Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

[No title]

Draws Mon ac Arfon.

CYMRY'R DISPEROD.

News
Cite
Share

CYMRY'R DISPEROD. OENHADAETH GYMBAEG LEEDS. Cyhoeddiartau'r Sul nesaf. Lbbds—10-30 J Parry-Brooks, 6-30, J Wesley Morgan BRADIrORD-3 a 8, J Parry-Brooks Feathebstonk—2-30 a 0, B W Davies CYMDEITHAS GENEDLAETHOL GYMREIG BLACKBURN,-Nos lau di- weddaf, yn y Bute Cafe, cynhaliwyd cyfarfod terfynol yr uchod am y tymor, gydag ym- gomwest. Bu'r cyfarfo dydd o'r cychwyn- ym mis Mawrth—yn hynod lwyddiannus yn nifer y rhai oedd yn eu mynychu yn ogystal a natur y cyfarfodydd eu hunain. Mae holl Gymry'r dref wedi ymuno, ac yn gweithio law-yn-llaw, a chyda brwdfrydedd, i wneud y Gymdeithas yn llwyddiant. Ac y mae'r llwyddiant hwn yn dweyd yn dda am y dy- fodol, a hyderwn y tymor nesaf gael rhaglen deilwng o unrhyw Gymdeithas. Cymerwyd y gadair nos lau gan lywydd y Gymdeithas— J. Jones, Ysw., brodor o dueddau'r Dre- newydd, a rhoes anerchiad llawn o'r ysbryd Cymreig, er ei tlu'addodi yn yr iaith Saesneg. Ond arwr y cyfarfod ydoedd y cyfaill diddan o Bootle, Mr. R. Vaughan Jones ac er ei fod yn Wr dieithr yn Blackburn, gwnaeth i bawb deimlo'n hollol gartrefol gyda'i anerchiad dirodres a doniol. Swynodd bawb hefyd gyda'r ddwy gan Gymreig Nant y Mynydd ac 0 na byddai'n haf o hyd," ac eisoes mae holi mawr pryd y daw R.V.J. yma oto. Yn ychwanegol at Mr. Jones, yr oedd Mrs. E. W. Davies, o Walton Park, yma hefyd, y hi yn cyfeilio ac yn canu yn swynol dros ben. P'rai fel talentau Lerpwl, onide V Cymerwyd rhan hefyd mewn canu ac adrodd gan Misses Roberts, Sallie Jones, J. Griffiths, a'r Mri. J. C. Evans, F. G. Linaker, Wm. Hughes, Eccles, -Lloyd, Lewis ac Ed. Jones, a gwnaeth pawb gyfiawnder a'r danteithion oedd wedi eu darpar. Diolchwyd i bawb ar gvnhygiad y Parch. M. R. Moses, a chefn- ogiad E. Jones, ysg. y Gymdeithas. Ar yr 20fed cvf., byddwn yn mynd am ein pic-nic blynyddol cvntaf i Hurst Green—un o'r lleoedd prydferth a orwedd tuallan i Black- burti.-N.

O'R MOELWYN I'R GOGARTH.

--.--0--'---Seren Llanfyllin.

LLENYDDOL.

Advertising