Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

-fyfarfod Misol Lerpwl.

1 WESLEAID Y GOGLEDD

News
Cite
Share

WESLEAID Y GOGLEDD Cyfarfod Taleithiol yr Ail Dalaeth. CYNHALIWYD yr uchod yng Ngholwyn Bay, Pregethwyd y Saboth (Mai 2) yng nghapelau'r Gylchdaith—sef Cylchdaith Conwy—gan weinidogion dieithr. Am dri o'r gloch pryn- hawn Llun, cyfarfu'r holl weinidogion yn Ysgoldy Horeb, Colwyn Bay. Y Cadeirydd eleni etc oedd y Parch. Hugh Jones, D.D., Bangor, a dewiswyd y Parch. P. Jones-Rob- erts, Blaenau Ffestiniog, yn Ysgrifennydd, a liynny'n unfrydol. Yr oedd yn ofidus gan y cyfarfod weled lie y Parch. Robert Jones, Towyn, yn wag, oherwydd gwaeledd yn y teulu. Datganwyd cydymdeimlad ag ef. Yr oedd cynifer a deg yn ymgeisio am y wein- idogaeth, a phasiodd y saith a ganlyn, ar eu ffordd i'r Gymanfa a'r Gynhadledd :—Mri. W. Thos. Roberts, Llandudno John Pugh Jones, Tregele, Mon R. T. Roberts, Rhiw- las John Lewis, Ebonezer, Clwtybont; Jolm Meirion Williams, Abermaw John Meirion Jones, Blaenau Ffestiniog H. Penry Davies, Dinas Mawddwy. Daeth mater Ysgoloriaeth Dr. Hugh Jones gerbron, a phasiwyd mai gwell gohirio'r adeg i gasglu tuag ati, ohorwydd am- gylchiadau'r Dalaith ar hyn o bryd, ac o herwydd yr ymdrechion arbennig a wneir yn y Taleithiau ereill ynglyn a'r Genhadaeth Gar- trefol. Y mae y Dr. hybarch wedi gwrthod Tysteb iddo'i hun, gan ddewis yn hytrach rhoi'r aiian a gesglir i sefydlu Ysgoloriaeth ynglyn a'r Brifysgol Gymveig, agored i blant tlodion Wesleaid Cymru. A chan hyderu y byddai i hvnny fod o help i'r drysoifa, caniataodd i'w enw gael ei gysylitu a hi a gelwir yr Ysgoloriaeth felly ar ei enw. Pen- derfvnwvd cyfiwyno Anerchiad iddo yn y Gymanfa nesaf yn Llanidloes ar ddathliad ei. jiwbili yn y weinidogaeth. Un gweinidog a fu farw yn y Dalaith yn vstod y flwyddyn, sef y Parch. R; Rowland, Abergele.-pregethwr cryf ac effeithiol, dir- westwr aiddgar, gweithiwr gonest yn y vVin- llan, yn enwedig gyda phobl ieuainc. Byacl ei enw yn anwyl a'i goffa yn fendigedig am ysbaid hir. Darllenwyd Coffbad nodedig 0 briodol am dano wedi ei ysgrifennu gan y Parch. D. Darley Davies, Llanddulas a phasiwyd pleidlais gynnes a dwys o gyd- ymdeimlad a Mrs. Rowlands ar plant. Cyflwynwyd canlyniad Arlioliad y Gweim- dogion ar Brawf gan yr Ysgrifennydd, y Parch. D. Tecwyn Evans,B.A., Porthdmorwig Pasiodd y Parch. D. R. Thomas, H^arlech, a Robt. H. Pritchard, Abergele—y ddau ar eu blwyddyn gvntaf—yn foddhaol a llongyt- archwyd y Parch. Evan Poberts, Pemsa rwaen ar derfYI ei bedair blynedd prawf, ac ar ei record dda yn yl Arlioliadau a phasiwyd ef yn unfrydol fel ymgeisydd teiiwng am ordennad yn v Gymanfa nesaf. Etholwyd y rhai a ganlyn l gynrychioli r Dalaith yn y Gynhadledd Brydeimg yn Lincoln a gviiholir ym mis Gorffennai y Parchn. Dr. Hugh Jones, P. Jones-Roberts, J. Wesley Hughes, Thomas Hughes, a D, Tecwyn Evans, B.A. Pregethwyd nos Lun yn lioll gapelau r Gylchdaith gan bregethwyr theitlir. Wos Fawrth, cynhaliwyd Cyfarfod Cyhoeddus yn Horeb,dan lywyddiaeth v Parch. D. Gwyn- fryn Jones. Anerchwyd ar Ddirwest gan y Parch. W. Llovd Davies, Penmachno ar Gydraddoldeb Crefyddol gan y larch. Thomas Huglios ac ar Sosialaetn gan Mi Davies-Jones, Llanrwst. Caed areitluau brwd a hyawdl, a chyfarfod llwyddiannus iawn. Erbyn deg o'r gloch ddydd Mercher, yr oedd v lleygwvr wedi cyrraedd. Llawenhai x cyfarfod fod y P««h, Bvans wodi llwyddo i gasglu o fewn dun i £ lo00 at Genhadaeth Gartrefol; ac y mae ychwaneg i ddilyn. Y mae'r addewidion eisoes dros CISOO. Pasiwyd penderfyniad cryf ac unfxydol yn llongyfarch y Llywodraeth a Changhellwr y Trvsorlys ar yr adrannau Dirwestol yn y Gvllideb, ac ar Fesur y Plant. Hefyd, i lon- gyfarch y Parch. J. Scott Lidgett, M.A., D.D., Llywydd y (lyiilia dlodd., ar ei sane gref ynglyn a'r Mesur Dirwestol, yn wyneb gwrth- wynebiadau o amryw gyfeiriadau. Cvflwynodd Mr. T. W. Griffith, Llandudno, adroddiad Casgliad y Genhadaeth Dramor am y flwyddyn. Casglwyd dros Y,950 yn y Dalaith yn ystod y flwyddyn. Llawexiydd mawr i'r cyfarfod oedd deall fod cvnnydd o 800 yn rhif derbynwyr Yr Eurgrawn eleni a siaradwyd yn uchel iawn gan amryw am ragoroldeb eithriadol I rliif.),Illlau,r Eurgrawn CanrnlwyddoI." Y mater pwysicaf a fu gerbron y cyfaxfod eleni oedd y pwnc o safon aelodaeth yn eiu plith fel enwftd. Y rheol cyn hyn oedd fod mynychu Rhestr-Gyfarfod (Glass-Meeting) yn anhepgor aelodaeth yn awr ceisir gwneud mynychu Seiat," neu gyfarfod cyffredinol o'r Eglwvs wedi'i alw i ddibenion Cvmundeb v Saint," neu fynychu Rhestr-Gyfarfod yn amod aelodaeth. Gellir dweyd (yn breiiat fod y safon hon eisoes yn cael ei chydnabod ers blvnyddoedd yng Nghymru, ond ui wyr: y Saeson dienwaededig mo hynny. Eiddigedd dros y Rhestr-Gvfarfod, sydd wedi bod yn un o briod nodweddion y Cyfundeb, sy'n peri fod y mater hwn yn cael sylw mor helaeth drwy'r Taleithiau Prydeinig yn y rmsoedd hyn Hysbvs vw barn Dr. Dale am worth a rhagoroldeb y Rhestr-Gyfarfod i gyrraedd dibenion Cymundeb y Saint, a mawr yw eiddigodd gwr fel Dr. Findlav am ei gadw'n fyw ac effeithiol. Pa fodd bynnag, pen- derf yniad Pwyllgor a benodwyd gan y Gyn- hadledd i chwilio i mewn i'r mater oedd, xnai gwell gosod y Rhestr-Gyfarfod ar Seiat ar yr un lefel fel amod aelodaeth a chadarn- hawyd hynny gan y cyfarfod yng Ngholwyn Bay ddydd Mercher. Caniatawyd adeiladu Ysgoldy newydd yn Seion, Llanddeiniolen capel newydd yn Amlwch a thy capel ac ysgoldy newydd yn Llandudno Junction. Am bodwar o'r glocli, croesawyd y cyfarfod gan gynrychiolaetli gref o Gyngor yr Eglwysi Rhyddion, Cym- raeg a Saesneg, Colwyn Bay. Anerchwyd yn Saesneg gan Mr. Taylor, ac yn Gynxraeg gan y Parch. Owen Evans (M.C.) mewn araith ragorol, ferr a doeth. Atebwyd gan y Dr. Hugh Jones yn Gymraeg, a Mr. T. Charles Lewis, Conwy, yn Saesneg. Etholwyd y Parch. O. Madoc Roberts. Caornarfon, yn cldilynyddi r diweddar Barch. R. Rowlands, fel Ysgrifennydd y Capeli ar Parch. D. Gwynfryn Jones yn Ysgrifennydd Cynorthwyol i'r Parch. P. Jones-Roberts yn He Mr Madoc Roberts Dewiswyd y rhai hyn i gynrychioli r Dalaith yn y Gymanfa, a gynhelir yn Llan- idloes, Mehefin 8—10 y Parclvn Richard Jones, B.A.. R, W. Jones, T. Charles Roberts, Phillip Price, D. Gwynfryn Jones, D. Tecwyn Evans, B.A., John Smith, Richard Morgan, Rhys Jones, Owen Hughes, y Mri. E. W. Roberts, Colwyn Bay T. W. Griffith. Llan- dudno Edward Mills, U.H., Llanrwst Richard Roberts, Ffestiniog John Lloyd. Towyn 0. W. Morris, U.H., Abermaw E. L. Rowlands, U.H., Aberdyfi; W. 0. Jones. Bangor W. Pickering Hughes, Pwllheli; T. Tegwyn Davies, Dinas Mawddwy D, Meredith, Dolgellau; Wm. Williams, Llan- dudno: E. D. Williams, Aberffraw W. S. Owen, Caergybi Wm. Roberts, Maentwrog Thos. Hoskins, Colwyn. Yn ychwanegol at y rhai hyn, bydcl swyddogion y Dalaith, Ys- grif enwyr y prif Bwyllgor an,etc., yn bresennol Galwycl sylw at Lawlyfr buddugol y Parch. John Kelly," Beaumaris, yn Eisteddfod Llan- gollen ar Ddirwest, a phenodwyd Pwyllgor i vstvried y priodoldeb o'i gyhoeddi. Bore ddydd Mawrth, yng Ngliynhadledd Ddiw- inyddol y Gweinidogion, darlleimodd y Parch. John Kelly bapur meistiolgar ar "Ddeilliadaoth a Moesoldeb." Agorwyd y drafodaeth arno gan y Parch, J-. Maelor Hughos, Ffestiniog a diolehwyd yn wresog i'r ddau am eu gwasallaeth a'u hymdriniaeth alluog. Y lleygwyr a etliolwyd i'r Gynhadledd yn Lincoln yw y rhai hyn y Mri. Fred Williams, Colwyn Bay Morris Pugh Jones, Dinas Mawddwy; W. J. Lewis, Pwllheli; Wm. Williams," Llandudno. Cynhelir y Cyfarfod Cyllidol yn yr Hydrei yn Llangefni, a'r Cyfarfod Ta-leithiol nosaf ym Mai ym Mhorthmadog. Diolchwyd yn wrcsog i gyfeillion Colwyn Bay am eu croeso diguro ac yn enwedig i'r gweinidog gweithgar a medrus, y Parch. J. Wesley Hughes. Pregethwyd nos Fercher mown ped war capel yn y Gylchdaith. Dydd Tan oedd dvdd mawr yr wyl. Daeth tyi-fa i'r beiat Fawr yn Horeb erbyn cliwarter i naw. Dechrouwyd gan y Parch, Owen Hughes. Pwnc y Seiat oedd Gwir Ddychwohad. Anerchwyd ar v pwnc fel y canlyn Yr ymwybyddiaeth ohono "—y Parch. Robert Lewis, Pwllheli Y profion ohono, Wm. Roberts, Maentwrog-; Amrywiaeth mewn profiad olioi-io,y Parch. Ishmael Evans, Caernarfon Ei effeithiau ymarier- 0],"—Mr. Griffith Jones, Capel Garmon. Caed Seiat i'w chofio, llawn o wir eneiniad a gorfoledd. Yr oedd y capel mor orlawn a clivnifer yn niethu dod i mewn fel y bamwyd niai doeth oedd symud i gapel helaethach Engedi (M.C.). Ac yno am banner awr wedi dog, declireuwyd oedfa hanner canmlwydd- ol Dr. Hugh Jones. Y mae canmlwyddiant Yr Eurgrawn a jiwbili gweinidogaethol ei Olygydd yn digwydd yr un flwyddyn. Yr oedd y capel eang yn llawn, a phregethodd y Cadeirydd hybarch gyda dylanwad dwys oddiar Hebreaid xiii. 7 Gweinidogaeth y Tadau oedd pwnc y bregeth. Ar ddiwedd yr ocdfa, cyflwynodd y Parch. Dr. Hugh Jones Album hardd i'r Parch. Ishmael Evans yn arwydd o barch a diolch y Dalaith am ei ymdreeh arbennig gyda'r GenhadaetVi Gar- trefol, Am ddau, cynhaliwyd Cyfarfod i'r Bobl Ieuainc yn. Engedi, y capel eang yn llawn. Y Cadeirydd oedd Mr. W. Pickering- Hughes, Pwllheli. Caed anerchiadau rhagorol gan y Parchn. O. Madoc Roberts a P. Jones-Roborts, canwyd unawdau gan Mr. D. Pryee Davies, Penmachno, a chaed dethol- iadau ar yr Organ gan Miss Nellie Roberts, organydd Engedi. Pregethwjd heiyd am ddau o'r gloch y prynhawn yn Horeb gan y Parchn. David. Morris, Penygroes, a R. Mon Hughes, Porthmadog. Am chwech, pregethwyd yn Horeb gan y Parchn. D. Gwynfryn Jones a Thomas Hughes ac yn Engedi gan y Parchn. D. Tecwyn Evans, B.A., a Richard Morgan. Yr oedd graeii a grym arbennig ac eneiniad mawr ar yr holl oedfleuon Y farn gyffredin yw fod y Cyfarfod lal- eithiol eleni yn un tra llwyddiannus a llew- yrchus ynxliob ystyr. I Dduw y bo r gogoniant. -0-

DYFFRYN CLWYD.

Colofn Prifysflol Lerpwl-

Mwydionlo,,,,

Advertising