Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

"TROAD Y RHOP." ..

News
Cite
Share

"TROAD Y RHOP." [GAN GWYNETH VAUGHANj. PENNOD IX.—ENNILL Y 'LEOSIWN (par/iacl). CHWABDDODD ygwr cyfoethog Vn galonnog. Yr oedd clywed bachgen yn siarad mor hunan- feddiannol a dealladwy ynghylch Etholiad Seneddol, ac hefyd yn ddigon beiddgar i ddweyd wrth ddyn mor bwysig ag ef sut i ennill y dydd,yn rhywbeth newydd yn hanes Mr. Morris y Plas. Ymhle 'rwyt ti yn yr ysgol, 'machgen i. Yn Ysgol y Llan ? Yn yr.ysgol newydd, syr, yn y Grammar School." Wel, pan fyddi di wedi gorffen, hwylia dy hun i 'ngweld i i'r Plas acw, mi ffeindia i waith i ti." Newcli i nghofio i, syr ? 0 gwnaf, yn sicir. Mi gofia dy dafod di yn burion." Bore da, syr," a rliedodd Edward i lawr y grisiau i chwilio am yr orymdaith a ganlynai Guto Shon, a sibrydai wrtho'i hun, "IIwan raid i mi ddim mynd yn ddrygist, beth byn- nag, hwyrach y medra inna neyd lot o arian fel yr hen Forus y Plas yna. Hefo digon o arian mae posib gwneyd popeth. 'Does eisio dim ond arian na fydd ffwl yn cael mynd yn M. P. Dim ond arian, a phwysleisiai Ed- ward ar y geiriau yn beriderfynol, Rhaid i mi gael arian ryw ffordd. 'Rydw i wedi blino bod yn dlawd." Sut y bu i fachgen mor ieuane allu codi'r fath hwyl orys fyth yn ddirgelwch, ond cyn pen nemor o ddyddiau, er gwaethaf holl waith pleidwvr Mr. Woodhead, yr oedd Llan Elen yn berffaith ddiogel i Mr. Morris. Gorym- deithiai'r plant a Guto Sion, a gwaeddent north eu pennau Morris for ever Mae'n wir na fyddai Guto byth yn gadael i neb anghofio mai yr un gwr oedd Dafydd y Saer a Mr. Morris y Plas, ond 'doedd mo'r help am hvnny. Ennill y lecsiwn oedd yn bwvsig. Gwariwyd llawer iawn o arian, nid oedd mor bervgl llwgr wobrwyo yr amser hwnnw ag vdvw hoddvw, or fod digon o'r un peth vn dd:gon byw etc, ond eu bod yn fwy gofalus sut i brynnu pleidleisiau erbyn hyn, o rvw ychvdig. Fhvw ddechreu mynd i ddibynu ar fazaars i gadw achosion crefyddol yr oeddvm vng Nghvmru. ond yr oedd capeli mewn dvled yn beth lied gyffredin. Dang- hosodd Edward i Mr. Morris fod yr ychydig garedigrwvdd at bersonau yn well cyfalaf i ennill pleidl6isiau, er na cheid y canu clod ar bennau y tai, fel wrth roddi cannoedd at adeiladau ac am ysbaid gweithiodd y gwr cvfoeth^g yn ddistaw ymhob un o'r bwr- d^isdrefi yn ei etholaeth, ond fel pob gwaith distaw yr oedd yn offeithiol iawn. Yr unig rai gadwnt swn mawr yn Llan Elen a'r am- gvlchoedd oedd y plant a Guto, heb law'r Toriaid gvda'r nos,wedi i'r cwrw geid yn rhad fynd yn drech na hwy. Ni rwystrai cydwy- bod Guto iddo vntau gyfranogi o'r cwrw y talai Mr. Woodhead am dano, a bu helynt fawr yn y dref y noson cyn yr Etholiad. Cerddai Guto yn ol ac ymlaen,a thua dwsin o blu paunod y Plas yn ei het, a gwaeddai nerth esgyrn ei ben Morris y Plas for ever." "Woodhead for ever am gwrw. Ac ni bu tawelwch nes y cafwyd Guto i'w dy, ac i freichiau hun. Codwyd twrf mawr wedi hynny mewn cyfarfod gan hanner dwsin o ddynion a haerent mai eyflogau gweithwyr Mr. Morris y Plas oedd y eyflogau isaf yn y sir. Hawdd iawn ydyw bod yn hael ar chwys wyneb pobol ereill, hawdd iawn," llefai un dyn,a chymerwyd y cri i fyny gan y lliaws wyddent yn burion fod yr hyn a ddy- wedai y dyn yn eithaf cywir. Aeth y cyf- arfod ymron fel ffair gwagedd, ac nis gallwyd rhoddi pen arno yn drefnus na phasio pender- fyniad o fath yn y byd. Aeth pleidwyr Mr. Morris yn bur ddigalon, ond orbyn trannoeth dechreuasant obeithio fod y gelyn wedi chwareu i'w dwvlaw. Dynes fechan ben- boeth iawn oedd Mrs. Woodhead, meddai gryn lawer o waed cynhyrfus Delieudir Ewrop yn ei gwythiennau. Pan oedd Mr. Woodhead a hithau yn gyrru yn eu cerbyd, lluchiodd rhyw adyn ddwy gareg atynt, ond yn ffodus ni tharawyd yr un o'r ddau. Ond gwylltiodd Mrs. Woodhead, a gafaelodd yn y cerrig, cododd ar ei thraed ac anelodd yn syth at y creadur a tharawodd of ag un o r cerrig yn ochr ei ben nes oedd ei waed yn llifo, a bu helynt fawr. Erbyn bore'r Etholiad, gof- alodd pleidwyr Mr. Morris fod hanes Mrs. Woodhead yn lluchio cerrig wedi ei ysgrifennu ar bob talcen ty, neu ryw 10 tebyg lie y gallai pawb ei weled. Collodd y Toriaid bob gobaith am lwyddiant eu hachos. Yr oedd y syniad fod gwraig boneddwr yn lluchio cerryg fel rhyw holpen gecrus yn ormod i foneddigesau Torlaidd penuchel, a chollasant hwy bob gronyn o ddyddordeb yn yfrwydr. Ond gweithiodd y blaid yn dda hyd y diwedd trwy'r cwbl; or hynny, ni synwyd neb pan ddaeth yn ddiwrnod cyfri'r pleidleisiau fod yr Yswain o Bias Llan Elen wedi ennill ei le yn aelod Seneddol gyda mwyafrif digonol, os nad oedd yn un a allesid ei alw yn fwyafrif parchiis. Pan yn talu diolch i'w gefnogwyr wedi dvfod adref yn fuddu'goliaethus, dy- wedodd Mr. Morris wrthynt :— Mi wn i mai i bobol Llan Elen yr ydw i i ddiolch mod in medru ysgrifennu A. S. ar ol f'enw heno,a fvdda'i ddim yn anghofio hynny. Mi wnawn ni vr hen Lan Elen yma yn batrwm o dre na fydd yna yr un debyg iddi yng Nghvmru. Wn i ddim pam y rhaid i drefi bvchain a phentrefi Cvmru fod mor fudr rhagor lleoedd tebyg iddynt yn Lloegr, ond mi wvr pawb 'u bod nhw, ond cheith Llan Elen ddim bod, ffrindia, os gwnewch chi a finna helpu'n gilydd, mi fvdd yma dre fach gwerth 'i gweld i neb pwy bynnag yn fuan iawn hefvd. Mae'r spotiau budron yma yn anair i ni. Rhaid i ni gael rhyw gynllun i gadw'r hen dre vma yn lan i ddechreu, ac wedi hvnnv, i'w gwnend hi'n lie clws i fyw ynddi. Mi fvddai'n galw rhai ohonoch chi at ych gilvdd i swpera cyn bo hir, ac mi roi'r olwyn i droi. Ac mi fydd yma de i bawb ymhen y pythefnos, digon o de a bara brith i ni gael dangos mor falch o'r fuddugoliaeth fawr yma ydi pawb ohonom ni. Peidiwch a gadael neb adre, mae'r hen bobol a'r plant a phawb i gael y te hefo'u gilydd." Newyrth," ebe Edward wrth fyned adref y noson honno gyda William Jones, Ne- wyrth, y lecsiwn i oedd hon. Fi ddysgodd yr hen Forus sut i hynnill hi. Fi pia'r lecsiwn yma yn wir, newyrth. Rydw i'n leicio locsiwns hefyd." (I barlmu).

YSTAFELL Y BEIRDD

---FY MRAWD.

" MAE DYN YN FLAIDD I DDYN."

" YR ARGLWYDD A GYFODODD !…

-7 Y FFURFAFEN.

AR OL DERBYN SYPYN 0 LYFRAU…

HEN GYFEILLION.

Colofn Prifyspol Lerpwl.

Advertising

E3G YN I SEION.