Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

ttTROAD Y RHOD.99

News
Cite
Share

ttTROAD Y RHOD.99 [GAN GWYNETH VAUGHANJ. PEN NOD Vill--Y DEDDFAU ANWIR. CYNi flwyddyn Edward Jenkins yn yr Ysgol Ramadegol ddyfod i ben, cynhyrfwyd hen fwrdeisdref dawel LI an Elen o benbwygilydd gan Etholiad Seneddol. Ond cyn yr adeg honno, bu yno helynt arall adawodd gryn lawer o'i hoi ar feddwl bywiog y bachgen. Wrth ddychwelyd adref oddiwrth oi waith un diwrnod, gwelodd gweithiwr tlawd ys- gyfarnog fechan yn croesi'r ffordd o'i flaen. Cofiodd y dyn am y llond ty o blant newynog -rywfodd medd plant ryw allu rhyfedd i hwylio i gartrefi tlodion heb nemor ddim ar eu cyfer-a daliodd yr ysgyfarnog, ac yn y man paratowyd hi i'r crochan. Ond druan ohono, gwelwyd ef, ac aethpwyd a'r creadur o flaen ei well ar fyrder. Yr un diwrnod yr oodd vno achos arall hefyd yn cael ei drin. Bu i ryw ddyhiryn meddw banner lladd ei wraig, ac yn ol pob tystiolaeth cafodd y ddynes anffodus ei maeddu a'i dolurio yn ddi- drugaredd. Ond dyfarniad y tir-feddianwyr a eisteddent i ystyried yr achosion oedd fod i'r dyn ddaliodd yr ysgyfarnog fyned i'r carehar am flwyddyn, sut bynnag fywyd fyddai i'w wraig a'i blant yn y cyfamser a rhwymwyd y dyn fu ymron a lladd ei wraig i gadw'r heddwch am ehwelmis. Pan gyrhaeddodd Edward i Dy'r Gwydd y noson ar ol y dyfarniad i dreulio ei Saboth adref, yn ol ei arfer, yr oedd yr hen weithdy yn 11awn o ddynion yn trafod y mater, a chan mai gweithiwr cyffredin oeddynt bob un, er yn meddu dijgon o aynnwyr yn eu pennau, nis gallent yn eu by w amgyffred y ddeddf anwir alluogai'r llys i weithredu fel y gwnaeth. Wedi taflu ei hot ar gadair yn y ty, a rhoddi ei becyn ar y bwrdd, ffwrdd a'r baehgen i'r gweithdy, a'i gwestiwn cyntaf i'w ewythr oedd—heb gymeryd sylw o -nob arall o'i gwmpas Newyrth, ydi 'sgwarnog yn fwy o werth na dynes ? Mae Dic-" Aros, machgan i, i gymryd dy wynt. Mae pawb yma yn gwybod beth ddigwyddodd yn Llan Elen bore heddyw, ac mae'n warth i'n gwlad ni fod yn bosibl i'r fath anghyfiawn- der yn 'i chvfreithiau hi fod yma." Ie, ond newyrth, yr oedd y bechgyn yn yr ysgol yn doyd bod y gyfraith yn iawn, a mi ofynais i iddyn nhw oedd sgwarnog yn fwy o werth na'u mam nhw, a mi ddaru'n chwerthm am v mhen i, pan ddeydais i bod y mam i yn fwy o worth na llond byd o sgwarnogod." Do, mae'n debyg gwawdio'r tlodion ydi arfer y mawrion, pan feiddian nhw godi u Heisiau yn erbyn anghyfiawnder." Sut mae cyfraith fel hyn, newyrth ?' Wel, y cyfoethogion, y dynion bia r 'sgyfarnogod, bia'r hawl hefyd i neud y cyf- roithia,—dyna'v pam y mae'r gyfraith i gyd o ochor y gwr mawr a'i eiddo, ynte gyfoill- )on ? Mae'n ddigon anodd i un heb gyn- efino a'r hen fyd yma beidio rliyfeddu at y fath anrhefn sydd yma. Mae un petli wedi fy synnu fi yn fwy na dim arall er's stalwixi bellach amynedd gwerin gwlad yn wyneb camweddau o'r fath." atebai William Jones, a'i law ar vsgwydd ei nai iouane, ond yn edrycb ar y dynion eisteddent mewn rliyw gornel y ceid lie, tra'n siarad am yr helynt. "Mi ddaw tro ar fyd ryw ddiwrnod, a thro ofnadwy fydd hwnnw, pan fydd y rhai sydd megis yn cysgu wedi deffro," ebejui) hen frawd oedd a'i bwys ar gorn o wlanen, a dyna vdi'r rheswm pam ma'r gwyr mawr yma yn gneud pob sgiam i'n suo ni i gysgu yn drymach, ac ofn am 'u bywyd i ni gael tipyn o addysg i'n plant, na dim o ran hynny egvr 'n liygaid ni i weld y byd fel y mae o, yn lie fel y mynnant hwy i ni gredu ei fod o. Mi fydda i'n meddwl fod yna ryw ddydd eyfri ofnadwy yn disgwyl y wlad yma fel gwledydd ereill yn y man." Gwae y rh?u svdd yn gwneuthur deddfau anwir, a'r vsgrifenyddion sydd yn ysgrifennu blinder, i ddymchwelyd y tlodion oddiwrth farn, ac i ddwyn barn anghenogion fy mhobl," ebe hen wr ar bwys ei ffon, dyna'r Ysgrythyr ar y pwnc, ac nid a un iod nac un tipyn o'r gyfraith heibio hyd na chwblheir oil. Wydd- och chi, ffrindia, mi fydda i yn meddwl mai ychydig iawn o'r Beibl mae'r bobol fawr yma yn wybod am dano fo, ond mi ddyliech fod nhw'n grefydd i gyd. Ond y gwir ydi, mae nhw'n dywyll iawn yn 'u Beibla. Mi fuo Phoebe ni acw yn gweini hefo teulu andros o uchel tua'r 'Mwythig yna, a mi fyddan yn mynd a dwad i Lunden a mwy o helynt hefo nhw, ond welodd Phcebe yr un ohonyn nhw va meddwl am agor Beibl tra bu hi yno. Mi fyddan yn mynd i'r Llan bob bore Sul, wrth gwrs, a'u Common Prauar hefo nhw, wedi'i bacio mown rhyw fag bach gwerth arian mawr, ond mi fvdd Phoebe yn deyd bob amser y byddai'u ty nhw fel ffair cyn nos, ac na fasa neb bvth yn meddwl bod hi'n ddydd Sul yno. Fycldai'n meddwl wir nad ydi'r bobol ddim vn gwbod fod yr Arglwydd wedi siarad mor blaen wrthyn nhw yn 'i Air, a lie cewch chi berson ne bregethwr fasa'n meiddio deyd y gwir wrth wr bvnheddig ? Yn wir," ebe William Jones, mae n gas iawn gen i weld cynifer o honyn nhw yn troi i Gvmru yma i feddiannu'n gwlad ni. Mi ddon a'fi drwg arferion hofo nhw, 'rwy'n ofiii. Mae'u dvwecl nhw yn siarad crefydd, ac yn son am Brydain grefyddol, yn ormod i ddyn i'w ddal lief yd. Mi gawn bron yr un faint o grofydd ag a gawn ni o bolitics y lecsiwn nesa yma, daiiweh chi sylw. Ac mi fydd arna'i ryw ddychryn, eoeliwch chi fl, clywed pobol anuv/iol yn cymryd arnynt fod yn grefyddol." Ma nhw ddigon a chodi pwys ar wenci, William Jones, 'rydach, chi yn y'ch lie. Wyddoch chi both ydi f'adnod i i'r creadur- iaid yna fel oedd yn Llan Elen bore heddyw ? Dyma hi: Canys gwynt a hauasant, a chorwynt a fedant." Ma rhai o honon ni wedi darllen sut y buo hi tua Ffrainc yna stalwm, a mi fydd raid i bobol y wlad yma golli afonydd o waed. cyn y daw petha i'w He. Hwyrach na ddaw hynny ddim yn y'n hamsor ni, ond mi ddaw, mi ddaw, pan gwyd y dyn i arwain y bobol." Mi na'i hnrwain nhw pan fyddai'n ddyn," ebo Edward ieuanc, a'i lygaid yn disgleirio. Na nei, maehgen i, na nei. Mae'n rhaid. caol Moses o ddyn at y gwaith hwnnw, a Vlwyt ti ddim yn rhyw debyg iawn i Moses. Mi nei di dipyn o swn yn y byd yma os cei di f y w 'rwyt ti'n leicio swn ond rhaid i ddyn wedi'i greu i fod yn arweinydd pobol o'r oaethiwed fedru gneud un peth na fedri di byth. Peidiweh a digio, William Jones,— 'rydach chi'n ddyn call, a mi rydach chi'n siwr o fod wedi deall Edward cyn hyn, ac wedi i gweld lie bynnag y bydd o, y bydd yno ryw swn mawr, digon a pheri i ddyn feddwl fod y gwenyn yn heidio o'i gwmpas o, a merched y wlad yn curo'r padelli ffrio." Plant ydi plant," ebe William Jones, gan wenu. Yr oedd Edward yn anwyl iawn i'r hen lane, ond yr oedd yn ddigon doeth i ddeall na wnai tipyn o feirniadaeth ddrwg yn y byd i'r bachgen. Ie, o ie, a'r plentyn ydi tad y dyn, 'does dim dowt, a dyna oeddwn i'n mynd i ddeyd wrth Edward. Pan oedd yr hen genedl wedi digio yr Arglwydd, mor fawr fel y mynnai Efe eu dinystrio bob copa ohonynt, sut fu hi rhwng yr Arglwydd a Moses ? Os ydw i'n cofio'n iawn, mi gafodd Moses gynnyg go dda pan oedd yr Israeliaid wedi digio Jehofa. Gad i mi ddifetha'r bobol yma,' meddai'r Arglwydd wrtho, a mi gei di fod yn gen- hedlaeth fawr yn 'u lie nhw.' Ond na, yr oedd' Moses yn caru'i genedl yn fwy na fo'i hun, ac mi grefodd am faddeuant iddi hi nes y cafodd o hefyd. Wel, Edward bach, tae ti'n mynd cyn hyned a Methusaleh, fedri di byth lenwi lie Moses, achos fedri di byth garu neb, na chenedl na phobol, na neb ar y ddaear yma, gystal a thi dy him. Mae yna siawns i ti, fel i bob bachgen arall, neyd rhywbeth ohoni hi yn yr hen fyd yma, ond paid ti a meddwl medri di lenwi 'sgidia Mosos. Rhaid i ar- weinydd pobol o bob caethiwed fedru anghof- io'i hun. Dyna'r wers gynta." (I barhau). -0-

YSTAFELL Y BEIRDD

PAID RHOl FYNY.

ADAR Y'GWANWYN.

MADDEUANT.

ER COF

, YR I ESU A WYLODD.

AT FAM ALARUS.

-o-LLENYDDOL.

Advertising