Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Draws Mon ac Arfon.

GydaL'r ClawddI

Advertising

I LVTHYB OWIEIDVDDOL

Advertising

O'R MOELWYN I'R GOGARTH.

News
Cite
Share

O'R MOELWYN I'R GOGARTH. [Gan GWTON BACH.] TAN YR YW MAE TYNER WR.Ym mherson y diweddar David Davies, Penygarth, ac un o oruchwylwyr Chwarelau Oakeley, collodd ein bro un o'i gwyr caredicaf ddiwedd yr wythnos, a gofaled y Nef am ei weddw a'i thyaid plant di-dad. Cyfarfu ag anhwyldeb blin, a ddymchelodd ei babell hardd mewn byr amser. Nid oedd ond gwr hanner eanmlwvdd. Gwelir bwlch mawr yn Seion (B) ar ei ol. Daearwyd ei weddillion nawn LIun -in Methesda. Brodor o dueddau Llan- gollen ydoedd, ac yn ol rhediad ei ysgwrs gan- waith gyda, mi, gallaf ddweyd am dano "0 galon carai Glynceiriog." CORAU'R MOELWYN.—Prysur iawn v dywir Corau Meibion a Merched y Moelwyp, y blaenaf yn wynebu ar yr vmgyrch ym mhen tref Dyffryn Conwy ddydd Llun nesaf a'r olaf am anturio i ben tre'r byd yn ystod y mis nesaf. Nid ydwyf am foithrin gor-hyder, ond v cwbl a ddvwedaf ydyw y bydd yn rhaid cael canu da i atal y wobr i Ffestiniog. Ar ei hoi hi, Cydwalad a Thudor. YE HEN HANES.—O nos Wener hyd nos Saboth, cynhaliai'r Bedyddwyr yn Seion eu huchelwyl brcgethu, pryd y llenwid y pulpud gan y Parclm. J. R. Evans, Llwyn- hendy, a Moses Roberts, Llangollen, a chyn- weinidog yr eglwys. Traethid gyda nerth I neilltuol a gwrandewid yn astud gan gyn- hulliadau jixttwrioit TAN BACH DINIWED.-Bron iawn nad ellir dweyd mai dyna nodwedd y brwdfryd- edd etholiadol yn ein plith. Cynhelir cyrdd- au yn y gwahanol ranbarthau i enwi ym- geiswyr, ond tipyn yn lasdwraidd yw y 1 gweithrediadau meddir. Bu raid i etholwyr Duffwys a Maenofferen gael ei threio hi nos Wener, ac allan o rhyw chwechant, daeth cyfanrif anrhydeddus o ddeugain a dau dros ben ymlaen i setlo'r busnes. Cymysglyd a dwl ryfeddol ydoedd y gweithrediadau, ond llwyddwyd yn y diwedd drwy drefn ac anrhefn i gytuno ar wahodd triwyr da eu gair i gael eu profi, sef y Cyfreithiwr J. Jones-Morris, y Bargyfreithiwx Artemus Jones, a'r gwr o Dowyn. Rhoddes etholwyr Tanygris'au eu pennau ynghyd nos Lun, ond ni eblywa-s eto pa orchest a wnaethant. GYNWYS Y C IVM WL.-Erbyn hyn mae cynwys y cwmwl oedd yn hofran yn awyr yr ardal ers mis wedi ymdywallt ar ein pennau, sef terfyniad y mis rhybudd i dros dri chant o weithwyr chwarelau Oakeley. Mae hyn eisoes wedi effeithio yn anllwg nid ar Ffestin- iog yn unig, ond ar yr ardaloedd o gylch, ac y mae Ilawer aelwyd yn drist o'r herwydd. Nis gellir dweyd am beth amser eto pwy a pha nifer sydd wedi eu bwrw allan, gan nad yw yr ad-drefniant ar y gwaith eto wedi ei gwblhau. Golygfa dorcalonus oedd gweled yr ugeiniau gweithwyr yn cludo ou harfau yn loewon gan waith, adref i'w cadw nes yr egyr drws arall iddynt. GWYL GANU.-YSadwrn diweddaf. cyn- haliai Methodistiaid Dosbarth Maclino eu gwyl ganu flynyddol yn hen gapel enwog Rhydymeirch, o dan fatwn Mr. David Jenkins, yr hwn hefyd a ganai ei hunan. Prin y rhaid vchwanegu iddynt gael canu da, canys onid yw eco'r gan ore wedi cysegru taiiriau y capel hwn.. DIAl OND'STEDDFO.D.Aiiodd i utidyti yr wythnos hon a fuasai cael gafael ar ddim ar hyd a lied Dyffryn Conwy ond yr ysgwrs am yr Eisteddfodan, ac heb orliwio dim, gellir disgwyl gwyl dan gamp, fel y ceir gweled ar du da.lenn.au'r BRYTHON yr wythnos nesaf. Hyd hynny, gwych fo pawb, a llengar dros y TJungwyn. -0-

0 Dre Daniel Owen

CHWITH 4T60'

GydaL'r ClawddI