Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

mae Cymro yn gadeirydd yr…

Gyda'r Clawdd,

temmmmmrnamm « 9 • wmmammmtmrn…

Crochan Berw Paris;

Pwytho'r Wasc Felen.

0 BEN Y GROES.

Advertising

Y Parch. J. D. Jones.

["cHWITH 4T60'|

News
Cite
Share

["cHWITH 4T60'| AM Y Parch. JOSEPH EVANS, Cofiadur y Methodistiaid. Wislb'k newydd yn ein cyrraedd am ym- adawiad drwy angau un o wyr mwyaf defn- yddiol y Corff Methodistaidd, ac un y mae ei enw yn dra hysbys yn holl gylchoedd y Methodistiaid yn No a Gogledd Cymru, sef y Parch" Joseph Evans, a fu farw yn Ninbych ddydd Sul diweddaf, yn 77 oed. Yr oedd yn hannyw o hen deulu Methodistaidd. Bu ei frawd, y Parch. David Evans, B.A., Whitchurch, Caerdydd, yn weinidog llafurus ac uchel ei barch am flynyddoedd, a chwaer iddo ef ydyw gweddw y diweddar Mr. John Jones, Manchester House, Merthyr Tydfil-. yr hwn oedd un o flaenoriaid rhagoraf y Deheudir am lawer o flynyddoedd, ac un a wnaoth fwy na neb i sefydlu Eglwysi Saesneg yn y Deheudir. Cafodd y plant addysg foreuol da, aZdiau y buasent yn cyrraedd safle anrhydeddus ynglyn a. masnach, ond cyflwynodd y ddau frawd ou hunain i'r Weinidogaeth Seisnig ymysg y Methodistiaid ar ol ei gorffen. Bu y Parch. Joseph Evans, ar ol gorffen ei yrfa Athrofaol yn Nhrefecca, yn gweinidogaethu yn rhai o drefi pwysicaf y Deheudir, megis Merthyr, Tredegar, Caerfyrddin, Abertawe, cyn iddo wynebu y Gogledd oddeutu 17 o flynyddoedd yn ol, pan y daeth yn weinidog i Eglwys Seisnig Dinbych. Gellir edrych arno fel-un o sylfaonwyr yr Adran Seisnig o'r Cyfundeb. Ymsefydlodd mewn eglwysi ieuainc newyddion, ac erbyn heddyw.y mae yr eglwysi hynny wedi dod yn gymharol gryf. Er nas gellir dweyd fod Mr. Evans yn meddu doniau poblogaidd, eto yr oedd yn darpar yn ofalus gogyfor a'r Weinidogaeth. Pre- gethai i'r un bobl Saboth ar ol Saboth. Yr oedd wedi ei drwytho yn Niwinyddiaeth y Puritaniaid, ac yr oedd eu hargraff yn amlwg ar h bregethau. Eglurai yn fanwl yr atlu-aw- iaeth, gan seilio ei ddysgeidiaeth ar eiriau yr Ysgrythyr Lan. Tra nad yn dwyn llawer o athroniaeth na barddoniaeth i'w bregethau, eto cyfrifid ef yn wr o ddeall cryf, ac fel un yn meddu dirnadaeth glir o'r Athrawiaeth yn ol duwioldeb;" a meddai y nodwedd werth- fawr ac' anhebgor honno, o gymhwyso y gwirionedd at fywyd ymarferol. Yr oedd ei garictor pur a dilychwin yn rhoddi grym ac ynni yn ei eiriau. Enillodd ymllob man y bu yn llafurio ynddo barch diledryw y rhai a'i hadwaenent. Adnabyddid ef fel gwr Duw." Os nad oedd ei bregethau yn tynnu sylw y lliaws, yr oedd ei ddylanwad, er hynny, ar yr eglwysi y llafuriai" ynddynt yn peri adeiladaeth, ac y mae ei waith yn aros. Ni cheisiai yr eiddo ei hun, gweithiodd yn ddiwyd a diorffwys yn y cylchoedd y gosod- wyd ef ynddynt. Ers rhai blynyddau, yr oedd wedi rhoi i fyny ofalaeth eglwysig ond nid oedd ei ddefnyddioldeb a'i lafur yn pallu, er ei fod bellach rai blwyddi dros y deg a thrigain oed. Ychydig, os neb yn fyw, oedd yn deall trefniadau y Cyfundeb yn well. Yr oedd ar hyd ei oes wedi profl ei bun or gwas- anaeth mwyaf yn ei Henaduriaeth, ac ym mlirif lysoedd y Cyfundeb. Bu yn un o Ys- tadegwyr y Cyfundeb am chwarter canrif, ac y mae y ffurf orffenedig y cyflwynir ystad- egau y Methodistiaid Calfinaidd i'w briodoli yn bennaf i'w fedr mgyrol a'i ofal manwl. Efe, yn ddiameu, oedd yr awdurdod uchaf ar Ystadegau y Corff. Ers pym,theng mlynedd, golygai y Blwyddiadur Method- istiadd, yn yr hwn y ceir gwybodaeth am sefyllfa y Cyfundeb, a chrynhodeb manwl am y prif ddigwyddiadau o fewn y fiwyddyn. Rhoddid y gwerth mwyaf ar ei lafur yn y cysylltiad hwn gan y rhai a gymerant ddy- ddordeb yn hanes y Cyfundeb. Cafwyd y Blwyddiadur o'r gwasanaeth mwyaf ynglyn a'r Ddirprwyaeth Eglwysig, a thalwyd gwar- ogaeth i'w gywirdeb a'i fanylrwydd gan feirniad mor graff a'r Prif-Farnwr Vaughan Williams. Yn ddiweddar yr oedd Mr. Evans wedi cyhoeddi byr-hanes o holl weinidogion y Corff hyd ganol y ganrif ddiweddaf, a diau pe cawsai estvniad einoes y buasai yn dwyn yr hanes i lawr i'n dyddiau ni. Efe o bawb, ydoedd Cofiadur y Corff, a haedda ei goffad- wriaeth barch oddiar law y Cyfundeb a garai mor fawr, ac a wasanaethodd mor ffyddlon. Fel yr oedd yn gweddu, danghoswyd parch iddo gan ei frodyr ch wy ei ddewis yn Arholwr Cymdeithasfaol, a phenodwyd ef i draddodi yr Araeth ar ordeiniad gweinidogion yn y Deheudir. A rhai blynyddoedd yn ol, ar ol ei sefydliad yn Ninbych, galwyd arno i fod yn Llywydd Cynhadledd flynyddol yr Achos- ion Seisnig. Cyfarfu a rhai prof edigaetliau chwerw yn ei oes. Claddodd amryw o blant —dau o feibion addawol iawn—a gwelodd gystudd yn ei gartref. Y Nefoedd fyddo yn nodded i'w weddw a'i ferch. [Cleddid ddoe (dydd Merchcr) yn Ninbych].

Cydgynhulliad y Llwythau.