Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

mae Cymro yn gadeirydd yr…

Gyda'r Clawdd,

News
Cite
Share

Gyda'r Clawdd, Sef Clawdd Offa- fGAN MORGAN LLWYD], C Y MO D WYNNSTAY.—-Llawen iawn ydyw clywed fod y bygwth streic ym mhwll Wvnnstay wedi darfod, ac fod gobaith na chwyd yr hen helynt hon rhwng Undebwyr ac Anundebwyr ddim eto yn yr ardal. YSOOL PEN YCAE.Llwytldiant mawr ydyw hanes ysgol ddyddiol Penycae. 'Does fawr er pan y'i hagorwyd ond y mae eisoes yn rhy fechan, a bydd raid ei helaethu. Mae yr adeilad yn iin hardd a thwt ac ynghrog ar ei fnriau oddifewn ceir lluniau llawn-hyd o'r Parch. W. R. Joy) es a Mr. W. G. Dodd, Y.H. A'r dydd o'r blaen, cawsant globyn o lun hardd y Mauretania yn rhodd gan ei llywydd, y Capt. Pritchard. CAPEL Y GROES, PENYCAE.—.Ddydd Mercher diweddaf, cafodd Methodistiaid Capel y Groes eu gwyl de flynyddol, gyda chyngerdd yn yr hwyr i berfformio cantawd Yrngorn yr Adar, y cor tan arweiniad S. Ed- wards Sam. Evans a Jonathan Jones wrth yr offerynau a'r gwahanol adar yn cael eu cynrvchioli gan gantorion lleol. 'Roedd y canu a'r actio yn ckla odiaetli o'r dechreu i'r diwedd a derbyniwch bluen clod Morgan Llwyd am eicli gwaith a'ch llafur, gyfeillion. AM Y GYFRAITH.-Y mae Isaac D. Hooson, ysgrifennydd Cymrodorion Gwr- ecsam, a mab y diweddar Edward Hooson hvglod a hybarch o'r Rhos, a'i fryd ar gym- hwyso'i hun yn gyfreithiwr. Gadawodd y Rhos am Lundain yr wythnos ddiweddaf i'r aracan hwnnw. Mi a glywais englyn i gyf- reithiwr ond y mae o yn rhy gelwyddog ac onllibus i'w gymhwyso at lane gonest fel y ti. Dringa'n fargvfreithiwr,-—ac yn Farnwr y Fainc os mynni. P'NAWN SUL BETHLEHEM.—Yn llwyddiant mawr, mi a glywaf, y profodd y cyfarfod o ganu ac adrodd ac anerchiadati a gafwyd ynghapel Anibynol Bethlehem, y Rhos, wythnos i'r Saboth diweddaf. Nid rln-w efelychiad o sucan merfedd ac arwyneb- ol y Xawn Sul Difyr y Saeson ydoedd ond cyfarfod swynol a sylweddol, heb ddim gostwng y safon i gyfarfod yr isel eu bias a'r gwamal eu calon. GADAEL YR ORGAN.Wedi bod yn organydd Capel Mawr y Rhos aniftynyddaii, dyma Dan Evans yn ymddiswyddo, a merch, sef Laura Pritchard, yn camu i'w le. Codwr y gân yma ycl:yrw'r diguro G. W. Hughes, G.&L CYWIIW GWALL.-—'Roedd gwall yn fy nodyn yn y Bryttion diweddaf am Sasiwn Plant yr Adwy. Arweinydd y rihyrsals ydoedd Win. Jones, y Beehive, Coedpoeth arweinydd y Sasiwn ydoedd G. W. Hughes a'r Parch. R. Prys Owen yn holi'r had. DARLITHYDD LLANELL I.. —Ynghapol Mawr y Rhos, nos Fawrth ddiweddaf, dar- lithid ar Edward Mathews, Ewenni," gan y Parch. Phillip Jones, Llanelli. Yr elw at amcan teilwng—cynorthwyo Win. Edwards, Pentredwr. Y Parch. R. Jones yn y gadair. Y mae wyneb y darlithydd yn debyg i wyneb Evan Jones, Caernarfon a'i lvgaid agos mor ddireidus a'r llygad craff, eofn a chwareus hwnnw. HAD YR ANIBYNWYR.—Y mae Ani- bynwyr Coedpoeth yn partoi am Sasiwn Ganu i'r Plant a chantorion Halle Salem, Seion a Saron yn rihyrsio tan fatwn Hugh Hughes Abram George y Talwrn yn cyfeilio ac ar ol y canu da a gaed brynhawn Sul di- weddaf, y mae argoel am gymanfa dda. MYND I'R RHWYMYN.-Yngha.pel Seion, Talwrn, Coedpoeth, ddydd Mawrth di- weddaf, priodid H. J. Evans, gynt o Faeh- ynlleth, ond yn awr o Montreal, a Miss Thomas, merch hynaf Bod Seion, Talwrn. Y capel yn Hawn o edrychwyr, ac ambell un yn gwrando'r gwasanaeth yn astud er mwyn bod yn hyddysg pan ddelo'u tro hwythau. Cylymwr y cwlwm sanctaidd ydoedd y Parch. J. H. Richards, ac wrth yr organ ceid Abram George yn seinio'r Wedding March. Aroswcfi funud, pa englyn-briodas a gaf, i ollwrvg fy nheimlad atoch ill dau ? Sut y gwnai hwn ? — Dau rosyn wedi d'rvsu—yn gwlwm 11 w gilydd wrth garu, Sy'r waith hon—dwy galon gu, Eneidiau glan, wedi glynu." COR NEW YDD COEDPOETH.-Mi a livmiais d. M. S- d. yn llawen pan glywais fod y cyfaill ieuanc cerddgar J. P. Hughes, L.T.S.C., wedi ymgymeryd ag arwain y cor riowydd s.y wedi ei ffurfio yng Nghoedpoeth. Rhwng J. P. yn arwain ac Abram George yn cvfeilio, 'does ddichon na wnant wrhvdri. Clywaf fod eu bryd ar gystadlu yn Eisteddfod Bwlchgwyn. Mwyn tacf, beth a dclaeth o Gjr Plant Joseph Williams? Nid wedi pwdu, gobeithio. DIRWEST COEDPOETH.—Mae cangen G-ymdeithas Ddirwestol Merehed Gogledd Cymru wtdi ei chodi yng Nghoedpoeth. Mrs. Jones, Bodawen, yTi llywydd; Miss Thomas yn ysgrifennydd a Mrs. T. Jones-Humphreys yn drysorydd. Pedair chwaer ar hugain wedi ymuno; a mawr a fo eu dylanwad i sychu hvnny o aelwydydd gwlybion sy yng Nghoed- poeth. 13 ED YDDWYR Y BRYMBO.-Clywaf iddynt hwy gael cyfarfod pregethu rhagorol yn eu Tabernacl ddechreu'r wythnos. Y cenhadon oedd T. T. Jones o Flaen Clydach ac E. Cefni Jones o Ffestiniog. I

temmmmmrnamm « 9 • wmmammmtmrn…

Crochan Berw Paris;

Pwytho'r Wasc Felen.

0 BEN Y GROES.

Advertising

Y Parch. J. D. Jones.

["cHWITH 4T60'|

Cydgynhulliad y Llwythau.