Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
I .| — —=™-R^ -J:I',a: 0 Beaty# TAILORING CELEBRATED THE MATERIALS ON OFFER FOR TAILORS WIS SEASON ARE EXCEPTIONALLY ¥ A_ «00D. BOTH IN VALUE 8 STYLE LONDON ROAD WELL WORTH INSPECTION. ALL CAREFULLY FITTED g CHURCH ST. LIVERPOOLQ*_L c a BUY NOW a Hams 3i summei Pies. EXCEPTIONAL VALUE. JONESES "Bee Hive" Drapery Stores, 59, 61, 63 Brunswick Road, Liverpool. °&ERTS e EDWARDS • ESTATE AGENTS, *^rKdale Rd., Liverpool. Telephone; 2193 Royal. .\at{ }1'On T IDRIS ^ble Waters In Syphons and Bottles. °^ASH WATER. SL TZER WATER. FTOX, LEMONADE. GINGER ALE. Etc.etc. & Co., Ltd., Northumberland St., t LIVERPOOL j Are Your Eyes Right ? Or have you noticed some little sign that makes you suspect defects ? If in doubt don't delay; don't wait until neglect has aggravated the defects. Let us test your eyes by the best methods known. Then, if you need them, we can supply Glasses that will give immediate comfort and Preserve good vision. A.RCHER & SONS Eyesight Specialists. • 73, LORD STREET Estb,1848.. LIVERPOOL SAVE Es CASH OR HIRE. D. GRIFFITHS & SON, 221 Breck Rd., L'pool. PIANOS AND from 85. per month by all the leading m a I& or s. .H!!t!mF: Telephones- filii, 61% Anfield ['Ii! Breck Rd. 1;
Advertising
aronte s Carbon Portraits ARE PERMANENT therefore the BEST. PUPULAH PKICKK. t Atelier, 3 LORD STREET, LIVERPOOL.
Advertising
Perfect Pastry I KEENORAI Self=Raising | FLOUR. I Pastry, Scones, Bunsj etc., are I ALWAYS light in the homes where I Keenora Self Raising Flour is I regularly used. Flour on the market which is JU ST 1 There is no other Self-Raising I the same as 'KEENORA." Try I it and see what a boon it is. It I offers I Better Results without AcUled I Expense. 5 To be had from all Grocers and ? Italian Warehousemen. ■ Sole Wholesale Agents— MORRIS <5 JONES, Liverpool
:LlYTHYR GWlEIDYDDOl
LlYTHYR GWlEIDYDDOl [GAN Y GWYLIWR.] O'r Tibr, Westminster, Nos Fawrth, Aivst 11, 1908 Dyddordeb Gwleidydda. MAE Bwrdd y Llefarydd wedi ei hulio a llian, a'r meinciau gwyrddion o dan gynfas y glanhawyr, ac nid oes galw arnaf i'w gwylio. Y peth rhesymol o dan yr amgylchiadau fyddai ymlid gwleidyddiaeth o gof, a myned i lan afon—y Dafwys, fel mater o ddewisiad, dipyn yn uweh i fyny na Westminster, os gwelwch yn dda !—i fwynhau ychydig o seibiant y Recess. Ond ysfa pob gwleid- yddwr," hyd yn oed pan na bydd yn gwleidydda f,.ond ar bapur, ydyw cael troi a throsi yn yr hen gyn- helin. Fel y gwelir yr .actor ar ddiwrnod segur yn cyrchu am newid i'r chwareudv, neu'r bus driver yn treulio ei ddydd gwyl ar y box gyda chydymaith, felly y myn gwyliwr gwleidyddol ymdroi ymhlith yr hen bethau. Ac ar wahan i hynny, rhaid i ni gydnabod fod tabwrdd y dyfodol yn euro yn rhy hyglyw i ni anwybyddu "gwleid- yddiaeth." Dyrys-bwne y dydd, mae'n ddios, ydyw yr argoelion fod trai wedi dod ar ein llwyddiant masnachol. Nid yw hynny yn beth i ddychrynnu o'i herwydd-fel y dywedai Ganghellydd y Trysorlys ychydig amser yn ol, trai a llanw sydd i'w ddisgwyl-ond y mae'n digwydd dod ar adeg anghyfleus, Rhwng yr arian sy'n angenrheidiol i dalu'r Old Age Pensions, ac i gyf- arfod galwadau y Fyddin a'r Llynges —heb son am y gofynion afrifed ereill ar Bwrs y Wlad—y mae dis- gyniad yn y Cyllid Cyhoeddus yn 7) beth i bryderu yn ei gylch. Fod pryder o'r fath yn pwyso ar feddwl Mr. Lloyd George mae'n ddigon amlwg oddiwrth y ffaith ei fod yn awr yn tramwy gwastat-tiroedd llych- lyd Germani, yn chwilio am ffordd newydd i "vneud prè" dros y genedl, neu hwyrach fl'ordd newydd i'w cvnhilo, yn lie bod, fel y dylasai ar ol Senedd-dymor maith a chaled, yn mwynhau awelon balmaidd ei fro gynhwynol. Ond credwn fod daioni yn debyg o ddeilliaw oddiwrth ei yrnweliad a'r Cyfandir. Gydag ef ar y siwrnai y mae un o newyddiad- urwyr adnabyddus y Brifddinas, sef Mr. Harold Spender, hen ohebydd seneddol y Daily News (Llundain), pan oedd y papur hwnnw mewn tipyn o fri a brawd i olygydd craffus y Westminster Gazette. Y mae Mr. Harold Spender yn wleidyddwr gallu- og a phrofiadol, yn gystal ag yn ys- grifenwr parod a chlir. Yn y Manchester Guardian boreu heddyw ceir llythyr oddiwrtho sy'n taflu goleu llachar ar ddawn gyfun- drefnol Germani i gvfarfod anghen- ion ei gweithwyr mewn henaint, ond yn fwyaf arbennig mewn methiant- wch trwy ddamwain nen afiechyd. Gwendid Mesur yr Old Age Pensions —fel yr,addefaipawb-ydyw.fod yn rhaid i ddyn fod a'i ddwy droed ,yn y bedd cyn y daw i feddiant o'i fen- dithion. Y peth sydd ar y gweithiwr fwyaf o'i. eisieuj.ydyw rhyw drefn- iant i gyfarfod y.dyddiau drwg pan, oherwydd gwaeledd neu ddamwain, y digwydd iddo ef fod am wythnosau, os nad misoedd, yn analluog i ennill tamaid iddo ,ef ei hun. a'i deulu. Ymddengys fod gwleidyddiaeth Germani wedi llwyddo i gryn fesur i wneud yn gyffredinol yr hyn yr ydym ni, mewn modd rhannol, yn ei wneud .yn y s,wlad hon, trwy ein Cymdeithasau Darbodol. Y mae y ffeithiau a'r ffigyrau a ddyry Mr. Spender i ni yn y cysylltiad hwn yn Ilawn o ddvddordeb ac o addysg ac y mae yn sicr iawn gennym na ddihangant sylw ,ac ystyriaeth fwyaf manwl ein Canghellydd. Y mae yn gwneud gwaith rhagorol drosom yr ochr arall i'r sianel: ond mae'n dda gennym ddeall ei fod yn bwriadu dodjyn 01)'1' Wyl iGenedlaethol yn Llangollen.
Yn Llandrindod. I
Yn Llandrindod. [GAN GLASEIDIWR.] YR hyn ydoedd Jerusalem i'r Iddew, Mecca ïr Mahometan, Llangeitho i'r Methodist, ydyw Llandrindod i'r Cymro yn dymhorol ac ysbrydol. Gan fod llu o'ch cvmdogion or ddinas yna, a lleng o'ch darllenwyr drwy'r wlad, yn tyrru yma, tybiais nad anyddorol ganddynt fyddai i un ohonynt nyddu ychydig linellau a phinio ynghyd nifer o nodion am fro'r ffynhonau. Gan na fu ffawd garediced wrthyf i dalu "vmweliad blynyddol a'r He megis yn y dyddiau gynt.vr hyn a'm tarawodd gyntaf wedi dyspeidiau o absenoldeb ydoedd
Cynnydd.
Cynnydd. Dyma gryfder a gwendid y fangre lonydd. Gan fod dylifiad pobloedd yn amlhau, anghenraid a osodivvd ar y preswylwyr i estyn cortynnau eu preswylfeydd, agor lieol- ydd newyddion, a cliodi palasau heirdd ae eang ond wrth wneud hyn, cyll y lie ei nodweddion hyfryd cyntefig, mogis unig- rwydd, tawelwch, gwladeiddiwch. Prysura, a hynny er gofid i laweroedd, i wisgo agwedd- au tref brysur, boblog, a ffasiynol. Pa un ai prawf o wareiddiad ynte barbareiddiweh sy'n cyfrif am hyn, gadawaf i'r uchfeirniaid ben- derfynu. Cwynir fod gwaith yn brin. y cyflogau yn fychain, ac arian yn anodd eu cael ond wedi tain vmweliad a glannau'r nioroedd a broydd y ffynhonau, ychydig o arwyddion a geir fod gwasgfa yn y tir na chynni yn y gwledydd. Prin y bu Llan- drindod erioed yn llawnach na'r ddwy wyth- nos ddiweddaf, a rawy o asbri a nwyf yn nodweddu yr ymwelwyr. Gwerir iiiwv nag erioed yma am ymborth, gwisgo. cerbyda. a modura. Peth cymharol ddieithr ydoedd drive yn y lie hwn flynvddau a fu. hyd yn oed ymysg y bendefigaeth ond prbyn hyn eymer y dosbarth canol ddefnydd o'r cyflensterau drud i wibio yma. ac acw. rhai i Cwm Elan, ereill i Rhaiadr,- ac nid ychydig cyn belled ag Aberystwyth. Cofier nad gwarafun y cyf- ryw fwyniant yr ydym. ond nodi y eyf- y newidiad sydd wedi cymeryd lie. a phrofi nad ydyw y panic mor ingol mewn cylchoedd masnachol a chymdeithasol ag y myn llawer. Mae'r hen bleserau t awel, hyfryd, a rhadlon, megis morio ychydig ar y llyn, ymweled a'r orsaf, picio i'r shaky bridge, yn prysnr ddiflannu. Haera rhai fod rnwy o Saeson a llai o Gymry yn treulio eu gwyliau yma nag a'fu pwy wybod nad rhai or agweddau hyn sy'n cyfrif am y cyfnewidiad. Cwyna rhai o'r lletywyr nad yw y lie yn llawn, ac felly mai ychydig sydd yn bresennol ond nid dyna yr esboniad, ond cynnydd yn y tai, a'r dyrfa'n fwy ar wasgar. Yn y blynyddau gynt dau neu dri o leoedd a geid i addoli ar y Sabothau crbyn hyn ceir chwech i saitli o gynulleidfa- oedd yn ymgynnull Suliau gwyliau'r haf. Gan fod enwogion o fri yn lianw'r gwahanol bulpudau, naturiol i'r ymwelwyr ymwasgaru —un i wrando Paul, arall Apolos, a'r lleill yn troi at Cephas.
|Diffyg Darpar.
Diffyg Darpar. Er fod cynnydd yn rhif, mainf, ac ansawdd i y tai, rhaid cydnabod nad yw v manteision t a'r cyfleusterau tuag at wneud ymweliad y dieithriaid a'r lie yn wir hyfrydwch, cyfle i sicrhau gorffwystra, yn cynhyddiiik gyfatebol. Er crwydro a chwilio, ni welais un fainc y gallwn eistedd yn dawel ac es- mwyth arni or orsaf i fyny hyd at y Cwrmins. Ofna y Cyngor wario ceiniog y tu allan tai eu hunain ar na llwybr, camfa, cadai r. gardd flodau, na thir adloniant yn unman yn y He. Mae natur wedi bod yn hael tuhwnt i Landrindod mewn awyr bureiddiol, awelon balmaidd. dyfroedd iachus, golygfeydd arddunol ond nid ydyw y natur ddvnol wedi helpu gronyn ar natur a pheri iddi ym- ddangos yn ei dillad goreu. Diwedd y gan ydyw y geiniog, a byddai pasio iriesuran ,e gwelliantol yn trymhau y trethi ac yn lluosogi swyddwYl", ac yna gwell gan y tretlidalwyr i'r ymwelwyr fod dan anfantais nag iddynt hwy ddioddef. Clywais i'r Cyngor basio drwy fwyafrif nad oedd i rai ohonynt gael trip rhad i loeedd fel Harrogate i gael agoriad llygad i wir anghenion cysurol lie or fath. Rhaid iddynt ymddadebru neu bydd ceisio cynhilo y gein- iog yn. sicr o arwain iddynt orfod gwario y bunt. Wrth ymatal rhag rhoddi y dorth. rhaid fydd iddynt cyn hir fenthyca'r dciscn. Byddai gwario ychydig gannoedd ar y He yn atdyniad cryf i ddosbarth gwell a lliosocach en cefnogi, ac felly hwy eu hunain fyddai'r enillwvr mwyaf yn y pen draw.
Ffynnon Newydd.
Ffynnon Newydd. Ceir fod spring newydd wedi ""i darganfod flwyddyn yn ol yn y cae bach tu ol i'r eglwys, Proffwydir mai hon fydd prif ffynnon y lie maes o law. Perthyna hon i'r Gorfforaeth, a defnyddir yr elw at dreuliau trefol. Nid yw nifer yr yfwyr yma yn fawr etc. gan feallai fod y pris yn isel— (tair ceiniog yn y dydd, neu geiniog y glasiad)-a'l' dyfroedd yn oer, a dim sulphur i'w gael fore a nawn yn y far- gen. I'r pant y rhed y dwfr. a gwell gan laweroedd fynd gyda'r lliaws i'r Rock neu'r Pump House a thalu mwy am salach dyfr- oedd. Fel v bydd i riniau y ffynnon newydd ddod yn wybyddus, ac i'r ffaith fod hwn-a- hwn yn yfed ohoni. cynhydda ei masnach, a daw elw mwy oddiwrthi. a defnyddir y cyf- rvw, mi obeithiaf, i ddyrchafu y He yn deilwng o'r prisiau uchel a delir am y lletai. Pe buasai y ffynnon rinweddo] hon yn llaw Iddew. buasai cyn hyn wedi gwneud ei ffortiwn. Dywedir ei bod yn tynnu at gan troedfedd o ddyfnder. tua'r un mesur a ffynnon Jacol). ac o adnoddau dihysbydd. Rhyfedd mor gaethion ydym i'r gorffennol hyd yn oed ar adegau rliyddaf y flwyddyn gwell gan rai ddringo i lawr i'r Rock, ac ereill ddringo i fyny i'r Pump House, oherwydd eu bod wedi arfer. neu fod eu tadau a'u teidiau wedi gwneud hynny, na draclitio dwfr y ffynnon newydd sydd latach ei bris. a'r canlyniadau yn fwy effeithiol. Mae dau neu dri o laseidiau o hon yn cyfateb i saitli, neu wyth o eiddo y ddwy ffynnon arall. Amser a ballai i mi ddilyn yn v cyfeiriad hwn. er dvddored ydy\v. Tybiais pan yn cychwyn y cawn zvfle i ddweyd gair am v cyfarfod gw-eddi, Ysgol Sul Gymraeg. y Coil N-ei-i tioii. oedfa Elfed ond caf drwv eiclj caniatad ychwanegu llinnell neu ddwy yn y dyfodol ar y cyfryw a chan fy mod yn aros eto hyd y Sul y bydd Prydderch yma. o bosibl y try rhywbeth newydd i fyny i ddweyd gair yn ei gylch. Mae'r hin yn hynod ddymunol yma. a. phawb o'r ymwelwyr a.m y goreu yn mwynhau eu hunain, ac arwyddion gwellhad aUllg ar ugeiniau. Lied sigledig ydyw V tywydd er's deuddydd neu dri, ond nid rhaid c-wyno a.m ycliydig o wlaw i ostwng v 11 well, i olchi wyneb y dail a'r blodeu. ac i eneinio pcnnau y mvnyddoedd. a rhoddi cyweirnod newydd i afonydd a liryniau. --0-
IAWN Y BALA
IAWN Y BALA Y lAWN YN El BERTHYNAS A I THADOLAETH DUW, gyn y Parch. JOHN OWEN JONES, B.A., Bala. Cy- hoeddedig gan Davies & Evans, Bala. Pris 2g. ANERCHTAD ydyw y pamffledyn hwn a dia- ddodwyd gan Mr. Jones yng Xghyfarfod Misol yr Ysbyty*. Pwyswyd arno i ddefnvdd- io rhyw foddion i'w ddwyn i gyrraedd y Nilad dyna'r rheswm dros ei ymddanghosiad yn y ffurf hon. Mae y traethiad yn syml a golcu, a'r pris yn ostyngedig iawn, fel y credwn y llwydda i gyrraedd yr amcan mewn golwg. I rai sydd wedi talu peth sylw i'r pwue hWlJ. nid oes fawr ddim newydd iddynt ynddo ond gall fod o wertli mawr i ddisgyblion ieuainc sydd ond newydd agor eu llygaid ar bwys- igrwydd yr athrawiaeth. Hhydd bwyslais ar wedd i'r mater ag y mae tuedd yr oes i'w hesgeitluso. sef wedd wrthrychol. Yr unig dant nev\ydd. ac nid mor newydd bellacli. a goir ynddo. ydyw fod a fynno'r lawn a Duw