Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

TOM PRICE YN EI FEDD!'

Am Lyfr.

News
Cite
Share

Am Lyfr. CYPPES PFYDD: Sef ystyriaethau ar Gyffes Ffydd newydd Cymanfa Dwy- rain Morgannwg, gan y Parch. W CYNON EVANS, G. & S., Blaen-y-Cwm Rhondda. 6ch. Y mae llawer o garedigion yr Efengyl yn ymglywed yn bur anesmwyth y blynydd- oedd hyn o herwydd fod cymaint o ddysgu ac o gredu ar athrawiaethau gwahanol a gwrthwyneb i'r rhai a gredid yn ddiameu'r dyddiau gynt. Yn yr anesmwythter meddwl yma ymofyn llawer am rywbeth a dd'fogela'r eglwysi yn y ffydd, ac y mae rhai yn meddwl y byddai Cyffes Ffydd yn ddefnydd- iol i'r perwyl hwnnw. Ar tudalen 75 o'r llyfr sydd a'i deitl uchod darllennwn :— "Yng Nghwrdd Hanner-Blynyddol ein Cymanfa (y Bedyddwyr), yn Ynysybwl, a gynhaliwyd Mercher a Iau, Ionawr 22ain a'r 23ain, 1908, mabwysiadwyd y pender- fTniad hwn:—Y Cyffes Ffydd a Mynegiad y Gymanfa.—Penderfynwyd fod y Gyffes yn cael ei hadferyd i Lythyr y Gymanfa, ac fod Pwyllgor y Rheolau i ychwanegu yr athrawiaethau pwysig a adewir allan yn yr hen Gyffes." I ddeall ypenderfyniad uchod rhaid coflo fod y Gymanfa yn anfon llythyr at yr eglwysi a'i cyfansoddant unwaith yn y flwyddyn ac hefyd ei bod o'r flwyddyn 1768 ymlaen am lawer o flynyddoedd yn argraffu ar ei llythyr grynhodeb byr o Gyffes Llundain, sef Cyffes saith o eglwysi'r Bedyddwyr yn Llundain yn 1689. Y cryn- odeb a nodwyd yw'r Cyffes neu yr hen Gyffes" y penderfynwyd ei hadferyd. A chan mai crynodeb oedd, yr oedd llawer o athrawiaethau oedd yn Nghyffes Llundain wedi eu gadael allan yn yr hen Gyffes." Ac y mae'n debyg mai dyna'r athrawiaethau yr oedd Pwyllgor y Rheolau i'w hyeb- wanegu." Ymddengys fod Pwyllgor y Rheolau wedi cyfarfod ac ychwanegu'r athrawiaethau, a bydd y Gyffes fel y daeth o tan law'r Pwyllgor yn cael ei derbyn neu ei gwrthod neu rywbeth yn y Gymanfa agoshaol. Ystyriaethau ar y Gyffes Ffydd hon a ddygir tan sylw'r Gymanfa nesaf yw cynnwys y llyfr hwn. Prawf y llyfryn bychan hwn fod Mr. Evans yn ddiwinydd mawr, yn gystal a'i fod yn ddadleuydd medrus, ac yn gyfarwydd a hanes ac a chynnwys y Cyffesion Ffydd a luniwyd o'r prif oesoedd hyd yn awr. Geilw ar ei frodyr yn y Gymanfa i wrthod Cyffes Ffydd a derbyn yn unig y gyffes ffydd syml sydd yn y Testament Newydd. Y mae ei bennod ar Y Gyffes Ffydd yng ngoleuni y Testament Newydd" yn cymharu'r gyffes ffydd a gynhygir i Gymanfa Morgannwg a Chyffes fydd y Test. Newydd, fel y ceir hi yn Marc viii. 29; Mathew xvi. 16; Actau viii. 37 Rhuf. x. 9, &c., gan ddangos mai Crist yw ei chanolbwynt, a phob peth wedi eu crynhoi ynddo Ef a'i bod yn syml a dealladwy-yn gyfryw ag y gall pob cred- adyn, beth bynnag fo ei gyrhaeddiadau, ei deall yn ddigamsyniol, ei chredu a'i holl galon, ei chyffesu'n gydwybodol, ac ufudd- hau iddi'n Hawen. Yn ei bennod ar Gyffes Ffydd a Duwinyddiaeth, dengys y gwahan- iaeth rhwng cyfundrefn o athrawiaethau diwinyddol a'r hyn yw. cyffes ffydd syml, a'r amhosibilrwydd i bob aelod o eglwys feddu ar syniad priodol o athrawiaethau a damcan- iaethau diwiDyddol ac athronyddol, a bod yn abl i'w derbyn drosto ei hun fel credo. Y mae'r llyfr bychan hwn yn cynnwys pethau a berthyn yn fwyaf neilltuol i ys- tyriaeth Cymanfa Morgannwg, ond sydd er hynny'n deilwng o sylw'r holl enwad Bed- yddiedig oherwydd perthynas yr holl Gy- manfaoedd Cymraeg &u gilydd ac a'r Un- deb ac a'r colegau. Ac yn yr amser cyn- hyrfus hwn o ymchwil i bynciau crefydd da fyddai i bawb sy'n "meddwl am ei enw ef ddarllen y gyfrolen hon ac ystyried y gwahaniaeth rhwng y "datganiad." a chyffes ffydd," rhwng ffeithiau mawr person Crist a'i waith a'r damcaniaethau a'r athrawiaethau a gesglir oddi wrthynt. Gresyn na allasai'r awdwr gymeryd ham- dden i ysgrifennu'n helaethach rai o'r !JelJ8 nodau; fel y mae, gall y llyfr wneud mawr les trwy ddangos beth sydd hanfodol 1 undeb mewn credo, H. P. B. 4