Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

SOSIALAETH

Advertising

!Gyda'r Clawdd,

News
Cite
Share

Gyda'r Clawdd, fGAN MORGAN LLWYD]. Ffon a Phensiwn. DYMA i chwi, hanes dyddorol-a gwir- -a*iii cyrhaeddodd o Frynteg, ger Ctwrecsam, bore heddyw. 'Roedd yr hen frawd Peter Man- uel yn derbyn ei goron yr wythnos tan Ddeddf Pensiwn yr Hen ac yn nyfnder ei ddiolch- garweh, aeth ati ac a naddodd ffon gadarn, hardd ei blaen a'i bagal, i'w rhoi'n anrheg i'r Canghellwr. Piciodd at gymydog iddo- T. A. Edwards, Victoria Road-i erfyn arno ysgrifennu llythyr-diolch trosto a'i anfon gyda'r ffon i dy Ceidwad Pwrs y Wlad yn Llundain. Felly y gwnaed ac yn y man, wele lythyr-ateb yn cyrraedd Brynteg oddi wrth Mrs. Lloyd George, yn tystio fod y ffon wedi cyrraedd yn diolch yn gynnes am dam, ei bod yn ffon ardderchog, a'i pherchen yn glan ddotio arni; ac mai efo hi 'rydoedd yn troedio heolydd y Brifddinas bob dydd yn oi a blaen at ei ddyledswyddau. Go -dda'r hen Fanuel. Y mae hanes y ffon yn glod i'w galon a chryn gysur t w fèddw] a fydd cofio fod Canghellwr y deyrnas yn falch o ddangos ffon Brynteg i flaenion byd, ac o bwyso arni wrth ddringo Bryniau. Clod. A dichon mai efo naddbren Peter Manuel y bydd y Canghellwr eofn yn ftomo r Arglwvddi a Thylwyth y Brag yn y man. Cawr Caergwrle. Cawr Caergwrle ydyw Joseph Griffiths, sef yr hynafgwr llawnben sy'n flaenor yn eghvys yr Anibynwyr yno er's llawn deugain mlyn- edd. Nos Iau ddiweddaf, daeth yr eglwys ynghyd i'w anrhydeddu a dangos el pharcli iddo. a'i gwerthfawrogiad o'i lafur a'i aberth ar ei rhan ar hyd y tymor maith. Gwedi mwynhau cwpaned o dê, llnniaeth, ac ymgom, aed i'r capel, Mr. Hopwood yn llywyddu ar Parch. Mr. Roberts (yn absenoldeb y Parch. W. Gough, y gweinidog, oblegid gwaeledd ei briod) vn cyflwyno i Mr. Griffiths anerchiad hardd, a chyda hi byrsa.id o aur, sef ar ran yr eglwys a nifer o gyfeillion oedd yn awyddus i i ddangos eu'parch i wr teilwng. Siaradwyd ymhellach gan Mri. Evan Davies, John Will- iams, a Hughes, a phawb yn cael digon o ddefnydd canmoliaeth diragrith yn hanes a llafur a chymeriad y gwr a, anrhydeddid. Diolchodd Mr. Griffiths yn ei ffordd effeitmol a chynnes ef ei hun. Ni wnaeth neb fwy tros ei ardal, yn ei sobrwydd a'i haddysg, nar lxybardx Joseph Griffiths a beiddiaf ddweyd ,are nad oes odid wr yng Kghyrnrii hysbysach nag ef yn neddfau Addysg y wlad, ac yng nghyi- rinion Deddfau Cynghorau Sir a Phlwyf. Boed ei brydnawn yn hir a lieulog a phan ddaw'r Negesydd Du, mawr a fydd colled Caergwrle am ei Chawr. I ACH A WR Y DE.Nos Sul ddiweddaf, traddodai y Parch. J. C. Rowlands^bregeth ffarwel i'w gorlan yn Neuadd Victoria, Gwrecsam, efe'n myned i gyich ehangacl) o waith ynglyn a Mudiad Yinosodol y Method- istiaid yn y De. Fe lanhaodd lawer ar Wrecsam glanhaod oto am flynyddau yng N ghaerdydd. CANU BBYNFFYNNON.— Yn eglwys Wesleaid Brynffynnon, Gwrecsam, nos Sill ddiweddaf, traddododd y gwemidog i arsons brogeth arbennig i wyn ei gorlan, sef yr ienc- tyd. Pregetli rymus, a chanu rhagoroJ gan gor y lie, yn rhifo deugain, a C. W. Thomas yn fedrus iawn, iawn wrth yr organ. Caed unawd a phedwarawd hefyd gan aeiodau r cor, Be thou faithful unto death," a God is a Spirit Goreu canu yng Kgwrecsam. canu Brynffynnon. Y BLAENION YV QUEEN ST BEET.- Y tri blaenion pulpud a gadwent gwrdd blyn- yddol Anibynwyr Queen Street, Gwrocsam,, y Saboth a dydd Llun diweddaf oedd D. Stanley Jones, Caernarfon; J. J- dhanu, Pentre, Cadoirfardd Llangollen a, thos. Nicholson, Llundain. 'Does mo eisieu r sebon ystrydebol am yr un or tri digon dweyd eu bod ill tri fel hwynthwy en hunam, ac nid fel neb arall. DEUBARCH. NEWYDD.— Dyma ddou- barch. newydd wedi cyclxwyn llafurio yn nhre Gwrecsam-sef y Parch. Lewis Morris, Oldham gynt, yn fugail Bedyddwyr Seismg Chester Street a'r Parch. J. Lias Davies, o Acrfair a Rhiwabon, sy'n dilyn y Parch. J. C. Rowlands gyda gwaith Forward Movement y Methodistiaid yn Neuadd Victoria. YNG NGWERSYLLT y mae Cymdeithas Ryddfrydol wedi ei ffurfio, a Hemmerde, ein haelod Seneddol hyawdl ei dafod a gwrol ei galoFl, wedi cydsynio i fod yn Ilywydd al-iii. Clywir sibrwd am godi Cymdeithas gyffelyb yng Nglioedpoetl), lie y mae ei mawr eisieu. P YLL W Y R -IV YNNSTA F. -Bygwt] I streic y mae mil glowyr Pwll Wvnnstay, oherwydd fod y meistri yn dal i gyflogi cyn- nifer o anundebwyr, sy'n mwynhau holl freintiau'r Undeb ond heb gyfrannu ffyrlmg at ei dreuliau. Hen gwyn ydyw hon, ac un gvfiawn hefyd gobeithio, serch hynny, y ceir heddwch hob beri i gymaint o ddynion diwyd orfod segura a, clilein -io'Li teuluoedd. BA BA N BETHLEHEM YN Y CEFN. Heb draethu gair o chwyddedig oiriau gor- wagedd, perfformiad tan gamp a gaed o Baban Bethlehem, cantawd newydd Dr. Griffiths, Abortawe, yngliapel y labernacl, Cefn Mawr, nos Fercher ddiweddaf. set gan o-or plant a cherddorfa tan fatwn gofalus Gethin Davies, a'r rhai'n yn canu r un- awdau Mrs. Valentine Davies, Misses Florrie Davies a Gwladvs Edwards, Mri. R, Maurice Davies a Llew Davies a Mrs. Arthur Davies a Mr. Wm. Jones yn cyfeilio. Yr hen gerddor mainglust John Mahler yn y gadair; yr acldoldy'n orlawn a'r canu'n ardderchog ar air a chydwybod, fel popeth corddorol y Cfn. ME GIN A'R DDWY FJL. -Bu'r Parch. Tryfan Jones y Rhyl yn cynnal cvfros cyfarfodydd yng Nghoedpoetlx ymhlaid y mudiad Wesleaidd i godi dwy fil o bunnau at Gronfa Cenhadaeth Gartrofol Gogledd CylO- ru, Clywaf i Tryfan fegina'r fflam yn gam- pus, ac fod yr addewidion yn llawer mwy na.'r disgwyl. Cyn symud o Goedpooth, gadewch i mi ddweyd fod y Parch. T. E. Thomas, bugail parchus yr Anibynwyr, yn dechreu hybu o'r gwaeledd a'i gorddiwes yn ddiweddar. v VYCHAN V JjJDDYG.-Fy Uongyfarch, i Jack Vaughan Griffiths, mab DT-Varghan Gri- ffiths, iachawr adnabyddus trigolion Coed- pootb, ar ei wail.h yn mynd .yn llwyildiannns diwy arholiad Matric meddygol Prifysgol Edinburgh. Ymlaen yr elof. Jack, yn dv grelft bwysig, lies teilyngu ohoiiot onglyn Trebor Mai i Ddoctor arall Hir coffheir y cyffuriau—a rannodd Idrueiniaidajigau;, Ar ruddiau oedd yn pruddhau, Rhoes wen ac ail rosynnau." GAEL NYRS A THROL.—Dyna sy ym mryd Cyngor Plwy Rhos, sef cael district nurse i ddysgu'r mamau sut i iawn fagu, a tlirol ddwr i ddyfru'r heolydd a gostwng llwcli ac aflan sawr y lie. Y mae gwir eisieu'r nyrs a'r drol ac ambell dorsythwr colerog, molyn- droed, sy'n lliwiog fol gloyn byw, ond yn ddim amgen na chynrhon tan ei adenydd, pe'i trochid tu ol i'r drol weithioii, byddal'n haws edrych arno fo a'i blu. CAWELL PEDR HIR -O'r Cawell i'r Mor Coch,—drama Gymraeg Pedr Hir, Bootle,— a berfformid gyda hwyl odiaeth yn ysgol Johnstown yr wythnos ddiweddaf, sef gan egin eglwys Methodistiaid y Siloli. Cystal fu'r llwydd a'r bias fel y taer-ymbi)- Jwyd arnynt ei pherfforniio eihvaith heb fod yn hir ac y maent wedi addo y gwnant. J. Arthur Jones oedd yn y gadair, ac yn wen drosto. — -o-

Icolofn Prifysgol Lerpwl.

Advertising