Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
- Edeyrn.
Edeyrn. Cynhaliodd y Methodistiaid eu cyngerdd blynyddol y Groglith. Y Parch. John Hughes yn y gadair, a Mr. H. G. Roberts, Bryn, yn arwain mewn hwyl. Gwasanaethai Miss MVKing Sarah,Mr.Powell Edwards, Rhos Miss Madge Jones, Ysbyty yn adrodd Miss Owen-Davies, Blaenau Ffestiniog, yn canu'r berdoneg a'r delyn a Dewi Mai o Feirion yn can penhillion, a'r oil yn cael eu hail alw yn barhaus.
Llanrwst.
Llanrwst. Ddydd Llun, yng nghyfarfod y p'rynhawn, Hywyddid gan Mr. Norman R. Jones ,a Mr. Caradog Mills yr hwyr. Fel hyn yr enillwyd Y brif gystadleuaeth gorawl—Cor Rhiwlas. Cor Plant—Trefriw a Thalybont yn gydradd. Wythawd—Parti Mr. Ellis, Llanrwst. Unawd i rai tan 12--1, Hilda Thomas 2, Jennie Evans. Unawd tenor-Griff. Owen, Bootlo. Unawd i rai tan 16-1, Katie Roberts 2, Anne Hughes. Unawd i rai tan 40-1, John Jones 2, D. Williams 3, Mary Roberts. Deuawd—1, Katie Roberts a Lizzie Pierce 2, A. C. Roberts a Gertie Davies. Unawd (unrhyw lais)—Owen Jones, Deganwy. Un- awd soprano-Miss Myfanwy Thomas. Den- awd-D. R. Jones, Birkenhead, a Griff Owen, Bootle. Parti wyth—Parti Ceinen. Unawd baritone—W. H. Jones, Talybont. Hor-unawcl-D. R. Jones. Ar y crwth- Gwilym R. Roberts. Ar y berdoneg—Nesta Williams. Toddaid am y Parch. R. Rowlands —T. Hughes a Perthog yn gydradd. Y prif draitliawd, Paul fel Cenhadwr "—H. Jones, Bettws-y-coed. Traithawd ar Grefydd "— Miss Williams, Dwyran, Mon. Y prif adrodd- iad—Mr. Roberts, Bodafon, Ysbyty. Dadl- 1, E. Williams ac R. Morris 2, Nancy Will- iams ac E. Williams. Adroddiad (i rai dan 18)-Miss C. A. Williams, Y Felin, Maenan. Eto i rai tan 12--Miss Williams, Trefriw. Muffadees—Mrs. Williams, Llansannan. Tea Cosy—Miss Kate Williams, Llanrwst. Par o D'Oyleys—Miss Jones, Rhiwdafna, Maenan. Par o fenyg—" Marian." Crys Gwlanon- Mrs. Davies, Tyrpag Ucha. Tie gweu-Miss Williams, Llys Idwal. Fancy Table Centre- Miss Jones," Rhiwdafna. Sanau beiciwr—Mrs. Edwards, Orsedd Wen, Nebo.
Eisteddfod Gwynedd.
Eisteddfod Gwynedd. Cynhaliwyd Eisteddfod flynyddol Gwyn- edd yn y Paiilion, Caernarfon, ddydd Llun y Pasg. Swyddogion yr Eisteddfod: Cad- eirydd y pwyllgor, Mr. Richard Roberts, cyfreithiwr; ysgrifenyddion, Mr. John Owen, Graianfryn, a Mr. R. W. Roberts, Llynon arweinydd, Llpw Tegid. Mr. W. Jones, Crugan, oedd rheolwr y llwyfan a'r trysorydd oedd Mr. E. M. Davies, Palace Street. Beirniaid: Mri. Harry Evans, Lerpwl T. Eastwood, Hudders- field; E. Evans, O.E., Caernarfon Dr. J. Evans, Caernarfon a R. John Ellis, Llan- beris. Cyfeilwyr, Mri. Orwig Williams a R. Eiflon Jones, Llandudno. Oyfarfod y Boreit-Dechreuwyd cyfarfod y boreu am ddeg o'r gloch. Treuliwyd y cyfarfod hwn gan mwyaf gyda'r seindyrf a chorau plant. Ymgeisiodd tri yng nghys- tadleuaeth deuawd yr offerynau pres. Y dernyn a chwareuid oedd Flow, gentle Deva." Buddugol, Robert Smith, Ffestin- log, a'i gyfaill. Cystadleuaeth y seindyrf, Old Memories (Rimmer). Gwobr laf, Y,10 a chwpan arian. Ymgeisiodd y sein- dyrf canlynolDolgellau, Moeltryfan, Nantlle Deulyn, a Phenmaenmawr. Dy- farnwyd y wobr gyntaf i Nantlle Deulyn 2, Penmaenmawr; 3, Moeltryfan. Ym- geisiodd y pedwar seindorf achod hefyd yng nghystadleuaeth y Quickstep." Buddug- ol, Penmaenmawr. Y corau plant Mis y Blodau." Gwobr, Y,5 ac umbrella sidan. Ymgeisiodd Llanllyfni, Rhyl, Tanrallt, a Berea (Bangor). Buddugol, Tanrallt (ar- weinydd, T. H. Hughes). Oyfarfod y Prynhawn. —Llywyddwyd gan Mr. Edward Roberts, M.A., Maesincla, Caernarfon. Arweiniwyd gan Llew Tegid. Wrth alw ar y Cadeirydd, dywedodd yr ar- weinydd mai y cadeirydd oedd tad bed- ydd" Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a Chymdeithas yr Ysgoloriaethau Cymreig. Canwyd can yr Eisteddfod gan Mrs. Alice Jones, Llanberis. Ymgeisiodd 19 ar adrodd i rai dan 18 oed, Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," Rhanwyd y wobr gyntaf rhwng Minnie Gould, Porthdinorwig a Percy Jones, Rhyl; 2, Annie Williams, Rhostryfan 3, Eunice Evans, Llanberis. Paentio (i blant). Griffith Morris, New Street, Porthmadog. Woodwork—1, Ber- tram Poynton, Caernarfon; 2, Tudor Bradwen Jones. Canu'r Piano 1, Mary Lizzie Williams, Caernarfon. Unawd Con- tralto neu Baritone. Ymgeisiodd deuddeg. Buddugol, Mrs. Alice Jones. Cystadleu- aeth yr Ambulance. Pedwar o gwmnïau yn eystadlu. Y goreu 1, Bangor Loco team 2, Cynfi Team (Ebenezer). Unawd tenor, 16 o ymgeiswyr, buddugol, John Corns Jones, Dolgellau. Cystadleuaeth canu, Wyres Fach Ned Puw (i rai dan 18) T. H. Jones, Rhyl. Brush Drawing: 1, Griflith Morris, Porthmadog. Freehand: 1, Moses Williams, Llys Meirion Lodge, Caer- narfon. Prif gystadleuaeth corau cymysg. "Gwna'n Hawen wr ieuanc" (J. T. Eves), Gwobr £ 15 a chwpan arian i'r arweinydd, 1, Barmouth Unit«li, 2, Ffynongroew. Cyfarfod yr Hiwjr. —Llywyddwyd gan Mr. C. A. Jones, Caernarfon. Canwyd, Gwlad y Delyn" gan Mrs. Foulkes Roberts, Bryn'refail. Canu gyda'r piano, Master Willie Bradwen Jones, Caernarfon. Unawd bass, R. Radford Jones, Caernarfon. Prif adroddiad, "Rhagorfraint y Gweithiwr" (Elfed), J. Pierce Jones, Ebenezer. Llaw-fer Elfennol, 1, W. G. Hughes, Castle street, Ebenezer; 2, W. J. Roberts, Cynfi house, eto, 3, Moses Ingham, eto. Dosbarth Cym- raeg. Ni atebodd yr un o'r tri ymgeiswyr llwyddianus i'w henwau. Am y cyflymaf, 1, .Arthur Jones, Ysg,)I, Nant Peris. Nid atebodd yr aiJ uaV trydydd i'w henwau. Unawd ar y crwth—Master Soth Owen, Talysarn (gyda chaninoliaeth noilltuol). Ail gystadleuaeth gorawl—Cor Disgwyli'a (dan arweiniad R. O. Roberts). Abermaw yn ail. Deuawd—Bessie Jones, Abermaw, a Corris Jones, Dolgellau. Unawd soprano—Bessie Jones, Abermaw. Y CORA U MEIBION.—Ymgeisiodd y cor- au canlynol Abermaw, Penmaenmawr, Cilgwyn, Llanberis a Ffynongroew. Sylwodd y beirniad—(Mr. Harry Evans)—eu bod wedi cael cystadleuaeth hynod o dda. Da oedd ganddo weled y corau yn canu y darn-" On the ramparts "—heb gyfeiliant. Yr oedd ar y Cymry ofn canu heb gyfeiliant, ond gellid canu llawn cystal heb a chyda chyfeiliant. Nid oedd y darn a genid yn un gwych. Portre- adai y Ffrancod yn treulio noswaith ac yn canu am orchestion eu milwyr.. Dyfarn- wyd Cor Cilgwyn yn oreu, a Phenmaenmawr yn ail. Eisteddfod benigamp, a chynulliadau llawnion. o
Sosialaeth Gristnogol
Sosialaeth Gristnogol [Gan y Parch. DENNIS Li,. JAMES, Eglwys Dciniol Sant, Lerpwl. ] 1. Y MAE rhoddi deffiniad cryno a chywir o'r hyn a feddylir wrth Gymdeithasiaeth (Social- ism) yn orchwyl anodd, os nad yn amhosibl. Y rheswm am hynny yw, lliosogrwydd y damcaniaethau yn ei gyleh-y damcaniaethau hynny (liaws ohonynt) yn milwrio y naill yn erbyn y Hall. Cyn y gall unrhyw ddeffiniad fod yn gyf- lawn, ac felly yn gywir, rhaid i'r hyn a elwir yn predicate gynnwys holl briodoleddau (connotation) y subject rhaicl fod yna gy- mesuredd hollol, gydbwysedd hollol cyd- rhvngddynt. Er engraifft, nid yw dweyd mai bod rhesymol yw dyn yn ddeffiniad cyflawn a chywir o'r hyn a feddylir wrth y term dyn, a hynny am y rlioswin fod bodau ereill lieblaw dyn yn rhesymol. Oherwydd paham, wrth ddeffinio dyn fel bod rhesymol, neu greadur rhesymol, yr ydys yn ei hunan- iaethu (identify) a'r angel, (ac o bosibl a bodau ereill nas gwyddom ni am danynt), yr hwn, ynte, sydd greadur yn meddu rheswm Felly, yn unol a'n hymresymiad yma, rhaid i'r deffiniad gynnwys nid yn unig yr holl briodol- eddau (connotation) a berthynant i'r term a ddeffinir, ond hefyd yr elfen neu'r egwyddor honno a'i gwahaniaotha oddiwrth y termau oreill, y rhai a gynhwysant fwy neu lai o'r priodoleddau a berthynant i'r term yr ydys yn ei ddeffinio. Er engraifft Wrth ddweyd mai anifail rhesymol yw dyn," credwn ein bod wedi rhoddi deffiniad cyflawn a chywir ohono. Weithiau felly ni a welwn yr egwyddor neu r briodoledd honno sydd yn ein cyfiawnhau i'w osod yn yr un dosbarth (genus) a'r angel, am y rheswm fod yr angel yntau yn berchen rheswm gwelwn hefyd yr egwyddor honno a'i gwahaniaetha o ran ei ryw (species) oddiwrth yr angel yn yr un dosbarth (genus), yr egwyddor honno yw y natur anifeilaidd a berthvn iddo. Ein hamcan yn ysgrifennu fel hyn ydyw ceisio elans y manylrwydd a ddylai nod- weddu ein deffiniadau. Os bydd y deffiniad yn anghywir (yn cynnwys llai neu fwy o briodoleddau yr hyn a ddeffinir), rhoddir bodolaeth i gamsyniadau a gau-olygiadau. Er engraifft, clywsocli ddywedyd amryw weithiau fod Sosialaeth yn gyfvstyr ag Inffideliaeth ikeu Atheistiaeth. Wele eiriau Pabydd nid anenwog ar y pwnc dan sylw "Socialism j is incompatible with the Christian Religion—the new political creed rests on an Atheistic foundation." Pe dywedasai fod athrawiaethau y Babaeth yn anghyson a dysgoidiaeth Crist a'r Apostol- ion, buasai yn llawer iawn agosaeh i'w le. Wrth siarad yn y modd y gwnaeth, profodd yn eglur ei fod mor amddifad o wybodaeth parthed rheolau rhesymeg a phost llidiart. Yn ol rheolau rhesymeg (ac nid yw y rheolau hyn ond deddfau'r moddwl yn gorfforedig mewn geiriau), nid oes gan neb dyn hawM ymresymu o'r unigol i'r cyffredinol. Er engraifft, nid yw'r ffaith fod un dyn meddw yn byw yn y lie a'r 110 yn profi fod holl bres- wvlwyr y lie hwnnw yn feddwon. Nid yw'r ffaith fod un non ddau neu ychwaneg o Inffideliaid yn perthyn i ddosbarth y Cym- deithaswyr yn brawf yn y byd fod yr holl Gymdeithaswyr yn Inffideliaid. Gwelir oddiwrth hyn mor ofalus y dylem fod wrth ddatgan ein barn parthed dynion, ynghyda'r hyn y proffesant ei gredu. Beth, ynte, yw Cymdeithasiaeth ? Os nad ydys yn camsynied, y mae perthynas agos cydrhwng Cymdeithasiaeth a chyfeiligarweli. Ystyr y gair Socivs. o'r hwn y^ ceir y gair Socialism, yw ffrynd neu gyfaill 'ffelly, nid yw yr hyn a elwir yn society (cymdeithas) yn ddim byd amgen na iiifer o bobl yn cael eu dal ynghyd gan yr egwyddor honno a elwir yn gyfeillgarwch. Dywed Cicero yn ei De Amicitia sfod cyf- eillgarwch yn hanfodol angenrheidiol i fywyd y teulu a'r wladwriaeth Without friend- ship--(nioddai)-neither the home nor the state could exist." Friendship (meddai Empedocles)—is the uniting force in the uni- verse." Gwelir felly mai egwyddor sylfaenol Cymdeithasiaeth yw Cyfeillgarwch. Felly amcan mawr y Cymdeithaswr yn ei holl ym- drechion i gael pobl i ymddwyn yn deilwng y naill tuag at y llall yw lion deffro yn eu mynwesau y teimlad o berthynas a fodola cydrhyngddynt, ac ar ol deffro y teimlad hwn, eu cael i gyflawni'r dyledswyddau sydd yn anwah^nol gysylltiedig a'r berthynas. Canfyddir weithiau fod Cymdeithasiaeth, am y rheswm ei bod yn edrych ar y Wlad- wriaeth fel yn cael ei gwneud i fyny c frodyr (ac oblegid y berthynas yma yn galw arnynt i ymddwyn yn deilwng o'r berthynas) ymhell o fod yn elynol i fywyd y teulu a'r Wlad- wriaeth. Ar yr un pryd, nid ydys yn aineu bodolaoth rhai ymhlith y Cymdeithaswyr ydynt mewn cyflwr breuddwydiol, ac yn siarad pethau chwyddedig ac afresymol ond nid yw hyn, cofier, yn brawf yn y byd mai breuddwydwyr yw'r holl Gymdeithas- wyr. Barner beth yw Cymdeithasiaeth oddi- wrth ei hegwyddor sylfaenol, sef brawdol- iaetli dyn; ac ond canfod hyn, amhosibl i unrhyw fod rhesymol ei ehondeninio, heb ei fod ar yr un pryd yn condemnio un o'r el- fennan mwyaf dwyfol o blaniad y Crewr Mawr Ei Hun.
Advertising
CODl'l{ HWYL Sef Llyfr Newydd o Adroddiadau, gwedi eu cynnull gan Olygydd y Brython. 154 o ddarnau. 192 tudal. Pris Swllt; Llian 1/6. Drwy'r post 1 /2 a 1 /8-L Y Sylltaid mwyaf o Adroddiadau a gyhoeddwyd erioed yn Gymraeg.—Evans, Sons and Foulkes, Swyddfa'r Brython, 356-358a Stanley Road, Lerpwl. 6
Draws Mon ac Arfon. 6
Draws Mon ac Arfon. 6 CAERGYBI. Yn addoldy Hebron, Kings- land, cynhaliwyd prawf-gyngerdd mawreddog nos Fercher ddiweddaf. Yn absenoldeb Mr. R. O. Roberts, bargyfreithiwr, Llundain, llywyddwyd gan Mr. J. B. Ashton, a chaed anerchiad pert ganddo. Mr. R. Mon Williams oedd yr arweinydd a Miss Nelli Jones, A.L.C.M., yn eyfeilio. Yr oedd 30/- o wobr yn;f|caol ei chynnyg am unrhyw unawd. Ymgeisiodd nifer dda, ond y goreu oedd Mr. Will Roberts, Bangor. Lle^ Deulyn, Nant- lle, oedd y'beirniad, a synnai y gynulleidfa at allu a medr y Llew yn rhoddi beirniadaeth mor fanwl a galluog, oblegid ychydig a wydd- ent ei fod yn gerddor, gan mai fel adroddwr y mae ei enw yn fwyaf hysbys. Da gennyf ddeall ei fod i farnu yr adrodd yn Eistedd- fod Bwlchgwyn y Llungwyn. Rhoddodd brawf o'i allu i adrodd yn y cyngerdd hwn yn Hebron. Cymerwyd rhan hefyd yn y cyngerdd gan y rhai canlynol Miss M. Parry, Llanrhyddlad Miss Elsie Roberts, Mrs. Price, Miss Pritchard, Miss H. Hughes, G. Williams, Wm. Roberts ac R. J. Hughes. Cyngerdd rhagorol oedd hwn. Y gan a rodd- odd Mr. Will Roberts oedd Lead, Kindly Light," a chafodd 30/- arall am ei chanu y Groglith yn y Junction, tan feirniadaeth y Parch. H. R. Cadwaladr, G.L., Bryngwran. CAERGYBI ETO.—Eisteddfod Gadeiriol y Pla,nt.Bu hon yn llwyddiant mawr yn y Tabernacl (A.), nos Wenor y Groglith. Yr oedd v testynau'n agored i'r byd, a gwobrwy- wyd 35 o blant o 6 i 18 oed, am ganu, adrodd, llonydda a chelfyddyd. Dau gor plant ddaeth ymlaen i gystadlu am y wobr o £ 3/3/- a chadair i'r arweinydd, a bu yn ornest galed rhyngddynt. Dyfarnwyd dau gini a'r gadair i Gor Millbank, Caergybi (arweinydd, Mr. R. D. Parry), a gini i gor Plant Llanfachraeth Beirniaid v canu ydoedd Gwilym Alaw, Caernarfon, a Mr. W. E. Rees, A.L.C.M. Adrodd, Mri. J. N. Thomas, Y.H., ac H. R. Prichard. Cadeirydd, Mr. R. Pugh Jones, M.A., prifcathro yr Ysgol Ganolradd. Ar- weinydd, Mr. R. Mon Williams. Datganodd Miss M. Parry, Llanrhyddlad, yn ardderchog deirgwaith yn ystod y cyfarfod. CANT A WD.-Yn Neuadd Drefol Caergybi y Groglith, rhoddwyd perfformiad o'r gantawd gysegredig Y deng rtiorwyii 11 gan gôr Armenia (arweinydd, Mr. R. LI. Williams), yn cael ei gynorthwyo gan gerddorfa dan arweiniad Mr. G. H. Doeg. Cymerwyd yr unawdau gan Miss Humphreys (yn lie Mrs. Kate Rowlands, yr hon oedd yn wael), Miss Gaynor Roberts, Prestatyn Mr. D. Ellis, Cefn Mawr Mr. Tudor Owen, A.R.C.M., Blaenau Ffestiniog Miss C. A. Hughes a Miss C. M. Roberts yn eyfeilio Ellis J. Griffith, Ysw., yn y gadair a Mr. Richard Roberts yn arwain. Yn yr ail ran o'r cyng- erdd cafwyd unawdau, &e., gan y cantorion uchod. Mae clod mawr yn ddyledus i ar- wcinydd y cor am ei waith yn trefnu i roddi perfformiad teilwng fol hyn yn flynyddol. Yr ysgrifenyddion oedd Mri. Wm. Row- lands a Ted Edwards. GW ALCHMAI.-¥ Groglith cafwyd cyf- arfod cystadleuol i'r plant yma yn y pryn- hawn Mr. Thos. Jones, Ysgol y Cyngor, yn y gadair. Yn yr hwyr llywyddai J. Jones, .Ysw., Y.H., Ariandy Llangefni, a gwasanaeth- ai y cantorion enwog canlynol Mrs. Eifion Jones, Mr. Emlyn Davies, A.R.C.M., ac Eos Mawddach. Dyfarnodd Mr. Davies y wobr o 30 am unawd i Mr. D.Felix Davies, Bangor a dyfarnodd Llew Tegid o wobr o ddau gini am adrodd i Mr. Robt. Owen, Dwyran. Yr oedd cewri yn eystadlu am y gwobrwyon hyn. a gwelir fod gwyr teilwng yno yn eu beirniadu. Llew Tegid hefyd oedd arwein- ydd y cyfarfodydd. Miss Williams, Tyddyn Hwrdd, a gyfeiliai yn feistrolgar. Cynhygid dau gini a thlws arian am y farwnad oreu i'r ddiweddar Mrs. Williams, Pencraig (mam y Parch. Thos. Williams). Dyfarnodd y Parch. J. T. Job y wobr rhwng Ap Huwco, Cemaes, ac Elldeyrn, Nantglyn. Anturiaeth bwysig oedd hon i'r pwyllgor, ond trodd y cyfarfodydd yn llwyddiant mawr. Mr. G. O. Pierce, Cefn- cae'r-ffoi, oedd yr ysgrifennydd. BETHESDA. Yng Nghymanfa y Pasc yma eleni, pregethid yn ngwahanol addoldai yr Anibynwyr gan y Parchu. H. M. Hughes, B.A., Caerdydd J. L. Williams, M.A., B.Sc., Lerpwl; Peter Price, M.A., Dowlais J. E. Jones, Cwmaman J. R..Jones, Henryd.; J. J. Williams, Pentre J. Hawen Rees, Benllech. Disgwylid hefyd y Parch. T. Stephen, B.A., Llundain, ond rhwystrid ef gan afiechyd. Fel arfer, caed cymanfa ragorol-rhai oedfaon eithriadol. o effeithiol. —Yn Beulah, ger Bangor, nos Sadwrn a'r Sul, pregethai y Parchn. Rhys J. Huws, Bethesda, ac O. Lloyd Owen, Birkenhead. Daw ychydig nodion eto am y Groglith a'r Pasg y tro nesaf. BETHMA. -0-
Prifathrofa Caerdydd.
Prifathrofa Caerdydd. Apel am £35,000. Y MAE yn achos o lawenydd pur i holl bleid- wyr addysg uwehraddol yng Nghymru i wylio y camrau breision a wneir gan ein Colegau prifathrofaol, yn enwedig yn ystod y blyn- yddoedd diweddaf. Nid oes derfyn ar ddy- feisiau prif arweinwyr addysg ein cenedl er hyrwyddo pob moddion i alluogi y myfyrwyr i rryrraedd v diwylliant meddyliol uchaf. Nid oes ond nifer cymharol fechan o flynydd- oedd er pan agorwyd ein colegau cenedlaethol. Ac etc erbyn hyn y mae y llu o ddynion ieu- ainc sydd wedi eu troi allan, ac yn addurno cylchoedd pwysig ym myd gwleidyddiaetli, addysg, llenyddiaeth a masnach, yn brawf fod y genedl yn dechreu manteisio ar y cyf- leusterau gwerthfawr sydd bellach o hyd cyrraedd iddynt. Hefyd y mae y gefnogaeth ariannol y mae y wlad wedi ei ddangos ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn galondid mawr i'r arweinwyr,ac yn brawf ei bod yn parhau i gymeryd dyddordeb dwfn yn llwyddiant addysgol ein meibion a'n merched. Ac yn awrj pan y maent yn gweitliio yn egniol i wahanol gyfeiriadau, ac niegis wedi cyrraedd hyd deriyn eithaf eu hadnoddau drwy alwad- au byth-gynhyddol ar eu cyllid, wele rodd flynyddol y Llywodraeth yn dyfod yn amser- oi iawti. Gwir nad yw y swm yn fawr nac yn agos ddigon. Ac mewn cyn-iliariak)t,ii i'r symiau godidog a roddir bob blwyddyn i golegau yr Alban a'r Iwerddon, dylai Cymru dderbvn swm llawer mwy, eto bydd hynuy a gafwyd yn gynhorthwy mawr. Fel y gwyr y cyhoedd yn dda, y mae Colog y De yng Nghaerdydd wedi cario ei waith ymlaen am flynyddoedd dan anfanteision mewn adeilad sydd yn llawer rhy gyfyng ac anghyfaddas ar lawer ystyr. Ond bellach y mae yr Adeilad Colegol Newydd yn codi'n gyflym, a disgwylir iddo fod yn barod i'w agor ym mis Hydref nesaf, pan gyflawnir y seremoni agoriadol gan Lywydd y Coleg, y Gwir Anrhydeddus larll Plymouth. Gyda'r bwriad i'w agor yn rhydd o ddyled, y mae yn angenrheidiol sicrhau y swm o £ 35,000. Y mae liyn, ar wahan i rodd y Llywodraeth o E20,000, a rhodd anrhydeddus y Drapers' Company o £ 16,000 ac o bob cyfeiriad y ma'e y Coleg wedi derbyn yn agos i EIOO,000 tuag at yr adeilad gwych hwn. Er cyrraedd yr amcan teilwng hwn, y mae Cyngor y Coleg wedi penderfynu gwneud apel daer at edmygwyr addysg yn gyffredinol yn Neheudir Cymru a Mynwy am eu cefnogaeth. Ac er cario hyn allan yn y dull mwyaf effeithiol y maent wedi penodi Mr. J. Austin Jenkins, B.A., Cofrestrydd y Coleg, yn Ysgrifennydd Trefniadol Trysorfa y Ddyled. Ac i'r neb a wyr rywbeth am alluoedd ac ymroddiad i waith sydd bob amser yn nodweddu y Cof- restrydd, y mae ei apwyntiad i'r gorchwyl hwn yn ddigon o warant y cerir ef allan yn llwyddiannus. I ddangos y gwaith sydd yn awr yn myned ymlaen yng Ngholeg Caer- dydd, ac i brofi y llwyddiant dirfawr sydd mor amlwg yn ei hanes, nid oes eisieu ond troi at y ffigyrau a rydd y Cofrestrydd mewn parn- ffledyn sydd wedi ei baratoi yn arbennig i egluro sefyllfa pethau yn nhymor cyntaf sefydliad y Coleg, a'r hyn oedd yn ystod tymor 1907-8, i weled cynnydd aruthrol pob adran perthynol iddo. Wrth adolygu yr amgylchiadau dros ysbaid pum mlynedd ar hugain o amser, a chymharu y sefyllfa bres- ennol rhagor yr hyn ydoedd ar y dechreu, daw hyn i'r golwg yn eglur iawn. Y mae cyfanrif y myfyrwyr ymhob adran a dderbyniwyd i'r Coleg o dymor cyntaf 1883-4 hyd dymor 1907-8 yn 5,783. Rhif adrannau y Coleg ar y cychwyn oedd 13, yn awr y maent yn 26. Nifer y myfyrwyr a dderbyniwyd i'r Coleg yn y tymor cyntaf oedd 151, yn nhymor 1907-8 yr oeddynt yn 751. Y mae rhif y myfyrwyr sydd wedi graddio ym Mhrifysgol Cymru yn 576; ym Mhrifysgol Llundain 209 ymMhrif ysgolion Rhydychon a Chaergrawnt (gydag anrhydedd) 37 mown Prifysgolion ereill 9 cyfanrif 831. Ceir fod nifer y myfyrwyr o'r Ysgol Feddygol sydd yn awr yn feddygon yn 123. Dengys fod rhif y myfyrwyr sydd oddi- ar dymor 1903-1 wedi ennill gradd-lythyrau Peirianaeth (Engineering), Mwnyddiaeth a Metelyddiaeth (Metallurgy) yn GG. Swm tal- iadau y myfyrwyr yn 1883-4 oedd £ 1,184; yn 1907-8 cyrhaeddai £ 6,182. Cyfanswm y treuliau (heblaw adeiladu a dodrefnu) yn nliymor 1883-4 oedd £ 4,636 yn nhymor 1907-8 ceir ei fod yn £ 30,735. Felly gwelir fod llwyddiant y Coleg wedi bod yn ddidor, ac yn cyson gvfeirio tuag i fyny ac ymlaen. I'r amcan o hyrwyddo llwyddiant y cynllun i ddileu y (Idylerl, y mae Cyngor y Coleg wedi apwyntio pwyllgor o Lywodraetliwyr mown llawer o leoedd o fewn y cylcli a wasanaethir gan y Coleg. Trefna pob pwyllgor ei gvn- hullydd ei hun, a gwneir ymdrecli egniol i gasglu swm digonol i glirio y ddyled. Dylid ychwanegu fod y Cofrestrydd eisys wedi casglu swm o arian sydd yn gychwyniad rhagorol i'r ymdrech. Y mae y Colegdy Newydd o'r safbwynt gelfyddydol yn addurn mawr i ddinas Caer- dydd a Deheudir Cymru, a dylai gwreng a bonedd gyfodi fel un gwr i symud ymait,h faieli. y ddyled, er profi eu dyddordeb yn llwyddiant y sefydliad. Hyderir y dor b yma ymdrechion egniol a theilwng awdurdodau y Coleg gefnogaeth lwyraf a mwyaf diffuant holl bleidwyr addysg yn Neheudir Cymru yn gyffredinol. Caerdydd. THOS. LOVELL.
Advertising
r- Railway Lost Property. SEND 2/4 for a Splendid Silk Umbrella (Lady's or Gent's), 3 carriage paid ppr post for 6/ also grand selection of goods suitable for presents 5/6 and 7/6. Travelling Bugs, 6;6.. Northern Depot, 28a BOLD Street, Liverpool Maes Llafur Undeb Ysg. M.C. Llawlyfr at rpistolau loan gan y Parch Hugh Williams, Amlwch. Pris 2/6. am 2/= Parch. John Owen Jones, Bala. Pris 1/6 am 1/3. Parch. Dr. Phillips. Pris 2/6 net. Iw gael gan HUGH EVANS, 444 Stanley Rd., Liverpool. ] 'Phone—3017 Central II W. GRIFFITH8 # Tailor, £ 29SOUTH JOHN STREET, LIVERPOOL ALSO ATI 349 STANLEY ROAD, BooTLE. 'Phone—27x Bootlp. Boots ate VALUE roll tCi S MONEY 4 I !J Ladies' <5 Gents in Great Variety, 51 & 53 Paradise The only address -UU u_uu_- BEAUMARIS | Grammar & County School Chairman ofJGovernors, Sir R. W. The School offers sound and practical J in healthy surroundings, under experience's •«, Honours Graduates. Modern buildings an1a ment—perfect sanitation. The climate SP suitable for delicate boys. Boarders the School House, and are under the j^S- care and supervision of the Headmaster Madoc Jones. Successes gained by Beaumaris pupils years include First Places in Mathematics, & History, and Entrance Scholarships ,iefre8i (3), London Hospital and Welsh Univ. also Civil Service, Banks, and professiOnB 1 p Exams. Terms moderate. Prospectus from E. MADOC JONES. M.A.. COLEG Y BRlFYSGOl- ABERYSTWYTH- (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol CyM ———— Prifathro T. F. ROBERTS, M.A" DECHREUA'r tymor nesaf ar ddydd fit Hydref 5ed, 1909. Paratoir yn arbei1 gyfer arholiadau Prifysgol" Cymru' ^io rhoddir cynhorthwy hefyd i efrydwyr am raddau prifysgolion ereill.. Cynhygir dros ugain o ysgolo^^), (amryw ohonynt yn gyfyngedig i f i'r efrydwyr sydd fwyaf llwyddiannus arholiad a gynhelir ar y 2lain o fis Atedh Am fanylion pellach, ymofynner a J. H. DAVIES. M.A., CofrestrT^. r* -1 « i 1 A Perfect I |P 1 FOR l*l.; Smoky .BPS', Chimney* • TMP i For fall partic'lln" SSL- I Robt. HuS^ 5 & SOLisAGEH^ B 12 Sophia LIVERPOOL i ZLJ .Telephone-1028^^ === copoto Experience. Efficiency. Lrxr SAT F ACT I ON g ¡.I LaNDON .¡ 1 Z-1 MAÑÝ BRANCHE5 De1!e¡tofø The Largeat*and most P in the North of England. The Removals and Storage. Bemovajs to a Continent and Colonies, a speciality* pnflL' terms and quick despatch.—l\S^Y Rot Offices—BRONTE ST" RUSSELL ST.. And at London, Manchester, Bir B%e,pooj Leeds, Leamington, Gloucester »n0 Tel. 2067 Boyal Telegrams Benio^ D. R. JONES (Alaw Madog), PIANOFORTE & ORGAN DEALER, MUSIC PUBLISHER, Gc | 103 Hampstead Rd., Liverp0<) Beirniad Cerddorol ac Arweinydd Cymanfaoedd CanU (Telerau Rhesymol) IS .tf NEW CATALOGUES of Pianos, Organs, Harmoniums, &c>, TERMS-On the Hire-Purchase System or Oash. Tuning and Repairing a O-PO Estimates given for Pipe Organs, Free. Cataloguelof Welsh Songs. 6c, (Over 600). Also containing all the latest Musical Books, such as Gems selection, Jlot¡ø.JO of Wales," by D. Emlyn Evans, &c.; with English and Welsh Words, and d Prices (best cover), 3 /6 Cloth, 2 /6. Postage 4d. CANTATA Y Cynhauaf (The Harvest), by Miss A. J. Performed with grand success at Llangollen National Eisteddfod, 'oCl praised by the best musicians. Very suitable for chorus of 50 Prices—O.N., 2 /6 and 2 Sol-ffa, 1 English and Welsh Words. USUAL DISCOUNT FOR QUANTITIES. i