Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
"TROAD Y RHOP." ..
"TROAD Y RHOP." [GAN GWYNETH VAUGHANj. PENNOD IX.—ENNILL Y 'LEOSIWN (par/iacl). CHWABDDODD ygwr cyfoethog Vn galonnog. Yr oedd clywed bachgen yn siarad mor hunan- feddiannol a dealladwy ynghylch Etholiad Seneddol, ac hefyd yn ddigon beiddgar i ddweyd wrth ddyn mor bwysig ag ef sut i ennill y dydd,yn rhywbeth newydd yn hanes Mr. Morris y Plas. Ymhle 'rwyt ti yn yr ysgol, 'machgen i. Yn Ysgol y Llan ? Yn yr.ysgol newydd, syr, yn y Grammar School." Wel, pan fyddi di wedi gorffen, hwylia dy hun i 'ngweld i i'r Plas acw, mi ffeindia i waith i ti." Newcli i nghofio i, syr ? 0 gwnaf, yn sicir. Mi gofia dy dafod di yn burion." Bore da, syr," a rliedodd Edward i lawr y grisiau i chwilio am yr orymdaith a ganlynai Guto Shon, a sibrydai wrtho'i hun, "IIwan raid i mi ddim mynd yn ddrygist, beth byn- nag, hwyrach y medra inna neyd lot o arian fel yr hen Forus y Plas yna. Hefo digon o arian mae posib gwneyd popeth. 'Does eisio dim ond arian na fydd ffwl yn cael mynd yn M. P. Dim ond arian, a phwysleisiai Ed- ward ar y geiriau yn beriderfynol, Rhaid i mi gael arian ryw ffordd. 'Rydw i wedi blino bod yn dlawd." Sut y bu i fachgen mor ieuane allu codi'r fath hwyl orys fyth yn ddirgelwch, ond cyn pen nemor o ddyddiau, er gwaethaf holl waith pleidwvr Mr. Woodhead, yr oedd Llan Elen yn berffaith ddiogel i Mr. Morris. Gorym- deithiai'r plant a Guto Sion, a gwaeddent north eu pennau Morris for ever Mae'n wir na fyddai Guto byth yn gadael i neb anghofio mai yr un gwr oedd Dafydd y Saer a Mr. Morris y Plas, ond 'doedd mo'r help am hvnny. Ennill y lecsiwn oedd yn bwvsig. Gwariwyd llawer iawn o arian, nid oedd mor bervgl llwgr wobrwyo yr amser hwnnw ag vdvw hoddvw, or fod digon o'r un peth vn dd:gon byw etc, ond eu bod yn fwy gofalus sut i brynnu pleidleisiau erbyn hyn, o rvw ychvdig. Fhvw ddechreu mynd i ddibynu ar fazaars i gadw achosion crefyddol yr oeddvm vng Nghvmru. ond yr oedd capeli mewn dvled yn beth lied gyffredin. Dang- hosodd Edward i Mr. Morris fod yr ychydig garedigrwvdd at bersonau yn well cyfalaf i ennill pleidl6isiau, er na cheid y canu clod ar bennau y tai, fel wrth roddi cannoedd at adeiladau ac am ysbaid gweithiodd y gwr cvfoeth^g yn ddistaw ymhob un o'r bwr- d^isdrefi yn ei etholaeth, ond fel pob gwaith distaw yr oedd yn offeithiol iawn. Yr unig rai gadwnt swn mawr yn Llan Elen a'r am- gvlchoedd oedd y plant a Guto, heb law'r Toriaid gvda'r nos,wedi i'r cwrw geid yn rhad fynd yn drech na hwy. Ni rwystrai cydwy- bod Guto iddo vntau gyfranogi o'r cwrw y talai Mr. Woodhead am dano, a bu helynt fawr yn y dref y noson cyn yr Etholiad. Cerddai Guto yn ol ac ymlaen,a thua dwsin o blu paunod y Plas yn ei het, a gwaeddai nerth esgyrn ei ben Morris y Plas for ever." "Woodhead for ever am gwrw. Ac ni bu tawelwch nes y cafwyd Guto i'w dy, ac i freichiau hun. Codwyd twrf mawr wedi hynny mewn cyfarfod gan hanner dwsin o ddynion a haerent mai eyflogau gweithwyr Mr. Morris y Plas oedd y eyflogau isaf yn y sir. Hawdd iawn ydyw bod yn hael ar chwys wyneb pobol ereill, hawdd iawn," llefai un dyn,a chymerwyd y cri i fyny gan y lliaws wyddent yn burion fod yr hyn a ddy- wedai y dyn yn eithaf cywir. Aeth y cyf- arfod ymron fel ffair gwagedd, ac nis gallwyd rhoddi pen arno yn drefnus na phasio pender- fyniad o fath yn y byd. Aeth pleidwyr Mr. Morris yn bur ddigalon, ond orbyn trannoeth dechreuasant obeithio fod y gelyn wedi chwareu i'w dwvlaw. Dynes fechan ben- boeth iawn oedd Mrs. Woodhead, meddai gryn lawer o waed cynhyrfus Delieudir Ewrop yn ei gwythiennau. Pan oedd Mr. Woodhead a hithau yn gyrru yn eu cerbyd, lluchiodd rhyw adyn ddwy gareg atynt, ond yn ffodus ni tharawyd yr un o'r ddau. Ond gwylltiodd Mrs. Woodhead, a gafaelodd yn y cerrig, cododd ar ei thraed ac anelodd yn syth at y creadur a tharawodd of ag un o r cerrig yn ochr ei ben nes oedd ei waed yn llifo, a bu helynt fawr. Erbyn bore'r Etholiad, gof- alodd pleidwyr Mr. Morris fod hanes Mrs. Woodhead yn lluchio cerrig wedi ei ysgrifennu ar bob talcen ty, neu ryw 10 tebyg lie y gallai pawb ei weled. Collodd y Toriaid bob gobaith am lwyddiant eu hachos. Yr oedd y syniad fod gwraig boneddwr yn lluchio cerryg fel rhyw holpen gecrus yn ormod i foneddigesau Torlaidd penuchel, a chollasant hwy bob gronyn o ddyddordeb yn yfrwydr. Ond gweithiodd y blaid yn dda hyd y diwedd trwy'r cwbl; or hynny, ni synwyd neb pan ddaeth yn ddiwrnod cyfri'r pleidleisiau fod yr Yswain o Bias Llan Elen wedi ennill ei le yn aelod Seneddol gyda mwyafrif digonol, os nad oedd yn un a allesid ei alw yn fwyafrif parchiis. Pan yn talu diolch i'w gefnogwyr wedi dvfod adref yn fuddu'goliaethus, dy- wedodd Mr. Morris wrthynt :— Mi wn i mai i bobol Llan Elen yr ydw i i ddiolch mod in medru ysgrifennu A. S. ar ol f'enw heno,a fvdda'i ddim yn anghofio hynny. Mi wnawn ni vr hen Lan Elen yma yn batrwm o dre na fydd yna yr un debyg iddi yng Nghvmru. Wn i ddim pam y rhaid i drefi bvchain a phentrefi Cvmru fod mor fudr rhagor lleoedd tebyg iddynt yn Lloegr, ond mi wvr pawb 'u bod nhw, ond cheith Llan Elen ddim bod, ffrindia, os gwnewch chi a finna helpu'n gilydd, mi fvdd yma dre fach gwerth 'i gweld i neb pwy bynnag yn fuan iawn hefvd. Mae'r spotiau budron yma yn anair i ni. Rhaid i ni gael rhyw gynllun i gadw'r hen dre vma yn lan i ddechreu, ac wedi hvnnv, i'w gwnend hi'n lie clws i fyw ynddi. Mi fvddai'n galw rhai ohonoch chi at ych gilvdd i swpera cyn bo hir, ac mi roi'r olwyn i droi. Ac mi fydd yma de i bawb ymhen y pythefnos, digon o de a bara brith i ni gael dangos mor falch o'r fuddugoliaeth fawr yma ydi pawb ohonom ni. Peidiwch a gadael neb adre, mae'r hen bobol a'r plant a phawb i gael y te hefo'u gilydd." Newyrth," ebe Edward wrth fyned adref y noson honno gyda William Jones, Ne- wyrth, y lecsiwn i oedd hon. Fi ddysgodd yr hen Forus sut i hynnill hi. Fi pia'r lecsiwn yma yn wir, newyrth. Rydw i'n leicio locsiwns hefyd." (I barlmu).
YSTAFELL Y BEIRDD
YSTAFELL Y BEIRDD Y cynhyrohion gogyfer a'r golofn hon, i'w cyf- eirioPEDROG, 30 Stanley Street, Fairfield. Tapio'r Llyfrau.—Englyn. tarawgar. Nid digon dysg.—Englyn naturiol, cynwys- fawr a tharawgar. Mae y bardd can yr un mor swynol mewn englyn. Esgyn i Scion.-Ei-riyn da a chymeradwy- Da gennyf weled y chwiorydd yn ymhoffi mown myfyr tawel i wneud cmyn, ac nid yn unig mewn cyffro heol i wneud row. Gybi.—Yr oil yn gymeradwy iawn. Na, ni anfonir neb i'r room dywell ond a fyddo allan o'i bwyll. Ai- hyn o bryd, nid oes neb ynddi ond llygod mawr. Ffynnon fy Mam.—Can bur dda o ran arddull a syniadau, ond gallasai ambell syniad fod yn fwy eglur, ac ambell linell yn fwy caboledig. Cymcradwy. Gyda'r Nos.A.Iae y llinellau yn rliy lac a rhyddieithol, ac ymddengys fod yr odl yn gymaint ag a gallai yr awdwr ei sicrhau, heb ofalu fawr am feddwl. Felltynypyncia:- Gvda'r nos mae'r gweithiwr mwyn Yn tramwy hyd y ffordd Mae wedi gorffen cur a chwyn Mown chwarel drom ei gordd." Me,nn(t.-Er cymaint a ddywedwyd yn yr ystafeil hon am y gormod rhedeg ar ol Menna, ymddengys nad oes dim yn mennu fawr ar y beirdd. Wel, rhyngoch chwi a'ch gilydd. Mae y bardd hwn eto yn wirion- bost," ond mae digon o'r peth a elwir yn "method in yn ei gan i gaol ym- ddangos.
---FY MRAWD.
FY MRAWD. Dychwelwn adre gyda'r 1103 O'r ysgol fechan draw. 'Roedd storm yn dod, a'r dydd yn fyr, A noson erch gerllaw, 'Roedd rliald gwynebu'r mynydd moel, Tra'r lluwch yn gwynnu'r bryn. Fe'm dallai'n llwyr, a methwn weld Y llwybr erbyn hyn. Dolefal'r ddrycin yn fy nghlust; Dolefwn innau'n ol. Ond, Ah fe'm codwyd ar fy nhraed Gan rywun ddaeth I'm nol. Anghoflais bob peth am y storm, A'm hofnau bob yr un. Eis adre'n ddiogel a difraw Yn Haw fy mrawd oedd hn. Mi'th welais dithau, anwyl frawd, Yn cefna fin yr hwyr, Y storm yn dod, a'r dydd yn fyr- Rhy fyr y nefoedd %r. 'Roedd eira'r nef yn ewynnu'r Ilawr, A'r llwybrau—collwyd hwy. Ond cerddaist adre yn ddi-fraw Yn Haw y Brawd sydd fwy. Upper Brighton. R. H. JONES.
" MAE DYN YN FLAIDD I DDYN."
MAE DYN YN FLAIDD I DDYN." (Diareb Ladinaidd). Nid oes ond amser ddengys pa beth yw dyn yn llawn Fel aur i'r pair fe'i bwrir er profl'i werth yn iawn; A ddarfu iti synied y gweniaeth fedd y byd- Fod peth o'r oen,ond mwy o'r blaldd.ynghalon dyn o hyd Mae llawer un dan gochl brawdgarwch eto'n bod, Gall wenu yn dy wyncb, a'th g'roni gyda chlod El ddagr llym a gladdai i'th galou di dy hun, A gwir yw'r hen ddiareb-lod dyn yn flaidd i ddyn. Adwaena13 rai gychwynent eu gyrfa dan y rhod, Tylawd ac egwan oeddynt heb allu-pur ddiuod Ond unwaith y sangasant eu traed ar ysgot Ilwydd, Anghoflwyd tro caredig, a ffwrdd a hwynt yn rhwydd, Hwy aethant yn hustungwyr, a phrofais inau'r loss, A nythle seirph gwenwynig fu'u calon drwy eu lioes Ac er im roi hyfforddiant ac addysg i bob un, Ces waddod yn fy nghwpan, a dyn yn flaidd i ddyn. Po fwyaf yw brawdgarweh, mwy yw'r peryglon ddaw, Fel Jael ar ddysgl eui-aidd, la'r hoelen yn ei llaw Mae gweniaeth yn beryglus, fel sarph yn gyfrwys yw, A'i phryd fel cadwyn emog i ddenu dynion byw. Ond colyn gedwir ganddi, daneddog yw ei safn, A lleibia waed dy galon i fyny bob yn ddafn Os chwilir am wir gyfaill, mae'n anhawdd canfod un, A'n proflad ddwed yn hyglyw fod dyn yn flaidd i ddyn. Po fwyaf awn i chwilio am gyfaill yn y byd, Mil pellach cawn fod hwnnw o'n golwg ni o hyd; Mae fel aderyn swynol a'i gathl yn y coed, Ond wrth im' nesu ato a ymaith yn ddioed Os daw rhyw brofedigaeth i'n rhan tra ar y llawr, Unwaith y daw i'w glustiau, A ffwrdd ar funud awr A cheisio'i ddal sy'n ffoledd, ymhell mae'r cyfaill cun, A'n trallod ddwed yn eglur fod dyn yn flaidd i ddyn. Ali welais lawer meistr, ar hyd fy ngyrfa faith Yn codi ambell fachgen a'i gychwyn ar ei daith Fe'i gwnaeth ag e'n gydweithiwr, ond dyna fel bu'r ffawd, Yr hogyn ai'n gyfoethog, a'i feistr da yn dlawd Ond nid trwy rym gonestrwydd y casglodd aur y byd, Ond trwy ladrata arian ei feistr ar bob pryd A throdd yr holl oludoedd yn gyfan iddo'u hun, A llais Uofruddiog waedda fod dyn yn flaidd i ddyn. Er edrych i'r holl gylchoedd a fedd y ddaear gron, 0 hanes byd yn foreu hyd at yr adeg hon, Mae nwydau yn y galon fel nadroedd yn y tir, Na ddeuant byth i'r wyneb ond yn yr heulwen glir Ymblethant a dirwasgant, a'r enaid wnant yn friw- A'r hunan ddaw i'r golwg yn ddengar iawn ei liw Rhaid tagu Ilais cydwybod, a herio Duw ei hun, Ac felly maent yn llwyddo-Mae dyn yn flaidd i ddyn. 0 dan fy mhwys ymholais, ai tybed nad oedd brawd Ar wyneb creadigaeth a ddeil y dyn tylawd ? Wrth ddal fy ngafael weithiau mown ambell gyfaiU cu, Mi ges nad ydoedd hwnnw o'i fenvii ond diafol du; Edrychais tua'r nefoedd, a'm calon oedd yn drist, A llais ddaeth uddiuchod, Mae Un, sef Iesu Orist Efe a lyn yn ffyddlon, mae'n well na brawd ei hun, A'm henaid orfoleddodd fod Crist yn ddyn i ddyn. DERFELOG.
" YR ARGLWYDD A GYFODODD !…
YR ARGLWYDD A GYFODODD Cyfododd lesu o'r bedd, Do, do yn wir ) Cawn ninnau weld Ei wedd, Cawn cyn bo hir Mae' n ciriol trosom ni Ar Orsedd fawr y Nef, A gwrandaw ar bob cri A ato Ef. 1 Canwn ag uchel lef Yn awr yn hy', Gogoniant Iddo Ef, Ein Prynwr cu! 0 1 plygwn ger Ei afron, Mae'n haeddu'r parch a'r bri; Fe ddaeth i'r ddaear hon, I'n hachub ni I West Kirby. M. J. WILLIAMS.
-7 Y FFURFAFEN.
-7 Y FFURFAFEN. Ffurfafen lachar las, TJwch daear fas a dyn, Sy'n cynnal goleu'r Nef A'u heuliau bob yr un, Fel llian main yn do uwchben Yn cuddio'r byd tufewn i'r lien. Llusernau maith eu hynt, Leuerynt gantau'r nen, Planedau, ser diri,— Oreura' th fynwes wen; Cyhoeddant oil, mewn nefol gan, Ogoniant Duw yn gelnion tfin. Mor ddistaw 0, mor hen; Mor dawel, ac mor bell, Yn gwylied draw ar ffin Gororau'r wlad sydd well; Hwy lawenhant ar oleu'r wawr, Cydganent fore'r Cread mawr. Y dydd, ffurfafen ferth, Y plygir di fel Uen, Fydd staenau'r damniol lu'n Llychwino'th fantell wen ? Ai o dy blyglon gwynion claer, Y gwisgir llu mewn gemwaith aur ? Hiraethaf weled Dydd Datguddiad meiblon Duw," Agoriad seilau cudd, Arfaethau mawr eu rhyw; Uwch wybrau pell, yug ngoleu clir, Y by«Trd yn dragywydd Ar lenydd Dwyfol dir, s Amlwch. L. lIVGBIØ.
AR OL DERBYN SYPYN 0 LYFRAU…
AR OL DERBYN SYPYN 0 LYFRAU GWERTH- FAWR YN ANRHEG GAN H. ROBERTS, Ysw., SALFORD. Eu tapio wnaf bob tipyn,-a'u hyfed Mown aflaoth,-caf wedyn Fawr hwyl gyda'r llyfrau hyn A gefais heb eu gofyn. LEINAD.
HEN GYFEILLION.
HEN GYFEILLION. Mae tannau 'nhelyn heddyw'n brudd, A Ueddf yw'm hoU alawon A dagrau sydd yn lleithio 'ngrudd Wrth goflo'm hen gyfeillion. Oadwrfa yw fy nghalon drom I fyddin o adgofion Adlonni f'enaid wneid pe cawn Ail-wcld fy hen gyfeillion. Daw hiraeth beunydd arnai'n bwn, I'm suddo i ddu eigion Ond haeddu hiraeth gwell na hwn Y mae fy hen gyfeillion. Anobaith, weithiau, lifa'n erch, I'm gwahodd i'w waelodion; Ond ef a daw pan grwydra'm sercli At feddau'm hen gyfeillion. Mae'r blwyddi'n mvned lieibio'n chwini, A'u stormydd sydd yn greulon Ond nid ynt hwy yn tori dim Ar gwsg fy hen gyfeillion. 'Rwyf fi mewn gauaf, hwy mewn haf; Fi'n ddu a hwy yn wynion Naturiol -mli bnd y caf Fynd a £ hen gyfeilHon; OTFIDT
Colofn Prifyspol Lerpwl.
Colofn Prifyspol Lerpwl. [TAN OiiYGi A.HTM MR. J. GLYN DAVIES]. CYWYDD Y GWMEIJ LLAWJN. Y Gwineu ni'm gogenir, Llawen wvf vmhob lie 'n wir, 0 Wynedd wen yno ydd wyf, O'i rhieni yr hanwyf. Ddeuddydd ni thyciodd iddi Roi da mawr erioed i nll Yn ngwlad Tegeingl y tycia Am glod a wn i'm gael da. Goreu un wlad gywrain, Iwys, Ei brodir hyd Baradwys A'i dynion a'i daioni, Dan haul mi a'i hadwaen hi. A'i phedwar plwy fwyfwy to, Sydd yn un swydd iawn yno. Lie onest i holl Wynedd, Llan Elwy, man olau medd Ac oddi yno eiddunaw I Ruddlan dref orlan draw Ac yno'n wir y gwnawn nerth 0 Ryl ddywsul a'r Ddisertli, Af i blwyf y gwarwyfa, Melydr deg ai ami dir da Af i Brestatyn hefyd, Ac i'r nant i gurnio yd Af i lan uwch marian mor, Yn esgud ei ysgor. Mi af awr, erbyn fy mwyd, Ar y lan i ryw lynwyd I Lan hydr lawn o hadyd, Asa af i geisio yd. Goreu tref ffrwythau a'i ft'rith, Gronant hyd Loegr o wenith. Cynullwr, cordiwr cei-dawd, Gwespyr wyf, fel gwas y brawd. Y mae ystod ym Mostyn, A ffrith i gael gwenitli gwyn. Atoch y dof i yta. Chwitffordd deg o rhaid ffydd da, Dof a sacli, od af i son, Draw a phwn i Dreffynon. Af i blwy a thref fwy-fwy Y Pflint deg ni ffaeliant, hwy. Eto af fry at Fair wen, Hael ogylch, i Helygen. Af a mawl a fo melus, Ar gan i Lan Eurgain lys. Cael fy nghroesaw yn llawen, Cael cywain yd Cilcain wen. Yn union af i Nanerch, Y tir mawr, at oreu merch, Y mae llwybr i'm. lie bu'r og, Oes i gyfarch Ysgeifiog. Ceisiaw mae'r Gwineu Llawen Carisiaw yd Caerwys wen. Af i lan, man fel Mynyw Daear deg yn dir yd yw. Yfory aJ, yn fore iawn, Ddyw Merclier i Ddymeirehiawri, Cerddais o'm blaen bob maenol, Cam a wnawn, mae'r cwm yn ol. Pendant gwyl mabsant bob mis, Yw goreugwyr o'i gwregys. Drwy ddaiaren swydd wen wiw Dedwydd i roi da ydyw. Duw Dad, rhag ei daed hi, A noddo bob man iddi. o Lan Elwy, glan y glod, 0 Gor Asa i Gaer isod 0 lan y mor, a'i lanw maith, I clir Ial y do' 'r eilwaith. Pan geisiwyf, heliwyf i'w hau, Yr yd isod o'r dasau Nawdd Mair a gair yn dy gylch, Degeingl, Duw yn dy ogylch. OWAIN AP RHYS AP SION AF ROWEL COETMOR A'I CANT.
Advertising
Jones' Hotel (Established over 100 years). Suffolk St., Pall Mall, London, (Adjoining Trafalgar Square.) Successors to Mr. Roberts, Thsnet Place. Telegraphic Address— Pleasant,' London. Proprktor-R. R.JONBS, Telephone 1157 Royal Esttiblished 1857. ROBERT ""ROBERTS, ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South, Haa Property to Let in various parts of the tovm. Mortgages arranged. valuations m&ds, THOMAS H. OWEN, ESTATE AGENT & ACCOUNTANT, 246 WALTON ROAD, Liverpool. Property bought and sold, and Estates economically managed. Telephone, No. 1779. L HENRY JONES, Estate Agent, Valuer Property Auctioneer, 5 COOK STREET, LIVERPOOL. Renta Collected, Valuations made. Properu Bold by Public Auction or Contract. Telephone No. 7909, J.. LEWIS JONES, ESTATE AGENT & VALUKH, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rents personally collected. Purchases and Sales negotiated. Mortgages arranged and 14ma effected. THOMAS a JONES, E SIT ATE A G l N T S VALUERS, INVESTMENT BUILDINGS, 67 Lord Street, Liverpool, Telephone No.—5586 Central, Properties Bought and Sold. Mortgages arranged. Valuations made, Reats Collected. TilL. 42T AkFIEL.D. ES'rABLiSHJBB 1872, STEPHEN ROBERTS & SON, ESTATE AHEZTS A FALUE&S, 137 Everton Road, Liverpool CL&te 2 StanMd Road). Properties carefully Managed. Rents personally Collected. Purchases and Sales Negotiated. Mortgages arrar.d and Insumete effected, R, E. HUGHES, Estate Agent, Surveyor é:5 Valuer, Chariog Cross, Birkenhead. Telephone (),-56 B'h-sc!, Has Houses to Let, and for Sale, in varions parts of the Town and out districts. Also Land to be Soidfor Building purposes. A dvances made to Builders. Estate.) laid out. Rents Collected, and Property carefully managed. Twteiphcns 3034 Central. WILLIAM WILLIAMS, LAND AND ESTATE AGENT, VALUER AND PBOPKBTY SALESMAN, 2Q NORTH JOliN ST., Liverpool 20 FREEHOLD HOUSES, 6/6, near Sheil Rd. FOR SALE. CHEAP. CHANGE OF ADDRESS Bromley Edwards & Co. (Late Bromley Edwards, 6 Royal St.) ESTATE A ENTS. MORTGAGE AND INS' RANCE BROKERS. HAVE REMOVED TO J I 102 Kirhdale Rd,, Liverpool J. L. Longford & Slater, F-A Estate <0 Land Agents1 Surveyors & Valuers, Civil & Sanitary Engineers, Property Auctioneers, Spec- ialists in all Estate Matters, 26 North John Street, Liverpool, Telegrams Approval, Liverpool." Telephone 21Liverpool Central. Established 1884, TILIPHOHI 4585 BANK QUEEN 0 FOSTER, (James Henry Foster, F.S.A.A.) ESTATE, MORTGAGE AND INSURANCE AGENTS, Building SocietifsgOffices, 2 South John Street, Liverpool (OorrAtr of Lord Btrui) T. WOOSNAM ROBE"13 Practical Estate Agent, Bootie Estate 0ff'c^ No 52 STANLEY RD., B°° [2 doorslfrom Bedford R0(i&)> Litherland, Seaforth & Pierhead Car* P 205 J*00'1 Established 1884 'Phone! O. JONES WILLIAMS, ESTATE AGENT & VALTJFjgt,, 24 SIR THOMAS STF-F LIVERPOOL. 0 1» Personal supervision in every general management of all kinds t10oS Estate, Confidential Reports and v for Purchase, Sale, or Mortgag Est. 1885. Telephone 1903 Maes llofuf Undeb ysg. M' C. Llawlyfr ar Epistolau loop gan y Parch h, Hugh Williams, Amlvvcb" Pris 2/6, am 2/ Parch. d 18 John Owen Jones, p8 ":¿;' Pris 1/6 am 1/3. Parch. Dr. PhillipS. Pris 2/6 net- ■%> Iw gael gan HUGH EVANS, j. 444 Stanley Rd., Liet9° -'— The Well-known # from Wales (or RHEUM A TI8M, LUMBAGO, SlM BACK-ACHE, WEAK SORE THROAT, BURN?' CUTS, BRUISES, 19 MORRIS EVANS I f HOUSEHOLD Oil Sold in Bottles, 1/U, & 2/6, by Cbemists, or from the undermontio Lancashire Repi-esciitati,ve.- EDWARD R. HUGHES. .r; 13 Dundonald Road. AiS" Agents— JACK SH RP, 38 Whitechapel, W LEWIS JO LEWIS, 20 — Book of Testimonials, &o., sent "os A pplication to the Manufacturers— Morris Evans & p.' FESTINIOG, N. Vi p09* Pris 6ch, Drwyr 0 SWYDDlI'A'R' BRYTJlON. I. H weledigaej^ U CwrsyB^ (allan o r "Bardd C^sC SEF rhan o faes llafur y Q r>titf[o^ Oy mraeg a gynhelir tan nawdd Lerpwl yn ystod y gaeaf dyfod^ Hanes y Diwyfl'^ a'r Divvygwyil Yn cynnwys hanes Mr. liivaQ ,,r rieni, ei ddygiad.i fyny, ei al^a fpfi &o„ &c,, /an y pireh. 1 Gorseinion, Hanes cyehwynia$0$,$ iad y Diwygia drwy ysgrifennu gan lenorion Hanes Mr, Dan Roberts a piWp Evans, a chargliad o farddoniae < iad. riu#> Cynhwysa y gyfrol liaws o « taf, rhai a gyhoeddir am y waitn fe^ertg, w darluniau o rieni Mr. Evan ^o.t Casilwchwr, ao Ysgoldy 0«t< PRIS HANNER CORO^* E. W. EVANS- m,* 19 T/0*& Swyddfa'r Goleuad PILE ¡j$s¡:lG WH Y SUFFER PROM i COMPLAINT? WHE1N Y° ABSOLUTELY SVthat&>S By a few applications of a J^eniingt been known to fail to cure the J;ng, Pr long standing cases—whether it or bleeding. WITH HEMROl^Afric»' Hundreds have been cu red in ^derW W the proprietor discovered this » It ia now introduced for the nl JV )() country2 so that all snfierers 6$0&„led^te', i andb/cWincedofitsmarvenoU^ It is a clean, ready aPp hifo< tise relief it gives and Ve* oi the °"f)ared Testimonials on application. prep inspected at the following addrew. proprietor and to be obtained" ijjg v y,J,- D. H. EVANS, Dispens'^poy^ 148 Lodge Lane, POST FREE 2/3 FREEHOLD LAND FOR %sA WAl-10 AT SEFTON PARK, W AVERT REE, TOWN SEND LANE, LONGMOOR LANE. J ADVANCES MADE IF REQUIRE0 < Apply: Jones & Hughes, TELEPHONE-7732 CENTRAL, A
E3G YN I SEION.
E3G YN I SEION. 0, am i)o, th i ddringo i fyny Tua S iion., mynydd Duw Mae fy uglialon yn hiraethu Am y (Jog orffw/sfa wiw, Esgyn i'r cyfarfod gweddi, A'r gyfeillach bur el bias Dyna'r ffordd i ni gael profi 0 fendithionldwyfol ras. lorf sy'n myned ar i waered, Lawr i Sodom tynnant hwy Gwell gen i yw ceisio nodded Ar y bryniau uchel mwy. 0 am nerth i ddringo i fyny ?? Ar nos waith ac ar ddydd Sill Tua mynydd Duw 'rwy'n tynnu, Diogel ydyw'r llwybr cul. Tlla mynydd Duw 'rwy'n myned Draw i dawel, wlad o hedd Ar y ffordd bydd i mi'n nodded, Wedi cyrraedd caf y wledd, Fenywem, Alltwen. MARY WILLIAMS.