Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
K;bn T I nwiva 3/6/09 U Ar Permanent Carbon Portrait BY SARONIE, Atelier, 3 LORD STREET, Liverpool. WIIAT BETTER, lJ: Make appointment. cUnFS^9 to 6. Saturday, 9 to 5. On Parle Francais. Siaredir Cymraeg bay and Electric Light.
Advertising
Perfect ——i Pastry KEENORA Self-Raising § FLOUR. I Pastry, Soones, Bans, etc., ae I FLOUR. I ALWAYS light in the homes where I Keenora Self Raising Flour is I regularly used. 9 There is no other Self-Raising I Flour on the market which is JUST ■ the same as 'KEENORA." Try .1 it and see what a boon itjs. It II offers II Better Results without}} Added 11 Expense. |! |To(be had from aIl~Qrocers and Expense. J kltalian Warehousemen- I Sole Wholesale Agents- MORRIS & JONES Liverpoo
Advertising
| aeaty Bros., Ltd., CELEBRATED TAILORS. largest and Most Up=to=date StocK in City. 37 to 43 LONDON ROAD, 28 to 30 CHURCH STREET, LIVERPOOL. BARGAINS cjk THE HOLIDAYS AT JONES S 200 pieces Flaxicord for Dresses A|>». NEW SHADES. 3fd. 4fd. 6fd. is0 75 pieces Spot Muslins R SUMMER DRESSES. 4,d. 5|d. 6fd. Nkw 500 Cases Lisle Gloves STRAP FASTENERS. 6Jd. Bid. 10id **AUY ^0zen 2 Button Kid Gloves TLFUL SOFT FINISH. 1/3J I/6J I/I1| ° £ en Ladies Openwork Hosiery 1 Black and Colours. 4fd. 6fd. 8fd. Sf> °xes White Needlework Blouses ^^•ENDID PATTERNS. 1/LLJ 2/11 3/11 -====== Bee Hive," 68, 61, 63 BRUNSWICK ROAD, LIVERPOOL. FOR ALL THOSE EYE- AND HEAD TROUBLES CALLING SIMPLY FOR GLASSES.. I WOOD, ABRAHAMS' Undertaking to keep their glasses right for the sight free for 2 years, keeps all strain away. Only by removing the strain can the sight be preserved till extreme old age. WOO D, ABRAHAM'S, OPTOLOGISTS.LORD ST. & Gt,CHARLOTTE ST ROBERTS e EDWARDS ESTATE AGENTS, 64 Kirkdale Rd., Liverpool. Telephone: 2193 Royal. COOK & TOWNSHEND. .0"- Special Bargains THIS WEEK. Boys' .Norfolk Suits, 8/11 Boys' Henley Suits, 9/11 Boys' Rugby Suits, 12/9 BEST VALUE IN THE CITY. Byrom St. & Dole St., LIVERPOOL. ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottlesr SODA WATER. POTASH WATER. SELTZER IWATER. LEMONADE DRY GINGER ALE. Etc., etc.! IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St. LIVERPOOL, Ride the C World famed Y Easy payments: C ■ »SB1 PER; 4d" DAY> L I EL I The Bee Cycle & IT Motor Co., Ju 1 & 3 Wavertree rd CS| Liverpool. City Depot: 28 Gt, Charlotte Street Rider Agents Wanted. Send for Lists, Established 1885. Telephone, 2853 Royal
TOM PRICE YN EI FEDD!'
TOM PRICE YN EI FEDD! Ymdaknood drist tros Gymru pan gyr- haeddodd y newydd yr wythnos hon o Dde Awstralia am farwolaeth ein cydwladwr yr Anrhyd. Tom. Price, oedd yn brif weinidog y wlad lionno. 'Roedd yma'r llynedd, fis Ebrill a Mai, ar ymweliad a bro ei dadau gwedi chwarter canrif o absenoldeb. Dyma fel y d'wedem yn Y Brython hwnnw pan gyr- haeddodd ein cydwladwr disglair Lannau Lerpwl 0 Saer Maen i Brif Weinidog Mynych yr edliwir ni fel Cymry mai pobl farddonol o theimladol yio, a rhy anfedrus i lywodraethu'n hunain, cliwaithach lvw- odraethu neb arall, pe caeni Ymreolaeth ond y mae gyrfa a chyfodiad gwyr fel Tom Price a Lloyd George yn atob effeithiol i'r syniad hwnnw, ac yn eglur ddangos, ond i'r Cyinro gael cystal cyfie, y gwnaiff cvstal marc fel gwleidydd a llywiwr cenedl a'r Sais neu'r Ysgotyn. 'Roedd ei fam yn fercli i Hugh a Betsan Morris, Pantymaen, Bryneglwys, ger Corwen ac wedi ei magu gyda Wesleaid yr ardal honno. Yn y forties hi a aeth i Frymbo, lie y cartrefai gyda'i modryb chwaer ei mam, Eleanor Charles. Daetli John Price i'r ardal i weithio fel saer maen, ac yn ddilynol ymbriododd a Miss Morris. Tom ydoedd y cyntaf-anedig o'r plant ac efe eto end plentyn, symudodd y teulu i Lerpwl. Yina y cafodd ei addysg, y dysgodd grefft ei dad, ac y priododd Miss Lloyd. Gwaniodd ei iechyd, ac yn 1883 ymfudodd i Awstralia, lie y cafodd gryn fyd ar y cyntaf i gael gwaith, ond a ddygnodd ati, a dyddorol yw crybwyll iddo, fel saer maen, fod yn naddu cerrig y Senedd- dy yn Adelaide, lle'r eisteddai'n awr yn Brif Weinidog. Ymlien ysbaid, daeth yn un o brif gontract- ors Adelaide yna cafodd swydd Clerk of the Works tan y Llywodraetli, gan arolygu'r gwaith adeiladu enfawr a wneid yn Islington, gerllaw Adelaide. Yn y cyfwng liwi)., deviai'n adnabyddus fwy-fwy yng nghylchoedd Llafur, a rhagored y gwnaeth ei waith fel Ysgrif- ennydd Cymdeithas yr Adeiladwyr fel y ceisiwyd ganddo sefyll yn ymgeisydd tros un o etholaethau mwyaf y Dalaeth. Cafodd fwyafrif o un ar ei gydymgeisydd, yr liwn oedd yntau'n Gymro, Mr. J. G. Jenkins, ac sydd heddyw yn Agent General dros Dde Awstralia yn Llundain. Ymlien y pedair blynedd, penodwyd Mr. Price yn arweinydd Plaid Llafur, a plian unwyd y Taleithiau, eafodd yntau am sedd yn Nhy'r Cynrychiolwyr, ond er iddo gael 28,000 o gefnogwyr, collodd o ddiffyg ychydig bleidleisiau. Yn 1905, fel arweinydd yr Wrthblaid, heriodd y Llywodraoth, a llwydd- odd i gario pleidlais o wall yrnddiried. Y canlyniad fu anfou" am dano gan y Llywodr- aethwr tros y "Goron i ffurfio Gwe'nyddiaeth newydd. Dyna wnaetli, ac efe oedd yn Ilywio'r wlad enfawr honno er ys tair blynedd fel ei Phrif Weinidog. Y mae'n Gymro gwladgar, a phob amser yn barod i arddel ei genedl; a phan ofynwyd iddo am ei enwad, atebodd :— Yr wyf yn dal yn Weslead, ac ar fwy nag un aehlysur wedi cydnabod yn gy- hoeddus mai i'r addysg grefyddol a gefais yn Ysgol Sul Gymreig Boundary Street, Lerpwl, yr wyf yn ddyledub am fy saile heddyw." Y mae ei briod|yn ferch y diweddar Mr, Edward Lloyd, a fu'n oruchwyliwr Cylcli- daith Shaw Street ac y mae chwaer iddi yn byw yn Waterloo. Y mae hefyd chwaer i Mr. Price yn byw yn Lerpwl, sef Mrs. Simon, Chelsea Road, Linacre—y hi a'i phriod yn aelodau blaenllaw gyda'r eglwys Wesleaidd Gymreig yn Knowsley Road. --0--
Am Lyfr.
Am Lyfr. CYPPES PFYDD: Sef ystyriaethau ar Gyffes Ffydd newydd Cymanfa Dwy- rain Morgannwg, gan y Parch. W CYNON EVANS, G. & S., Blaen-y-Cwm Rhondda. 6ch. Y mae llawer o garedigion yr Efengyl yn ymglywed yn bur anesmwyth y blynydd- oedd hyn o herwydd fod cymaint o ddysgu ac o gredu ar athrawiaethau gwahanol a gwrthwyneb i'r rhai a gredid yn ddiameu'r dyddiau gynt. Yn yr anesmwythter meddwl yma ymofyn llawer am rywbeth a dd'fogela'r eglwysi yn y ffydd, ac y mae rhai yn meddwl y byddai Cyffes Ffydd yn ddefnydd- iol i'r perwyl hwnnw. Ar tudalen 75 o'r llyfr sydd a'i deitl uchod darllennwn :— "Yng Nghwrdd Hanner-Blynyddol ein Cymanfa (y Bedyddwyr), yn Ynysybwl, a gynhaliwyd Mercher a Iau, Ionawr 22ain a'r 23ain, 1908, mabwysiadwyd y pender- fTniad hwn:—Y Cyffes Ffydd a Mynegiad y Gymanfa.—Penderfynwyd fod y Gyffes yn cael ei hadferyd i Lythyr y Gymanfa, ac fod Pwyllgor y Rheolau i ychwanegu yr athrawiaethau pwysig a adewir allan yn yr hen Gyffes." I ddeall ypenderfyniad uchod rhaid coflo fod y Gymanfa yn anfon llythyr at yr eglwysi a'i cyfansoddant unwaith yn y flwyddyn ac hefyd ei bod o'r flwyddyn 1768 ymlaen am lawer o flynyddoedd yn argraffu ar ei llythyr grynhodeb byr o Gyffes Llundain, sef Cyffes saith o eglwysi'r Bedyddwyr yn Llundain yn 1689. Y cryn- odeb a nodwyd yw'r Cyffes neu yr hen Gyffes" y penderfynwyd ei hadferyd. A chan mai crynodeb oedd, yr oedd llawer o athrawiaethau oedd yn Nghyffes Llundain wedi eu gadael allan yn yr hen Gyffes." Ac y mae'n debyg mai dyna'r athrawiaethau yr oedd Pwyllgor y Rheolau i'w hyeb- wanegu." Ymddengys fod Pwyllgor y Rheolau wedi cyfarfod ac ychwanegu'r athrawiaethau, a bydd y Gyffes fel y daeth o tan law'r Pwyllgor yn cael ei derbyn neu ei gwrthod neu rywbeth yn y Gymanfa agoshaol. Ystyriaethau ar y Gyffes Ffydd hon a ddygir tan sylw'r Gymanfa nesaf yw cynnwys y llyfr hwn. Prawf y llyfryn bychan hwn fod Mr. Evans yn ddiwinydd mawr, yn gystal a'i fod yn ddadleuydd medrus, ac yn gyfarwydd a hanes ac a chynnwys y Cyffesion Ffydd a luniwyd o'r prif oesoedd hyd yn awr. Geilw ar ei frodyr yn y Gymanfa i wrthod Cyffes Ffydd a derbyn yn unig y gyffes ffydd syml sydd yn y Testament Newydd. Y mae ei bennod ar Y Gyffes Ffydd yng ngoleuni y Testament Newydd" yn cymharu'r gyffes ffydd a gynhygir i Gymanfa Morgannwg a Chyffes fydd y Test. Newydd, fel y ceir hi yn Marc viii. 29; Mathew xvi. 16; Actau viii. 37 Rhuf. x. 9, &c., gan ddangos mai Crist yw ei chanolbwynt, a phob peth wedi eu crynhoi ynddo Ef a'i bod yn syml a dealladwy-yn gyfryw ag y gall pob cred- adyn, beth bynnag fo ei gyrhaeddiadau, ei deall yn ddigamsyniol, ei chredu a'i holl galon, ei chyffesu'n gydwybodol, ac ufudd- hau iddi'n Hawen. Yn ei bennod ar Gyffes Ffydd a Duwinyddiaeth, dengys y gwahan- iaeth rhwng cyfundrefn o athrawiaethau diwinyddol a'r hyn yw. cyffes ffydd syml, a'r amhosibilrwydd i bob aelod o eglwys feddu ar syniad priodol o athrawiaethau a damcan- iaethau diwiDyddol ac athronyddol, a bod yn abl i'w derbyn drosto ei hun fel credo. Y mae'r llyfr bychan hwn yn cynnwys pethau a berthyn yn fwyaf neilltuol i ys- tyriaeth Cymanfa Morgannwg, ond sydd er hynny'n deilwng o sylw'r holl enwad Bed- yddiedig oherwydd perthynas yr holl Gy- manfaoedd Cymraeg &u gilydd ac a'r Un- deb ac a'r colegau. Ac yn yr amser cyn- hyrfus hwn o ymchwil i bynciau crefydd da fyddai i bawb sy'n "meddwl am ei enw ef ddarllen y gyfrolen hon ac ystyried y gwahaniaeth rhwng y "datganiad." a chyffes ffydd," rhwng ffeithiau mawr person Crist a'i waith a'r damcaniaethau a'r athrawiaethau a gesglir oddi wrthynt. Gresyn na allasai'r awdwr gymeryd ham- dden i ysgrifennu'n helaethach rai o'r !JelJ8 nodau; fel y mae, gall y llyfr wneud mawr les trwy ddangos beth sydd hanfodol 1 undeb mewn credo, H. P. B. 4