Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Cymdeithosfo Porthaethwy.

News
Cite
Share

Cymdeithosfo Porthaethwy. DYDD MERCHER. YN ein diweddaf gwelir braslun o hanes gweithrediadau dydd Mawrth Cymdeithasfa Methodistiaid y Gogledd wele heddyw brif weitlirediadau'r ail ddydd, dydd Mercher, tan lywyddiaeth y Cymedrolwr newydd, y Parch. E. Griffiths, Meifod. Anerchiad y Parch. W. IKomms. Yn y bore, am 8-30, cafwyd papur goleu ac argyhoeddiadol iawn gan y Parch. W. Thom- as, Llanrwst, ar Y Pwysigrwydd i gynhal- iaeth y Weinidogaeth. gydorffwys ar yr holl eglwysi" a phasiwyd i'w argraffu, a'i ledaenu led-led yr eglwysi. Ac yng nghyfarfod y Blaenoriaid, yr un adog yn y capel Saesneg, pasiwyd i daer-ymbil ar Dr. Hugh Williams y Bala gyhoeddi ei draethiad godidog y noson cynt ar "Ein Dyled i John Calvin." Cyfarfod Deg o'r Gloch. Ymddiddanodd y Parchn. H. WilJiams, D.D., a Benjamin Hughes, Llanelwv, ar brodyr iouainc oedd wedi eu neilltuo i w hordeinio, ac fe'u cymeradwywyd. Cacd papur gan y Parch. David Jones, Disgwylfa, ar Athrawiaeth lachus." Gofynwyd i bawb nad oedd yn aelod or Gymdeithasfa ymneilltuo, a chaed adroddiad y Pwyllgor a benodwyd i chwilio i achos y Parch 0. Evans, v cenhadwr. Ar gynhygiad y Parch, Evan Jones, a chefnogiad y Parch. G. Ellis, pasiwyd i adfor Mr. Evans i'w safle fel gweinidog. Caed gair hefyd gan Mr. Evans ei hun. Penderfynwyd anfon Ilythyr-diolch i Mr. H. W. Jones, Y.H., Garston, am ei lafur mawr gyda'r Cynllun Yswiriol, ac yn erfyn arno ddiogelu achosion gwoinidogion sy'n llafurio tan y Genhadaoth Gartrefol a Tliry- sorfa'r Achosion Seisnig parth yr iawn tan Ddeddf newydd yr Yswiriant. Methodistiaeth Mori. Y Parch. J. Williams, Caergybi, a roes hanes a chyflwr Methodistiaeth ym Mon. Welo grynhodeb ohono Gweinidogion, 53; Pregethwyr, 24; Blaenoriaid, 369 Cymunwyr, 12,838 Ym- geiswvr 151 Plant, 4,608 Gwrandawyr 20,439 Swyddogion ac Athrawon yr Ysgol Sul, 1,717 Yr oU ar y llyfrau, 13,103; Eisteddleoedd. 2f\673; Capelau, 86; Ys- goldai, 27 Eglwysi Saesneg, 3. Casglwyd at y Weinidogaeth, £ 5,804 At y Cenad- aethau, f,607 at y Ddyled, £ 3,829 yr ho 1 dderbyniadau, £ 17,131 y Ddyled kjesennc'' £ 17,061 Gwerth yr Eiddo, 1906 £ 148,777. 'Pregethir yn Saesneg ym misoedd yr hat mewn chwech o leoedd ereill. Gadewir allan y sylltau a'r pres yn y cyfrif ariannol hwn. Rhydd yr Ystadegau uchod ryw fantais i ffurfio svniad am sefyllfa yr achos ym Mon, a dywed yn groyw fod Methodistiaeth yn fyw iach a chryf, ac yn penderfynu byw. Gyda'r nifer a benodwyd o Bregethwyr, Blaenoriaid, Swyddogion, ac Athrawon yr Ysgol Sabothol, nis geUir disgwyl llai na'i fod yn aUu mawr er daioni. Da yw cael dwyn tvstiolaeth fod heddwch, undeb, a chydweith- rodiad vn ein plith fel Swyddogion ac Aelodau Ar gvfer 53 o deithiau, gwelir fod yma 53 o Weinidogion a 24 o Bregethwyr. Ffaith yw hon i edrvch yn ei hwyneb. Nis gall lai na --c pheri prvder a pheri ymofyniad beth fydd dylanwad hyn. Ac eto beth pe buasai yn wahanol ? Nid oes wlad mewn bod a mwy o bregethu ynddi, a'i chvsur yw fod cyrneriadau y swyddogion eglwvsig yn hawlio parch y bobI. Y gallu cryfaf yw, nid y bregeth na'r swydd, ond cymeriad a phersonoliaeth. Ffaith yn ein hanes yw fod bron yr holl wrandawyr yn y rhan fwyaf o leoedd yn aelodau eglwysig. Ychydig felly yn gym- harol yw y gwrandawyr. Un wedd ar hyn yw y caiff y plant eu magu yn yr oglwysi. Dwg hynnv i'w ganlyn gvfrifoldeb mawr. Refyd, yn wyneb fod y gwrandawyr yn ych- ydig, gwelir fod yma waith efengylu yn ystyr oreu v gair. A'n golwg ar hynyna, pregethir yn fynyoh yn yr ysgoldai, fel y mae Ysgol Sobothol a Gweinidogaeth yr Efengyl yng nghyrraedd y gwan, hen, ac ieuanc trwy yr Ynys. Ychwanegu nifer yr ysgoldai hyn yr ydym bob blwyddyn, ac y maont yn foddion i ddal gafael Methodistiaeth yn y wlad. Disgwylir llawer oddi wrthynt, ac y niaent yn addaw llawer. Er fod llu o ffydd- loniaid yn ein mysg, eto pan gymerir ein north a'n rhif i'r cyfrif, nid oes gennym Ie i vmffostio yn ein haelioni ac y mae ambell gasgliad Cyfundebol, anodd iawn yw cael gan vai swyddogion ei osod yn ei deilyngdod o fiaen y cynulleidfaoedd. Yr Ysgol Sabothol.—Ar lawer cyfrif, y mae y sefydiiad hwn yn fwy ei allu a'i ddylanwad nag y bu erioed, er nad yw o ran rhif ac effoithiolrwycld yr hyn y buasai yn ddymunol iddo fod, ac er nad yw feallai o ran ysbryd cen- hadol a chrefyddol yr hyn oedd yn nvddiau ein tadau. Ar yr un pryd, y mae yn sefydiiad mawr, pwysig, ac yn gwneud gwaith. Y mae ei garodigon yn lliosog, a'r ffyddloniaid yr un model. a dywed vn amlwg ar w-ratidowiad yr efongvl. Er y cyfarfyddir a pheth anystyr- iaeth, eto y ii-tae dwfn barch i Air Duw. Pe buasai gennym ragor wedi eu eymhwyso i ddysgu oreill, mantais fuasai hynny, oblegid lie, y mae athrawon yr ysgolion dyddiol yn .cynorthwyo, y mae y gwaith ar y plant yn effeithiol iawn. Ofnir y gall y Safonau a'r gwersi gadw yr anwybodus allan. Gwelir tuedd yn v canol oed a'r hen i adael yr Ysgol, a hynny er eu hanfantais hwy ac er gwendid i'r ysgol. Yn yr Arholiadau Sirol, y plant sydd liosocaf. Allan o 707 a safodd v flwydd- yii ddiweddaf, yr oodd 554 dan 16 oed. Achos cryn lawer o bryder yw y rhai o 16 hyd 20 oed. "Tybir fod tasgau yr ysgolion dyddiol yn dweyd yn drwm ar lafur Ysgrythyrol. Moesoldeb.—Yr ydym yn ystyriol inai cyn- h vrehu cymoriadau moesol, cryfion, cyflawn a cliymhesur, yw aracan yr holl drofniadau, a darostwng llygredigaeth. Os diffygiol yn hyn, nis gallwn gytiawnhau ein bodolaeth. Yn awr, a llefaru yn gyffredinol, gwella yn ddirfawr y rnao moesau y wlad. Yn 01 ystadegau y mael liai o feddwi, llai o ani- weirdeb, llai o dyngu. Effaith lleihau y cyf- hnsterau yw lleihau ineddwdod. Yn yr Ynys lion y mae 40 o blwyfi heb dafarn yn- i.ldynt, a pho blogaeth y plwyfi hynny yn 10,212. Yn y fiwyddyn 1878 yr oedd y Trwyddedau yn 259 ond yu 1908, 141 oedd- ynt. Y lllat) hynyna yn lleihad sylweddol, ac yn rhwym o leihau diota a meddwdod. Pan yn derbyn aelodau o.r Cyfarfod Misol, ych- ydig iawn yw nifer y rhai ni chymerant yr Ymrwymiad Dirwestol. Dyna y ffaith ynglyn a'r Eglwysi hefyd. Blwydd-dal y Bugeiliaid. Wrth gyflwyno adroddiad Pwyllgor • y Blwydd-dal i Fugeiliaid, sylwodd y Parch. Pv. Aethwy Jones, M.A., fod yr holl Gyfarfodydd Misol wedi cymeradwyo'r cynllun, ac eithrio Lleyn ac Eifionydd. Y Parch. John Williams, Brynsiencyn, a ddywedodd ei fod yn gwerthfawrogi'r cynllun yn fawr, ac os mai'r egwyddor oedd yn y cwestiwn yn awr popeth yn dda. Ond yr oedd rhai pethau yn y cynllun nad oedd ef yn credu y dylid eu pasio yn y ffurf y ceid hwy yn yr adroddiad. Cvfeiriodd Mr. Williams at ran olaf Adran 2, dan y penran Gweinyddiad Os na fydd sefyllfa y Drysorfa yn caniatau i'r swm hwnnw gael ei roddi i bawb fydd yn ei geisio unrhyw fiwyddyn, yna fod rhyw ffordd yn cael ei threfnu i benderfynu pwy or ymgeiswyr newyddion fydd i dderbyn o r Drysorfa." Danghosodd trwy engreintiau pa fodd y byddai i drefniant o'r fath weitlno, a gofynodd ai nid y peth rhesymol fyddai rhannu yr hyn fyddai mewn 11 aw yn gytartai rhwng y rhai fyddai yn gwneud eu ceisiadau yn rheolaidd. Am Adran 6 dylai ddarllen Fod Gweinidogion fyddo dros 40 mlwy dd pan yn ymuno (os yn ymuno ar ffurfiad y Drysorfa) i dalu £1 am bob blwyddyn y byddont uwchlaw 40 mlwydd oed." Dylai y rheol hon derfynu yn y fan yna. Pam yr oedd raid iddynt ganiatau i'r swm gael ei adael, a bod yn fler gyda pheth fel hyn Sylwodd Mr. Williams hefyd ar Adran 8, sef fod y derbyniadau yn accuraulatio am bum mlynedd cyn dechreu talu allan. Yn yr amcan gyfrif fe dybir pethau, ond ni ctjlUOiir yr accurmdcition i ystyriaeth. Yn ol a gyf- rifai ef, byddai tua £4,000 mewn Haw ar derfyn y pum mlynedd. Trafodwyd y cynllun ymhellach gan y Parchn. F. Jones, J. Hughes, M.A., O. J. Owen, M.A., O. Owen (Rhyl). J. E. Davies (Treffynnon), G, Ellis; atebwyd y gwr' ddadleuon gan y Parchn. Aethwy Jones, ac yna cymeradwywyd y cynllun, ac 0 ( X pwyllgor yn ei gyflwyno i actuary l gae farn ar ddarpariadau ariannol y cynllun. Trysorfa'r G-weinidogion. Cvflwvnwyd Adroddiad y Drysorfa ho" eto gan y Parch. R. Aethwy Jones. Roedd holl dderbvniadau'r drysorfa am Y £ 2,306/9/ a'r taliadau yn £ 2,4/8 J, diffyg o E172 6s. 3c. Wedi cyflwyno yr adroddiad galwyd. a* AU W. Venmore, yr hwn aa fu am flynyddoedct yn drysorydd y Gymdeithas, i gymeryd He ei frawd, Mr. James Venmore, y trysorydd presennol, ac i wneud sylwadau ar yr adrodd- iad. Drwg ganddo ddweyd nad oedd y derbyniadau yn cynhyddu fel yr oedd y tal- iadau, a'r fiwyddyn ddiweddaf yr oeddid wedi mvned yn ol. Ond ni ddvlai neb dybio ei bod yn mynd i lawr. Y ffaith oedd, fod y Drysorfa yn well allari nag ydoedd ddeng mlynedd yn ol o £ 2,376, a meddent £ 4,000 <j reserve fund ar gvfer collodion heb gyttwrcia a'r cyfalaf fel" nad oedd un rheswm dros ddychryn. Ond yr oedd un peth i w goho, sef na cheid yn awr gymaint o log ar yr arian ag a geid ddeng mlynedd yn ol. 1 ra yi oedd y pryd hwnnw yn bump y cant, met oedd yn awr ond prin 4 y cant. Y Parch. Evan Jones, Caernarfon, a ddy- wedodd inai da fuasai ganddo edrych ar bethau fel y gwnai y cyfeillion ereill, ond yr oedd yn ddrwg ganddo weled v Gymdeithas yn mynd i lawr. Bu i lawr o'r blaen, ac fe wnaeth ef gryn lawer o ymdrech i geisio ei chodi ond pe gwybuasai or cyeliwyn pa fodd y cerid y gymdeithas ymlaon, ni fuasai ,w erioed wedi ymuno a hi. Fel y gwyddent, petrcl y storm oedd ef wedi bod. Nid oedd wedi mynd yn hollol fel Jeremiah yn wr ynirvson i'r holl ddaear ond yr oedd folly hwyrach i'r holl wlad. Yn awr gwelid fod y taliadau wedi cynhyddu yn y deng mlynedd diweddaf £700, tra nad oedd y derbyniadau w wedi codi ond Y-100. Yn awr, yr oedd y sefyllfa yn ddifrifol iawn. Gwyddai y gsuUu cyfeillion fod yn garedig a chynorthwyo. Nid y cardotyn oedd yn mynd i lys y man-ddvled- ion--i-ial yr oedd ef ar gefn ar y banc-ond rhai gonest, yn treio talu eu ffordd, oedd yn mynd yno. Yr oedd yn rhaid iddynt hwy- thau ddarparu pethau onest yngolwg pob dyn Nid oedd yr un Gymdeithas Ys- wiriol ar y ddaear a dderbyniai ddyn heb ar- chwiliad meddygol ond derbynid rhai 1 i gymdeithas yma gydar unig amcan o bwyso a gorwedd arni. Yr oedd eglwysi yn talu dros weinidogion i'r Drysorfa er mwyn cael gwared ohonynt dynion yn gofyn am eu hordeinio gyda'r amcan o fynd ar y Drysorfa, a lliaws o bethau o'r fath. Yr oedd eisiau dweyd pethau fel hyn, ac nid fel yr cstrys clwl yn cuddio ei ben yn y tywod. Derbyniwyd yr adroddiad. Athrofa'r Bala. Cyfiwynwyd adroddiad pwyllgor arbennig parth Athrofa'r Bala gan y Parch. John Owen, Lerpwl. Cymhellai'r adroddiad fod gofyn i'r Parch. J. Williams, Brynsiencyn, ymgymoryd a chasglu'r swm anhgenrheidiol i osod cyllid yr Athrofa ar seiliau diogel. Cymhellai ymhellach, yn wyneb y galwad- au cynhydclol ar gyllid y Coleg, fod y Gym- deithasfa yn rhoi caniatad a chefnogaeth i Gyfarfodydd Misol ac Eglwysi, cystal ag i bersonau unigol, ofyn am roddion a chasgl- iadau at gyrraedd y gweddill o'r £10,000 oedd yn eisiau at gronfa'r Athrofa. Cymhellid symud ymlaen i ddewis Athro Hebraeg ac "roedd g.wir angen Cadair Dysgu Bugeiliaeth yn yr Athrofa ond nid oedd y drysorfa yn atebol i hynny ar hyn o bryd. Mr. J. Pv. Davies (cadeirydd y pwyllgor) a ddywedai fod £3,000 o'r £10,000 oisoes wedi ei gael. Cydsyniodd y Parch. J. Williams a chais y pwyllgor, ac y gwnai a allai ar ran yr Athro- fa. Nid i [godi cyflogau'r athrawon 'roedd eisiou'r arian, er fod y rlieiny'n ddigon bych- am o'u cymharu a'r hyn a delid i rai o atliraw- on y sgolion. canolradd Cymru. Pasiwyd yr adroddiad. Ddydd lau, Am 8-30, cynhaJiwyd y Seiafc Gylfred- inol, pryd y siaradwyd ar Crist yr Unig- anedig gan y Llywydd, y Parchn. G. Ellis, O. Owens, E. Davies (Trefriw), a J. Puleston Jones. Pregethwyd yn y gwahanol oedfaon gan y Parchn. Francis Jones, J. Hughes, M.A., G. Ellis, M.A., O. Owens, J. Williams, J. Puleston Jones, M.A.

CYMRY'R DISPEROD:

O'R MOELWYN I'R GOGARTH.

Advertising