Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

fiSTST!. l..,.....1

Puleston Jones yn Farnworth.

A Am Lyfr

Advertising

Cymanfa Ganu yn Leeds.

News
Cite
Share

Cymanfa Ganu yn Leeds. CYNHAXTWYP Cymanfa Gercldorol clan nawdd eglwysi Carlton. Leeds, Featherstone, a Bradford, Swydd Efrog, dydd Sadwrn,Mai 15, Leeds oedd y lIe dowisedig i'w chynnal eleni, ac ymddengys fod yr ystafeU He yr addola Cymry Leeds wedi ei chodi yng nghanol y rhanbarth honno o'r dref sydd. wedi ei medd- iannu gan Tddewon, a theimlem ddyddordeb nid bychan cael bod yn ei-I canol yn cynnal ein Cymanfa ganu oblegid y mae i'r ddwy genedl eu. hanes sydd yn eu gwneud mewn mwy nag un ystyr yn debyg i'w gilydd ac y mae iddynt eu hanes sydd yn eu gwahaniaethu yn ddirfawr hefyd. Ond gorfu i'r Tddewon, er wedi meddiannu y rhanbarth, a'u telynau wedi eu hongian ar yr helyg, roddi ffordd a chilio i'r cornelau, i ni fyned heibio a'n telynau i ganu clodydd y Gwr y maent hwy yn ei wrthod. Detholwyd y tonau canlyn ol o wahanollyfrau Aylesbury, Gwinllan, Deem- ster, Bryntcg, Caio, Penllyn, Pwllheli, Llan- sannan, Rhyl, Pembroke, Gruddfaniad, An- dalusia, y chant Troyte, a'r Anthem Pwy yw y rhai hyn." Caed cynulliadau lliosocach nag arfer, ac yr oedd holl siroedd Gogledd Cymru, yn ogystal a rhai o'r De,) yn cael eu cynrychioli yn y gynulleidfa. Arweiiwdd y Gymanfa oedd Mr. John Williams, Bangor is-arweinydd, Mr. D. Davies, Carlton Llyw- ydclion, y prynhawn, y Parch. J. Parry Broqiks yr hwyr, y Parch. Owen Jones—y ddau o Leeds vsgrifennydd, Mr. W. Will- iams, Leeds trvsorydd, Mr. E. Prodger, Featherstone ac y mae clod yn ddyledus i'r swyddogion lleol am eu hvmdrpch i goroni y Gymanfa a llwyddiant. Rhaglen gampus, ond canu gwael, hanner y tonau allan o don- yddiaeth, ac ni roddwyd ystyr nac ysbryd i un rhan o bedair o'r emynau. Teimlem hefyd nad oedd y Pwyllgor wedi llwyddo i briodi y tonau a'r emynau yn hapus iawn a'u gilydd. Canwyd rhai tonau ac emynau yn afaelgar ac effeithiol-Deemster ar Mae'r gwaed a redodd ar y groes," a Penllyn ar Cofia'n gwlad Benliywydd tirion," a phan ddaethant at yr ail linell Yma mae beddrodau'n tadau, Yma mae ein plant yn byw," cododd y teimlad yn uchel, ac mae yn debyg fod hanner y gynulleidfa wrth ganu yr uchod yn sefyll uwchben beddau eu tadau yng Nghymru. Gall y Cymro oddicartref weddio yn Ilawer mwy effeithiol dros ei hen wlad na'r Cymro sydd bob amser gartref. Bendithiod Duw ein cymanfa i'n helpu ni sydd wedi ein halltudio o'n gwlad i ganu Ei glodydd yn well. T. JONES.