Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Advertising
'Phone—017 Central. a W. GRIFFITHS A Tailor, if 29 SOUTH JOHN STREET, LIVERPOOL ALSO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. 'Phone-27x Bootle. S9Br Lunt's Boots are VALUE FOP, MONEY. Try P a I r Ladies' and Gent's in groat variety. 11 PARADISE STREET, The only address ^'ephone 51 Y Anfield. JOHN JONES, ø FUNERAL FURNISHER, Preston Grove, LIVERPOOL. Style, Quality, Economy, Attention. SUPERIOR WEDDING BROUGHAMS. Miniates including all charges on application. Nad oes unrhyw gysylltiadrhyngof | ag arall o'r un enw. ag arall o'r un enw. ==
Family Notices
GENI. —Medi 6, yn 8 Spekeland Road, r ^dgehill, i Mr. a Mrs. J. Jones, merch. 8, yn 38 Mulgrave Street, ^iverpool, priod John T. Jones (gen. ^allie Daniel) ar fab. PRIODI. NES—JONES—Medi 7, yng nghapel M.C. £ dge Lane, gan y Parch. David Jones, ionriek Elstop, mab hynaf Wm. John .°^es, Rhyl, ag Ethel Josephine, merch ieuengaf Mrs. Jones a'r diweddar George ones, accountant, Sir Thomas Street, Liverpool. 0BERTS—LLOYD-GRIFFITH—Medi 10, yng nghape] M.C., Llanbedr, Meirionydd, gan y Parch. Richard Evans, Harlech, yn cael p gynorthwyo gan y Parch. W. Lloyd- yrifflth (tad y briodferch), Thomas Cord- ail fab y diweddar Edward Roberts, ^erpwl, ag Olwen Margaret, ail ferch y arch. W. Lloyd-Griffith. MARW, °Berts,—Medi 9, yn y Glyn Lodge, Robert °berts5 blaenor y gan yng nghapel M.C. ^lsarnau, Meirionydd, a mab y diweddar Roberts.
Advertising
Telephone-261 Bootle. P. LLOYD JONES, ■ Funeral Furnisher, Ðeclal attention given to removals to and from Wales tORK BUILDINGS, 3C)2 & 364 Stunley Rd., Llpoo, (Near Bankhall). WEDDING EQUIPAGES. SAVE SS CASH OR HIRE. D- GRIFFITHS & SON, í!21 Breck. Road, and W her s. leadl the "1' s. eleph 61 Ones- A f ¡I!ck n leld Boots That's my business. If „ *ou buy Boots That's your business. y°u f.) c M'ace any value on your feet fQl'aelXle and let me build you a pair, don't An easy Shoe is equivalent to an easy conscience GUTTERIDGE, a. BESPOKE BOOT MAKER,- 1 West Derby Rd. My Only Address 11. PROCTER, F.B.P.S. /V* -p\ The City rl Phrenologist, .«• J** t Is a Fellow and j «w f Councillor of the //« British Phrenolog- /y ical Society (Incor- porated). I Holds Six Certificates & Six (iold Medals for Pro- 7 Hctaacy in Phrenolog u/ and Hand-reading. J7 Mr. Procter has had E 35 years' Profession- i al Experience in Liverpool,and is now li giving Consultation FEJ^EAT*'RS, PHRENOLOGY & HANDREADING at time St. & 25 Mt. Pleasant
Gyfeillach yr Anibynwyr.
Gyfeillach yr Anibynwyr. (Parhad o tudal 5). dyna syniad plaid Thomas a Kempis. Beth ddaethai o'r byd-o Lerpwl-pe buasai pawb yn monk ? Nid ydyw hynny yn iawn, medd ereill ond myned at ddynion da a gofyn cwestiynau, a rhoddi atebion i'w cwest- iynau hwy. Ddowch chwi byth i ben Y mae bywyd mor amrywiol, fel na fedr neb roddi rheol bendant ar yr amrywiaeth. Medd y trydydd dosbarth Ewch drwy exercises crefyddol; cadwch y gwyliau rhowch le i'r arddundl mewn crefydd rhowch y pryd- ferth i'ch helpio dowch ag aestheticism i mewn. Nid oes eisieu i mi dreulio amser i ddweyd mai nid dyna y ffordd yr ydym i ddilyn Crist. Y mae bron yn amhosibl i mi gael ateb i'r cwestiwn Beth wnaethai lesu Grist pe buasai yn fy lie i ? Dyna sheet anchor crefydd lesu Grist—dibechadur- usrwydd ei gymeriad. Sut medraf fi ddilyn ei steps ef ? Sut y mae dyn yn dyfod yn engineer ? Y mae yn myned i'r ysgol ac yn dysgu egwyddorion peirianwaith. Beth y mae meddyg yn ei wneud ? Myned i'r ysgol ac yn dysgu egwyddorion meddygaeth. Ddaw o byth wrth gop'io. Rhaid iddo gael ei drwytho gyda'i hegwyddorion. Sut y mae dilyn Crist ? Nid wrth ei goplo yn allanol. Rhaid myned i'r ysgol. Rhaid cymeryd yr iau rhaid dysgu ganddo. Rhaid ymdrwytho yn ei ysbryd. Rhaid myned i mewn i'w egwyddorion rhaid ym- deimlo a'i amcanion a'i ideals a'i fwriadau. Sut y mae dyfod a pheth fel hyn i arferu ar ein hoes ni ? medd rhai. Y mae yn gol- ygu ein bod yn ofnadwy o ddifrifol gyda chrefydd. Os oes rhywbeth yn nodweddiadol 0 lesu Grist, dyna yw—absenolcleb sham, llawn gras a gwirionedd," reality. Roedd pawb yn teimlo, hyd yn oed putain y stryt, pan ddaeth at lesu Grist, y mae Hwn yn real. Os ydym i fyw yn ei oleu Ef., yr ydym i fod o ddifrif. Ai pastime ydyw crefydd ? Nid hynny ydyw dilyn Crist. Y mae gan y byd rhyw reddf i ddweyd a ydym o ddifrif ai peidio. A chofiwch faint o le sydd gennym i feio y byd. Nid ydyw yn iawn i ni ganu hymnau a chael hwyl yn y capel-nid wyf yn bychanu hwnnw ynddo ei hun fel tipyn o steam i wneud gwaith wedi hynny-ond os diwygiad a chan ynddo i'n suo, a dim byd arall ydyw, y mae yn fethiant. Sut y ma,e yn bosibl, o'r ochr arall, i bobl y byd barchu crefydd, pan y mae ei phrif weinidogion yn eistedd i lawr ac yn ysgrifennu cyfrolau ar millinery, a defodau, a deceased wife's sister ? Y maent yn yr un man a Lefiticus. Y mae eneidiau yn colli. Y mae yn rhaid i ni fod mewn dead earnest. Gadewch i ni roi mwy o bwys ar ffeithiau nag ar ddaliadau. Yr oedd lesu Grist yn gwneud hynny. Facts oedd popeth ganddo. Ni ofynnodd Ef i'w ddisgyblion sut yr oedd yn Fab Duw, ond yr oedd yn falch ganddo eu clywed hwy yn dweyd ei fod o. Y fact oedd y peth ganddo Ef. Bydd arnaf ofn i ni roi Crist mummified i bobl mewn cadach o hen theories. Facts yr efengyl, power yr efengyl, sydd eisieu. Yr ydym i gymysgu a'r bobl. Gwnai lesu Grist hynny. Yr oedd yn myned i'w tai, yn shario yn eu trueni. Yn awr, yr wyf yn dyfod at gwestiwn sydd yn bwysig iawn i mi acw Sut yr ydych yn myned i ymddwyn tuag at yr Independent Labour Party ? Ai trwy gadw draw ? Nage. Nid wyf yn credu yn y Socialism sydd ynddynt, ond yr wyf yn credu yn y dynion. Y mae eisieu myned at bobl, a siarad hefo nhw, ac nid cilio draw. Os wyf am fod yn oleuni i'r bobl, rhaid myned atynt. Dylem fod yn ddigon dewr.fel eglwysi Crist i wrthwynebu bob camwri. Dyma oleu lesu Grist-sefyll yn ddewr yn erbyn popeth oedd yn wrong. Pe buasai yn y minority o un, ac yn cael ei goroni a drain, ac yn cael ei hoelio wrth groes, sefyll yn erbyn popeth oedd yn wrong. Nid wyf yma heno i ddadleu dros gyfalaf a llafur, ond yr wyf yn meddwl fod gormod o le i gwyn y bobl yma, fod eglwys Crist wedi bod yn ormodol dros gyfalaf. Y bobl hyn oedd yn fotio dros gadw slaves ac yn hootio Wilber- force. A ydyw yn syn os ydyw pobl yn dweyd fod eglwys Dduw yn gwneud camwri ? Ond diolch i Dduw, y mae y goleu yn aros. Un amcan mawr oedd gan lesu Grist, dim ond un; a hynny oedd dyfod a theyrnas Dduw ar y ddaear; nid yn unig yn y nefoedd, ond hefyd ar y ddaear. Gwella y ddaear i gychwyn, dod a barn. ar y ddaear, a chadw y dyn i gyd, gorff ac enaid. Dyna amcan lesu Grist. Nid oes eisieu ei brofi. Efe ydyw y brenin. Y mae pob deiliad sydd yn myned i mewn Iddo, i fod yr un fath. Teyrnas ydyw. Os teyrnas, nid clwb. Y mae deiliad yn golygu fod pob deiliad i fod o'r un egwyddor a'r brenin. Mater o initiation, registration, a fee ydyw clwb. Nid oes yr un ohonynt yn nheyrnas Dduw. Dod i'r deyrnas, dod i'r goleu, ydyw nid ildio ein hunainyn unig, ond cael pobl ereill. Mater o ewyllys ydyw. Os felly, nid dyfod a phobl yn growd a'u registro hwy, ond apelio at yr unigol. Y mae pregethu yn myned yn rhywbeth i growd, pan y mae y gair yn golygu cyhoedd," rhyngoch ag un arall. Yr wyt yn pregethu -i dy blentyn bach. Yr ydym i hysbysebu lesu Grist, dangos lesu Grist; goleu lesu Grist yn cael ffordd trwy ein calon a'n bywyd transparent ni, fel y bydd. pobl ereill yn ei weled. A ydym wedi ildio ? A ydym wedi hynny yn treio cael ereill i ildio ? Dyna yr efengyl dyna y goleu. Ar ei ol o, bobl! Y mae pulpud Cymru yn dangos rhyw gymaint ohono bob Sul. Ac os nad ydyw yn gwneud, y mae lesu Grist yn 8 Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. Keinion Thomas ac yn ystod y Gyfeillach, cyfeilid gyda'r organ gan Mr. Harry Evans, F.R.C.O.
Sylwadau.
Sylwadau. GYDA dyddordeb yr edrychir ymlaén o flwyddyn i flwyddyn at gymanfaoedd y gwahanol enwadau Ymneilltuol Cymreig a gynhelir yn Lerpwl a'r cylch. Amlwg yw fod pob enwad hefyd yn teimlo dyddordeb yng nghymanfaoedd eu gilydd, ac mewn llawer engraifft-yn enwedig yn y Gyfeillach neu Seiat y Fawr-gellid meddwl oddiwrth y gwrandawyr mai- cyfarfodydd anenwadol ydynt. Felly y ceid pethau ,yng Nghymanfa Anibynwyr Lerpwl eleni. OP.- Bu y cynulliadau ar y cyfan yn boblogaidd, ac mewn llawer engraifft yn lliosog iawn. Yr oedd capel eang Great George Street nos Sadwrn yn nodedig felly. Ac yn ol pob arwyddion ar hyn o bryd, mae y gwrandawiad i'r efengyl yn fwy effro a meddylgar nag y bu. Fel y gellid disgwyl, yr oedd y weinidog- aeth yn gynrychioliad pur deg o ddawn a diwinyddiaeth yr enwad, ac ni chlywsom i'r un utgorn roi "sain anhynod," er, wrth gwrs, nas gellid disgwyl i bob un foddio pawb. I rai sydd yn cofio cymanfaoedd pell yn ol, chwith meddwl am y cewri glywyd gynt ond nas clywir mwy. Ond y mae ereill wedi eu codi a'u donio, ac nis gallai caredigion crefydd ac enwad lai na llawenhau oherwydd ambell dafod tan lied ieuanc a lefarai yn y Gymanfa hon. Er nad yw sylwedd y genadwri, feallai, wedi newid cymaint, y mae y dull o feddwl a llefaru wedi gwneud hynny i fesur lied helaeth ar y cyfan. Nid ydym yn cofio i ni erioed wrando Cymanfa yn cyfleu yr efengyl, a'i chymeryd drwyddi, yn fwy cyflawn. Buom yn gwrando pregeth na chlywsom yr un erioed yn fwy ysbrydol, ac ar yr un pryd athronyddol. Er fod y pre- pethwr yn dweyd wrthym am beidio ymgais i ddeall hanfod y bywyd ysbrydol, eto arweiniai ni i fewn i'r byd ysbrydol drwy gyntedd athroniaeth ac ymresymiad. Ond nid ydym yn cofio i ni erioed deimlo fod synnwyr cyffredin yn arwain dyn mor bell i'r byd ysbrydol. «5e Dyna un pegwn ardderchog i'r pregethu fu yma. Y pegwnTarall"oeddJanerchiad a glywsom yn y gyfeillach nos Sadwrn, ymha un y dadleuid hawl Cristionogaeth i ym- dreiddio drwy fywyd dynol yn ei holl berthyn- asau a chylchoedd cymdeithasol a thymhorol, ac nid yn unig ysbrydol. Nid ydym yn crybwyll y pethau hyn mewn ffordd o geisio graddoli rhagoriaeth cymharol y pregethwyr, ond yn unig fel engreifftiau o rai yn pwysleisio dau lwybr cyferbyniol, ond yn cynnwys yr un gwirionedd mawr.
--0--Ffetan y Gol.
--0-- Ffetan y Gol. ■j^1 Cofied ein gohebwyr y rhaid cau'r Ffetan bob bore dydd Mawrth, ac nas dodir ynddi ddim a gyrhaeddo ddydd Mercher. <
- Rhwydd-Hynt.
Rhwydd-Hynt. Daeth y bluen hon i law yn gwbl heb ei gofyn Y GOLYGYDD, ANWYL GYDWLADWR,—Dyma linell ar frys, tan gynhyrfiad y foment,—ac y mae'n fwriad gennyf ei hysgrifennu er's tro byd,- i'ch llongyfarch yn galonnog, chwi gwc y BRYTHON clodwiw. Boed ichwi hiroes lwydd- iannus, petai ddim ond i'm boddio i a'm bath. Cedwch i fyny'r safon lenyddol uchel sydd i'r papur. Diolch am FRYTHON a chanddo'r fath Gymraeg swynol a naturiol a chroew. Y fo ';Yydyw'r Cymreicia ar faes newyddiadurol yr hollwlad. Ac am lendid gwedd a general get up,-wel, 'does a'i twtshia! Dyna Pedrog hefyd, fel giaffer y beirdd,—ond dyna, waeth heb ddechre enwi. Go ahead, ynte ac. fe ddyry pob perchen chwaeth fawrbris ar eich ymdrechion. Yr eiddoch yn ddidwyll, Abergele. BRYTHONWR.
Beirniadu Adrodd ym Mhwllheli.
Beirniadu Adrodd ym Mhwllheli. SYR,—Yn ei ysgrif yr wythnos ddiweddaf, gofalodd Hen Eisteddfodwr" am beidio gwneud cais i ateb yr un o'r gofyniadau teg a roddais iddo ac hefyd am ysgoi pob pwynt ymarferol mewn perthynas i'r gelf adrodd- iadol. Yn hytrach, ymbalfala am garreg yn rhywle i'w thaflu at ei feirniaid. Ymdrecha ddangos nad yw lliosogrwydd ymgeiswyr yn un prawf o ymddiriedaeth yn y beirniaid. Cato pawb, prawf o beth ydyw ? Gallaf brofi iddo y tuhwnt i amheuaeth hefyd fod y rhan fwyaf o'r ymgeiswyr hyn wedi bod yn cystadlu o'r blaen o dan un o'r ddau feirniad. Gellid casglu oddiwrth ei sylwadau ei fod yn ystyried beirniaid yr Eisteddfod Genedlaethol yn anffaeledig oil. Cynghorem ef i ddarllen ysgrifau Hesgin yn y BRYTHON. Dywed fod fy syniadau am gymhwysterau beirniaid yn gymylog "— dichon eu bod i olwg un sydd yn cario trawst yn ei lygaid. Nid wyf yn honni fy mod yn abl i fesur a phwyso beirniaid gwlad. Efe ydyw yr ymhonwr a wna hynny. Paham na rydd ychydig o'i syniadau clir ei hunan, er mantais i'w gydwladwyr dwl ? Er ei fod yn ceisio rhoddi argraff arnom ei fod yn meddu gwybodaeth uwchraddol i fodau cyffredin, rhoddaf her iddo wneud rhestr o anhebgorion adroddiad perffaith, ac anwybyddu y pwyntiau a nodais. Yn nes at y pwnc, frawd. Gwyddoch o'r gore na wna cynulleidfa fawr fel yr un oedd ym lVIhwllheli-yn disgwyl clywed y corau- wrando ar feirniadaeth. A ellwch chwi brofi fod y beirniaid wedi gwneud camwri a chwi neu a rhywun arall ? Chwerthinllyd i'r eithaf ydyw y cyngor a rydd ar ddiwedd ei lith, sef peidio gwario pres i ddanfon y testynau i'r cystadleuwyr, ond eu cadw i feirniaid cymwys." Wel, wel, wfft byth! Yn eno'r taid anwyl! pa bechod sydd mewn danfon testynau i'r cystadleu- wyr ? I beth y mae y testynau da ond i'w danfon i'r cystadleuwyr ? Ni bydd angen am feirniaid o'i safle ef, nac adeilad i gynnal Eisteddfod, ac ni cheir dadl wedi barn, os na ddanfonir testynau i'r cystadleuwyr EISTEDDFODWR ARALL.
At Bwyllgor Eisteddfod Genedlaethol…
At Bwyllgor Eisteddfod Genedl- aethol Cymru, Llangollen, 1908. FONEDDIGION,-Diameu gennyf y byddwch un ac oil wrthi a'ch holl egni yn paratoi ar gyfer yr Wyl Genedlaethol sydd i'w chynnal yna y flwyddyn nesaf hefyd 'rwy'n sicr fod cryn betruster a fydd yr Wyl yn llwyddiannus mewn llawer dull a modd. Credaf, ond cael undeb cyffredinol, y bydd yn llwyddiant perffaith ymhob ystyr. Fel un ag oedd yn bresennol yn Eisteddfod Abertawe, credaf fod cryn lawer o'r bai am yr afreoleidd-dra oedd yn ffynnu ar rai adegau yn gorffwys ar ysgwyddau y Pwyllgor Trefniadol. Yn ddieithriad, bron, pan yr oedd cystadleuaeth gorawl yn cymeryd lie, yr oedd twrf ac anhrefn hefyd yn cymeryd lie yr oedd y dyrfa fawr yn awyddus i wybod pa gor oedd ar yr esgynlawr i ganu, a mawr y trwst a'r gwaeddi, Cor pwy yw hwna,Gomer ?" O ba le y deuant,Gomer ?" Wel, diolch i Gomer, yn te fe ?—gwnaeth ei ran yn gampus, a'r arweinyddion ereill hefyd ond buasai ychydig o ystyriaeth ar ran y pwyllgor yn arbed llawer o siarad a llafur diangenrhaid. Yn awr am y feddyginiaeth Gwn drwy brofiad fod yr arferiad o roddi enw y cor mewn lie amlwg ar y llwyfan, pan yn dod ymlaen, wedi arbed llawer o siarad a llawer i storom. Bu pwyllgor Eisteddfod Bangor, a phwyllgor Eisteddfod Lerpwl cyn hynny, yn eu rhoddi mewn grym, ac yr oedd yn ol pob ymddanghosiad yn gweithio yn ardderchog, ac nis gellir dweyd fod yr Eisteddfodau hynny yn anrhefnus mewn unrhyw fodd. •pjOs gwel pwyllgor Eisteddfod Llangollen ei ffordd yn glir i adnewyddu y rheol hon, credaf y byddant ar eu mantais yn fawr. Bydd y cyfarfodydd yn llawer mewy addysg- iadol a heddychol. Gan ddymuno pob llwyddiant i'r Hen Wyl Gymreig yn Nyffryn tlws Llangollen 1908, Yr eiddoch, mewn lldn a chan, EISTEDDFODWR.
Arddanghosfa Lerywl.
Arddanghosfa Lerywl. SYR,-Mewn cysylltiad a'r Historical Ex- hibition, at yr hon y eyfeiriai Mr. Robert Gladstone yn eich rhifyn diweddaf, pan y gwna ymholiad am yr hen Welsh clockmaker, hwyrach mai nid anyddorol i'ch darllenwyr fyddai deall fod un, beth bynnag, o Gymry Lerpwl yn cael ei gynrychioli yn yr Ar- ddanghosfa gan ddyfais o'r eiddo, sef Dr. Glyn Roberts, gan ei Roberts' Patent Watch Metronome, ac y bydd disgrifiad ohono yn y Permanent Catalogue a gyhoeddir gan Bwyll- gor yr Art Gallery.—Yr eiddoch yn gywir, j CERDDOR. --0--
O'R DE.
O'R DE. [GAN HESGIN.] LLOYD GEORGE A CHAERDYDD. UNWAITH yn rhagor fe daenir y si fod Lloyd George a'i lygad ar Gaerdydd fel ei sedd yn y dyfodol, neu fod Rhyddfrydwyr y ddinas a'u llygaid arno fel eu haelod. Mae'n annodd i mi, gan nad wyf yn aelod o'r seiat Ryddfrydol, gael allan i sicrwydd pa fodd y mae pethau yn sefyll ond trwy fy mod yn cymeryd fy rhan fwy neu lai yn symudiad Llafur y lie, I do sometimes hear things. Synnwn i ddim nad oes mwy nag arlliw o wir yn y sibrwd, a hynny am amryw resymau. k Nidiwyf yn credu fod mwyafrif ei gyd- genedl wedi sylweddoli yr hyn sydd wedi digwydd i Lloyd George yn ystod y saith neu'r wyth mlynedd diweddaf. Y mae Lloyd George erbyn hyn yn rhywbeth mwy nag aelod cenedlaethol Cymreig—neu, rhag i mi roddi tramgwydd i'r rhai touchy-yr hyn ddylwn i ddweyd yw ei fod, heblaw bod yn aelod Cymreig, yn wleidyddwr o'r radd flaenaf yn y blaid Ryddfrydol. Nid oher- wydd ei gysylltiad a Chymru a'i dyheadau cenedlaethol y cafodd ei Ie yng nghabinet Syr Henry Campbell-Bannerman, ond ar gyfrif ei wasanaeth i'r Blaid Ryddfrydol drwy'r wlad yn gyffredinol-yn y Senedd, bid siwr, ond yn neilltuol ar y llwyfan. Yr oedd wedi gwneud ei hun mor boblogaidd fel y gallasai, pe'n dymuno, gael ei ddewis o ddwsinau o etholaethau. Yr wyf yn credu iddo dderbyn amryw wahoddiadau (yn rhyw hanner cyfrinachol) cyn yr etholiad cyffred- inol diweddaf ond fe'i gwrthododd, a hynny am ddau reswm. Yn gyntaf, nid oedd sicr- wydd y gallai unrhyw ymgeisydd Rhyddfryd- 01 arall gadw Bwrdeisdrefi Arfon ym meddiant y Blaid, a buasai i'r ffaith ei fod yn gadael ei hen etholaeth i fynd i Loegr effeithio er gwaeth ar ysbrydoedd y fyddin Ryddfrydol mewn etholaethau Cymreig ereill. Yn ail, buasai i'w ymadawiad o Gymru i eistedd dros rywle arall andwyo ei enw a'i ddylanwad fel Arweinydd Cenedlaethol Cymreig, ac yn yr argyfwng yr oedd pethau ynddo ar y pryd-rhwng y Welsh Revolt a phopeth-yr oedd hynny yn amhosibl. k Ond y mae deunaw mis wedi mynd dros ein pennau er hynny, ac y mae llawer tro ar fyd wedi cymeryd lie. Fel y gwyddoch, y mae sefyllfa wleidyddol Caerdydd yn ystod Yiddwy flynedd ddiweddaf wedi bod, ac yn para* i fod o ran hynny, yn un hynod o ddyddorol. Pan ddewiswyd Ivor Guest yn ymgeisydd, yr oedd yna leiafrif cryf o'r Rhyddfrydwyr yn cicio yn ei erbyn yn enbyd, ac ni ddarfu iddynt bleidleisio drosto heb lawer o rwgnach. Yr oedd Plaid Llafur y pryd hynny bron a phenderfynu ymladd y sedd, a phe buasai ymgeisydd cymeradwy wrth law, buasent wedi gwneud. 'Nawr, fe sibrydid ar y pryd mai Lloyd George oedd yn gyfrifol am awgrymu enw Ivor Guest i'r Gymdeithas Ryddfrydol, a chredaf fod y sibrwd yn wir. Yn y cyfamser, y mae Lloyd George wed i bod yn Llywydd Bwrdd Masnach am yn agos i ddwy flynedd, ac y mae bron bawb (o bob plaid) yn barod i gyfaddef iddo fod yn llwydd- iannus iawn yn ei swydd, ac y mae yn hollol naturiol iddo edrych o'i gwmpas ac ymresymu fel hyn :—" Nid yw Bwrdeisdrefi Arfon yn gynrychiolaeth ag y gellir mewn unrhyw ystyr ei galw yn un fasnachol ac, ymhellach, ychydig iawn mewn cymhariaeth yw nifer ei hetholwyr." Ac y mae tipyn o dignity mewn numbers wedi'r cwbl. Y mae yn Nghaerdydd un Ward sydd yn cynnwys yn agos gymaint o etholwyr ag sydd yn yr oil o Fwrdeisdrefi Arfon. Fel y gwyddoch, hefyd, nid yw Arglwydd Wimborne (tad Ivor Guest) ond gwael iawn ei iechyd, a 'does wybod ar y ddaear pryd y trawsblennir ein haelod i Dy'r Arglwyddi. Y mae'r Ceidwadwyr wedi dewis Lord Ninian Stuart yn ymgeisydd-brawd Lord Bute yw ef-ac y mae nid yn unig y Rhyddfrydwyr, ond pawb sydd yn caru rhywfaint o ryddid a chynnydd, yn gobeithio nad a. Caerdydd byth eto i grafangau y Bute." Y mae un peth arall i'w gymeryd i ystyriaeth, sef beth mae Plaid Llafur yn debyg o wneud. Nid oes angen dweyd fod ei haelodau hi yn an- foddlon ar ein cynrychiolydd presennol, ac y mae bron yn sicr os mai ef fydd ymgeisydd y Rhyddfrydwyr y tro nesaf, y bydd iddynt ddwyn ymgeisydd allan yn ei erbyn. Yn wir, y maent yn cyfarfod heno (nos lau) i ystyried y sefyllfa. Ni synnwn i ddim nad yw y si ynghylch Lloyd George wedi ei thaenu i'r diben o actio lei feeler A siarad yn blaen, fel free-lance journalist, ac nid fel aelod dallbleidiol o Blaid Llafur, ni fuas- wn yn hoffi gwell spri na gweld Lloyd George yn rhoi ei fache ar Lord Ninian. Os oes ar etholwyr Bwrdeisdrefi Arfon eisieu cyngor, dyma fo Keep your eye on Cardiff
LBION LERPWL.
LBION LERPWL. ^Wrth gynghori pregethwyr ieuainc yn y Cyfarfod Misol yr wythnos ddiweddaf, ebe Mr. D. Daniels, un o swyddogion Princes Road Da chwi, fechgyn, rhowch bwys ar rannau dechreuol y gwasanaeth darllen- wch yr Ysgrythyr yn hyglyw a chlir, ac nid rhedeg drosto'n llipa a dienaid mynnwch ei ddarllen nes y bo'ch darllen yn esboniad ar ei gynnwys, ac yn ysbrydoliaeth i ufudd- hau i'r Gair." 1 Ae ebe Mr. Daniels eilwaith:Lediwch yr emynau yn deilwng ac nid fel yi elywir ami i lediwr y dyddiau rhai'n yn gwneud, sef darllen pennill neu ddarn o bennill, ac yna dibennu gyda'r ebwch Ac felly 'mlaen.' Darllenwch yr emyn nes bo'r gynulleidfa yn gweld ei feddwl, yn teimlo'i neges, ac yn beichio allan i'w ganu mewn teimlad addolgar." Dau gyngor diguro ac wele un arall a roed iddynt gan Mr. Wm. Evans,—a hwn mor angenrheidiol a hwythau :—" Gofalwch am Gymraeg da i'ch pregethau. Mawr gwyno sydd y dyddiau hyn fod Cymraeg y pulpud yn fratiog a salw a 'mrolwch chwithau, mechgyn i, am iaith a broddegau teilwng o'r efengyl a bregethir gennych." Ac wrth roddi'r cyngor, diau fod Mr. Evans yn taro'r post fel clywai'r pared. Enw fun o bwyll^oraa Cyngor Dinesig Lerpwl ydyw The Infant Life Preservation Sub-Committee ac yng nghyfarfod y Cyngor ddydd Mercher diweddaf, dywedodd ei gadeirydd (Mr. Shelmerdine) tra 'roedd rhif marwolaethau pob oed yn y ddinas wedi eu gostwng yn ystod y 15 mlynedd diweddaf o 27.6 y fil i 20.2, nad oedd gostyngiad cyfatebol ymysg marwolaethau y plant. Ac yn Fazakerley, un o faesdrefi glan y ddinas, marwoldeb y plant ydoedd 10 y cant, ondyn Exchange a'i hardal ddrwg ei sawr a thrwchus ei phobl, cyrhaeddai 26 y cant. BY r hyn a barai y gwahaniaeth ydoedd (1) amgylchedd aflan ac anwybodaeth dybryd a meddwdod y mamau (2) cam-fwydo'r plant a (3) llefrith o anifeiliaid afiach ac mewn llestri aflan. Godrid 13,000 o fuchod i ddisychedu Lerpwl, a chedwir 6,000 o'r cyfryw tufewn i gyffiniau'r ddinas a chwynid nad oedd y beudai yn y wlad fymryn glanach na switiach na'r rhai yn y ddinas. •fc A pha ryfedd fod plant yn trengu n an- amserol wrth y cannoedd yn y fath amgylch- oedd ag y'u genir iddynt ? Dichon mai rhyw ysbryd trugarog sy'n dangos i'r truein- iaid bach gymaint yr helbulon a'r enbyd- rwydd o ran bywyd a bwyd sydd o'u blaen ac yn y rhagolwg flin, fod cynnifer ohonynt yn dewis yn hytrach gael troi'n ol o daith mor ddigysur. Wrth feddwl am febyn a drengodd yn deirawr oed mewn slum y rhigymodd rhyw Sais bon-y-gler fel y canlyn :— Peep'd out Look'd about, Didn't like it,- Went out." Y mae'r goron arian, sef y wobr am y bryddest yn Eisteddfod Temlwyr Da Lerpwl dranoeth wedi'r Nadolig nesaf, yn rhodd Mr. Evan Arthur Davies, y gof arian hysbys ac y mae'r goron, brydferth ei ffurf a chywrain ei chynllun, ar ddangos yn ffenestr ei fasnach- ty yn Low Hill. Balchter pennaf Lerpwl ydyw ei llongau, nad oes a'u cura o ran harddwch, maint, a chyflymdra. Y fwyaf a'r harddaf oil hyd yma yw'r Lusitania, yr hon a fordwyai am y waith gyntaf o'r Ferswy am New York nos Sadwrn ddiweddaf. Yr oedd ei chwaer- long, y Lucania, wedi cychwyn deirawr neu bedair o'i blaen ac yr oedd ar y ddwy cydrhyngddynt, o deithwyr a dwylo, lawn bum mil o eneidiau. Ie, eneidiau, meddwn er na J^fydd y cwmniau yn eu cylchlythyrau, na'r newydd- iaduron yn eu hadroddiadau, byth yn eu henwi felly. Dwylo ebent hwy am y criw eneidiau am y teithwyr, yn enwedig rhai y dosbarth cyntaf ac ail ar eu goreu y llwyddant i ddweyd eneidiau pan fodder neu y coller trueiniaid y steerage. k Y mae rhifedi dwylo neu griw y Lusitania yn 827 ac i'n cyfeillion bwyteig, sy'n hoffi'r ias a rydd clywed enwi seigiau, dyma restr o'r llwyth llestri a bwyd a gludwyd i'w bwrdd at ei mordaith gyntaf i New York 18,000 o lestri arian 11,800 o gyllyll 50,000 o lestri pridd 16,000 galwyn o lefrith 78,000 pwys o flawd 6,000 pwys o bysg 125,000 o gig te, 30,000 pwys wyau, 50,000; ymenyn, 9,000 pwys cig moch, 10,000 pwys ffowls, 10,000; wystrys, 45,000 danteithion ereill, 3,000 pwys. *5c Y mis nesaf bydd Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr yn cynhadledda yn Liverpool. Ceir rhai oedfeuon Cymreig ynglyn a'r eis- teddiad, pryd y pregethir gan y Parch. E. T. Jones, Llanelli-Llwynpia gynt. Y mae Pabyddion Lerpwl wedi ymdyng- hedu na chaiff y Rhyddfrydwyr bleidlais gymaint ag un Catholig yn yr etholiadau dinesig fis Tachwedd nesaf a hynny oher- wydd y felltith gan y Mesur Addysg hwnnw." Chwarae teg iddynt, llefarant yn hollol groew, ac y mae eu hie yn ie, a'u nage yn nage, a ninnau o'r herwydd yn gwybod beth i'w ddisgwyl. 15b Pan y bo'r ddueg neu'r pluddglwyf ar rai o'n prif wladweinwyr, eu ffordd o gael gwared ohono yw darllen ymosodiad gwrth- wynebydd go filen a phlaen, a gweled yr enwau tlysion a bentyrrir arno a'r amcan- ion gogoneddus a briodolir iddo a byddai'n werth i ni'r Ymneilltuwyr brynnu ambell i Gatholic Times neu Herald i gael gweled mor hyawdl a gwresog y'n rhegir gan y Gol. a'i ohebwyr. Byddai efelychu eu sel a'u gonestrwydd, gan dosturio wrth eu hanwybodaeth a'u stranciau cyfeiliornus, yn foddion gras i lawer ohonom. k Y Parch. Harry Youlden, Norwich, sydd wedi ei ddewis yn unfrydol gan eglwys Pembroke Place yn olynydd Dr. Aked. Fe'i ganed yn Llunden yn 1867, adywerlir ei fod yn wr a leinw le ei flaenorydd i'w yinyl >n.