Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

8Yd a Bettws.,.

Llythyr

News
Cite
Share

Llythyr Oddiwrth Commercial Traveller. 'RWy'N aelod distadi o Urdd y Commercial Travellers, Mr. Gol.,—urdd y buasai naddwr enwau fel y chwi yn ein bedyddio yn Wyr y Ganmol a'i- Cymell, Forward Move- ment y Firm, neu rywbeth o'r fath. Sut bynnag, galwedigaeth yw hi y try llawer o fechgyn yr Hen Wlad ati a beiddiaf ddweyd nad oes hafal i'r Cymro fel commercial, a'i gymeryd drwodd a thro, ymysg neb o'r pedair cenedl a glyd-aneddant rhwng dwy dorian yr Hen Ynys Wen. Beth yw sail ei lwyddiant, a phaliam y mae firms goreu Lloegr mor awchus arn-ei wasan- aeth ? Yn un peth, y mae o'n frawd gonest a chywir, yn sobr heb fod yn surbweh, ac y gellir dibynnu arno y ceidw'i air a'i gyhoedd- iad. Gwn fod eitliriadau, ac eithriadau eclirydua ac os y ceir rog o Gymro, mai dyna'r ciihf diaflica'i gastiau y t'rawech arno o unpen blwyddyn i'r llall. Ond prif sail .llwyddiant y Cymro fel "com," ydyw ei anianawd farddonol, a'r dorreth sy ganddo o'r dychymyg ystwyth hwnnw all ddisgrifio a phortreadu ei nwyddau pan y'u lledo gerbron y prynnwr. Dawn werthfawr yw hon, a nod angen pob gwir ganmolwr a chymhellwr. Un ffurf arni ydyw'r awdlwr a'r pryddestwr a enillo'i ugain punt unwaith yn y flwyddyn mewn Eis- teddfod ffurf arall a pliroffidiolach arni ydyw pan y dylifo o enau'r commercial medrus a rwydd-enilla'i ddegpunt yn yr wythnos a hi wrth ledu a gogoneddu ei nwydd- au tan lygad ei gwsiner syfrdanedig. Beiddiaf ddweyd peth orall nad oes yr un dosbarth cryfach nac iachach eu bias darllen yng Nghymru na nyni Apoetolion y Nwyddau Da na neb yn fwyeudyddordeb vm mhynciau'r dydd a'r nos, yn wladol ac eglwysig a phe treuliech noson yn un o'n seiadau sinygawl ar aelwydydd ein Hotels, chwi a glywech farn addfed, liirbwyll, ar y prif bethau sy'n corddi Byd ac Eglwys. -oQo- 'Rym yn cyfwrdd ein gilydd o bob cwrr i Gymru, Dde a Gogledd a phe troech i fewn i'r seiat smygu grybwylledig, Mr. Gol., odid na chaech oleu a sierwydd ar y pethau hyn a'u tebyg cyn ei dibennu :— I-Caecli wybod am bob eglwys wag o fugail o Gaergybi i Gaerdydd pwy sydd i'w galw i draddodi pregeth-brawf, a phwy yw'r gwr dethol a gwerthfawr hwnnw sy debyca o bensyfrdanu'r blaenoriaid a'r pwyllgor-dewis. 2—Caech wybod pwy o'r pregethwyr sy'n cynhyddu yn ei boblogrwydd, a faint o gip a galw sy arno erbyn pob cymanfa; pwy hefyd sy'n dal eu tir, ac yn cadw tua'r unfan, a phwy hefyd sy a'i glod yn graddol fachludo, ac yn cas wynebu di- nodedd ac anghof. Melus yw clod tra bo; chwerwaclv nag uffern yw machlvid ac anghof. 3--Creadur caredig, hael ei galon ac an- rhydeddus ei deimlad, yw'r commercial, ac o'r braidd y cewcli yr un crintach na chybyddlyd na mean yn ein mysg ac y mae aelodau Methodistaidd oin hurdd ar y aelwyd bron yn unfarn ymhlaid cynllun y blwydd-dal i weinidogion sydd yn yr esgoreddfa gan yr Hen Gorff. 4—Caech wybod pwy sydd yn Llandrindod, ac Aborystwyth a phrun ai'r prcgethwr ynte'r soneddwr ynte'r bancer sy'n gwybeta ar ol Miss Pwyma sy dobyca o'i chael. 5—1Caech wybod pwy sy'n fasnachyddion gonest a chystal a'u gair a phwy sydd ar y goriwaered, ac ar fin tori am hyn a hyn. 6—Y mae geunym gudd arwyddioii—nid yn anliebyg i Law Fer neu Solffa-i ddy- nodi pob rhyw ddiffyg a chwidredd, mympwy a rhagoriaeth a fo'n perthyn i'n cwsmeriaid,nad gwiw i mi eu bradychu yma, ond pe'u gwelech—rai ohonynt-- rhoech glee o chwerthin a glywsid yn y lleuad. 7-Caech glywed llawer iawn, iawn, am y Senedd a'r Gyllideb, a sut y mae George wedi cliware hob y deri dando efo Austen Chamberlain ac wedi esgyn yn uwch fyth os oedd modd ym meddwl cewri masnach y deyrnas. 8—Fydd pob cow." ddim yn unfarn, ond yn wahanol i ami grefyddwr, gall ddadleu heb gecru na cholli ei dymer. Y mae llwyr-feddiant arno'i liui-i o bwys a gwertli mawr iddo fo, ac wrth drin a diodde dyn- ion, y mae ei arafwcli a'i foneddigeidd- rwydd yn ddiliareb. 9—Caech wybod pwy o Dde a Gogledd sy'n nyddu Awdl a Phryddest at Eisteddfod Llundain, a plir'un o'r un ar hugain sy'n debyg o'r Gadair yleni. 10—Caech glywed tusw o straeon, a'r rheiny vn newyddion i gyd, canys y mae cosb a dirwy am bob stori hen neu chestnut a ddoodir. Pan oedd Seiat v Smokeroom ar ddibennu heno, crybwyllodd un or corns" iddo ddod o Stalybridge, sir Gaer, y diwrnod hwnnw, ac wrth anelu drwy Grosvenor Square am siop un o'i gwsmeriaid, iddo gael ei daro a syndod wrth weled y geiriau a ganlyn wedi eu cerfio ar dabled oedd ar dalcen capel y Wesleaid yn yr heol honno Taimau curaidd tyncrwch Gyffry wrth fy 11cty llwch I eirio prudd arwyrain A thrist wcdd wrth fy medd maiD," In memory of John Jones The Welsh Bard He was a poet of humble birth and nursed the Muse amidst the Din of Nautical Warfare and the bustle of Factory Life, He arrived at the limit allotted to man and died lamented by all who knew him. His remains were interred in the graveyard ad joining this place of worship June xxiv. MDCUCLVIII. lliis Tablet was erected by his friends and admirers Aeth yn lioli a stilio pwy tybed allasai'r John Jones fod, a chofiodd un o'r "conts." iddo ddarllen ei hanes yn Enwogion Cymru, lie y dywedir ei fod yn frodor o Lanasa, sir Fflint; iddo gael ei eni yn 1798 iddo gael ei yrru i weithio mown melin gotwm yn Nlireffyniion yn wyth oed ar derfyn ei brentisiaeth, iddo hwylío o Lcrpw 1 ain Guinea, lie yn 805, iddo ymrestru ar fwrdd Hong ryfel, ac iddo fodyn y rhyfel for rhwngjLloegr a Ffrainc ac mewn llawer brwydr a helynt. Ar derfyn y rhyfel, rhyddhawyd ef o'r gwasanaeth ac wedi bod yn gweithio am both amser yn Nhreffynnon, symudodd i Stalybridge yn 1820, i weithio ym melin gotwm Robert Platt. Pan hen- eiddiodd ac y methodd a dilyn ei waith, aeth i fyw at ei ferch. Go fain oedd hi arno am gynhaliaetli bellach, a throes at ei Awen barod. Eisteddai i lawr ar hen gadair gan- dryll, a thipyn o bapur t6 neu siwgr o'i flaen, a dechreuai gyfansoddi can o ganmoliaeth i un neu arall o'r lliaws boneddigion eyfoeth- og oedd yn yr ardal, ac a fuont yn dra cliar- edig wrtho. Nid cynt y byddai'r dernyn yn barod. na fyddai yn llaw'r argraffydd. Wedi cael y Ilenni, ffwrdd a'r bardd ar drot, yn gyntaf at y g^r haelionnus, yn liwn. wrth gwrs, a ddyblai ei garedigrwydd. -o- Ddydd ei gladdu i-rii Meliefin, 1858, gwel- wyd gymaint oedd y parch a'r edmygedd o hono pan y dywedir fod wyth mil o bobl yn dilyn yr elor hyd yr heolydd. 'Roedd Creu- ddynfab a Cheiriog yn y cynhebrwng, a )- hwy, mae'n ddiau, a roes bedair llinell Cawrdaf gyda'r ysgrif uchod ar dalcen y capel. -c- Gyda phethau fel yna a'u tebyg y bydd y corns yn cadw eu seiat, a melus iawn a fydd y cyd-drafod arnynt o dro i dro. -.0- "Commercial" oedd Andronicus.ac yn ddigon selog dros ei wlad a'i gyd-fforddolion i ddal i ysgrifennu i'r wasg yn ddi-dor am naw mlyn- edd oddiar wastad ei gefn mewn gwely cystudd, er luwyn cysuro a dyddori ei gyd- fforddolion. A "commercials" yw amryw o flaenoriaid mwyaf cyfrifol a gweithgar sydd yn eglwysi Cymru heddyw. Y mae 1m yn neilJtuol iawn o flaen fy rneddwl y funud hon. Gwr ydyw ef, y funud y cyrhaeddo gartref brynhawn Sadwrn, a aiff trwy'r dref i guro'r twmpathau am esgeuluswyr moddion gras ac aelodau difraw, er mwyn eu cael i'r moddion drannoeth a chwedi bod wrtlii yn ddwys ac yn ddygn drwy'r Saboth gyda gwaith cenhadol, a aiff i ffwrdd at ei orchwyl hyd y dydd Sadwrn canlynol. Bechgyn nobl ac anrliydeddus at eu gilydd ydyw'r "coms ffyddlon i'w gilydd ac i'w gwlad, eu hiaith a'u chrefydd a phan gaffwyf hamdden, mi a geisiaf adrodd hanes ambell un o'n seiadau 'smygn yn y BRYTHON, os y caf Osteg v Gol.—Yr eiddocli, SMWS. — o

CYMR Y'R DISPEROD.

Advertising