Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

mae Cymro yn gadeirydd yr…

Gyda'r Clawdd,

temmmmmrnamm « 9 • wmmammmtmrn…

Crochan Berw Paris;

Pwytho'r Wasc Felen.

0 BEN Y GROES.

Advertising

Y Parch. J. D. Jones.

News
Cite
Share

Y Parch. J. D. Jones. FE gofia ein darllenwyr, ond odid, fod y Parch. J. D. Jones, M.A., B.D., yn fab y diweddar Mr. J. D. Jones, Rhuthyn, ac mai efe yw Cadeirydd Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru am y flwyddyn ddyfodol. Dyn anghyffredin ydyw, a dywedai gwr o awdurdod yn ddiweddar ei fod yn un o'r hanner dwsin pregethwyr mwyaf a fedd y deyrnas heddyw. Y mae yn awdwr amryw gyfrolau diwinyddol, yn un o'r areithwyr mwyaf poblogaidd ar lwyfannau cyhoeddus, yn un o'r prif ddadleuwyr dros ryddid gwladol a chrefyddol, yn oddaith o zel genhadol, ac yn sicr yn un o'r dynion mwyaf duwiolfrydig ac ysbrydol a fedd ei enwad i gyd. Diau y gellid yn hawdd nodi gwyr galluocach nag ef mewn rhyw bethau. Nid ym yn meddwl y safai yn gyfartal i amryw o'i frodyr fel athronydd duwinyddol, nac fel areithydd hyawdl. Anfynych y gwelir dyn o'i boblogrwydd ef mor ddiser- emoni yn ei holl gyflawniadau, ac er hynny yn urddasol ymhob peth. Medd gymhwys- terau cyfoethog fel areithydd, ond ni fyn ymgais at fath yn y byd o berfformiad areithyddol fel rhai. Nid oes ddyn mwy llariaidd ei dymer, ac nid yw hyd yn oed wrth bregethu yn colli ei hunan-lywodraeth. Mae ysbryd y proffwyd yn ddarostyng- edig i'r proffwyd ynddo ef. Clywsom ef droion bellach, ond ni welsom yr un arwydd arno ei fod yn amcanu at wneud marc," nac yn llafurio dan y teimlad fod yn rhaid iddo dynnu allan" ar achlysuron neilltuol. Eto, teimlir fod o dan yr ymddanghosiad tawel nerthoedd cryflon o argyhoeddiad dwfn, ffydd gref, a gweledigaeth oleu. Yn wir, feii hargyhoeddir yn fuan mai o gryfder meddwl a hyder ysbryd y tardd y tawelwch urddasol sydd ar ymddanghosiad y dyn. Wyneb o dangnefedd ar ymwybyddiaeth o nerth ydyw. Ac ni frysia yr hwn algredo." Mae holl bersonoliaeth hardd y gwr da liwn yn ei bregeth, a honno wedi ei goleuo i fyny gan ysbrydolrwydd a ffydd a chariad. Nid taran, nid daea-rgryh, nid tan, nid c-orwynt, ond lief ddistaw fain sydd yn ei genadwri dyna sydd yn gyfrinach ei ddylanwad, er cryfed yw ei alluoedd amryw. Po fwyaf wrandewir arno, mwyaf y teimlir y, cyfaredd taw' ysbrydol, enillgar, yn lladradaidd ddisgyn ar y galon. Mae ganddo ffordd effeithiol i gyhoeddi ei genadwri, ond ymgyll yn hytrach mewn ffydd yn y gwirionedd a'i brofiad ohono nag yn oi fedr i'w lefaru. Clywsom ef yn lied ddiweddar yn annerch cyfarfod cyhoeddus, lie hefyd y llefarai y Parch. Silvester Home, M.A., yr hWll sydd newydd ei ethol yn ddilynydd Mr. Jones i Gadair yr Undeb. Yr oedd Mr. Home, fel arfer, yn ffaglu'n ysol mewn hyawdledd, yn trafod ei bwnc yn feistrolgar, a'r addoldy yn diaspedain gan gymeradwyaeth. Yr oedd ei destvn i raddau yn boliticaidd. Yr oedd tostyn Mr. Jones yn fwy defosiynol. Safodd ar y llwyfan, a'i ddwylaw ar ei gefn, a dech- reuodd 'lefaru yn y modd mwyaf syml, pwyllog, ac enillgar, ac yn fuan iawn yr oedd 11 holl awyrgylch y cwrdd wedi ei newid. Ni chlywid curo dwylaw, ond braidd na chlywid calonnau'n curo yn y dwyster ysbrydol distaw oedd drwy yr holl gynulleidfa. Nid celfvddvd yn perfformio, ond natur ysbrydol yn ymdvwynnu allan yn naturiol a deimla cynulleidfaoecld y Parch. J. D. Jones. Os na cheir yr olaf, bydd i'r gwrandawr gael ei siomi, ac ni fydd wedi nabod y pregethwr y bu yn ei wrando. Dyn ardderchog yw Mr. Horne, a bydd yn addurn i'r Gadair Lywyddol

["cHWITH 4T60'|

Cydgynhulliad y Llwythau.