Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Cymdeithosfo Porthaethwy.
Cymdeithosfo Porthaethwy. DYDD MERCHER. YN ein diweddaf gwelir braslun o hanes gweithrediadau dydd Mawrth Cymdeithasfa Methodistiaid y Gogledd wele heddyw brif weitlirediadau'r ail ddydd, dydd Mercher, tan lywyddiaeth y Cymedrolwr newydd, y Parch. E. Griffiths, Meifod. Anerchiad y Parch. W. IKomms. Yn y bore, am 8-30, cafwyd papur goleu ac argyhoeddiadol iawn gan y Parch. W. Thom- as, Llanrwst, ar Y Pwysigrwydd i gynhal- iaeth y Weinidogaeth. gydorffwys ar yr holl eglwysi" a phasiwyd i'w argraffu, a'i ledaenu led-led yr eglwysi. Ac yng nghyfarfod y Blaenoriaid, yr un adog yn y capel Saesneg, pasiwyd i daer-ymbil ar Dr. Hugh Williams y Bala gyhoeddi ei draethiad godidog y noson cynt ar "Ein Dyled i John Calvin." Cyfarfod Deg o'r Gloch. Ymddiddanodd y Parchn. H. WilJiams, D.D., a Benjamin Hughes, Llanelwv, ar brodyr iouainc oedd wedi eu neilltuo i w hordeinio, ac fe'u cymeradwywyd. Cacd papur gan y Parch. David Jones, Disgwylfa, ar Athrawiaeth lachus." Gofynwyd i bawb nad oedd yn aelod or Gymdeithasfa ymneilltuo, a chaed adroddiad y Pwyllgor a benodwyd i chwilio i achos y Parch 0. Evans, v cenhadwr. Ar gynhygiad y Parch, Evan Jones, a chefnogiad y Parch. G. Ellis, pasiwyd i adfor Mr. Evans i'w safle fel gweinidog. Caed gair hefyd gan Mr. Evans ei hun. Penderfynwyd anfon Ilythyr-diolch i Mr. H. W. Jones, Y.H., Garston, am ei lafur mawr gyda'r Cynllun Yswiriol, ac yn erfyn arno ddiogelu achosion gwoinidogion sy'n llafurio tan y Genhadaoth Gartrefol a Tliry- sorfa'r Achosion Seisnig parth yr iawn tan Ddeddf newydd yr Yswiriant. Methodistiaeth Mori. Y Parch. J. Williams, Caergybi, a roes hanes a chyflwr Methodistiaeth ym Mon. Welo grynhodeb ohono Gweinidogion, 53; Pregethwyr, 24; Blaenoriaid, 369 Cymunwyr, 12,838 Ym- geiswvr 151 Plant, 4,608 Gwrandawyr 20,439 Swyddogion ac Athrawon yr Ysgol Sul, 1,717 Yr oU ar y llyfrau, 13,103; Eisteddleoedd. 2f\673; Capelau, 86; Ys- goldai, 27 Eglwysi Saesneg, 3. Casglwyd at y Weinidogaeth, £ 5,804 At y Cenad- aethau, f,607 at y Ddyled, £ 3,829 yr ho 1 dderbyniadau, £ 17,131 y Ddyled kjesennc'' £ 17,061 Gwerth yr Eiddo, 1906 £ 148,777. 'Pregethir yn Saesneg ym misoedd yr hat mewn chwech o leoedd ereill. Gadewir allan y sylltau a'r pres yn y cyfrif ariannol hwn. Rhydd yr Ystadegau uchod ryw fantais i ffurfio svniad am sefyllfa yr achos ym Mon, a dywed yn groyw fod Methodistiaeth yn fyw iach a chryf, ac yn penderfynu byw. Gyda'r nifer a benodwyd o Bregethwyr, Blaenoriaid, Swyddogion, ac Athrawon yr Ysgol Sabothol, nis geUir disgwyl llai na'i fod yn aUu mawr er daioni. Da yw cael dwyn tvstiolaeth fod heddwch, undeb, a chydweith- rodiad vn ein plith fel Swyddogion ac Aelodau Ar gvfer 53 o deithiau, gwelir fod yma 53 o Weinidogion a 24 o Bregethwyr. Ffaith yw hon i edrvch yn ei hwyneb. Nis gall lai na --c pheri prvder a pheri ymofyniad beth fydd dylanwad hyn. Ac eto beth pe buasai yn wahanol ? Nid oes wlad mewn bod a mwy o bregethu ynddi, a'i chvsur yw fod cyrneriadau y swyddogion eglwvsig yn hawlio parch y bobI. Y gallu cryfaf yw, nid y bregeth na'r swydd, ond cymeriad a phersonoliaeth. Ffaith yn ein hanes yw fod bron yr holl wrandawyr yn y rhan fwyaf o leoedd yn aelodau eglwysig. Ychydig felly yn gym- harol yw y gwrandawyr. Un wedd ar hyn yw y caiff y plant eu magu yn yr oglwysi. Dwg hynnv i'w ganlyn gvfrifoldeb mawr. Refyd, yn wyneb fod y gwrandawyr yn ych- ydig, gwelir fod yma waith efengylu yn ystyr oreu v gair. A'n golwg ar hynyna, pregethir yn fynyoh yn yr ysgoldai, fel y mae Ysgol Sobothol a Gweinidogaeth yr Efengyl yng nghyrraedd y gwan, hen, ac ieuanc trwy yr Ynys. Ychwanegu nifer yr ysgoldai hyn yr ydym bob blwyddyn, ac y maont yn foddion i ddal gafael Methodistiaeth yn y wlad. Disgwylir llawer oddi wrthynt, ac y niaent yn addaw llawer. Er fod llu o ffydd- loniaid yn ein mysg, eto pan gymerir ein north a'n rhif i'r cyfrif, nid oes gennym Ie i vmffostio yn ein haelioni ac y mae ambell gasgliad Cyfundebol, anodd iawn yw cael gan vai swyddogion ei osod yn ei deilyngdod o fiaen y cynulleidfaoedd. Yr Ysgol Sabothol.—Ar lawer cyfrif, y mae y sefydiiad hwn yn fwy ei allu a'i ddylanwad nag y bu erioed, er nad yw o ran rhif ac effoithiolrwycld yr hyn y buasai yn ddymunol iddo fod, ac er nad yw feallai o ran ysbryd cen- hadol a chrefyddol yr hyn oedd yn nvddiau ein tadau. Ar yr un pryd, y mae yn sefydiiad mawr, pwysig, ac yn gwneud gwaith. Y mae ei garodigon yn lliosog, a'r ffyddloniaid yr un model. a dywed vn amlwg ar w-ratidowiad yr efongvl. Er y cyfarfyddir a pheth anystyr- iaeth, eto y ii-tae dwfn barch i Air Duw. Pe buasai gennym ragor wedi eu eymhwyso i ddysgu oreill, mantais fuasai hynny, oblegid lie, y mae athrawon yr ysgolion dyddiol yn .cynorthwyo, y mae y gwaith ar y plant yn effeithiol iawn. Ofnir y gall y Safonau a'r gwersi gadw yr anwybodus allan. Gwelir tuedd yn v canol oed a'r hen i adael yr Ysgol, a hynny er eu hanfantais hwy ac er gwendid i'r ysgol. Yn yr Arholiadau Sirol, y plant sydd liosocaf. Allan o 707 a safodd v flwydd- yii ddiweddaf, yr oodd 554 dan 16 oed. Achos cryn lawer o bryder yw y rhai o 16 hyd 20 oed. "Tybir fod tasgau yr ysgolion dyddiol yn dweyd yn drwm ar lafur Ysgrythyrol. Moesoldeb.—Yr ydym yn ystyriol inai cyn- h vrehu cymoriadau moesol, cryfion, cyflawn a cliymhesur, yw aracan yr holl drofniadau, a darostwng llygredigaeth. Os diffygiol yn hyn, nis gallwn gytiawnhau ein bodolaeth. Yn awr, a llefaru yn gyffredinol, gwella yn ddirfawr y rnao moesau y wlad. Yn 01 ystadegau y mael liai o feddwi, llai o ani- weirdeb, llai o dyngu. Effaith lleihau y cyf- hnsterau yw lleihau ineddwdod. Yn yr Ynys lion y mae 40 o blwyfi heb dafarn yn- i.ldynt, a pho blogaeth y plwyfi hynny yn 10,212. Yn y fiwyddyn 1878 yr oedd y Trwyddedau yn 259 ond yu 1908, 141 oedd- ynt. Y lllat) hynyna yn lleihad sylweddol, ac yn rhwym o leihau diota a meddwdod. Pan yn derbyn aelodau o.r Cyfarfod Misol, ych- ydig iawn yw nifer y rhai ni chymerant yr Ymrwymiad Dirwestol. Dyna y ffaith ynglyn a'r Eglwysi hefyd. Blwydd-dal y Bugeiliaid. Wrth gyflwyno adroddiad Pwyllgor • y Blwydd-dal i Fugeiliaid, sylwodd y Parch. Pv. Aethwy Jones, M.A., fod yr holl Gyfarfodydd Misol wedi cymeradwyo'r cynllun, ac eithrio Lleyn ac Eifionydd. Y Parch. John Williams, Brynsiencyn, a ddywedodd ei fod yn gwerthfawrogi'r cynllun yn fawr, ac os mai'r egwyddor oedd yn y cwestiwn yn awr popeth yn dda. Ond yr oedd rhai pethau yn y cynllun nad oedd ef yn credu y dylid eu pasio yn y ffurf y ceid hwy yn yr adroddiad. Cvfeiriodd Mr. Williams at ran olaf Adran 2, dan y penran Gweinyddiad Os na fydd sefyllfa y Drysorfa yn caniatau i'r swm hwnnw gael ei roddi i bawb fydd yn ei geisio unrhyw fiwyddyn, yna fod rhyw ffordd yn cael ei threfnu i benderfynu pwy or ymgeiswyr newyddion fydd i dderbyn o r Drysorfa." Danghosodd trwy engreintiau pa fodd y byddai i drefniant o'r fath weitlno, a gofynodd ai nid y peth rhesymol fyddai rhannu yr hyn fyddai mewn 11 aw yn gytartai rhwng y rhai fyddai yn gwneud eu ceisiadau yn rheolaidd. Am Adran 6 dylai ddarllen Fod Gweinidogion fyddo dros 40 mlwy dd pan yn ymuno (os yn ymuno ar ffurfiad y Drysorfa) i dalu £1 am bob blwyddyn y byddont uwchlaw 40 mlwydd oed." Dylai y rheol hon derfynu yn y fan yna. Pam yr oedd raid iddynt ganiatau i'r swm gael ei adael, a bod yn fler gyda pheth fel hyn Sylwodd Mr. Williams hefyd ar Adran 8, sef fod y derbyniadau yn accuraulatio am bum mlynedd cyn dechreu talu allan. Yn yr amcan gyfrif fe dybir pethau, ond ni ctjlUOiir yr accurmdcition i ystyriaeth. Yn ol a gyf- rifai ef, byddai tua £4,000 mewn Haw ar derfyn y pum mlynedd. Trafodwyd y cynllun ymhellach gan y Parchn. F. Jones, J. Hughes, M.A., O. J. Owen, M.A., O. Owen (Rhyl). J. E. Davies (Treffynnon), G, Ellis; atebwyd y gwr' ddadleuon gan y Parchn. Aethwy Jones, ac yna cymeradwywyd y cynllun, ac 0 ( X pwyllgor yn ei gyflwyno i actuary l gae farn ar ddarpariadau ariannol y cynllun. Trysorfa'r G-weinidogion. Cvflwvnwyd Adroddiad y Drysorfa ho" eto gan y Parch. R. Aethwy Jones. Roedd holl dderbvniadau'r drysorfa am Y £ 2,306/9/ a'r taliadau yn £ 2,4/8 J, diffyg o E172 6s. 3c. Wedi cyflwyno yr adroddiad galwyd. a* AU W. Venmore, yr hwn aa fu am flynyddoedct yn drysorydd y Gymdeithas, i gymeryd He ei frawd, Mr. James Venmore, y trysorydd presennol, ac i wneud sylwadau ar yr adrodd- iad. Drwg ganddo ddweyd nad oedd y derbyniadau yn cynhyddu fel yr oedd y tal- iadau, a'r fiwyddyn ddiweddaf yr oeddid wedi mvned yn ol. Ond ni ddvlai neb dybio ei bod yn mynd i lawr. Y ffaith oedd, fod y Drysorfa yn well allari nag ydoedd ddeng mlynedd yn ol o £ 2,376, a meddent £ 4,000 <j reserve fund ar gvfer collodion heb gyttwrcia a'r cyfalaf fel" nad oedd un rheswm dros ddychryn. Ond yr oedd un peth i w goho, sef na cheid yn awr gymaint o log ar yr arian ag a geid ddeng mlynedd yn ol. 1 ra yi oedd y pryd hwnnw yn bump y cant, met oedd yn awr ond prin 4 y cant. Y Parch. Evan Jones, Caernarfon, a ddy- wedodd inai da fuasai ganddo edrych ar bethau fel y gwnai y cyfeillion ereill, ond yr oedd yn ddrwg ganddo weled v Gymdeithas yn mynd i lawr. Bu i lawr o'r blaen, ac fe wnaeth ef gryn lawer o ymdrech i geisio ei chodi ond pe gwybuasai or cyeliwyn pa fodd y cerid y gymdeithas ymlaon, ni fuasai ,w erioed wedi ymuno a hi. Fel y gwyddent, petrcl y storm oedd ef wedi bod. Nid oedd wedi mynd yn hollol fel Jeremiah yn wr ynirvson i'r holl ddaear ond yr oedd folly hwyrach i'r holl wlad. Yn awr gwelid fod y taliadau wedi cynhyddu yn y deng mlynedd diweddaf £700, tra nad oedd y derbyniadau w wedi codi ond Y-100. Yn awr, yr oedd y sefyllfa yn ddifrifol iawn. Gwyddai y gsuUu cyfeillion fod yn garedig a chynorthwyo. Nid y cardotyn oedd yn mynd i lys y man-ddvled- ion--i-ial yr oedd ef ar gefn ar y banc-ond rhai gonest, yn treio talu eu ffordd, oedd yn mynd yno. Yr oedd yn rhaid iddynt hwy- thau ddarparu pethau onest yngolwg pob dyn Nid oedd yr un Gymdeithas Ys- wiriol ar y ddaear a dderbyniai ddyn heb ar- chwiliad meddygol ond derbynid rhai 1 i gymdeithas yma gydar unig amcan o bwyso a gorwedd arni. Yr oedd eglwysi yn talu dros weinidogion i'r Drysorfa er mwyn cael gwared ohonynt dynion yn gofyn am eu hordeinio gyda'r amcan o fynd ar y Drysorfa, a lliaws o bethau o'r fath. Yr oedd eisiau dweyd pethau fel hyn, ac nid fel yr cstrys clwl yn cuddio ei ben yn y tywod. Derbyniwyd yr adroddiad. Athrofa'r Bala. Cyfiwynwyd adroddiad pwyllgor arbennig parth Athrofa'r Bala gan y Parch. John Owen, Lerpwl. Cymhellai'r adroddiad fod gofyn i'r Parch. J. Williams, Brynsiencyn, ymgymoryd a chasglu'r swm anhgenrheidiol i osod cyllid yr Athrofa ar seiliau diogel. Cymhellai ymhellach, yn wyneb y galwad- au cynhydclol ar gyllid y Coleg, fod y Gym- deithasfa yn rhoi caniatad a chefnogaeth i Gyfarfodydd Misol ac Eglwysi, cystal ag i bersonau unigol, ofyn am roddion a chasgl- iadau at gyrraedd y gweddill o'r £10,000 oedd yn eisiau at gronfa'r Athrofa. Cymhellid symud ymlaen i ddewis Athro Hebraeg ac "roedd g.wir angen Cadair Dysgu Bugeiliaeth yn yr Athrofa ond nid oedd y drysorfa yn atebol i hynny ar hyn o bryd. Mr. J. Pv. Davies (cadeirydd y pwyllgor) a ddywedai fod £3,000 o'r £10,000 oisoes wedi ei gael. Cydsyniodd y Parch. J. Williams a chais y pwyllgor, ac y gwnai a allai ar ran yr Athro- fa. Nid i [godi cyflogau'r athrawon 'roedd eisiou'r arian, er fod y rlieiny'n ddigon bych- am o'u cymharu a'r hyn a delid i rai o atliraw- on y sgolion. canolradd Cymru. Pasiwyd yr adroddiad. Ddydd lau, Am 8-30, cynhaJiwyd y Seiafc Gylfred- inol, pryd y siaradwyd ar Crist yr Unig- anedig gan y Llywydd, y Parchn. G. Ellis, O. Owens, E. Davies (Trefriw), a J. Puleston Jones. Pregethwyd yn y gwahanol oedfaon gan y Parchn. Francis Jones, J. Hughes, M.A., G. Ellis, M.A., O. Owens, J. Williams, J. Puleston Jones, M.A.
CYMRY'R DISPEROD:
CYMRY'R DISPEROD: OENHADAETH GYMBAEG LEEDS. Cyhoeddiadau'r Sul nesaf. LEEDS—10-30 a 6-30, BW Davies BRADFORD—3 a 6, J Wesley Morgan FEATHEESTOSE—2-30 a 6, J Parry-Brooks Eisteddfod Tyldesley. DDYDD Sadwrn diweddaf, cynhaliodd. Meth- odistiaid Cymreig Tyidesley, swydd Lancaster, eisteddfod lwyddiannus Mr. GreonaU, Y.H., yn y gadair Mr. E. M. Powell, Manceinion, yn arwain Mri. W. M. Roberts, Gwrecsam, ac Emlyn Davies y Rhos yn barnu'r canu Mri. H. Davies ac S. Jones yn cyfeilio ac yn ysgrifenyddion, T. R. Griffiths a R. Jones. 'Roedd dan gyfarfod ac yn y pryhnawn, enillwyd fel y canlyn Ar y berdoneg, 1, Evan Gregory, Tyldes- ley 2, Master Clough, Atherton. Adrodd "Diiivstr Sodom a Gomorrah," 10/6, Miss Price, Eccles, ac Evan Evans, Birkenhead, yn gydradd. Her-unawd, Life's Gift," Fl /I D. R. Jones, Birkenhead. Unawd y bech- gyn, Loudly Proclaim," 7 /6, R. Williams, Earlestown. Ar y crwtli, Harry Hall, St. Helens. Pedwarawd, o ddewisiad y parti, 30/ Empire Quartet, Oldham. Ail gyst- adleuaeth gorawl, Wei, f'enaid, dos ym- laen." i leisiau cymysg, £5 (5 J-, Stockport -ii't -is Cambrians, tan arweiniad E. L. Williams. 'Roedd v Miners' Hall yn orlawn yn yr hwyr, ac fel hyn yr enillwyd :— Ar v berdoneg, i bob oed, Miss A. M. PoweH, Choadle, Hulme. Adroddiad Saes- neg, yn nhafodiaith Gaerhirfryn, "Come whoam to thy childer an' me," 10 (G, .f.W K.. Loigh. Y brif gystadleuaeth gorawl, On the ramparts," i gorau meibion, £10/10(-, a gwobr arbennig i'r arweinydd, Cor Warr- ington (tan fatwn Nesbitt). Unawd tenor, "Y bachgon dewr," El /I D. R. Janos, Birkenhead. Her-unawd i ferchod, ] ^)ard the voice of Jesus," £ 1/1 /-> Oflive Law, Leigh, yr hon hefyd a enillodd yi unawd contralto, "Modia.tion," Unawd tenor, 21 All mine own," J. Darby- shire, Hindley Green. Canu ton gvnulleid- faol, "Ellorslie" (cyfansoddiad Miss A. M. Powell), yr unig barti gystadlodd, yr Oldham Hamonic, yn deilwng o'r 35 Unawd- Soprano, Y Gloch," 211- Margerite, Old- ham. 'Roedd y gwobnvyon yn rhai pur deil- wng, a'r holl gystadleuon wrth fodd y beirniaid. Beirniedid yr adrodd gan y Parch. W. A. Bryans-Jones, Mri. E. Prit- chard a J. M. Ely. -0-
O'R MOELWYN I'R GOGARTH.
O'R MOELWYN I'R GOGARTH. [Can GWION BACH.] Y GWE JJIA'R OA DAIR. — Dymunol gennyf gymeryd hamdden a chyfle i longyf- arch Mr. Owen Jones, Dolawel, a phrif Or- uchwyliwr Chwarelau Oakeley, neu fel yr adwaenem of oreu yn awyrgylch y Steddfod Fawr ystalwm, Pant-yr-Hedydd, ar ei ad- gadeiriad eloni eto ym Mwrdd Undeb y Pen- rhyn. Nid oes amheuaeth ym meddwl a rhai na chyd-olygent ag ef ar bob pwynt, nad yw y ddawn i gadeivio wedi ei hestyn iddo gan. law Natur. TAN G W 111 WJJ. Er nad difyr y gorcliwyl o ymhel a chymylau, nis gallaf osgoi cyfeirio at y cwmwl ddringodd i awyrgylch amgyleh- iadau Ffestiniog nos lau ddiweddaf, oiid ni fydd iddo arllwys ei gynhwysiad ar ein pennau am tua mis eto. Cyfeirio yr ydwyf at y rliybudd a gafodd trichant a rhagor o woithwyr Oakeley, y byddai yn rhaid eu hatal ymhen y mis. Hwyrach y tyrr gwawr o rywlo, ac mai yr awr dywyllaf yw'r agosaf i ddydd. GWILYM YN ("WLA. hysbyswyd vn swyddogol nos Wener, fod Gwilym Allt- wen yn gwla tua Phenbedw yna., ac nid oos gennyf ond eidduno y gwawria hyfryd fore adferiad ar ei ben hardd yn fuan, a dilys gennyf fod llu yn ei hen fro yn cytuno a mi yn hyn o beth. (JYNGERDD TAN GAM I'. Dyna yn wir a gafodd y Cor Merched nos lau ddiweddaf yn neu add y Blaenau, pryd y cadeiriai Richard Barton, Cartre, dyna i chi batrwm o enw ty, a hynny gan Sais pur. Dim ond gair fel yna wrth fyned heibio. Cynorthwyid y Cor gan Miss Lewis, o Senghonydd, yn dra effeithiol. Canai'r cor, a'r corau ran hynny, wrth ein bodd, ond digwyddodd anffawd gyda chadwen alawon yr Isallt, fel mae gwaetha'r mqdd, er na ddigwyddodd dim dinystriol iawn,'g well fuasai y gadw en yn gyfa- Nid oes gennyf ond dymuno'n dda i'r Cor a'r arweinydd, Mr. Tudor Owen, nid wyf yn cofio'r wyddor sydd ar ol ei onw, ond pa raid ategu derwen a chorsonnau brwynMiss Owen-Davies a redai'n esmwytli tros dannau'r berdoneg. AM WYNFYD Y GYMANFA. .Soniai llawer am hynny yr wythnos ddiweddaf, gan mai dydd Sadwrn y cynhaliai Anibynwyr y cylch eu Cymanfa Ganu flynyddol yn Jerusal- em, y Blaenau, o dan fatwn yr hen arweinydd clodfawr, Mr. Cadwaladr Roberts, a phe chwilid o Fon i Fynwy, ni fuasai eisieu ei well. Cafwyd canu effeithiol ac addoliadol, fel y sylwai rhywun. Miss Owen-Davies a ganai yr Organ, ac yr ocdd yn gan i gyd. Cymanfa ragorol oedd hon. BILYN YN DJJYN Y DI)OL. -Yji Nol- yddelen, yr oodd Mr. Silyn Roberts, nos Sadwrn, yn annerch ar y pynciau sydd wedi dwyn ei galon, i lonni yr Eloniaid. Ni raid synnu fod arddeliad ar y genadwri, ac fod y gwrandawyr yn cymeryd y cwbl i mewn, a gobeithio y gwna ddygyxnod a hwy yn yr amseroedd celyd yma. Gwasanaethai'r gwr parchedig ym Moriati y Sul hefyd. YR HEN-HANES.Cyiilialiai Anibyn- wyr y Bettws eu gwyl bregethu ddydd lau diweddaf, pryd y traddodwyd yr Hen Hanes gyda newydd-deb He arddeliad gan y Parchn. Gwylfa Roberts, Llanelli, a John Hughes, o'r Blaenau. HEIRDD ARWYR 0 GERDD0R10N. Dymuna y dyffryn o ben i ben longyfarch dau o'i gorddorion ar eu llwyddiant diwoddar oil, set Mr. Josef E. Jones, o Gonwy, yr hwn a gipiodd y wobr am gyfansoddi rhangan yn v Fenni, a Mr. D. R. Jones, gynt o'r dre, yr hwn a gipiodd ddwy or prif wobrau nos Sadwrn, mown Eisteddfod yng nghyffiniau dinas y BRYTHON. SYR HERBERT.—Y nos or blaen, talodd Syr Herbert Roberts, Marchog y Sir, ymwel- jad ag Eglwysbach, a chynhaliwyd cwrdd oJ I llewyrciius er ei fwyn. Sonir am lu o gyrdd- J au ereill a gynhelir ar hyd a lied y dyffryn gan. Apostolion Masnaeh Gaoth, ond y mae brcn- hinbren Rhyddfrydiaeth wedi gwreiddio yn rhy ddwfn yn naear y wlad hon i'r math yma o awelon siglo dim ar oi frigau, ond ni wna tipyn o storm etholiadol uurhyw niwaid iddo, ond par iddo ymgadarnhau fwy-fwy. CYRDDAU DARP AR.-Prysur iawn yw Anibynwyr pen isaf y dyffryn wedi bod yn darpar ar gyfer eu Cymanfaoedd. Mawr ganmolai Mr. J. P. Griffiths o Gonwy v. aith y cantorion yn y gwahanol eglwysi. BE WRION DIR WEST. Cyuhalivvyd cyd-gwrdd dirwestol y nos o'r blaen yng nghapel Broad Street, y Gyffordd, o dan nawdd IJndebau y Ffordd Haearn a Merclied Gwynedd, yr hwn, meddir, oedd yn gload ar y tymor. Beth yw ystyr hynny ? ond mae'n debyg fod amser i weithio ac amser i beidio gyda'r Gymdeithas hon, fel cymdeithasan ereill. GWYL FA[.—Ddydd Mawrth nesaf y dethlir yr wyl hon yn Llandudno, ac y mae darpar mawr ar ei chyfer, fel ag y gellir gwyl na bu ei bath yn y dref hon.
Advertising
u- CODI'R HWYL Sef Llyfr Newydd o Adroddiadau. gwedi eu cynnull gan Olygydd y Brython. 154 o ddarnau. 192 tudal. Pris Swllt; Llian 1 16. Drwy'r post 1/2 a liSt. Y Sylltaid 1 2 mwyaf o Adroddiadau a gyhoeddwyd erioed yn Gymraeg.—Evans, Sons and Foulkes, Swyddfa'r Brython, 356-358a Stanley Road, Lerpwl YN AWR YN BAROn. 'HOMILIAU" Gan EMRYS AP IWAN" (Ail Gyfres). Ynghyd a'Syhvadau ar Fywyd a STodweddion yr Awdwr, gan Mr. EZRA ROBERTS, Ruthin. Hefyd darlun cywir (a'r diweddaf a gymerwyd) o'r Awdwr. Pris y Gyfrol wedi ei rhwymo mewn llian, 3s. 6c. Cyhoeddwyr:—GEE a'i FAB, Cyr., Dinbych, 'Cynnwysiad- Orefydd a Gwareiddiad Genesis iv. 19-26. Duw yn darian, a Duw yn wobr Genesis xv. 1. Pa fodd i fod yn ieuanc Psalm ciii. 1-5. Bain, Oyfiawnder, a Thrugaredd Jeremiah ix. 23-24. Llwyddiant Ysbrydol Hosea xiv. 5. 6. Y Ddau Orphwysdra Matthew xi. 28-30 Y Tair Ewyllys Matthew xxvi. 42. losturi yr lesu Marc vi. 34. Y Ddau Win Luc v. 39 Pwy yw fy N ghymmydog Luc x. 29—37. Gwir Drysori-Trysori i Dduw Luc xii. 15-21. Y Mammon Anghyflawu i Luc xvi. 9. Y Ffyrling a'r Demi Luc. xxi. 6. Pa ham na Ohredwch loan viii. 46. Y Gorchymyn Newydd loan xiii. 34, 35. Ceisio. Pa fodd. Pa beth. Pa ham. Rhuf. ii. 7. Crefydd yn Ufudd-dod Rhuf. vi. 17. Crist a Phechadur. Dyfod a Chadw 1 Tim. i. 15. Cadw trwy ddiscyblu Titus ii. 11—13. Dylanwad da. Disgwyliadau uchel Heb. xi. 9, 10. Rhedeg yr yrfa. Pa ham a pha fodd Heb. xii. 1, 2. Plant ydym. Meibion fyddwn 1 loan iii. 2. COIWUn Bag Royal National EisismiiM Dramatic Male Chorus (specially composed as Test Piece for the above) The Battle of the Baltic (Brwydr y Baltic.) Music by T. OSBORNE ROBERTS. O.N. 6d. S.,3d. New Song in Low Key and High Key- A Lullaby (Can y Preset)" Music by T. OSBORNE ROBERTS To be obtained of all Music Sellers or of the Publishers- THE CAMBRIAN MUSIC PUBLISHING CO. 27 Brazennase Strait, M A\CHS3T £ iV. Ready in the Autumn. Price 10/= net History and Antiquities of Wales FROM THE EARLIEST PERIOD TO THE PRESENT TIME. Including j|hitherto unrecorded jaijtlqtiariaii Lore. By O. MORIEN MORGAN Orders 1: ccoivod by- EDWARDj HOWELL, 83 Church Street LIVERPOOL. MEDLEY'S tt PECTACLES IGHT 6 PEC1AL1STS OLE ATTENTTO EARCHING EXAMINATIONS 2 1GHT bEstablished! 1835, UBJECTIVE AND OBJECTIVE Artificial Eyes made to the Sockets, with dilating Pupils II BELMONT ROAD. 'Pbone-30 11 Central- ¡J W. G p, I F IF dl Tailor, 29JSOUTH JOHN STREET, LIVERP OOL JLLSO AT] LE, 349 STANLEY ROAD, BOOTLE, —*2Tx Boots arB VALUE fOJlI I Pkf Ladies' 6 Gents in Great Vafl 51 & 53 Paradise st. The only address BEAUMARIS 01 14 firammar & County sch Chairman of;Governors, Sir R W. BULKED edil The School offers sound and practial eedtJlØ. in healthy surroundings, under experieD Honours Graduates. Modern sneO' ment—perfect sani tation. The cliD-iat suitable for delicate boys. Boarders the School House, and are under the p care and supervision of the Headmaster Madoc Jones, Successes gained bj Beaumaris PUP' Cl^'j years include First Places in Mathemati > & History, and Entrance Scholarship3 (3), Loudon Hospital and Welsh UnV" IpreW also Civil Service, Banks, and professio Exams. Terms moderate. Prospectus from E. MADOC JONES, M.A., ar I J ¥ ^lieWP0ST 5/- T0-pA\ BUY DIRECT Per FACTUI,HE — HTTYS either L^/J ACTUAL Gr-nt's ° thee1 MAKERS. „ f V Frce-^Li Machine. C< 'ii[>lcte iv jjgr.lnve (5 I amp, BelI, lyfngs, Reliance Engin^^ 682C j A Perfect FOR Smoky Ch itniley§ For lull p»rtlc"ls"A'«, Robi. Hugb" Robi. Hugb" 1 N VENT^S' PATENX& » SOLE AGJi1' g)„ 12 Sopbia LIVEI?POof)? Telep Experience LDNDON 1 :u4 MAlÝ BRANCHES IDOPO 10 The Largest and most compile g in the North of England. The Left Removals and Storage. Eemtivals to jfod Ocntinent, and Colonies, a speciality* terms and quick despatch.—i,|V™ OFFICES—BRONTE ST„ RUSSELL And at London, Manchester, „„] Leeds, Leamington, Gloucester a 1/eTø, Tel. 2067 Eoyal Telegrams ROM over$, D. R. JONES (Alaw Madog), PIANOFORTE & ORGAN DEALER. MUSIC PUBLISHER, £ >c. ■ 1 103 Hampstead Rd., LiverP Beirniad Cerddorol ac Arweinydd Cymanfaoedd CanU (Telerau Rhesymol) NEW CATALOGUES of Pianos, Organs, Harmoniums, &c., TERMS—On the Iii re-Purchase System or Cash. Tuning and Repair*11# Estimates given for Pipe Organs, Free. Catalogue of Welsh Songs, <5c, (Over 600). „ Also containing all the latest Musical Books, such as :—" Gems Selectio^ o0t^ of Wales," by D. Emlyn Evans, &c. with English and Welsh Words and both Prices (best cover), 3/6 Cloth, 2/6. Postage 4d. ais) CANTATA—" Y Cynhauaf (The Harvest), by Miss A. J. Wijlif^d Performed with grand success at Llangollen National Eisteddfod, praised by the best musicians. Very suitable for chorus of 50 a Prices—O.N., 2 /6 and 2 • Sol-ft'a, 1 English and Welsh Words. k USUAL DISCOUNT FOR QUANTITIES, I