Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
0 BIG Y G'LOMEN.
0 BIG Y G'LOMEN. gyE:T. BURGYN !-Pwy ydyw'r bur 0eidd swydd -Feirdd yr Orsedd a'u gwisg feiW SitS,^legid nad oedd gandd° Gresyn ry, • Dyni 8rysau am y beirdd,"« ^hoiaw« SyWurddau? Ibeswl b§rywenbau esWch raewn hen beisiau. 8TOR dolliol a f lNGOLLEN-Dyita ddigwydd 1a'u—-sef (i; '^1 Elstf-ddfod Llangollen ddydd 'J'^eth v nn nod Mr. Lloyd George. Pan dden»i^?le^ydd i'r llwyfan, cododd y e^htio uxi^11 yn gyfan ar ei thraed, ac ? 8Wrnna, Vr niewn- congl. Synnodd pawb «artl i god'i a uXvaeddeilt ar y crwydgi cul- ?r'«\vr Hidiwch mo'no," ebe hen aidd." Saclwch i'r hen grebach' Tori- awd v rvl, w,olfi Mr. William George, n§hellydd, ydoedd y crebach." y^sJDAL^ •—Glywsocli chwi am Pj^ota ddaeth gyda pharti ? v.. ^haid i'r Clwyd vma'r dydd o'r ^refft t w,yddai fawr am gyfrinion y ^arr% ac n'l aC ar ffrvvtian o garreg i SWaeddi t 11 bwl1 hefo'i enwair, dyna'n :1y^beth iri. ar Syfaill <>i fod wedi baehu 1.r lan. r,,dj.Wl*' ttc aui iddo helpu i'w halio oftli ttiai 0l,t1°.dt' yntau'r wialon ac yn n8Wayi0tj vvo<'i bachu yn y graig yng TTaf°8> H* n 'rydoedd, ebe'r cyfaill uite(i Kin a'i away you've hooked the Jilngdom at last. A FU FAWR."—Ym caed j0'i u hyn, ddydd Sadwrn diweddaf, et'1' yn enr> ° !'ndH> ('yiYeithiwr o Fachyn- i'w ,i.i• °. ddofnytldio avian ei gwsmer- nair blyIte(. ,eni°n ei liun ae anfonwyd ef i a^0dtl v S.° 8archar a plienyd-wasanaeth. Invnm,lmts ^rofi gwirionedd chwerw „ nnw unwaith eto A^n^l^ b.ictiwr nmvaith— Sef (i„ n ais lawer gwaetli— Yn,y!1 my: id i gyfraith Yna^lyl«hyfuweha'illaeth; A'r llaii ?iai'r ?-y,lf[on' I'r r>a,i, > f ddaliai'r c vrn, Vv tZ r ^lnv('h yn f odd km rQe odro'n chwyrn." Y]$Jjif n ^farfu v YN.—Ddydd lau diweddaf, « ^-Dreff i 1 yr oedd Edward E. Evans, yn eu dyled, yn fod „ Receiver yng Nghaer, lie y *>d oedr|Wm ei ^.yledion yn £ 1,337/8/6, 18/9 'D.dd ganddo i'w cyfarfod ond k271 ^°edd c,rR,Wln am ei. ddiffyg o £ 1,065 /9 /9 £ refu y,n ''yd Drefechan heb ddigon ^yledoe'ion)e^thy°a arian am grogbris r, edd I hawb yn pwyso arnaf." Ao i,°rys an Tf ° d yn debyg i eiddo'r hen M«c«ta?,L'a,ldcl0gK'?- Tra Kt <ldyn lweus,—boddog, Ond niy,d<!° ff^'tunus Yn nhnJ! F w'a(l' ar frad frys, PXndynanhapus." -4- ibjthie, I?MWR A'l PATCH.- Wele gyf- t arndv Vvv> a geir uwchben trothwy M.Vfil\v arlborough A ^'ldyyr°^a<a dros bawb, medd y Teyrn, ^ddiffy^ 8^°b Dro.s bawb y gweddi'af a r Milwrr. ? t?WT' me<ld y Twrne, wnaf fi c ebe y ft Uros bawb yr ymladdaf « a rj,,r'}nv,r yn sur Wei, dros bawb B- u>m'1 wranlaf." Vn1^ n^d anhebyg gan Twin o'r ei gerdd 11 Yillddyreliafiad yr II ba'r Persn 6Sjg°b uchel ryw' id^^ ^oeth weddio Duw v?eRVtna,^n bwytlie wrth nertli smonatlie, vyfu'r aur i u'w' dr-yswr drud' Xr^war?".e'lafnT yd •• ^ynnaj^dyfal raid mewn gofal «« j n 1gyd." ^tn f VAN ROBERTS ? k^ojt ,i'- Atgo dyddorol a roes y S> Rober rddaf am W oedfa olaf i'hyWllnyn LerPwl yn 1905 ac os y tf6f ^edwcb yn- gofyn P'le y mae ° hedd- yilriLeicester' yn§ nghar" i,]., y§iwr i(i,i Mrs. Penn Lewis. Ateb y I 0 _Ru gwestiwn a fynnycli ofynnir ^'Snt v Y] Y "'aae'ch iecliyd'P,Cryfhait Y<lych „Kydd- ^ani0 (jV). Wl am ddod allan eto i ail r>dim rU' &C °hwynnu'r ardd •t, 8lcr f0ci -p. °ynt nag y teimlaf yn gwbl i;:dd Mrs r nfyngaiw-" wJ8' Port}) eiln ^ewis a'r Parch. R. B. RofCiad,)l ynrri> yn, cyd-gynnal cvrddau di- o.yj,|' y ^er'yddwyr Seisnig Hen- ^oKn- u »ior 1'-yr ^y^nos ddiweddaf a'r rnoWn (nr'as ar brydiati nes codi unwSellfgalon !0(1 yr hen fflain fyd ila « b et° wedi ei hail cnnyn. r. „ !•- Yn disgwyl. y rnfG COLWYN BAY.—Miss Ca'«e y!na' y>^ Ngholwyn Bay, ? ,ddVla B y byd^i da iti eu dala ar Q la/ y ,ON^' s°f y rhai'n ymratH, ^Llangollen, wrth grefu yn 8Mad«arx ,ills^eddfod 1910, mor eiria,s heh Cynrychi\ a ddylifai tros ddeufin &chi«if 1 W^r; wrth wrando'u ^yirir'aaM l' chwi allasecli dybied yr hr ffroth I y PflRyohai P°b Colwyniad. gair1 F^ith y cwbl i gyd, card's ais ?,yri i)\vviir?1'acg y clywir fyth 01 i\vei1flaniddiffv y gnyr1u a phan ddechreu- ariiaf a y° iaifci, ff'l hynfc yn y pwyllgor ^egiq v i Ulam, hwy a guwchient V, l* ing l?nl y bawn bagan neu |efnder i'r i j5j y an c wilydd i'r ffardials ^afti011 ac o ,mae yma ormod ymgreinio ^gistiai^ arnu r. Siil. Y ffaith y w, 1 Bay „ yw. ^aill hanner poblogaeth m n ai lddynt bwy a'u harfer- y mae'1'hann<,r ^S-i^Sda»dytalu' VS1 Weithi, ymdaeru, 0 Qol ydd £ )u 8~waith y cythraul, BavT m6Wn llawer cornel "S ei «olwS a b"loh ei godre'
Gweinidog.
Gweinidog. [GAN HABACCUC YR II]. L UGAIN a deugain mlynedd yn ol, eglwysi oedd yn eisieu. Ceid fod digon o ddynion diwylliedig eu meddwl, a da eu cymeriad yn sefyll yn segur am na alwodd neb hwynt. Ffynnai teimlad gwrthfugeiliol yn gryf y blynyddoedd hynny, a mawr y drafferth a'r helbul gadd Dr. Lewis Edwards, y Bala; a'r Parch Edward Morgan y Dyffryn i'w wrthweithio. Dynion o flaen eu hoes ydoedd y ddeuddyn hyn, a chydnabyddir hynny heddyw yn lied gvffredinol. Clod iddynt am arloesi y tir, a dal drwy y tew a'r teneu i argyhoeddi eglwysi glythlyd o'u dwfn angen am frawd i'w bugeilio. Mewn can- lyniad i'w perswad hwy, a grym eii personol- iaeth, yngliyda dy lan wad eu cymeriad, llwyddasant i agor drysau eglwysi lawer i'r fugeiliaeth, fel erbyn hyn y mae yr hedyn a blanasant hwy yn naear Cymru wedi tyfu yn bren mawr, a llu o weinidogion cymwys yn nythu yn ei gangau. Eddyf pawb diragfarn fod hwn yn un o'r prennau mwyaf ffrwythlon a chysgodfawr addurna winllan Crist. Perygl y presennol ydyw gwasgu yn rliy drwm ar y gweddil] anaeddfed i fabwvsiadu y cynllun, yn lie ei adael i weithio ei ffordd yn araf a distaw i bob cangen o'r eglwys. Os nad o gydwybod, daw yr eglwysi mwyaf gwrth- fugeiliol o gywilydd yn fuan-fuan i gytundeb a, brawd o woinidog. Felly
Nid angen dynion-ond -eglwysi.
Nid angen dynion-ond eglwysi. sydd yn gwasgu arnoni yn awr o bob cyfeiriad. Nid oes n b yn cofio cynifer o eglwysi lliosog a chyfoethog sydd yn chwilio allan am weini- dog. Yn eu plith ceir rhai o ddeaclolloedd enwocaf De, Gogledd, a rliai o dreli mawrion Lloegr. Nid mis neu ddau sydd or pan y mae llawer o'r eglwysi hyn yn wag ond rhai misoedd, os nad blynyddoedd. Cyn- haliwyd pwyllgorau diri', a cliynadledciir hyd oriavi liwyr y nos, gelwir llawer, ond cldewisir neb. Nid anyddorol olrhain y dirwasgiad liwn ar y fugeiliaeth. Cyincrwyd rhai o'r bugeiliaid ytnaith drwy angau, ereill drwy alwadau i leoedd ereill, ac ychydig drwy ym- ddiswyddiad i dir di ofalon bugeiliol. Purion peth ydyw hyn mewn rhai engreifftiau, ond cwbl anesgusodol ydyw ar ran dynion cyd- north, ynghanol eu dyddiavi, roddi y swydd i fyny cyn dechreu gweithio. CaWn fod nifer gormodol wedi cymeryd y cam hwn yn ddi- weddar, a darogenir fod ereill yn dilyn. Gwna hyn gam a'i? eglwysi, a rhydd handle hwylus i elynion crefydd i gablu. Mae gweled dynion iach a chysurus yn gadael y fugeiliaeth cyn cyrraedd banner cant oed, gan ddewis yn hytrach byw yn dawel mown llannerch dlos a thy clyd yn argoeli'n ddrwg, ac yn galw am benderfyniad prif arweinwyr y cyfundebau. Gwir fod yr urdd newydd am barhau i ledaenu yr efengyl o Ddyffryn- oodd Clwyd a Chonwy, o Gymoedd Rhondda a broydd Morgannwg, o Gaergybi i Gaerdydd ond faint o aberth a Ilafur a gyst hyn iddynt sydd gwestiwn ond rhaid i rywun ddwyn y draul, a gwyddom i raddau ar ysgwyddau pwy y syrth pen trymaf y baich. Rhwng marwolaethau, methiantau, ymddiswydd- iadau, ac yrnadawiadau, ynghyda chynnydd dosbeirth ieuainc ein heglwysi am arweinwyr i'w hyfforddi yn y pethau goreu, ni fu erioed gymaint o alw am weini- dogion. Ond or treio eu goreu, a chynnyg. cyflogau uehel, a lleoedd esmwyth, eu profiad ydyw eu bod yn methu cael eu bodd- loni ac yn y diwedd yn syrthio ar frawd symol, yn niffyg cael ei well. Ac edrych ar hyn o un cyfeiriad, gwnant yn ddoeth, neu o'r hyn leiaf yn gall, oblegid po hwyaf y bydd eglwys heb weinidog, anhawddaf oil ydyw iddi gael un. Dywedai Joseph Thomas mai peth da fyddai i weinidog golli ambell i seiat er mwyn i'r brodyr a'r chwiorydd deimlo ei werth ond poth drwg oedd iddo golli yn rhy a,ml, rhag i'r frawdoliaeth weled y gallant wneud hebddo. Ofnir fod ambell i eglwys wedi pallu gweled dydd ei hymweliad, ac i amser gwerthfawr basio a liithau yn ei gweddwdod, fel y teimla yn hynod o ddi- gychwyn i symud ymlaen am fugail a phriod newydd. Yr afiechyd peryclaf ydyw yr un hwnnw nad yw byth yn galw sylw ato ei hun. Chaiff eglwysi ddim y rhai a fynnant, ac ni chymerant y rhai a gant, a hyn sydd yn cyfrif fod cynifer, fel eu gelwir, yn eglwysi gweigion." Metha ami i eglwys hefyd yn ei dull o ymlwybro ymlaen am fugail. Treia lawer, ond gwrthodant oil, ac am yr un a ddelir, teimla yn ddistaw oddiwrth yr archoll.
Saethu yn rhy uehel.
Saethu yn rhy uehel. Gwyddom am gynulleidfaoedd yn dangos cryn frys am weinidog heb y syniad lleiaf pa fath un i'w gael. Heb fod yn nepell oddi- wrth yr hen gaban yma, y mae eglwys ddigymar mewn profiad bugeiliol. Bu iddi mewn cyfnod cymharol fyr dri o weinidogion, a'r oil yn hynod anhebyg i'w gilydd. Dywed- ir am y cyntaf ci fod yn bregethwr da, ond yn ddyn sal yr ail, ei fod yn ddyn da, ond yn bregethwr salw ond am y trydydd, nad oedd na dyn na phregethwr. Nac anghofier fod rhai tebyg yn v farchnad eto, ac fod yn llawer liawiidach eu cyflogi na chael gwared ohonynt. Ar un ystyr, peth profedigaethus ydyw gadael i benodiad mor bwysig ddibynnu ar item mor wagsaw a chyfnewidiol a. mwyaf- rif. Yn fynnycli dylid pwyso, ac nid cyfrif, y pleidleisiau. Anela rhai at bersonau, gan gynnyg galwad iddynt, y buasai ychydig o brofiad a gwybodaoth yn dysgu amgenach pethau iddynt ac wedi i un wrthod, hawdd- ach fydd i'r ncsaf wneud yr un peth. Teimla llawor eglwys nad oes eisieu ond gwahodd mewn Hythyr unrhyw frawd na ddciw atebiad cadarnliaol gyda'r post nesaf. Rhaid i eglwys foddloni hob yr holl gymwystorau gofynnol yn ei thyb ei hun, os ydyw am ddod i ryw ben. Clywais ymgom mewn tren y dydd o'r blaen rhwllg dan aclod oedd yn symud ymlaen at alw gweinidog. Rhaid," moddai y naill wrth y Hall, i'r un ddaw acw fod yn bregethwr o'r front rank, i fyny yn holl fanylion uwchfe'rnladaoth yr oes, yn ddyn i gymeryd ei 10 wrth ochr unrhyw siaradwr, yn gyfryw na raid iddo ddim gos-
Advertising
STANLEY CYCLES," (The Standard of excellence) made by E. H. WALKER êtJ SON, 361 Stanley Road, Bootle. Sole Agents for Ealeigh, Humber, at d Imperial Cycles.
Digon o rif. ond salw o ddeunydd.
Digon o rif. ond salw o ddeunydd. Nid dewis o brinder ydyw profedigaetli eglwysi, ond yn hytrach o gyflawnder. Mae y colegau yn eu troi allan, yr un hyd a'r un led gan mwyaf, wrth y dwsinau, a llawer yn ddi-alw-am-da,nynt. Ac os pery hyn yn hir heb i eglwys drugarhau wrthynt, surant yn eu teimlad, a'u pleser fydd gwneud lie eu gweinidog yn ang liysurus. Er yr holl gynghori a chynadleddu, dysgu a graddio, prin y teimla eglwysi fod neb neilltuol iawn yn y golwg gwerth i roddi galwad iddynt. Llwyddir yn well i droi allan fechgyn gwybod- us yn hytrach na dysgedig, liawddach cael deunydd athro nag eginyn pregethwr da. Os na hvydda y colegau i lanw y siroedd a phregetltwyr derbyniol a bugeiliaid cymer- adwy, yn hytrach na heigio gwlad a man ysgolfeistriaid, yn sicr nid yw y draul yn werth y draft'crth. Tybiwyd y byddai i ddeffroad addysgawl ynglyn ag addysg y weinidogaeth droi allan ddynion cymwys i arwain praidd Duw wrth y degau ond hanes y dyddiau diweddaf ydyw fod eglwysi yn ffaolu yn lan a cliael en boddliau. Gellir nodi deuddeg o eglwysi crylion yn y Gogledd heddyw y buasai yn dda ganddynt gael gwr ieuanc cymwys i'w bugeilio ond yn hynod o ddigalon yn eu hymgais, yn metliu syrthio ar neb wrth eu bodd. Nid prinder cydna- byddiaetli,na diffyg titi priodol i fyw ynddynt, sydd yn cyfrif am y methiant ond diffyg dynion mewn doniau a synnwyr i fentro rhoddi galwad iddynt. Bron na thybiwn fod yr eglwysi wedi deffro yn rhy gynnar, ac y rhaid cael diwygiad, neu rywbcth aingen- ach nag sydd gennym, i godi to o fugeiliaid wrth fodd calon y Sanct a'r saint.
rj o Sobrwydd.
rj o Sobrwydd. CYMDEITHAS o ddifri tros ledaenu Sobrwydd ymysg eu rhyw ydyw Undeb Merched Dir- westol Cymreig Lerpwl a'r Cyffiniau a dydd Mercher diweddaf y bu eu cynhadledd flynyddol ynghapel Fitzclarence Street.
I Cyfarfod y Prydnawn,
I Cyfarfod y Prydnawn, Cymerwyd y gadair am 4 o'r gloch gan Miss Williams, Grove Street, Llywydd yr Undeb, a chroesawodd y siaradwyr mewn anerchiad cynnes. [Cefnogwyd gan Mrs. John Davies, ac yna caed anerchiadau gan Lady Roberts, Bryngwenallt, yn galw arnom i fynnu deall y Mesur Trwyddedol yn drwyadl gan Mrs. W. S. Caine, yn galw arnom fel merched crefyddol i lwyrymwrthod a'r diodydd a chan Cranogwen, yn galw arnom i ymwroli—fod yr Arglwydd o'n tu. Canodd Madame Llewelyn Morgan ddwy- waith ac adroddodd Miss Ada Roberts, Trinity Road, Bootle, yn arddorchog. Dechreuwyd y cyfarfod gan Mrs. Parry, Swanston Avenue, ac fe'i dibemvyd gan y Parch. T. G. Owen, M.A. Cyfarfod i'r chwiorydd ydocdd, ond daetli amryw weinidogion iddo, a'u tystiolaeth mai efe oedd un o'r cyrddau mwyaf ysbrydol y buont ynddo erioed. 'Hoedd ysgoldy'r capel yn orlawn o bobl ac o'r eneiniad dirwestol.
Cyfarfod yr Hwyr.
Cyfarfod yr Hwyr. Yn yr hwyr caed cyfarfod cyhoeddus i bleidio'r Mesur Trwyddedol. Cynhulliad gweddol, nid cystal a'r cyfarfod o lawer. Dechreuwyd gan y Parch. H. Aethwy Jones, M.A., a ehadeirid gan Lady Roberts, Bryn- gwenallt. Wedi anerchiad byr ganddi hi, galwodd ar Cranogwen i gynnyg penderfyniad i'w anfon i Dy'r Arglwyddi, modd y gwypai y Ty oer hwnnw mor gynnes oedd teimlad y wlad a'r bobl ymhlaid y Mesur. Mewn araith hyawdl, diolchai Cranogwen am gael byw i weled peth mor ardderchog o flaen y_ wlad—y goreu yn hanes y Senedd a rliodd- ed yr Arglwyddi fynediad diogel iddo nes y bo ar ddeddflyfrau'r deyrnas. Dilynwyd gan Mrs. W. S. Caine, priod y diweddar arwr dirwestol, a mam Lady Roberts a Mrs. Herbert Lewis. Gofidiai oblegid cynnydd ymyfed ymysg ein merched, a gofynnai gyda difrifwch betli oedd eglwys Dduw yn wneud yn wynob ei chyfrifoldeb. Yr oedd araith Mr. Churchill ar y Mesur ym Manchester y noson cynt yn ysbrydiaeth a chalondid mawr iddi hi a hydorai na estynnai'r Llywodraeth ddim ar y time-limit. Pasiwyd y penderfyniad yn unfryd a chaed anerchiadau pellacli gan y Parchn. O. L. Roberts, J. Owen (Anfield) a David Powell. Talwyd y diolchiadau gan Mrs. Evan Owen a'r Parch. G. Ellis, M.A. Canwyd yn ystod y cyfarfod gan Madame Morgan Llewelyn, a chyda cymaint anldcliud fel y bu raid iddi ail ymddangos.
,----0----CYMRY CAER.
-0- CYMRY CAER. CYMDEITHAS OYMltY CAJSll.—Nius hon yn fyw ac yn flodcuog. Agorwyd tymor y gaeaf gyda darlith ddarluniadol gan y llywydd—John Owen, Ysw. ac yr oedd yn ddyddorol. Testyn:" Taith trwy Lydaw." Cadoiriwyd gan Mr. R. Mills, y cyn-lywydd, Mac rhagolygon am dvmor da. Disgwyliwn glywed Mr. Glyn Davies gyda'i Ixsnnod o hanes Cymru Fu. Daw Mr. W. George, hyderwn, gyda'i Fywyd y Pentre." Cawn wrando y melus Pedrog yn son am "H wia Mori fel Bardd," ac oistcdd am noson o dan yr Atliro Lewis Jones yn dweyd bancs Sieffry o Fynwy," a Chwedlonedd Amser Arthur." Gyda gwleddoedcl fel hyn o'n blaen, pwy sydd nad yw yn edrych ymlaen atynt ? Mae gan y gymdeithas swyddogion heb eu hail-ysgrifennydd, Mr. J. E. Reese, un o fechgyn Machynlleth trysorydd, Mr. J. Evans, un o lewion feibion Caor. GYMDEITHAS LENYDDOL ALBION PARK (J,.).—Cyehwynnodcl hon ymdaith arall yn ei hanes yr wythnos ddiweddaf, gyda gwledd a noswaith i rydd-ymgomio. Y llyw. ydd ydyw y Parch. Ifor Jones, ac efe a lanwai y gadair noson yr agor. Caed unawdau rhagorol gan Miss Goodwin (gynt o Lanbryn- mair), Miss Annie Jones (Rhesycae gynt, ynte ?), Mr. Arthur T. Evans (Caer bellach), a Mr. Arthur Griffiths (Conwy gynt). Rhodd- odd y ddau Arthur hyn eithaf deuawd hefyd. Adroddwr penigamp ydoedd Tom Jones, ffefryn, a bachgen o Gaernarfon a chaed hwyl gyda'r delyn dan fysedd Dr. D. R. Jones (Llandderfel, ynte ?), a John L. Tomos o Bwllheli, yn treio canu penliillion tra Mr. T. H. Rees gadd y wobr am yr araith oreu ar anhebgorion gwraig dda a Wm. Rolant (un o foys Dinbych) yn darllen darn o Ceiriog yn rhagorol. Fedra i byth gofio enwau y chwiorydd rhagorol a wasanaethent wrth y byrddau, ond gwnaethant yn odidog. Caed cychwyniad brwd, ac yr oedd yr ail gyfarfod yn un rhagorol,- pryd y darllenwyd papur meddylgar gan Mr. Griff. Williams gynt o 'Stiniog), ar Y Cymundeb Sanct- aidd." Mae argoel am dymor da.—-Amgauaf raglen i chwi os y dymunech adolygu y cyf- ryw. Gwelwch mai y Uyfr astudiaeth eleni yw The WTelsh People "—J. Rhys a Bryn- mor Jones. Mae ysgrifennydd rhagorol wrth lyw y Gymdeithas hon eto-NIr. E. Richards—un o feibion Albion Park. CYFARFOD YDD PREGETH LT. Nid yw hanes Cymry unrhyw ddinas yn llawn heb yr "hen hen hanes" yma, a da hynny.—Bu y Parchn. Gwynfryn Jones a Roger Jones yn cynnal gwyl Queen Street—eglwys y Wesle- aid tra mai Dr. Moelwyn Hughes a'r Parch. T. Chas. Williams oedd yng nghwrdd y M.C. Bu Dyfrig gyda'r Eglwyswyr a'r Parch. Emrys James, Bwcle, a R. P. Williams, Caergybi, a draetliai'r genadwri (Indepcndia. Cyrddau rhagorol yn yr oil N -0-
CYMRY'R DISPEROD.
CYMRY'R DISPEROD. TgSABOTH YN WIGAN.—Dyna Sul melus, (jartrefol, a dreuliais gyda Cliyinry Wigan. Tan gyfarwyddyd cyffiil], cos amcan a chip ar eglwysi a chapeli'r dref, ei hvsgolion, ei ha.dcila.dau cyhoedd, ei gweitlifau a'i liatnryfal ddiwydiannau a synnais glywed fod yn nhre Wigan ei hun dros bedwar ugain mil o drigolion. a chwarter miliwn pe cyfrifid y maesdrefi poblog tn allan i'r fwrdeisdref. Y addoldy Methodist- aidd yn un lielaetli, a thra liwylus a chysurus ei bulpud a'i ystafelloedd a'r praidd, tan ofal y Parch. 0. Jones, yn cael eu garuaidd gan y tri swyddog Mri. Williams, Edwards, a Rees. Y mae Mr. John Williams, Grcenough Street-y blaenor hynaf—yn cadw'n Gymro cynnes, er ei fod yn Wiganite disyfl er's ymTon deugain mlynedd ac o'r seithgant a tlirosodd a gasglwyd at doddi'r ddyled ar yr achos, casglodd Mr. Williams ei hun E500 1, fel nad oes yn aros i'w doddi eto ond rhyw £ 250. Mynnycli y daw efe ar ofyn Cymry cefnog Lerpwl ar ran yr aehos, ac mor fynnycli a hynny yr agorant lvwyth.au eu calonnau hael iddo. Cyfaill arall y t'rewais arno yno ydoedd Mr. David Roberts, Birken- head 18 mlynedd yn ol, ond bellach yn dê- fasnachwr yn Wigan, ac aelod dichlyn a ffyddlon o gorla.n Greenough.; Ysmalio Irooddwii, frawd, wrth son am drwyth yr Ind nos Sul ac fe es yn ddyble gan chwcrthin pan gyrliaeddodd y gisten ddel a llawn gyda thread y post, mor ddi-ddisgwyl ar f'ol. Mil diolch am dro mor garedig a bendith ar ben deadell Greenough Street a'i swyddogion.— Un o'r Proffwydi Bach.
Advertising
W. & J. VENMORE, Estate Agents & Valuers, 200 SCOTLAND RD. Liverpool TELEPHONE No. 1463. J. Lloyd Jones, & Co. ESTATE AGENTS, &c. 6 Lord Street, Liverpool TELEPHONE 2212. When in LIVERPOOL it will pay you to visit the largest 6 most up-to-date TAILOR. ING 6 CLOTHING STvRES 'LONDON HOUSE/ 142,144,146, 148. London Road LIVERPOOL [Opposite Owen Owen's]. Tel. 1704 Soy. Now showing in IS large windows THE SMARTEST stock iu Liver- pool of Overcoats & Suits 4 For Gents, Youths & Boys. Gents Overcoats made to oider from 25/- up to 61i 1* Ready for wear, from 15/6 up to 52/6 Note Address- Opposite Owen Owen's. Telephone 3664 Rryal, J. OLIVER, TAILORand HABIT MAKER 126 Upper Hill Street PRINCES ROAD. ^LIVE R P OOL,< For BEDSTEADS and BEDDING W. WHITTLE, SON & STOTT, LTD., 116,118 a 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. ø Telephone 2137 Royal. Caneuon Gwerth eu Canu (SIX FINE NEW SONGS). Price Is. net: Wedi eu dewis yn- barod i amryw Eisteddfodau, &c. "HEN WALIA FENDIGAID" (Fair Land of Cambria). W. 0. Jones, A.U.C.W. Geiriau gan DYFED. Prize Song Holyhead Eisteddfod 1907. "MARCHOGION ARTHUR" (King Arthur's Knights). John Henry, B.A.M. Geiriau Cymraeg BRYFDIR. (First Performance by Emlyri Davies at Llan- gollen National Eisteddfod). (The Chairing Song) "BEDD GLYNDWR" (Glyndwr's Grave). TV. 0. Jones, A.V.O.W. Geiriau BRYFDIR, Prize Song Liverpool Eisteddfod, Boxing Day, 1907, "BOHE'R TRYDYDD DYDD" (The Resurrection Morn). E. D. Lloyd, 11. A.M. Geiriau HOMO DDU. Prize Song Utica Eisteddfod (America.) TELYNA U'R SAINT (The Harps of Gold). If. 0. Jones, A.U.C.W. Geiriau BRYFDIR. English words by J. N. Crowther (Glanceri) "Y MAB AFRADLON" (The Prodigal Son). T. Osborne Roberts. Geiriau DANIEL DDU. English words by J. N. Crowther. All songs have English and Welsh words. Both notations on each copy, and are in Keys suitable fo- Soprano, Tenor, Contralto, or Baritone. New Catalogue Now Ready. Gratis. D. R. JONES (Alow Madog), 103 Hampstead Road, Liverpool Real Temperance want now met at Wallasey 18 minutes from Liverpool. 3 minutes from New ( Brighton. Frequent Service. THE GROVE HOTEL, Opposite Grove Road Station, Ideal Holiday Home, near Shore and Golf Links 50 acres of Sand Hills, Public Bowling Green, Billiards Dining and Smoke,Rooms, and all Modern Conveniences Splendid accommodation for Families. Large or smal parties catered for. TELEPHONE 328 LIS CARD. Pleasant, Healthy Country Drive. Seacombe Ferry to Wallasey Sand Hills and Shore. Seacombe, Poulton and Wallasey Omnibus have regular Service of Modern London Busses. Through Fare, 3d. Rppc T td 93 BOLD sr.. LIVERPOOL, FOR WREATHS & CROSSES, WEDDING SEEDS AND BOUQUETS, i BULBS. SEND FOR. CATALOGUES. 4 Tel. 3733 Royal. Established 1884 JOHN LLOYD, HIGH-CLASS TAILOR- (Frcvi T. B. Johnston, Lord St.), } HOLT POT%D,
Saethu yn rhy uehel.
twng pen ar unrhyw lwyfan bydd yn ofynnol iddo fod yn drefnydd da, ac yn ymwelwr cyson, yn ddyn cryf ond eto yn ddioddefgar os nad yw i fyny yn holl gyfrinion y ddeddf addysg, ac yn abl i roddi cyngor ac arweiniad ar bwnc o gyfraith, fynnwn ni mohono. Pasiwyd neithiwr yn ddiweddaf oil gennym y bydd yn rhaid iddo fod ymhob cyfarfod a phwyllgor, a throi allan bregethau dan gamp bob Sul." Nid rhyfedd fod eglwys y brawd hwn yn methu yn deg a tharro ar neb ac nid posibl mewn byd mor amlierffaitli a hwn ddod o hyd i wrthrych fydd yn ymgorfforiad o'r holl ragoriaethau uchod. Anodd gwybod pa un o'r ddau ganlynol i'w dewis pregeth- wr gwych a bugail cyffredin, ynte bugail rhagorol a phregethwr eilraddol ? Os ceir y naill neu y llall mewn un, raid dim cwyno ond os ceir y naill a'r llall yn yr un, gorou oil.