Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

Advertising

IL LITH UNDAIN

News
Cite
Share

I L LITH UNDAIN [CAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG]. Y Br if Ddinas, Nos Fawrth. Noson Cymru. NOSON bwysicaf yr wythnos yn Nhv'r Cyffredin oedd Nos Ferclier, noson dwyn i mewn Fesur i Ddatgysylltu a Dadwaddoli Eglwys Loegr yng Ngliymru, a'i ddarllen y tro cyntaf. Yngofal y Prif Weinidog ei hun y mae'r Mesur, ac efe a oglurodd ei ddarpariadau. Gwnaeth hynny mewn araith nodedig o glir a chymhedrol. Danghosodd ei fod yn bur gyfarwydd a hanes crefydd yng Nghymru, ac yr oedd y rhesymau a ddygodd ymhlaid y Mesur yn anwrthwynebol i bob meddwl heb ei ddallu gan ragfarn a cliariad at hunan-elw. Nid yw'r Mesur wedi ei gyboeddi eto, ac felly rhaid boddloni ar nodi ei brif ddar- pariadau. Trefnir i'r Datgysylltiad gymeryd He ar y dydd cyntaf o Ionawr 1911, ac ar ol y dyddiad hwnnw bydd yr Eglwys Esgobaethol yng Nghymru yn Eglwys rydd, ar wahan i Eglwys Loegr,' ac ni cbaniateir i'r un o'r pedwar Esgob cistedd yn Nh)r'r Arglwyddi. Yn raddol y daw Dadwaddoliad i rym. Caiff pob gweinidog yn yr Eglwys, o'r Esgob hyd at y curad distadlaf, ei gyflog yn llawn cyliyd ag y byddo byw. Trosglwyddir i'r Eglwys Ddadsefydledig yr boll eglwysi a'r ) persondai. a pliarbeir awdurdod y per- soniaid ar y niynwentydd. Oddieithr mewn dwy adran yn unig y macr dar- pariaclau ynglyn a Dadwaddoliad bron yn hollol yr un fath a darpariadau Mesur 1895. Yr adrannau newydd gwahanol yw'r adran yn sicrhau i'r Eglwys feddiant o'r Eglwysi Cadeiriol, a'r adran yn creu Cyngor Cenedlaethol Cymru i reoli defn- yddio'r arian oddiwrth y degymau a'r gwaddoliadau fel y syrthiant i mown. Byd(1 llawer yn anfoddlon i'r gyntaf or ddwy adran hyn, am y credant y dylai r Eglwysi Cadeiriol gael eu gosod at was- anaeth yr boll genedl heb wabaniaetb sect. Ambeuaf a fuasai adran o'r fath yn cad ci derbyn o gwbl ym Mesur 1895. Am yr adran arall, y wellbad dirfawr. Eiddo cenedlaethol yw r deg- ymau, ac yn genedlaetliol y dylid eu defnyddio, gwastreffir gormod o lawer o eiddo'r cyhoedd eisoes ar fan achosion a sefydliadau plwyfol a sirol. Nid yw Cymru yn rhy fawr i ddelio a hi fel Cyulru gyfan, a sicrheid chwareu teg i bob cvvrr olioni folly. Y Ddadl. Nid oes fawr i'w ddweyd am y ddadl a gafwyd cyn y darlleniad. I ran olynydd Stanley Leighton, arclt-regwr Ymneilltu- wyr Cymru, y syrthiodd arwain y gwrth- wynebwyr. Cynhygiodd ef welliant, yn gohirio darllen y Mesur y waith gyntaf hyd oni cliyhoeddir adroddiad y Ddir- prwyaeth Eglwysig. Nid oedd dim yn ei araith heblaw chwerwder a digasedd, a cherddodd y rhan fwyaf or aelodau allan o'r Tý yn lie gwrando arno. Ac ni fu ei eilydd, Mr. F. E. Smith, yn abl i roddi fawr o fywyd yn y ddadl-peth pur eithriadol yn ei bancs ef, hefyd, oblegid un medrus i ddadleu dros achos gwael ydyw. Gwnaeth amryw ddatganiadau disail, am y rhai y galwyd ef i gyfrif gan Mr. Ellis Griffith, ac nid yw'n debyg y bydd y gwr tafodrydd o Lerpwl raor barod i osod ei hun yng nghrafangau yr aelod dros Fon o hyn allan. Ni byddai o unrhyw ddiben i fanylu ar y siarad, ni feddai cefnogwyr y gwelliant ddim rhesymau a'r cwbl a fedrent wjreud oedd galw enwau drwg ar y Llywodraeth a'r Blaid Ryddfrydol. Ond ni chawsant lawer o hwyl hefo'r gorchwyl hwnnw cliwaith, hyd nes i Balfour godi ar ei draed. Aeth ef tuhwnt iddynt oil, a chymerai arno, o leiaf, fod eiddigedd dros iawnder yn ennyn o'i fewn. Ond y mae Tv'r Cyffredin wedi cynefino a hysterics Balfour erbyn hyn, yn enwedig pan fydd pynciau a ddaliant berthynas a hawlfreintiau y bondefigaeth dirol neu eglli-ysig o dan j sylw. Pan gymerodd y rhaniad le, yr oedd 90 dros y gwelliant, a 262 yn erbyn. Gallasai y gwrthwynebwyr hawlio rhan- iad drachefn ar y cwestiwn a roddid caniatad i ddarllen y Mesur neu beidio ond nid oedd ysbryd yhddynt, a'r can- lyniad oedd i Fesur Mawr Cymru fynd trwy y pprth cyntaf gyda chydsyniad unol Ty'r Cyffredin. Beth am y dyfodol ? HYD y deallaf fi, nid oes neb yn amheii nad ail-ddarllennir y Mesur, os nad cyn y Sulgwyn, yn fuan iawn ar ol hynny. Gofynodd un or Toriaid ddoe Ïr Pnf Weinidog ymrwymo na chymerai r ail- ddarlleniad le cyn y byddo'r aelodau Ty wedi cael cyfle i ymgydnabyddu ag adroddiad y Ddirprwyaeth. Gwrthododd Mr. Asquith ymrwymo i ddim byd fath, yn y modd mwyaf pendant. Ond pan gyfeirir at y cwrs ar ol yr ail-ddar- lleniad y mae barnau yn amrywio yn ddirfawr. Mynn y I oriaid nad oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i'w yrru ymhellach. Ac y mae adran o'r Rbydd- frydwyr-yr adran honno y mae'r Daily New# yn enau iddi—yn gwneud ei gorcu i berswadio'r Weinyddiaeth i bcidio gwastraffu rliagor na hynny o ainsfT arno gan mai ei daflu allan a wna Iyr Ar- glwyddi. Anodd gwybod beth sydd yn cvnhyrfu ac yn cymell yr adran hon. Gwyddai v llyneddliyd at sicrwydd mai tatlu allan y Mesur Trwyddedol wnai r Ty uchaf, ond ni soniodd air am beidjo gwastraffu amser arno. Rhaid peidio anghofio fod yr adran hon gan mwyaf yn Ucliel-Eglwyswyr, ac mai cyd-waddohad. ac nid dad-waddoliad, yw ei delfi) f • Wedi holi a gwrando gorcu gallaf. fy marn yn awr ydyw fod y Llyw'odraeth yn bwriadu cario'r Mesur drwy Dy r Cvffredin yn ystod y tymor presennol, oddigerth iddi ddyfod i drallod gyda'r Gyllideb. Ond na feddvlied Cymru fod hynny yn sicr. Y mac galluoedd < i'\ fi mi i yn milwrio yn ei herbyn, ac os yw am 11" Mesur gael ci anfon i'r rl y L chaf, rhaid iddi ddangos ei bod o ddifrif o'i blaid, a chodi lief fel udgorn yn erbyn y syniad o'i adael i farw. Dylid trofnu yn ddiocd t osod yr actios gerbron \inncilhuwyr Lloegr, oblegid y mae llawer ohonynt, n ddifater iawn yn ci gylcli. A dylai rwymo ei haelodau i bwyso ar y Llyw- odraeth fod y illvsur i'w ystyried gan Clrund Committee, ae nid gan bwyhgor o'r boll Dv. Os dywed Cymru fod yn rhaid danfon y Mesur i Dy'r Arglwyddi, fy nghrcd ydyw y gwneir hynny. t, I Y Gyllideb. Yn un diwrnod ag y rhifyn ncsai o'r Brython or wasg, bydd Canghellwr y Drvsorfa yn gosod gerbron ei Gyllideb gyntaf. Dvfelir llawer both fydd ei nodwedd, ond byddai yn werth cofio mai dyfaliadau hollol yw'r pcthau a gyhoodd- wyd yn v newyddiaduron cr's dyddiati. Yr wyf yn cael fod cryn Avahaniaeth yn nyfaliadau y bobl fwyaf tebyg o fedru dyfalu yn gywir. Cred rhai ydyw mai cyllideb lied gyffrcdin fydd hi, bob ynddi fawr ddim i ennyn brwrifrydedd v Rliydd- frydwyr nag i gyffroi digofaint y Toriaid tra y mynn ereill y bydd y Gyllideb bwys- icaf a osodwyd gerbron v Senedd er y flwyddyn 1894 o leiaf. Y mae rhai o gyfeillion ffyddlonaf y Canghellwr yn teimlo graddau o bryder. rliag ofn i nod- wedd y Gyllideb gymylu gloywder ci gymeriad gwleidyddol ef. Bydd ei araitli yn sicr o fod yn fedrus a hyawdl, ond prin y gwnai. hynny ialwn am gyffredinedd darpariadau'r Gyllideb. A fydd hi yn ddemocrataidd a diwygiadol ?—dyna r cwestiwn Pe na ddigwvddai fod felly b i'r graddau y dymunid, nid teg fyddai gosod yr holl fai ar ysgwyddau'r Cang- hellwr ei hun. Tybiaeth ddisail yw r dybiaeth ei fod yn cael Haw rydd gyda r Gyllideb. Rhaid iddo ei gosod gerbron ei gydaelodau yn y Weinyddiaetli, a cliael eu cydsyniad hwv i bopeth ivdd ynddi. Rhaid cofio fod naill banner v Weinyddiaeth bresennol. o leiaf, yn bendefigion, heb fwy o gJdYlndeimlad a democratiaeth nag sydd yn anhebgorol angenrheidiol.