Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

fiSTST!. l..,.....1

Puleston Jones yn Farnworth.

News
Cite
Share

Puleston Jones yn Farnworth. CAFODD Saeson a Chymry Farnworth, ger llaw Bolton yma, wledd nas anghofiant y rhawg nos Sadwrn a'r Saboth diweddaf, set yn clywed y Parch. J. Puleston Jones, M.A., Pwllheli, yn pregethu.—Nos Sadwrn, yn y capel Cymraeg yn Trafford Street fore a hwyr y Sa.both yn Gymraeg ynghapel yr Anibynwyr Seisnig, ym Market Street, a roed yn fenthyg i'r amcan ac am 2 y prynhawn ym Market Street yn Saesneg. Yr holl oedfaon yn rhai i'w cono a'r pregethwr dall wedi synnu'r Saeson efo'i allu a'i rym meddwl, Y mae'r cynhu Iliad Cymraeg yma dan nawdd y Methodistiaid, ond yr a.elodau yn perthyn i'r pedwar enwad. Sefydlwyd yr achos ddwy flynedd ar hugain yn ol ac y mae'n gartref ysbrydol a fawr fwynheir gan y ffyddloniaid. Gresyn meddwl fod yma gannoedd o Gymry yn esgeuluso ac ar wrthgil oddiwrth grefydd. Diolch i wr mor fawr ei ddoniau a Puleston am ddod i edryeh am GymI'y'r Disperod, a rhoi'r fath wledd i achos gwan. Hen Wr o GymTu. +

A Am Lyfr

Advertising

Cymanfa Ganu yn Leeds.