,ac ambell ddiwygiad yn ymwthio i fewn yn ara deg i'r berthynas rhwng meistr tir a thenant. Ond y mae eto le mawr i welliant, a llawer gor- thrwm blin yn cael ei ddwyn gan amaethwyr a gwerin Cymru. Mae llawer achos ymha un y mae'r gorthrymwr yn gwneud ei waith mor gyfreithlon" a chyfrwys fel mai nid hawdd, hyd yn oed i'r rhai sydd dano, weled ar un- waith eu bod yn cael dim cam, ac yn gorfod dioddef. Mae'n hysbys fod y Ddirprwyaeth Frenhinol wedi bod yn casglu tystiolaethau drwy Gymru ers blynyddoedd bellach, ynglyn a landlordiaeth yn bennaf. PasiwydTy tystiolaethau hynny i ffwrdd i rywle, ac ni ddaeth fawr ohonynt. Ond mae perygl i'r rhai a orthrymir ddisgwyl gormod wrth ddirprwyaethau o'r fath, ac esgeulnso arfor" y dyfalwch parhaus a berthyn iddynt hwy eu hunain. Nid yw amaethwyr Cymru yn agos ddigon glew dros fuddiannau eu gilydd, ac nid yw llawer o'r gweithwyr chwaith. Drwg gennym glywed yn ddiweddar am lawer engraifft o anffyddlondeb cymdogion i'w gilydd, a thrwy hynny yn temtio ac yn cymorth rhai tirfeddianwyr i ormesu tenant- iaid gonest ac egwyddorol. Mae pennod y math yma ofrâd mewn ambell ardal yn gy- wilyddus, ac yn ei gwneud yn anodd i hyd yn oed gyfreithiau sicrhau hynny o gyfiawnder y bwriadwyd hwynt iddo. Y fendith rag- baratoawl fwyaf i ddiwygiadau tir fyddai mwy o lawer o gydymdeimlad rhwng cymdogion a'u gilydd, a glewder i sefyll dros gyfiawnder hyd at aberth. Y Sulgwyn. Y gorsafoedd yn llawn ffwdan a chlebran, a channoedd o bobl yn ceisio eu lie mewn trenau i wahanol barthau yng Nghymru, rhai yn gall a rhai yn ffol-dyna a welsom drwy y Drych Wyliau y Sulgwyn. Cafwyd tywydd da ar y cyfan, a rhagorol ar adegau. Wrth gwrs, cafwyd cryn lawer o wlaw yn Ffestiniog, ond gwelsom liaws o'r boblogaeth yn dianc oddiyno i wahanol gyfeiriadau rhwng y cav^odydd. Yr oedd Arddanghosfa Meirch yn 'Stiniog ei hun ond aeth llu mawr i'r arddanghosfa gymysg a gynhaliai Llew Tegid yn Llanrwst y Llungwyn. Yr oedd y cread- uriaid yno yn fwy talentog na'r rhai yn ar- ddanghosfa 'Stiniog. Fedrai yr olaf ddim ond neidio a gwervru ond "gallai y cystad- leuwyr yn y gyntaf wneud awdlau a phrydd- estau, traethodau, canu unawdau a chorawd- au, etc. Pa faint gwell yw dyn na eheffyl- er i'r ceffyl hwnnw fod yn Minoru ? Daliwch ati, greaduriaid deudroed, ac ymrowch i gampau uwch nag eiddo anifeiliaid. A daliwch i feithrin mawredd dynol yn y pen ac nid yn y traed. Mae rhai yn treulio eu gwyliau i ddim ond mynegi gogoniant traed a phel. Rhoi y pwys mwyaf ar y darn agosaf i'r ddaear o ddyn yw eu bai hwy. Wel, dyna ddigon, am y tro hwn, o glod a gogan.

Advertising