Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Awel o'r De.

---_._------_--PULPUDAU'R…

Cwyn " Tudor.".

Advertising

~~~~DYDDIADUR,

Gyda'r Clawdd,

News
Cite
Share

Gyda'r Clawdd, Sef Clawdd Offa [GAN MORGAN LLWYD] MGLWYS-BODD JOHN JONES.- Ddydd Gwener diweddaf, bu Esgob Llanelwy yng Ngwrecsam yma gydag ereill yn gosod careg sylfaen eglwys newydd St. John, a roddid yn rhad-rodd i'r Hen Fain gan John Jones, The Grove. Talodd yr Esgob Ed- wards warogaeth uchol.i'r Deon Howell a'i \vaith pan ydoedd yma'n arehddiacon 3J mlynedd yn ol. Ond cofied yT Esgob, pe buasai of ei hun hannor mor Gymreig ag ydoedd Deon Howell na buasai'r Ymneilltuwyr ddim mor barod i waoddi Estrones ar EgIwys Loegr yng Ngliyii-ff ti. METHODISTIAID Y LIHOSDD i'archn. Wm. Thomas, Maes bog bell, a J. Efor Jones, Coed Talon agos, a fu'n cadw cjd'arfod pregcthu Bbenoaer, Eliosddu, y SuI a dydd Llun diweddaf. LLADBON.—lihaid i bobl Gwrecsam ofalu bolltio'u drvsau a'u ffenostri, a gofalu am gil a tlnvll i roi'r liosan lie y rnae'r pres, gan fod yma ryw weilch yn tori i dai yn lied fynyt-h y misoedd diweddaf. a thorodd rhywun i'r Rookeries, Rhosddu, yr wythnos ddiweddaf, gan ladrata tair cwpan arian ddrud. Hyd yma, y mae'r lleiclr hir ei balfau heb ei ddal. SHOIJ SANGER.—Daeth milodfa Sanger iWrocsam ddydd LInn diweddaf, a chyrchodd rniloedd i welecl ei bwystfilod a'r anifeiliaid. Aeth cryn nifer o 'golofnai-i'r Fglwysi tuag yno, ac y mae'n amlwg ein bod wedi toithio'n bur bell oddiwrth safon Wm. Ellis,, erbyn heddyw. FEGIIG YS BRO UGHTON.— Llawonyehais H fawl>I.ywed eich bod chwi yn canu cystdl n pit-it cyngerdd yr wythnos ddiweddaf, a bod Evan Evans yn gystal arweinydd i chwi. Ac yn eich cynorthwyo yr oedd Miss M. King-Sarah o Dalsarn, M.ina Williams o Frvmbo, a'r tenor swynoI o Goed- poeth, Joseph Williams. Llwydd a'ch dilyno yn y gystadleuaeth yn Eisteddfod Pres- tatyn ddydd LInn y Sulgwyn. Ond Ow ba hunllef anuwiol a ddaeth trosoch i drefnu cyngerdd ar y ncs Saboth cyn dydd y frwydr ? Cast hyll ydyw, a dylech fod yn ddigon ffydd- Ion i'ch ardal a'ch gwlad i dynu'r smotyn i ffwrdd rhag blaen. 1 TROI AM YR AMERIG y mae amryw o bobl Cefn Mawr y dyddiau hyn. Wele Walter Butler a J. J. Llow. Jones, Trefnant, yn mynd yr wythnos lion ac i'w dilyn yn fuan y mae bryd Caradog Jones, Trefnant, Mrs. Manley a Gertie Davies, Cefn. G YDNABOD CHRISTMAS.—Mm pwyllgor cryf wedi ei ddewis yng Nghefn Mawr i hwylio'r trefniadau tua,g at anrhyd- oddn'r Cynghorydd Christmas Jones, sydd wedi gwneud popeth allai tros ei ardal ers blynyddau. Fu yma fudiad yn y byd er daioni nad oedd a wnelo'r Christmas rywbeth ag o a pha bynnag a drefnir ei roddi iddo, bydd yn llai na'i haeddiant, GWELLA, da gennyf ddweyd, y mae priod G. J. Jones, ysgolfeistr Penygelli, Coedpoeth. Tan ddwylo'r meddygon yn Lerpwl y mae Mrs. Jones ar hyn o bryd, ac yn gwella ar ol bod tan y gyllell gan anhwyldeb digon enbyd. DIFFODDWYR COEDfoETH.—DylaVr ardal fod yn falch o'i brigad, canys yr wyth- nos ddiweddaf, buasai ty Mr. Williams, Gros- venor Terrace, yn wenfflarn a choeleerth oni bai am eu pybyrwch hwy yn cyrraedd yno ac yn pistyllu nes ei ddiffodd. Y RHOS.—Dan beth y paratoir yn egniol ar ou cyfer yma ydyw Cymanfa Gyffredinol y Methodistiaid y mis nesaf, gyda'i phedwar cant o gynrychiolwyr i'w lletya, a'r Eistedd- fod fis Gorffennaf,sy a'i hymgeiswyr yn golygu bod yn llu, yn enwedig y corau. Y mae'r cantorion vn iro'u cvrn gogyfer a hi a chogyfer hefyd ag Eisteddfod Bwlchgwyn y Sulgwyn. MO LI ANT YR ANIBYN W Y R.—Cyn- haliodd Anibynwyr dosbarth Gwrecsam en Cymanfa ganu flynyddol nos Lun yr wyth- nos hon yn Queen Street. Emlyn Davies y Rhos yn arwairi y Parch. J. Daniels, Tanyfron, yn llywydd y prynhawn, a'r Parch. J. Talwrn Jones, Brymbo, y nos. Canwyd y ddwy anthem Cyfod a llewyrcha" (E. Evans) ac O'r dyfnder y llefais" (H. Samuel), a chafwyd canu da ar y tonau, yn bennaf gyda Bromfield, gwaitli Emlyn Davies oi hun, a chyda Uroughton, ton o waitli y cerddor ieuanc Edgar Roberts, Brynteg. GWRANDO'R EOS.-Fe ddaeth i goryn r hywun yr wythnos ddiweddaf iddo glywed eos yn canu yng nghoed —————— ger y Brymbo yma a'r canlyniad fu i gannoedd ar gannoedd gyrchu tuag yno gefn trymedd y nos, ar draed ac ar fysiclau ac mewn motors, nes oedd y lie wedi ei sarnu a'i ffagio. Tae fodd ei dal, a'i chael i gynnal cyngerdd, fyddai yr un neuadd ym Maolor a ddaliai'r dorf, na neb a faliai glywed llais na mab na merch mwyacli. NYTHU MEWN RHWYD.—Fan aeth Tennis Club Brymbo i ddechreu chwarel1 ddydd Sadwrn diweddaf, caed fod mwyalchen (deryn du) wedi gwnoud ei nyth yn un o'r rliwydi. Clywais am un o ffermwyr Maelor yma a, wnaeth globyn o fwgan brain ar lun milwr a chot las blisraor am dano ar ganol y cae ond a'i helpo un bore, cafodd fod un o'r hrain wedi cynefmo cymaint a'r bwgaii nes bod cyn hyfed a dodwy yn ei boced.