Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Llysenwir hi ymhob modd y gellir dych- mygu am dano gan y Wasg Felen, a gelwir ar yr Arglwyddi i wneud yr hyn na wnaethant ag unrhyw Gyllideb o'r blaen -ei thaflu allan. Ond y mae'n bur awgrymiadol na soniodd Balfour, yn ei araith ymosodol neithiwr, ddim byd am i'r Arglwyddi dd'od i'r ymwared, megis y gwnaeth wrth siarad yn erbyn Mesur y Datgysylltiad. Ceidw y goludogion a'r bragwyr a'r tafarnwyr dwrw enbyd, ond nid yw'n debyg y llwyddant i berswadio Balfour y dylai'r T Uchaf ymyryd yn yr achos hwn. Sut bynnag, y mae'r Rhydd- frydwyr yn gwbl barod. Ni welais mo'r blaid mewn ysbryd mor gefnog er y dydd y cyfarfu'r Senedd yn nechreu 1906. Dyma ddywedodd un, Yr wyf yn diolch i'r nefoedd am Lloyd George, y mae wedi ein codi fel Rhyddfrydwyr allan o gors anobaith." Os nad ymuna'r werin a'r dosbarth canol ymhlaid y Gyllideb hon yn erbyn yr Arglwyddi y maent wedi eu damnio eisoes. Priodas Boblogaidd. Dydd Mawrth diweddaf, ynghapel Jewin Newydd, priodwyd Miss Gwladys Vincent Evans, merch Mr. E. Vincent Evans, gyda Mr. John Clark o Annan, Ysgotland. Ar fwy nag un cyfrif, gellid ei galw yn briodas Eisteddfodol. Gwyr pawb mai Mr. Vincent Evans yw Ys- grifennydd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, a Chadeirydd Pwyllgor Eisteddfod Llundain. Rhwymwyd y cwlwm priodasol gan Rhuddwawr, yn cael ei gynorthwyo gan Elfed a Machreth- tri o feirdd y Gadair a'r Goron. Yr oedd y capel yn addurnedig a blodeu a choed gwyrddion, ac yn llawn o gyfeillion ac ewyllyswyr da. Wedi'r seremoni, ym- gasglodd y gwahoddedigion—rhwng dau a thrichant ohonynt-i westy'r Trocadero. Yn eu mysg, gwelwyd llu o Aelodau Sen- eddol, Marchogion, Pregethwyr—mewn gair, gwelwyd yno bawb sy'n rhywrai yn y cylch Cymreig yn Llundain. Yr Eisteddfod. Dydd Sadwrn diweddaf ydoedd y diwrnod olaf i anfon i mewn gyfansodd- iadau ac enwau cystadleuwyr ar gyfer yr Eisteddfod ym Mehefin, ac y maent yn llu aneirif bron. Y mae un ar hugain o ymgeiswyr am y Gadair, a chwech am y Goron. Bydd chwech o gorau yn y brif gystadleuaeth, deuddeg yn yr ail, pedwar ar ddeg yng nghystadleuaeth y Corau Merched, a saith yng nghystad- leuaeth y Corau Meibion. O'r De y daw y mwyafrif mawr ohonynt. Bydd un cor o'r Gogledd-o Gaernarfon-yn y brif gystadleuaeth; dau o'r Gogledd. a phedwar o Loegr yn yr ail; dau gor Merched o'r Gogledd a naw o'r De; Corau Meibion, saith o'r De, ac un o Loegr. p-

Draws Mon ac Arfon.

CYMRY'R DISPEROD.

O'R MOELWYN I'R GOGARTH.

--.--0--'---Seren Llanfyllin.

LLENYDDOL.

Advertising